Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles - Dydd Iau, 1af Chwefror, 2024 2.00 pm

Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Pamela Chivers  E-bost: p.chivers@npt.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

Cadarnhawyd y byddai'r Pwyllgor yn craffu ar eitemau 7, 8 a 9 ac 13 ar Agenda Bwrdd y Cabinet.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Adam Amor – Eitem 8 – Personol, nad yw'n niweidiol. Cyfarwyddwr Busnes sy'n gwneud gwaith achlysurol i'r Gwasanaeth Ieuenctid.

 

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 440 KB

·      23rd November 2023

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Tachwedd 2023 fel cofnod gwir a chywir.

 

4.

Diweddariad ynghylch y Cwricwlwm i Gymru pdf eicon PDF 335 KB

Cofnodion:

Gofynnodd yr Aelodau a oedd data'n cael ei gadw mewn perthynas â'r cynnydd a wnaed gan ysgolion wrth roi'r Cwricwlwm newydd i Gymru ar waith a gofynasant a oes unrhyw ysgolion ar ei hôl hi.

 

Cadarnhaodd swyddogion fod yr holl ysgolion â disgyblion hyd at flwyddyn 8 yn cynllunio ac yn gweithredu'r Cwricwlwm i Gymru gyda phob plentyn yn symud tuag at y pedwar diben. Mae'r modd y mesurir cynnydd yn wahanol i'r ffordd y mesurwyd cynnydd yn flaenorol. Mae ysgolion yn datblygu dealltwriaeth gyffredin o sut olwg fydd ar gynnydd ac yn gweithredu dylunio o fewn fframwaith y cwricwlwm.

 

Yn dilyn gwaith craffu, nododd yr Aelodau'r adroddiad.

 

5.

Effaith prisiau ynni ar gyllidebau ysgolion pdf eicon PDF 646 KB

Cofnodion:

Cyfeiriodd yr aelodau at dudalen 15 yr adroddiad, gan gwestiynu'r amserlen ynghylch y gallu posib i osod paneli solar ffotofoltaidd mewn 14 o ysgolion. Holodd yr aelodau hefyd ynghylch y costau posib a fydd ynghlwm wrth hyn, faint o swyddi ychwanegol oedd eu hangen a sut y byddai'r gosodiad a'r swyddi ychwanegol yn cael eu hariannu.

 

Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Cefnogi a Thrawsnewid, ar hyn o bryd, fod arolwg bwrdd gwaith wedi'i gynnal, gyda darpar ysgolion yn cael eu nodi oherwydd eu lleoliad a'r math o do sydd ganddynt. Mae'r gwaith yn cael ei wneud gan Gyfarwyddiaeth yr Amgylchedd a gofynnir am ddiweddariad ac adroddir yn ôl wrth y pwyllgor am y cynnydd.

 

Nododd aelod cyfetholedig y camau lliniaru a grybwyllir yn yr adroddiad ond cwestiynodd a ellid edrych ymhellach ar fesuryddion a thaliadau sefydlog dyddiol. Bydd gan ysgolion ar fwy nag un safle sawl blwch mesurydd gydag amryfal  ffioedd sefydlog.

 

Bydd Pennaeth y Gwasanaethau Cefnogi a Thrawsnewid yn gofyn am eglurder ar y mater hwn gan gydweithwyr yng Nghyfarwyddiaeth yr Amgylchedd ac yn hysbysu'r pwyllgor hwn ynghylch y canfyddiadau.

 

Yn dilyn gwaith craffu, nododd yr Aelodau'r adroddiad.

 

6.

Craffu Cyn Penderfynu

To select appropriate items from the Cabinet Board agenda for Pre-Decision Scrutiny (Cabinet Board reports included for Scrutiny Members)

 

Cofnodion:

Panel Ymgynghorol Sefydlog

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at Atodiad 1 yr adroddiad a holwyd y weithdrefn ar gyfer recriwtio i'r pwyllgor, yn enwedig recriwtio cynrychiolydd sy'n anffyddiwr.

 

Cadarnhaodd swyddogion y gall gweithdrefnau recriwtio amrywio yn ôl Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog (CYS). Y nod yw sicrhau ystod eang o gynrychiolaeth o bob ffydd a chredo sy'n berthnasol i'r sir.  Cysylltir â phrif swyddfeydd sefydliadau perthnasol i ofyn am gynrychiolydd gwir a chytbwys. Unwaith y bydd unigolyn yn cael ei nodi, cynhelir trafodaethau yn y CYS a gwneir penderfyniad grŵp ar addasrwydd, perthnasedd a phriodoldeb yr unigolyn. Gall recriwtio cynrychiolydd sy'n anffyddiwr fod yn fwy heriol ond mae'n ofynnol iddo gydymffurfio â Deddfwriaeth Cydraddoldeb Llywodraeth Cymru. Cysylltir â sefydliadau a grwpiau anffyddiol dibynadwy i gyflwyno cynrychiolydd ac eir ati i archwilio hanes yr ymgeisydd.

 

Yn dilyn gwaith craffu, cefnogodd y pwyllgor yr argymhelliad i'w gyflwyno i Fwrdd y Cabinet.

 

 

Diweddariad ar y Gwasanaeth Ieuenctid

 

Gofynnodd yr aelodau a oedd y gwasanaeth yn dal i brofi anawsterau wrth recriwtio gweithwyr ieuenctid cymwys yn enwedig ar gyfer y gweithgareddau gwaith sesiynol. Cyfeiriodd yr Aelodau at dudalen 20 yr adroddiad a holwyd ynghylch lefel y cyfranogiad yn y clwb ieuenctid cyfrwng Cymraeg cyntaf yn Nhrebannws.

 

Cadarnhaodd swyddogion fod cynnydd y clwb ieuenctid cyfrwng Cymraeg yn Nhrebannws yn gadarnhaol. Mae 173 o gysylltiadau wedi bod o fewn Trebannws ac aelodaeth y clwb ar hyn o bryd yw 29 o fechgyn ac 16 o ferched. Cadarnhaodd swyddogion fod anawsterau bob amser wrth recriwtio staff ond bod y sefyllfa ar y trywydd iawn ar hyn o bryd gyda dau glwb ieuenctid yn ailagor.

 

Nododd y Pennaeth Datblygu Addysg fod Castell-nedd Port Talbot mewn sefyllfa fwy cadarnhaol na rhai awdurdodau lleol eraill gan fod staff yn dewis gweithio yma oherwydd y safonau uchel. Nodwyd y gallai recriwtio barhau i fod yn broblem oherwydd natur y swydd ac mae hwn yn fater cenedlaethol. Roedd y ddwy don recriwtio flaenorol yn llwyddiannus ac mae clybiau wedi ailagor yn sgîl ailgyflogi pobl sy'n derbyn swyddi rhan-amser. Yn genedlaethol, mae'n anodd cyflawni'r disgwyliad o gael staff sesiynol â chymwysterau lefel uchel.

 

Croesawodd y Cadeirydd y clwb ieuenctid cyfrwng Cymraeg yn Nhrebannws gan nodi'r gwahaniaeth y mae wedi'i wneud i'r gymuned a diolchodd i'r holl staff. Gofynnodd y Cadeirydd a oes unrhyw gynlluniau ar gyfer grwpiau ieuenctid Cymraeg pellach yn y sir.

 

Cadarnhaodd swyddogion fod y clwb diwethaf a agorwyd wedi'i ariannu'n allanol, ac y byddai angen cyllid a staff ychwanegol er mwyn gallu agor rhagor o glybiau. Nodwyd bod gwaith yn mynd rhagddo mewn perthynas â datblygiad cyffredinol Cymru gyda digwyddiad dathlu'n cael ei gynnal y llynedd ac ymweliad â Llangrannog i bobl ifanc sy'n siarad Cymraeg, ond mae angen cyllid ychwanegol yn y tymor hir.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Datblygu Addysg fod y gwasanaeth ieuenctid wedi cysylltu â Bronwen Lewis sy'n cefnogi datblygiad cerddorol yn y Gymraeg.

 

Holodd yr aelodau a oedd unrhyw glybiau dwyieithog yn y sir.

 

Cadarnhaodd swyddogion, mewn perthynas â , fod staff yn darparu un sesiwn/digwyddiad cynyddu ymwybyddiaeth cyfrwng Cymraeg  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

Cofnod Gweithredu'r Pwyllgor pdf eicon PDF 385 KB

Cofnodion:

Nodwyd Cofnod Gweithredu'r Pwyllgor.

 

8.

Blaenraglen Waith 2023/24 pdf eicon PDF 417 KB

Cofnodion:

Mewn perthynas â'r adroddiad diweddaru ynghylch presenoldeb disgyblion a drefnwyd ar gyfer 14 Mawrth, gofynnodd yr aelodau a ellid dosbarthu adroddiad arolygu thematig gan Estyn.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Datblygu Addysg y byddai adroddiad Estyn yn cael ei atodi fel atodiad i'r adroddiad.

 

Nodwyd y Flaenraglen Waith.

 

9.

Eitemau brys

Any urgent items at the discretion of the Chairperson pursuant to Section 100BA(6)(b) of the Local Government Act 1972 (as amended).

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys.

 

10.

Mynediad i gyfarfodydd

Access to Meetings to resolve to exclude the public for the following item(s) pursuant to Section 100A(4) and (5) of the Local Government Act 1972 and the relevant exempt paragraphs of Part 4 of Schedule 12A to the above Act.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd: bod y cyhoedd yn cael eu gwaharddo'r eitem(au) ganlynol/canlynol yn unol ag Adran 100a (4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod.

 

11.

Craffu Eitem/Eitemau Preifat Cyn Penderfynu

To select appropriate private items from the Cabinet Board agenda for Pre-Decision Scrutiny (Cabinet Board reports enclosed for Scrutiny Members)

 

Cofnodion:

Sefydliad Brenhinol y Bad Achub Cenedlaethol

 

Yn dilyn craffu, cefnogodd yr Aelodau'r argymhelliad gyda'r ychwanegiad 'fod goruchwyliaeth yn cael ei ehangu i 8.00pm gyda'r nos i sicrhau diogelwch wrth iddi nosi.'