Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles - Dydd Iau, 23ain Tachwedd, 2023 2.00 pm

Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Pamela Chivers  E-bost: p.chivers@npt.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

Cadarnhawyd y byddai'r pwyllgor yn craffu ar eitemau 10 a 13 o Agenda Bwrdd y Cabinet.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Eitem 14 (Agenda’r Cabinet)

Y Cyng. Phil Rogers - Personol - mae aelod o'r teulu'n mynd i Ysgol Gynradd Abbey

Y Cyng. Peter Rees - Personol - mae aelod o'r teulu'n mynd i Ysgol Gymraeg Bro Dur

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 219 KB

·        28 Medi 2023

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 28 Medi 2023 fel cofnod gwir a chywir.

4.

Craffu Cyn Penderfynu

Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)

Cofnodion:

CSGA

Gofynnodd yr aelodau a fyddai'r dosraniad di-rent dros dro ar gyfer cyfleusterau cyfrwng Cymraeg sy'n gweithredu yn adeiladau'r cyngor yn parhau.

 

Cadarnhaodd Cydlynydd y Blynyddoedd Cynnar fod y sefyllfa'n cael ei hasesu a'i gwerthuso ar hyn o bryd i sicrhau bod y trefniant yn deg. Cyflwynir adroddiad i Fwrdd y Cabinet yn y flwyddyn newydd. Nodwyd bod y trefniant presennol wedi bod yn fuddiol o ran y CSGA.

 

Cyfeiriodd aelodau at dudalen 182 yr adroddiad a'r gostyngiad a adroddwyd yn nifer y disgyblion sy'n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg mewn addysg ôl-16, a gofynnwyd a roddwyd ystyriaeth i gynnig addysg ôl-16 cyfrwng Cymraeg yng nghampws Bro Dur.

 

Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Cefnogi a Thrawsnewid yr ystyriwyd darpariaeth ôl-16 yng nghampws Bro Dur rywbryd yn y dyfodol ond ni ellir darparu unrhyw fanylion ar hyn o bryd. Mae amrywiaeth eang o gyfleoedd galwedigaethol ac academaidd ôl-16 yn Ystalyfera ac mae'r staff yng nghampws Bro Dur yn gweithio gyda disgyblion o ran pontio.

 

Yn dilyn craffu, nododd yr aelodau'r eitem er gwybodaeth.

 

 

Dangosyddion Perfformiad Chwarter 2 23/24 - Cyfarwyddiaeth yr Amgylchedd

Cyfeiriodd yr aelodau at dudalen 263 yr adroddiad a gofynnwyd am yr hyn a wneir i reoli unrhyw risgiau mewn perthynas â chyflenwadau dŵr preifat nes bydd y labordy newydd wedi cymryd y contract.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd fod nifer cyfyngedig o gyflenwadau dŵr preifat ar draws Castell-nedd Port Talbot y mae angen iddynt gynnal asesiadau risg rheolaidd bob blwyddyn. Mae'r broblem profi o ran y labordy bellach wedi'i datrys a disgwylir y bydd y targed yn cael ei gyflawni erbyn diwedd chwarter tri/dechrau chwarter pedwar.

 

Cyfeiriodd aelodau at dudalen 264, eitem 5 yr adroddiad, a gofynnwyd am y rheswm pam na chyflawnwyd targed chwarter dau sef 55% ac am ragor o wybodaeth mewn perthynas â'r aelod staff a gollwyd.

 

Cadarnhaodd Pennaeth Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd fod gweithiwr arall wedi cymryd lle'r aelod o staff a gollwyd. Mae'r DPA yn berthnasol i'r gwaith safonau bwyd a bwyd anifeiliaid a wneir gan y Tîm Safonau Masnach; mae Swyddogion Iechyd Anifeiliaid yn gyfrifol am arolygu'r systemau hylendid bwyd ar ffermydd ac mae Swyddogion Safonau Masnach yn arolygu gwneuthurwyr bwyd anifeiliaid a manwerthwyr.

 

Mae'r Peilot Asesiad Risg Bwyd a grybwyllwyd yn yr adroddiad yn cael ei ddatblygu gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd â'r nod o gyflwyno'r cynllun newydd ar draws Cymru. Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn cydnabod bod y gallu a'r adnoddau o fewn awdurdodau lleol ar draws Cymru'n gyfyngedig ac mae'r cynllun newydd yn anelu am ddefnydd mwy effeithlon ac effeithiol o adnoddau gyda dull a dargedir at fusnesau risg uchel. Disgwylir y bydd arbedion effeithlonrwydd gwasanaeth tymor hwy y bydd pob awdurdod lleol yn buddio o ganlyniad iddynt pan fydd y cynllun peilot wedi'i sefydlu; bydd ymrwymiad i'r peilot yn y cam hwn yn gyfle da i gael dylanwad ar sut mae'n cael ei sefydlu a'i gyflwyno yn y dyfodol. Nodwyd yn y tymor byd y byddai'r peilot yn cael effaith ar berfformiad.

 

Yn dilyn craffu,  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

Cofnod Gweithredu'r Pwyllgor pdf eicon PDF 387 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr eitem hon.

6.

Blaenraglen Waith 2023/24 pdf eicon PDF 418 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr eitem hon.

 

7.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd)

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys.