Agenda item

Craffu Cyn Penderfynu

Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)

Cofnodion:

CSGA

Gofynnodd yr aelodau a fyddai'r dosraniad di-rent dros dro ar gyfer cyfleusterau cyfrwng Cymraeg sy'n gweithredu yn adeiladau'r cyngor yn parhau.

 

Cadarnhaodd Cydlynydd y Blynyddoedd Cynnar fod y sefyllfa'n cael ei hasesu a'i gwerthuso ar hyn o bryd i sicrhau bod y trefniant yn deg. Cyflwynir adroddiad i Fwrdd y Cabinet yn y flwyddyn newydd. Nodwyd bod y trefniant presennol wedi bod yn fuddiol o ran y CSGA.

 

Cyfeiriodd aelodau at dudalen 182 yr adroddiad a'r gostyngiad a adroddwyd yn nifer y disgyblion sy'n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg mewn addysg ôl-16, a gofynnwyd a roddwyd ystyriaeth i gynnig addysg ôl-16 cyfrwng Cymraeg yng nghampws Bro Dur.

 

Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Cefnogi a Thrawsnewid yr ystyriwyd darpariaeth ôl-16 yng nghampws Bro Dur rywbryd yn y dyfodol ond ni ellir darparu unrhyw fanylion ar hyn o bryd. Mae amrywiaeth eang o gyfleoedd galwedigaethol ac academaidd ôl-16 yn Ystalyfera ac mae'r staff yng nghampws Bro Dur yn gweithio gyda disgyblion o ran pontio.

 

Yn dilyn craffu, nododd yr aelodau'r eitem er gwybodaeth.

 

 

Dangosyddion Perfformiad Chwarter 2 23/24 - Cyfarwyddiaeth yr Amgylchedd

Cyfeiriodd yr aelodau at dudalen 263 yr adroddiad a gofynnwyd am yr hyn a wneir i reoli unrhyw risgiau mewn perthynas â chyflenwadau dŵr preifat nes bydd y labordy newydd wedi cymryd y contract.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd fod nifer cyfyngedig o gyflenwadau dŵr preifat ar draws Castell-nedd Port Talbot y mae angen iddynt gynnal asesiadau risg rheolaidd bob blwyddyn. Mae'r broblem profi o ran y labordy bellach wedi'i datrys a disgwylir y bydd y targed yn cael ei gyflawni erbyn diwedd chwarter tri/dechrau chwarter pedwar.

 

Cyfeiriodd aelodau at dudalen 264, eitem 5 yr adroddiad, a gofynnwyd am y rheswm pam na chyflawnwyd targed chwarter dau sef 55% ac am ragor o wybodaeth mewn perthynas â'r aelod staff a gollwyd.

 

Cadarnhaodd Pennaeth Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd fod gweithiwr arall wedi cymryd lle'r aelod o staff a gollwyd. Mae'r DPA yn berthnasol i'r gwaith safonau bwyd a bwyd anifeiliaid a wneir gan y Tîm Safonau Masnach; mae Swyddogion Iechyd Anifeiliaid yn gyfrifol am arolygu'r systemau hylendid bwyd ar ffermydd ac mae Swyddogion Safonau Masnach yn arolygu gwneuthurwyr bwyd anifeiliaid a manwerthwyr.

 

Mae'r Peilot Asesiad Risg Bwyd a grybwyllwyd yn yr adroddiad yn cael ei ddatblygu gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd â'r nod o gyflwyno'r cynllun newydd ar draws Cymru. Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn cydnabod bod y gallu a'r adnoddau o fewn awdurdodau lleol ar draws Cymru'n gyfyngedig ac mae'r cynllun newydd yn anelu am ddefnydd mwy effeithlon ac effeithiol o adnoddau gyda dull a dargedir at fusnesau risg uchel. Disgwylir y bydd arbedion effeithlonrwydd gwasanaeth tymor hwy y bydd pob awdurdod lleol yn buddio o ganlyniad iddynt pan fydd y cynllun peilot wedi'i sefydlu; bydd ymrwymiad i'r peilot yn y cam hwn yn gyfle da i gael dylanwad ar sut mae'n cael ei sefydlu a'i gyflwyno yn y dyfodol. Nodwyd yn y tymor byd y byddai'r peilot yn cael effaith ar berfformiad.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd yr eitem.