Agenda item

Craffu Cyn Penderfynu

Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau’r Cabinet ar gyfer aelodau’r pwyllgor Craffu) 

Cofnodion:

Derbyn i Ysgolion Cymunedol – Polisi Derbyniadau Ysgol (yn ôl o'r ymgynghoriad)

 

Mynegodd yr aelodau bryder bod gormod o geisiadau ar gyfer rhai ysgolion gan fod lleoliadau o ddewis yn cael eu derbyn; efallai bydd disgyblion sy'n symud i'r ardal yn ystod y flwyddyn academaidd yn gorfod  teithio pellteroedd mawr i gael lle mewn ysgol. Gofynnodd yr Aelodau a ellid cyflwyno achos gerbron Llywodraeth Cymru am fwy o argaeledd yn ystod y flwyddyn.

 

Nododd y Pennaeth Datblygu Addysg y sylwadau.

 

Yn dilyn gwaith craffu, cefnogodd y pwyllgor yr argymhelliad i'w gyflwyno i Fwrdd y Cabinet.

 

 

Dysgu Oedolion

 

Gofynnodd yr Aelodau am ragor o wybodaeth mewn perthynas â lledaenu'r cyrsiau sydd ar gael mewn cymunedau pellennig.

 

Cadarnhaodd swyddogion fod nifer mawr o gyrsiau'n cael eu cynnal ym mhrif ganolfan Tir Morfa oherwydd trafferthion wrth sicrhau lleoliadau addas. Mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn mynnu bod o leiaf wyth o gyfranogwyr fesul cwrs; lle nad yw hyn yn bosib, cynigir cyrsiau ar sail hybrid. Mae Swyddog Ymgysylltu wedi cael ei gyflogi i weithio gyda chymunedau anodd eu cyrraedd. Mae swyddogion cynhwysiad digidol yn gweithio mewn cymunedau i gefnogi pobl i gynyddu eu sgiliau digidol.   

 

Holodd yr aelodau a oedd gan y gwasanaeth gysylltiadau â chyrsiau rhianta Dechrau'n Deg fel ffordd o gefnogi rhieni i wella presenoldeb ysgol.

 

Dywedodd swyddogion wrth yr aelodau fod gwaith wedi'i wneud mewn partneriaeth â Dechrau'n Deg, Ysgolion yn eu Cymunedau, y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd a'r Tîm o amgylch y Teulu i gyfeirio pobl at gyrsiau perthnasol. Mae'r Swyddog Ymgysylltu Dysgu yn mynd yn rheolaidd i ddigwyddiadau mewn ardaloedd anghysbell a threfnir digwyddiadau dysgu lle mae digon o alw. Ymgynghorir â chymunedau drwy sianeli cyfryngau cymdeithasol i nodi pa gyrsiau sydd eu hangen. Dywedodd swyddogion wrth yr aelodau y byddai'r Swyddog Ymgysylltu yn croesawu cyfathrebiadau gan yr aelodau i nodi unrhyw fylchau hyfforddi yn eu hardaloedd.

 

Gofynnodd yr aelodau a oedd unrhyw gysylltiadau ag oedolion sy'n ddysgwyr drwy grwpiau ieuenctid.

 

Cadarnhaodd swyddogion fod perthynas waith dda  rhwng Dysgu Oedolion a'r Gwasanaeth Ieuenctid a byddai cysylltiadau rhwng y gwasanaethau'n cael eu harchwilio ymhellach.

 

Dywedodd yr Aelodau fod nifer y cyrsiau sydd ar gael yn galonogol ond awgrymasant y byddai'n ddefnyddiol i'r wybodaeth gael ei lledaenu i'r holl aelodau. Cytunodd swyddogion i anfon yr wybodaeth ymlaen at yr holl aelodau mewn perthynas â'u gwaith ymgysylltu a byddai trafodaethau pellach ag aelodau'n cael eu croesawu.

 

Cyfeiriodd yr aelodau at dudalen 230 yr adroddiad a gynhwyswyd yn y pecyn agenda, a gofynnwyd am eglurhad ynghylch rôl y Rheolwr Dysgu Oedolion yn y Gymuned wrth gydlynu prosiect â'r nod o hyrwyddo a chefnogi cyfleoedd 'ôl-osod' lleol.

 

Cadarnhaodd swyddogion fod y gwaith yn cael ei wneud mewn partneriaeth ag ysgolion a cholegau i helpu pobl i wella'u sgiliau ac ennill cymwysterau. Mae'r prosiect wedi bod yn mynd rhagddo ers llai na blwyddyn ac wedi helpu i hyrwyddo'r agenda ynni a galluogi pobl i wella'u sgiliau. 

 

Yn dilyn craffu, nododd y pwyllgor yr adroddiad.

 

 

Gŵyl Gomedi

 

Holodd yr aelodau a fyddai trawstoriad priodol o leoliadau bach ledled y fwrdeistref sirol.

 

Dywedodd y Pennaeth Hamdden, Twristiaeth, Treftadaeth a Diwylliant wrth yr aelodau mai'r gobaith oedd y byddai'r ŵyl yn tyfu dros y blynyddoedd nesaf. Roedd ychydig bach o gyllid ar gael drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin ond byddai manylion unrhyw gyfleoedd ariannu eraill yn cael eu croesawu.

 

Dywedodd swyddogion wrth yr aelodau fod gwaith wedi bod yn mynd rhagddo i sicrhau perfformwyr yn y prif theatrau gyda digwyddiadau eraill wedi'u cynllunio ar gyfer lleoliadau llai yng nghymunedau'r cymoedd. Nid yw'r trefniadau o ran lleoliadau wedi'u cwblhau eto ond byddant yn cynnwys cymysgedd o glybiau rygbi, canolfannau cymunedol a lleoliadau preifat ar gyfer perfformiadau canol wythnos. Bydd tocynnau ar gyfer pob lleoliad yn cael cymhorthdal a'r nod yw cael cynulleidfaoedd o 30 i 40 o bobl yn y lleoliadau llai.

Mynegodd yr aelodau bryder ynghylch y potensial ar gyfer cynnwys amhriodol a mynegwyd pwysigrwydd rhai digwyddiadau sy'n addas i deuluoedd.

 

Cadarnhaodd swyddogion y byddai'r holl bartïon yn cael eu briffio i ddeall nod cynhwysol yr ŵyl. Bydd rhai o'r gweithgareddau ymylol yn cynnwys perfformiadau ar gyfer plant  yn benodol. Mae perfformiadau'n cael eu cynllunio ar gyfer  canol trefi/pentrefi a chartrefi preswyl hefyd. Bydd y gomedi o fath priodol ar gyfer y lleoliad.

 

Cefnogodd yr aelodau'r ŵyl a dywedasant y gellid defnyddio traeth Aberafan ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol i gynnal sioeau awyr agored. Nododd yr aelodau bwysigrwydd cynyddu'r hyn sy'n denu twristiaid i draeth Aberafan ac awgrymwyd y gellid defnyddio comedïwyr i hyrwyddo glan y môr.

 

Diolchodd y Pennaeth Hamdden, Twristiaeth, Treftadaeth a Diwylliant i'r aelodau am eu sylwadau. Byddai'r ŵyl gychwynnol yn cael ei chyfyngu gan y cyllid sydd ar gael ond y gobaith yw y bydd yr ŵyl yn tyfu yn y blynyddoedd dilynol.

 

Diolchodd Aelod y Cabinet dros Natur, Twristiaeth a Lles i swyddogion am eu gwaith hyd yma. Byddai'r ŵyl yn ddigwyddiad ar gyfer Castell-nedd Port Talbot gyfan gydag amrywiaeth eang o leoliadau a byddai'n cynnwys y Gymraeg.

 

Yn dilyn craffu, nododd y pwyllgor yr adroddiad.

 

 

Adroddiad am Berfformiad Blynyddol  Disgyblion

 

Cydnabu'r Aelodau fod y cynnydd mewn cyfraddau gwahardd yn fater cenedlaethol, ond nodwyd y data gwahardd cyfartalog cenedlaethol uchod ganddynt ar gyfer disgyblion yng Nghastell-nedd Port Talbot. Mewn perthynas â'r Cwricwlwm newydd i Gymru, holodd yr aelodau sut y byddai gwybodaeth yn cael ei chasglu yn y dyfodol gan nad oedd asesiadau athrawon bellach yn cael eu cyflwyno i'r awdurdod lleol na Llywodraeth Cymru.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Datblygu Addysg y bu symudiad o brofi disgyblion; mae ysgolion yn gweithio tuag at gynnydd ac asesu parhaus, er mwyn cefnogi pobl ifanc a'u teuluoedd yn well. Arhosir am ragor o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â chymwysterau. Mewn perthynas â gwaharddiadau, ni wneir cymariaethau ag awdurdodau eraill. Mae'r ffocws ar weithio gyda phartneriaid i gefnogi disgyblion, teuluoedd ac ysgolion yng Nghastell-nedd Port Talbot mewn modd amserol. Mae gwaith yn mynd rhagddo i wella ansawdd yr addysgu a fydd yn effeithio ar ansawdd y dysgu.  Mae gwaith hefyd yn mynd rhagddo i wella darpariaethau i sicrhau bod anghenion disgyblion yn cael eu diwallu a chyda thîm y Blynyddoedd Cynnar ar nodi'n gynnar.

 

Gofynnodd yr aelodau am eglurhad pellach ar sut mae gwybodaeth yn cael ei chasglu a'i bwydo yn ôl i'r system.

 

Dywedodd y Pennaeth Datblygu Addysg wrth yr aelodau fod camau cynnydd yn cael eu mesur a bydd gan ysgolion syniad o botensial disgyblion unigol neu garfan o ddisgyblion. Mae gwaith yn parhau ar Lwybrau Dysgu Addysgol; gall plant nad ydynt yn dilyn y cwricwlwm gael eu haddysgu mewn canolfannau sgiliau neu weithio gyda busnesau fel prentisiaid iau. Mae system fonitro barhaus ar waith ond nid yw gwybodaeth yn cael ei chasglu fel yr oedd o'r blaen. Y nod yw darparu adborth cadarnhaol i alluogi disgyblion i wneud cynnydd dyddiol.

 

Mynegodd yr aelodau ddiddordeb yng nghanlyniadau Cyfnod Allweddol 3 mewn perthynas â disgyblion Cymraeg iaith gyntaf; dyma'r unig faes lle nad oedd y dangosyddion wedi gostwng o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Holodd yr aelodau pam fod hyn yn wir ac a oedd unrhyw gydberthynas arall.

 

Dywedodd y Pennaeth Datblygu Addysg wrth yr aelodau fod gwaith yn mynd rhagddo i ddysgu o'r data a cheisio efelychu'r canlyniadau mewn ysgolion eraill. Fodd bynnag, mae proffil ysgolion Cymraeg yn dangos nifer sylweddol is o ddisgyblion sydd â hawl i Brydau Ysgol am Ddim a lefelau is o Anghenion Dysgu Ychwanegol.

 

Dywedodd yr aelodau fod angen gwaith i annog gwahanol gategorïau o deuluoedd i fynychu addysg Gymraeg iaith gyntaf er mwyn sicrhau lledaeniad da yn yr ysgolion hynny.

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Addysg ei bod yn bwysig edrych ar y data cyd-destunol. Mae gan Gastell-nedd Port Talbot rai o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru, gyda lefelau uchel o brydau ysgol am ddim ac anghenion dysgu ychwanegol. Dywedodd Aelod y Cabinet fod llawer o ddisgyblion na fyddent wedi llwyddo o'r blaen wedi symud i fyny i gymwysterau uwch. Mae angen clymu i mewn â llwybr y Plant, gydag ymyriad cynharach a chefnogaeth i'r teulu.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am eu gwaith caled yn y maes hwn a chydnabu ei bod yn dasg anodd.

 

Yn dilyn craffu, nododd y pwyllgor yr adroddiad.