Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles - Dydd Iau, 28ain Medi, 2023 2.00 pm

Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Pamela Chivers  E-bost: p.chivers@npt.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Cadarnhawyd y byddai'r pwyllgor yn craffu ar Eitemau 7, 12, 13 a 14 o Agenda Bwrdd y Cabinet

 

Eitem 12 (Agenda'r Cabinet)

Y Cyng. Rebeca Phillips - Personol - Llywodraethwr yn Ysgol YGG Trebannws a Phontardawe - goddefeb i siarad a phleidleisio.

Y Cyng. Sonia Reynolds - Personol - Llywodraethwr yn Ysgol YGG Gwaun Cae Gurwen - goddefeb i siarad a phleidleisio.

Marie Caddick – Personol - Llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Gatholig St Joseph (Castell-nedd) ac aelod o'r teulu yn mynychu Ysgol Gyfun St Joseph - goddefeb i siarad a phleidleisio.

Adam Amor – Llywodraethwr Ysgol ac aelod o'r teulu yn mynychu Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur ac YGG Rhosafan - goddefeb i siarad a phleidleisio.

Y Cyng. James Henton - Llywodraethwr yn Ysgol Tregeles - goddefeb i siarad a phleidleisio.

Y Cyng. Phil Rogers - Llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Catwg ac Ysgol Gymunedol Llangatwg - goddefeb i siarad a phleidleisio.

Y Cyng. Robert Wood - Llywodraethwr yn Ysgol Bae Baglan - goddefeb i siarad a phleidleisio.

Y Cyng. Peter Rees - Llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Crynallt ac Ysgol Gyfun Cefn Saeson - goddefeb i siarad a phleidleisio.

Y Cyng. Dave Whitelock - Llywodraethwr yn Ysgol Cwm Brombil - goddefeb i siarad a phleidleisio.

Y Cyng. Wayne Carpenter – Llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Melin ac Ysgol Gynradd Gnoll. Mae aelod o'r teulu yn gweithio yn Ysgol Gyfun Cefn Saeson - goddefeb i siarad a phleidleisio.

 

Eitem 14 (Agenda'r Cabinet)

Y Cyng. Sonia Reynolds – Ymddiriedolwr Canolfan Maerdy - goddefeb i siarad a phleidleisio

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 128 KB

·        25th May 2023

·        6th July 2023

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 25 Mai 2023 a 6 Gorffennaf 2023 fel cofnod gwir a chywir.

 

4.

Adroddiad Blynyddol 2022 - 2023 pdf eicon PDF 195 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cytunodd yr Aelodau fod y Pwyllgor Craffu Addysg, Sgiliau a Lles yn nodi ac yn cymeradwyo Adroddiad Blynyddol 2022/2023 sy'n atodedig yn Atodiad 1 ac yn ei gymeradwyo i'r cyngor.  

 

5.

Y diweddaraf am gyflwyno Prydau Ysgol Am Ddim Cyffredinol i Ysgolion Cynradd pdf eicon PDF 164 KB

Cofnodion:

Diolchodd Pennaeth y Gwasanaethau Cefnogi a Thrawsnewid ac aelodau'r Pwyllgor Craffu i'r staff arlwyo a oedd yn rhan o'r gwaith o gyflwyno'r rhaglen yn llwyddiannus.

 

Holodd yr aelodau a gafwyd unrhyw adborth gan rieni/gwarcheidwaid ar y cyflwyniad. Cadarnhaodd swyddogion na dderbyniwyd unrhyw adborth negyddol, a oedd yn beth cadarnhaol.  

 

Nodwyd yr eitem hon.

 

6.

Craffu Cyn Penderfynu

To select appropriate items from the Cabinet Board agenda for Pre-Decision Scrutiny (Cabinet Board reports included for Scrutiny Members)

 

Cofnodion:

Cyn craffu cyn penderfynu, cododd aelod bryder ynghylch ehangder yr eitemau a fydd yn cael eu hystyried gan y pwyllgor Craffu Addysg, Sgiliau a Lles.

 

Nodwyd y datganiad

 

Lleoedd Cynlluniedig Ychwanegol yn Ysgol Gynradd Blaenhonddan – yn ôl o'r Ymgynghoriad

 

Cadarnhaodd swyddogion mai'r adroddiad hwn oedd yr ail adroddiad o dri sy'n y cynnig ad-drefnu ysgolion a chafwyd ymatebion cyfyngedig i'r ymgynghoriad. Bydd adroddiad arall yn cael ei gyflwyno i'r aelodau cyn gwneud y penderfyniad terfynol ar ddiwedd y flwyddyn.

 

Gofynnodd yr aelodau am sicrwydd na fyddai Canolfan Cefnogi Dysgu Maesmarchog yn cau pe bai niferoedd presenoldeb disgyblion yn gostwng. Dywedodd swyddogion wrth aelodau nad oedd modd rhoi sicrwydd tymor hir ond cadarnhawyd bod niferoedd Anhwylder y Sbectrwm Awtistig (ASA) yn cynyddu, nid gostwng. Nid oes unrhyw gynlluniau na thrafodaethau ynghylch cau ar hyn o bryd ond ni ellir rhagweld sefyllfa'r dyfodol.

 

Gofynnodd yr aelodau am amcangyfrif o gostau trafnidiaeth. Dywedodd swyddogion na fyddai hyn yn bosib; mae costau trafnidiaeth wedi codi ac mae'r sefyllfa'n newidiol. Ni wyddys pa ardaloedd y bydd y plant yn teithio allan ohonynt a gallai hyn effeithio'n fawr ar y costau. Cadarnhaodd swyddogion fod tacsis ar gyfartaledd yn costio hyd at £350 y dydd ond y gobaith oedd y byddai cyflwyno'r gyllideb Teithio Personol yn helpu i ostwng y gost hon.

 

Holodd yr aelodau a oedd cynlluniau i symud staff cymwys o ysgolion eraill i sefydlu'r ddarpariaeth newydd, gan ystyried yr anawsterau wrth recriwtio staff cymorth cymwysedig gyda chymwysterau ASA. Roedd swyddogion yn cydnabod bod gweithio mewn uned yn rôl fwy arbenigol o'i gymharu â dosbarthiadau prif ffrwd. Fel rhan o'r broses recriwtio, gofynnir i ymgeiswyr am brofiad/cymwysterau ychwanegol yn y maes. Sicrhaodd swyddogion yr aelodau bod pecyn hyfforddi'n cael ei roi ar waith ar ôl agor uned newydd a bod gweithgareddau pontio wedi'u cynllunio ar gyfer y plant. Cefnogir staff i sicrhau bod unrhyw anawsterau cynnar, diffyg sgiliau neu fylchau yn eu gwybodaeth yn cael eu llenwi.

 

Holodd yr aelodau a fydd staff nad ydynt yn yr ystafell ddosbarth, fel gyrwyr tacsi, hebryngwyr a staff arlwyo'n derbyn hyfforddiant ASA. Cadarnhaodd swyddogion fod dau hyfforddwr teithio ar gael, sy'n gweithio gyda phlant drwy gyfnod pontio a hefyd staff arbenigol o fewn y gwasanaeth cynhwysiant. Nid yw'r awdurdod yn cyflogi gyrwyr tacsi a hebryngwyr felly ni all hyfforddiant fod yn orfodol.

 

Holodd yr aelodau a allai staff cymorth gael yr opsiwn i gynnal hyfforddiant mewnol ar sail wirfoddol. Nododd swyddogion yr awgrym hwn.

 

Yn dilyn craffu roedd yr aelodau’n gefnogol o'r argymhellion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet.

 

 

Diweddariad Gwaharddiadau Ysgolion

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Datblygu Addysg fod yr adroddiad mewn perthynas â chais gan aelodau am ragor o wybodaeth am bob math o waharddiad.

 

Cyfeiriodd yr aelodau'r swyddogion at baragraff 13, tudalen 251 a cheisiodd egluro'r crybwylliad am ostyngiad dros dro mewn gwaharddiadau tymor penodol ar gyfer disgyblion Anghenion Addysgol Arbennig (AAA)/Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Cadarnhaodd swyddogion fod y gostyngiad dros dro'n fater o gasglu data sy'n ymwneud â'r newid o'r system AAA flaenorol i'r system  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

Cofnod Gweithredu'r Pwyllgor pdf eicon PDF 382 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr eitem hon.

 

8.

Blaenraglen Waith 2022/23 pdf eicon PDF 417 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr eitem hon.

 

9.

Eitemau brys

Any urgent items at the discretion of the Chairperson pursuant to Section 100BA(6)(b) of the Local Government Act 1972 (as amended).

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys.