Dewis
eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir
adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)
Cofnodion:
Gwaredu Tir yng Nghanolfan Hamdden Castell-nedd
Cyflwynwyd
gwybodaeth i'r aelodau yn ymwneud â gwaredu tir yng nghanolfan Hamdden
Castell-nedd, fel y manylir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Gwnaeth yr
aelodau gynghori bod is-les o fewn y Clwb Tanddwr sy'n prydlesu garej gerllaw'r
ganolfan hamdden. Fe’u cynghorwyd nad oes darpariaeth ar eu cyfer yn y ganolfan
newydd, fodd bynnag, byddant yn gallu defnyddio'r pwll nofio newydd ar gyfer eu
sesiynau wythnosol.
Pan fydd y gwaith
o ddatblygu'r safle'n cael ei wneud, gofynnodd yr aelodau i hamdden, lles,
twristiaeth a rhaglen datgarboneiddio'r Cyngor yn cael eu hystyried. Dywedodd swyddogion y byddant yn ymgymryd â'r
sylwadau a'u trosglwyddo i'r Pennaeth Adfywio, y bydd cyfrifoldeb ar gyfer yr
adeilad yn cael ei drosglwyddo iddo.
Holodd yr aelodau
os cynigiwyd unrhyw gymorth i'r Clwb Tanddwr i ddod o hyd i lety arall.
Ymhellach, nododd yr AEI nad oedd unrhyw effaith ar ddefnyddwyr y ganolfan,
fodd bynnag, roedd yr aelodau yn anghytuno â hyn. Dywedodd aelodau fod effaith
gan fod gwaredu'r tir wedi cael effaith uniongyrchol ar un o ddefnyddwyr y
ganolfan a oedd wedi derbyn rhybudd ar ei brydles.
Cadarnhaodd
swyddogion fod rhywfaint o drafod wedi bod â'r Clwb Tanddwr am lety arall, ond
byddai costau’n ynghlwm â hyn. Ar hyn o bryd nid oes angen i'r Clwb Tanddwr
dalu costau llety. Nid yw'r Cyngor Chwaraeon yn gallu cynnig unrhyw grant i
gefnogi'r clwb. Deëllir fod Aelod y Cabinet yn ceisio ymchwilio i lety arall ar
gyfer y clwb.
Gofynnodd yr
aelodau i'r swyddog ddiwygio'r AEI i ystyried yr effaith a nodwyd ar y
defnyddwyr presennol.
Yn dilyn craffu, roedd yr aelodau'n gefnogol o'r cynnig i'w ystyried gan y
Cabinet.
Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg
Cyflwynwyd gwybodaeth am Gynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg (CSGA) i'r
aelodau, fel y manylir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Mae'r cynllun yn nodi y bydd diweddariadau blynyddol yn cael eu darparu i
aelodau. Holodd yr aelodau a oedd swyddogion yn ystyried diweddariadau
blynyddol yn ddigonol. Dywedodd swyddogion y byddent yn fodlon adrodd yn ôl yn
fwy aml pe bai'r aelodau'n dymuno iddyn nhw wneud hynny. Fodd bynnag, bydd
adroddiad blynyddol yn rhoi golwg lawn ar yr holl weithgarwch drwy gydol y
flwyddyn.
Wrth ystyried amcanion y CSGA, holodd aelodau os a sut y byddai'r rhain yn
cael eu hystyried ym mhenderfyniadau'r awdurdod yn y dyfodol. Roedd swyddogion
yn rhagweld y byddai gan y saith amcan a nodwyd o fewn y cynllun arweinwyr
grwpiau, a byddai'r arweinwyr hyn yn cwrdd yn rheolaidd trwy gydol y flwyddyn.
Byddai'r arweinydd yn adrodd yn ôl i Fforwm CSGA, a byddai'r fforwm wedyn yn
adrodd i'r pwyllgor perthnasol.
Roedd aelodau yn cytuno'n gyffredinol y byddai adroddiad blynyddol yn
ddigon.
Yn dilyn craffu, roedd yr aelodau'n gefnogol o'r cynnig i'w ystyried gan y
Cabinet.
Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae
Cyflwynwyd gwybodaeth i'r aelodau yn ymwneud â’r Asesiad o Ddigonolrwydd
Cyfleoedd Chwarae, fel y manylir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Dywedodd swyddogion y bydd yr ymgynghorydd yn diwygio'r adroddiad o ran
nifer y wardiau a bydd adroddiad wedi'i ddiweddaru yn cael ei ddosbarthu. Mae'r
adroddiad yn cyfeirio at bedair a phum ward heb chwarae dan oruchwyliaeth. Pum
ward yw'r rhif cywir.
Fe wnaeth aelodau holi faint o staff cymwys sy'n gweithio mewn ysgolion
darpariaethau'r blynyddoedd cynnar ar hyn o bryd.
Amlinellodd swyddogion sut y cafodd tystiolaeth ar gyfer yr adroddiad ei
chasglu a'r hyn a ystyriwyd fel rhan o'r asesiad. Cadarnhawyd bod swyddogion
hefyd yn gweithio'n agos â Choleg Castell-nedd Port Talbot o ran cylch gwaith
hyfforddi staff y blynyddoedd cynnar.
Nododd yr aelodau fod ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn parciau yn cael ei
ystyried yn rhwystr i chwarae. Holodd aelodau sut roedd swyddogion yn gweithio
gyda'r heddlu i fynd i'r afael â'r mater hwn. Nododd swyddogion y gellid
ystyried gwahanol fathau o ymddygiad yn ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Mae'r cynllun gweithredu yn nodi bod angen ystyried aelodaeth y Grŵp
Gweithredu'r Strategaeth Chwarae a phwy y mae angen iddynt fod yn aelod i'w
helpu i fwrw ymlaen â'r camau hyn. Mae'r heddlu'n cael eu nodi fel partneriaid
y mae angen eu cynnwys yn y broses er mwyn helpu i'w symud ymlaen.
Holodd yr aelodau beth oedd yn cael ei wneud gyda'r pum ardal nad ydynt yn
cael eu cynnwys yn y darpariaethau chwarae. Dywedodd swyddogion, er y gall yr
adroddiad nodi nad oes darpariaeth benodol o fewn ffin y ward, nid yw hyn o
reidrwydd yn adlewyrchu'r sefyllfa, gan y gallai'r ddarpariaeth chwarae eistedd
ychydig y tu allan i'r ffin. Dywedodd swyddogion y byddai map sy'n amlinellu
sefyllfa'r darpariaethau efallai yn darparu sefyllfa fwy dangosol o
ddarpariaethau chwarae cyfredol mewn perthynas â thai.
Gofynnodd yr aelodau am ddiffiniad o chwarae dan oruchwyliaeth. Cadarnhaodd
swyddogion fod yr Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae yn rhoi ystyriaeth
i chwarae, chwaraeon, hamdden a diwylliant i blant 0-17 oed. Mae'r adroddiad yn
ystyried gwaith ymchwil wrth y ddesg ac wyneb yn wyneb. Mynegodd aelodau eu
pryder bod llawer o'r ddarpariaeth chwarae a nodwyd ar goll o'r adroddiad.
Dywedodd swyddogion mai dogfen fyw yw'r ddogfen a darperir diweddariad
blynyddol i Lywodraeth Cymru yn dilyn diwedd y flwyddyn ariannol.
O ran y gyllideb a nodwyd o fewn yr adroddiad, holodd yr aelodau faint y
gellir ei wneud o fewn yr oriau a'r cyllid presennol. Roedd y gyllideb ar gyfer
y flwyddyn bresennol yn cynnig cynnydd mewn cyllid ieuenctid, a gofynnodd yr
aelodau am gadarnhad y byddai hyn yn parhau. O ran cyllid newydd, holodd yr
aelodau a oedd unrhyw gyllid wedi’i nodi eto. Roedd swyddogion yn cydnabod y
byddai angen gwneud darn o waith i gryfhau cyfathrebiadau gyda'r gwasanaethau
ehangach o fewn y cyngor.
Mynegwyd pryder am yr oedi mewn gwaith adnewyddu i ardaloedd chwarae
presennol, gan gynnwys cau ardaloedd chwarae.
Yn dilyn craffu, roedd yr aelodau'n gefnogol o'r cynnig i'w ystyried gan y
Cabinet.