To
select appropriate items from the Cabinet Board agenda for Pre-Decision Scrutiny
(Cabinet Board reports included for Scrutiny Members)
Cofnodion:
Cyn craffu cyn penderfynu, cododd aelod
bryder ynghylch ehangder yr eitemau a fydd yn cael eu hystyried gan y pwyllgor
Craffu Addysg, Sgiliau a Lles.
Nodwyd y datganiad
Lleoedd Cynlluniedig Ychwanegol yn
Ysgol Gynradd Blaenhonddan – yn ôl o'r Ymgynghoriad
Cadarnhaodd swyddogion mai'r adroddiad
hwn oedd yr ail adroddiad o dri sy'n y cynnig ad-drefnu ysgolion a chafwyd
ymatebion cyfyngedig i'r ymgynghoriad. Bydd adroddiad arall yn cael ei gyflwyno
i'r aelodau cyn gwneud y penderfyniad terfynol ar ddiwedd y flwyddyn.
Gofynnodd yr aelodau am sicrwydd na
fyddai Canolfan Cefnogi Dysgu Maesmarchog yn cau pe bai niferoedd presenoldeb
disgyblion yn gostwng. Dywedodd swyddogion wrth aelodau nad oedd modd rhoi
sicrwydd tymor hir ond cadarnhawyd bod niferoedd Anhwylder y Sbectrwm Awtistig
(ASA) yn cynyddu, nid gostwng. Nid oes unrhyw gynlluniau na thrafodaethau
ynghylch cau ar hyn o bryd ond ni ellir rhagweld sefyllfa'r dyfodol.
Gofynnodd yr aelodau am amcangyfrif o
gostau trafnidiaeth. Dywedodd swyddogion na fyddai hyn yn bosib; mae costau
trafnidiaeth wedi codi ac mae'r sefyllfa'n newidiol. Ni wyddys pa ardaloedd y
bydd y plant yn teithio allan ohonynt a gallai hyn effeithio'n fawr ar y
costau. Cadarnhaodd swyddogion fod tacsis ar gyfartaledd yn costio hyd at £350
y dydd ond y gobaith oedd y byddai cyflwyno'r gyllideb Teithio Personol yn
helpu i ostwng y gost hon.
Holodd yr aelodau a oedd cynlluniau i
symud staff cymwys o ysgolion eraill i sefydlu'r ddarpariaeth newydd, gan
ystyried yr anawsterau wrth recriwtio staff cymorth cymwysedig gyda
chymwysterau ASA. Roedd swyddogion yn cydnabod bod gweithio mewn uned yn rôl
fwy arbenigol o'i gymharu â dosbarthiadau prif ffrwd. Fel rhan o'r broses
recriwtio, gofynnir i ymgeiswyr am brofiad/cymwysterau ychwanegol yn y maes. Sicrhaodd
swyddogion yr aelodau bod pecyn hyfforddi'n cael ei roi ar waith ar ôl agor
uned newydd a bod gweithgareddau pontio wedi'u cynllunio ar gyfer y plant.
Cefnogir staff i sicrhau bod unrhyw anawsterau cynnar, diffyg sgiliau neu
fylchau yn eu gwybodaeth yn cael eu llenwi.
Holodd yr aelodau a fydd staff nad
ydynt yn yr ystafell ddosbarth, fel gyrwyr tacsi, hebryngwyr a staff arlwyo'n
derbyn hyfforddiant ASA. Cadarnhaodd swyddogion fod dau hyfforddwr teithio ar
gael, sy'n gweithio gyda phlant drwy gyfnod pontio a hefyd staff arbenigol o
fewn y gwasanaeth cynhwysiant. Nid yw'r awdurdod yn cyflogi gyrwyr tacsi a
hebryngwyr felly ni all hyfforddiant fod yn orfodol.
Holodd yr aelodau a allai staff cymorth
gael yr opsiwn
i gynnal hyfforddiant
mewnol ar sail wirfoddol. Nododd swyddogion yr awgrym hwn.
Yn dilyn craffu roedd yr aelodau’n
gefnogol o'r argymhellion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet.
Diweddariad Gwaharddiadau Ysgolion
Cadarnhaodd y Pennaeth Datblygu Addysg
fod yr adroddiad mewn perthynas â chais gan aelodau am ragor o wybodaeth am bob
math o waharddiad.
Cyfeiriodd yr aelodau'r swyddogion at
baragraff 13, tudalen 251 a cheisiodd egluro'r crybwylliad am ostyngiad dros
dro mewn gwaharddiadau tymor penodol ar gyfer disgyblion Anghenion Addysgol
Arbennig (AAA)/Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Cadarnhaodd swyddogion fod y
gostyngiad dros dro'n fater o gasglu data sy'n ymwneud â'r newid o'r system AAA
flaenorol i'r system ADY newydd. Mae COVID wedi effeithio ar nifer yr
atgyfeiriadau gan ysgolion wrth i bresenoldeb plant ostwng. Oherwydd y broses
hir mewn rhai amgylchiadau, tynnwyd sylw at y gostyngiad dros dro hwn i sicrhau
bod y ffigurau'n glir yn y tymor hir.
Dywedodd yr aelodau, yn ystod yr
argyfwng costau byw presennol, y gall gwaharddiadau fod yn gosb i rieni yn
ogystal â'r plant oherwydd bod rhieni'n gorfod cymryd absenoldeb. Croesawodd yr
aelodau gyfiawnder adferol a diolchodd i swyddogion am edrych ar ddewisiadau
amgen i'r hyn sy'n broblem genedlaethol.
Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddogion am
eu gwaith.
Yn dilyn craffu, nododd yr aelodau'r
eitem er gwybodaeth.
Asesiad Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus
Cymru 2021/2022
Gofynnodd yr aelodau am weld yr
astudiaethau achos a anfonwyd at Lywodraeth Cymru.
Diolchodd yr aelodau i'r swyddogion am
adroddiad da gan nodi bod gwasanaethau llyfrgelloedd yn hanfodol i'n system
addysg a'n cymunedau ac y dylid eu
cefnogi wrth symud ymlaen.
Yn dilyn craffu, nododd yr aelodau'r
eitem er gwybodaeth.
Dangosyddion Perfformiad Chwarter 1
23/24 – Cyfarwyddiaeth Addysg
Dywedodd swyddogion wrth aelodau bod
rhai graffiau yn yr adroddiad yn cael ei gyflwyno mewn fformat newydd; bydd
rhai o'r graffiau yn rhoi darlun cliriach ar ddiwedd y 4ydd chwarter.
Cyfeiriodd yr aelodau at dudalen 292 yr
adroddiad a'r trefniant 12 mis di-rent ar gyfer darpariaethau Gofal Plant
cyfrwng Cymraeg. Nododd yr aelodau fod nifer y lleoedd mewn cyfleusterau
cyfrwng Cymraeg/dwyieithog wedi cynyddu tra bod y nifer mewn darpariaethau
cyfrwng Saesneg wedi gostwng a gofynnwyd a fydd y system ddi-rent yn cael ei
chyflwyno i ddarpariaethau cyfrwng Saesneg.
Cadarnhaodd swyddogion fod y trefniant
hwn yn destun adolygiad a gallai cyflwyno darpariaethau Saesneg yn y dyfodol
fod yn opsiwn i'w ystyried. Dywedodd swyddogion wrth aelodau bod ymyrraeth
gynnar i gynyddu presenoldeb mewn darpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg yn
rhan o Gynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg (CSGA) a'i fod wedi cael effaith
gadarnhaol ar bresenoldeb mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg. Nododd
swyddogion fod darpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg yn aml mewn ardaloedd
ynysig lle mae'r niferoedd yn isel ac mae'n anodd i fusnesau wneud y
cyfleusterau'n hyfyw. Byddai unrhyw ostyngiad yn nifer y darpariaethau gofal
plant yng Nghymru yn cael effaith negyddol ar y CSGA.
Mynegodd yr aelodau bryder bod llawer o
ddarparwyr gofal plant yn ei chael hi'n anodd ar hyn o bryd ac mae angen
ystyried mantais mewn rhai meysydd a chystadleuaeth deg.
Cyfeiriodd yr aelodau at dudalen 292 yr
adroddiad a gofynnodd am eglurhad ar y math o ryngweithio ieuenctid sydd wedi
cynyddu. Cadarnhaodd swyddogion fod rhyngweithio wedi cynyddu ym mhob ardal a
bod modd darparu dadansoddiad pellach os oes angen. Ers i COVID leihau, mae
pobl ifanc yn fwy parod i gymryd rhan mewn gweithgareddau. Lle mae
ymwybyddiaeth nad yw person ifanc o bosib yn symud ymlaen i gyflogaeth neu
hyfforddiant, gwneir gwaith dal i fyny. Mae gweithiwr digartrefedd ymroddedig o
fewn y gwasanaeth ieuenctid.
Gofynnodd yr aelodau am eglurhad o'r
meini prawf ar gyfer cael cymorth drwy'r rhaglen Cymunedau am Waith a Mwy.
Cadarnhaodd swyddogion y bydd y maes hwn yn cael ei gynnwys fel rhan o'r gwaith
ar gyflogadwyedd sydd wedi'i gynnwys yn y Blaenraglen Waith.
Roedd yr aelodau'n falch o glywed bod
mwy o bobl ifanc yn mynychu canolfannau ieuenctid, ond codon nhw bryderon am
bobl ifanc yn ymgynnull yng nghanol trefi, mewn parciau ac mewn mannau
cyhoeddus a'u bod mewn gangiau, ac yn rhan o linellau cyffuriau ac yn gaeth i
gyffuriau. Gofynnodd yr aelodau am wybodaeth ynghylch gweithwyr ieuenctid
allgymorth a pha gymorth y gallent ei roi. Er bod gweithwyr ieuenctid yn gwneud
gwaith yn y maes hwn, cadarnhaodd swyddogion eu bod yn cael eu canmol gan y tîm
Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (ASB) a gweithwyr Cynnydd. Byddai angen gwneud
rhagor o waith cyn y gellid rhoi trosolwg cyflawn. Gofynnodd y Cadeirydd i'r
wybodaeth hon gael ei dychwelyd i gyfarfod pwyllgor yn y dyfodol.
Yn dilyn craffu, nodwyd yr eitem.