Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles - Dydd Mawrth, 27ain Medi, 2022 10.00 am

Lleoliad: Port Talbot Civic Centre / Remotely - Hybrid

Cyswllt: Alison Thomas  E-bost: a.thomas6@npt.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Datganwyd buddiannau gan:

 

Y Cyng. N Goldup-John - Gwaredu Tir yng Nghanolfan Hamdden Castell-nedd – Personol (Aelod o Glybiau Criced Castell-nedd a Chlybiau Tennis Castell-nedd)

 

 

3.

Craffu Cyn Penderfynu

Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Gwaredu Tir yng Nghanolfan Hamdden Castell-nedd

 

Cyflwynwyd gwybodaeth i'r aelodau yn ymwneud â gwaredu tir yng nghanolfan Hamdden Castell-nedd, fel y manylir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Gwnaeth yr aelodau gynghori bod is-les o fewn y Clwb Tanddwr sy'n prydlesu garej gerllaw'r ganolfan hamdden. Fe’u cynghorwyd nad oes darpariaeth ar eu cyfer yn y ganolfan newydd, fodd bynnag, byddant yn gallu defnyddio'r pwll nofio newydd ar gyfer eu sesiynau wythnosol.

 

Pan fydd y gwaith o ddatblygu'r safle'n cael ei wneud, gofynnodd yr aelodau i hamdden, lles, twristiaeth a rhaglen datgarboneiddio'r Cyngor yn cael eu hystyried.  Dywedodd swyddogion y byddant yn ymgymryd â'r sylwadau a'u trosglwyddo i'r Pennaeth Adfywio, y bydd cyfrifoldeb ar gyfer yr adeilad yn cael ei drosglwyddo iddo.

 

Holodd yr aelodau os cynigiwyd unrhyw gymorth i'r Clwb Tanddwr i ddod o hyd i lety arall. Ymhellach, nododd yr AEI nad oedd unrhyw effaith ar ddefnyddwyr y ganolfan, fodd bynnag, roedd yr aelodau yn anghytuno â hyn. Dywedodd aelodau fod effaith gan fod gwaredu'r tir wedi cael effaith uniongyrchol ar un o ddefnyddwyr y ganolfan a oedd wedi derbyn rhybudd ar ei brydles.

 

Cadarnhaodd swyddogion fod rhywfaint o drafod wedi bod â'r Clwb Tanddwr am lety arall, ond byddai costau’n ynghlwm â hyn. Ar hyn o bryd nid oes angen i'r Clwb Tanddwr dalu costau llety. Nid yw'r Cyngor Chwaraeon yn gallu cynnig unrhyw grant i gefnogi'r clwb. Deëllir fod Aelod y Cabinet yn ceisio ymchwilio i lety arall ar gyfer y clwb.

 

Gofynnodd yr aelodau i'r swyddog ddiwygio'r AEI i ystyried yr effaith a nodwyd ar y defnyddwyr presennol.

 

Yn dilyn craffu, roedd yr aelodau'n gefnogol o'r cynnig i'w ystyried gan y Cabinet.

 

 

Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg

 

Cyflwynwyd gwybodaeth am Gynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg (CSGA) i'r aelodau, fel y manylir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Mae'r cynllun yn nodi y bydd diweddariadau blynyddol yn cael eu darparu i aelodau. Holodd yr aelodau a oedd swyddogion yn ystyried diweddariadau blynyddol yn ddigonol. Dywedodd swyddogion y byddent yn fodlon adrodd yn ôl yn fwy aml pe bai'r aelodau'n dymuno iddyn nhw wneud hynny. Fodd bynnag, bydd adroddiad blynyddol yn rhoi golwg lawn ar yr holl weithgarwch drwy gydol y flwyddyn.

 

Wrth ystyried amcanion y CSGA, holodd aelodau os a sut y byddai'r rhain yn cael eu hystyried ym mhenderfyniadau'r awdurdod yn y dyfodol. Roedd swyddogion yn rhagweld y byddai gan y saith amcan a nodwyd o fewn y cynllun arweinwyr grwpiau, a byddai'r arweinwyr hyn yn cwrdd yn rheolaidd trwy gydol y flwyddyn. Byddai'r arweinydd yn adrodd yn ôl i Fforwm CSGA, a byddai'r fforwm wedyn yn adrodd i'r pwyllgor perthnasol.

 

Roedd aelodau yn cytuno'n gyffredinol y byddai adroddiad blynyddol yn ddigon.

 

Yn dilyn craffu, roedd yr aelodau'n gefnogol o'r cynnig i'w ystyried gan y Cabinet.

 

 

Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae

 

Cyflwynwyd gwybodaeth i'r aelodau yn ymwneud â’r Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae, fel y manylir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Dywedodd swyddogion y bydd yr ymgynghorydd yn diwygio'r adroddiad o ran nifer y wardiau a  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi’u heithrio) yn ol disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100B (4) (b) o Ddeddf

Llywodraeth Leol 1972.

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys.