Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles - Dydd Iau, 14eg Mawrth, 2024 2.00 pm

Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Pamela Chivers  E-bost: p.chivers@npt.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Cynigwyd, eiliwyd a chytunwyd y byddai'r Cyng. Phil Rogers yn cadeirio'r cyfarfod.

 

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

Cadarnhawyd y byddai'r Pwyllgor yn craffu ar eitemau 9, 11 a 12 ac 13 ar Agenda Bwrdd y Cabinet.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 126 KB

·        8 Ionawr 2024

·        1 Chwefror 2024

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 8 Ionawr 2024 ac 1 Chwefror 2024 fel cofnodion gwir a chywir.

 

4.

Y Diweddaraf am Bresenoldeb Disgyblion pdf eicon PDF 407 KB

Cofnodion:

Gofynnodd yr Aelodau a oedd problemau presenoldeb wedi'u nodi yn gysylltiedig â disgyblion nad ydynt yn gymwys ar gyfer cludiant ysgol.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Datblygu Addysg fod materion cludiant yn un o lawer o resymau a roddwyd am ddiffyg presenoldeb/hwyrni. Nodwyd bod y ffigyrau presenoldeb wedi gwella o'u cymharu â'r un cyfnod y llynedd.

 

Yn dilyn gwaith craffu, nododd yr Aelodau'r adroddiad.

 

5.

Craffu Cyn Penderfynu

Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau’r Cabinet ar gyfer aelodau’r pwyllgor Craffu) 

Cofnodion:

Derbyn i Ysgolion Cymunedol – Polisi Derbyniadau Ysgol (yn ôl o'r ymgynghoriad)

 

Mynegodd yr aelodau bryder bod gormod o geisiadau ar gyfer rhai ysgolion gan fod lleoliadau o ddewis yn cael eu derbyn; efallai bydd disgyblion sy'n symud i'r ardal yn ystod y flwyddyn academaidd yn gorfod  teithio pellteroedd mawr i gael lle mewn ysgol. Gofynnodd yr Aelodau a ellid cyflwyno achos gerbron Llywodraeth Cymru am fwy o argaeledd yn ystod y flwyddyn.

 

Nododd y Pennaeth Datblygu Addysg y sylwadau.

 

Yn dilyn gwaith craffu, cefnogodd y pwyllgor yr argymhelliad i'w gyflwyno i Fwrdd y Cabinet.

 

 

Dysgu Oedolion

 

Gofynnodd yr Aelodau am ragor o wybodaeth mewn perthynas â lledaenu'r cyrsiau sydd ar gael mewn cymunedau pellennig.

 

Cadarnhaodd swyddogion fod nifer mawr o gyrsiau'n cael eu cynnal ym mhrif ganolfan Tir Morfa oherwydd trafferthion wrth sicrhau lleoliadau addas. Mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn mynnu bod o leiaf wyth o gyfranogwyr fesul cwrs; lle nad yw hyn yn bosib, cynigir cyrsiau ar sail hybrid. Mae Swyddog Ymgysylltu wedi cael ei gyflogi i weithio gyda chymunedau anodd eu cyrraedd. Mae swyddogion cynhwysiad digidol yn gweithio mewn cymunedau i gefnogi pobl i gynyddu eu sgiliau digidol.   

 

Holodd yr aelodau a oedd gan y gwasanaeth gysylltiadau â chyrsiau rhianta Dechrau'n Deg fel ffordd o gefnogi rhieni i wella presenoldeb ysgol.

 

Dywedodd swyddogion wrth yr aelodau fod gwaith wedi'i wneud mewn partneriaeth â Dechrau'n Deg, Ysgolion yn eu Cymunedau, y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd a'r Tîm o amgylch y Teulu i gyfeirio pobl at gyrsiau perthnasol. Mae'r Swyddog Ymgysylltu Dysgu yn mynd yn rheolaidd i ddigwyddiadau mewn ardaloedd anghysbell a threfnir digwyddiadau dysgu lle mae digon o alw. Ymgynghorir â chymunedau drwy sianeli cyfryngau cymdeithasol i nodi pa gyrsiau sydd eu hangen. Dywedodd swyddogion wrth yr aelodau y byddai'r Swyddog Ymgysylltu yn croesawu cyfathrebiadau gan yr aelodau i nodi unrhyw fylchau hyfforddi yn eu hardaloedd.

 

Gofynnodd yr aelodau a oedd unrhyw gysylltiadau ag oedolion sy'n ddysgwyr drwy grwpiau ieuenctid.

 

Cadarnhaodd swyddogion fod perthynas waith dda  rhwng Dysgu Oedolion a'r Gwasanaeth Ieuenctid a byddai cysylltiadau rhwng y gwasanaethau'n cael eu harchwilio ymhellach.

 

Dywedodd yr Aelodau fod nifer y cyrsiau sydd ar gael yn galonogol ond awgrymasant y byddai'n ddefnyddiol i'r wybodaeth gael ei lledaenu i'r holl aelodau. Cytunodd swyddogion i anfon yr wybodaeth ymlaen at yr holl aelodau mewn perthynas â'u gwaith ymgysylltu a byddai trafodaethau pellach ag aelodau'n cael eu croesawu.

 

Cyfeiriodd yr aelodau at dudalen 230 yr adroddiad a gynhwyswyd yn y pecyn agenda, a gofynnwyd am eglurhad ynghylch rôl y Rheolwr Dysgu Oedolion yn y Gymuned wrth gydlynu prosiect â'r nod o hyrwyddo a chefnogi cyfleoedd 'ôl-osod' lleol.

 

Cadarnhaodd swyddogion fod y gwaith yn cael ei wneud mewn partneriaeth ag ysgolion a cholegau i helpu pobl i wella'u sgiliau ac ennill cymwysterau. Mae'r prosiect wedi bod yn mynd rhagddo ers llai na blwyddyn ac wedi helpu i hyrwyddo'r agenda ynni a galluogi pobl i wella'u sgiliau. 

 

Yn dilyn craffu, nododd y pwyllgor yr adroddiad.

 

 

Gŵyl Gomedi

 

Holodd yr aelodau a fyddai trawstoriad priodol o  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

Cofnod Gweithredu'r Pwyllgor pdf eicon PDF 481 KB

Cofnodion:

Nodwyd Cofnod Gweithredu'r Pwyllgor.

 

7.

Blaenraglen Waith 2023/24 pdf eicon PDF 413 KB

Cofnodion:

Gofynnodd yr Aelodau i bapur gael ei gyflwyno yn y cyfarfod nesaf sy'n amlinellu cyfansoddiad a Chylch Gorchwyl y gweithgor ar Hamdden Celtic, a chynnydd llafar y grŵp, os yw ar gael. 

 

Nodwyd y Flaenraglen Waith.

 

8.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd)

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys