Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Alison Thomas E-bost: a.thomas6@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd
y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Cadarnhawyd
y byddai'r pwyllgor yn craffu ar eitemau 7 a 9 o Agenda Bwrdd y Cabinet. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Dim. |
|
Craffu Cyn Penderfynu Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar
gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu) Cofnodion: Hwb
Cyflogadwyedd yng Nghanolfan Siopa Aberafan. Rhoddodd
y swyddog drosolwg o'r adroddiad fel y manylir ym mhecyn yr agenda a
ddosbarthwyd i Fwrdd y Cabinet. Cefnogodd
aelodau'r argymhelliad a dywedwyd ei fod yn iawn i gynnal presenoldeb yn y
ganolfan siopa lle mae nifer o ymwelwyr. Diolchodd aelodau i swyddogion a staff
am eu gwaith wrth wneud yr Hwb yn llwyddiant, ond gofynnwyd a oedd cynlluniau i
agor Hwb tebyg yng Nghastell-nedd i wasanaethu cymunedau Castell-nedd a Chwm
Tawe. Cadarnhaodd swyddogion fod y posibilrwydd o agor hybiau pellach yn
llyfrgelloedd Castell-nedd a Phontardawe'n cael ei archwilio. Os caiff hwn ei
gymeradwyo, bydd yr hybiau'n debyg i'r gwasanaethau a gynhigir yn Hwb Port
Talbot. Yn
dilyn craffu roedd yr aelodau’n gefnogol o'r argymhellion i'w hystyried gan
Fwrdd y Cabinet. Dangosyddion
Perfformiad Chwarter 4 Cydnabu'r
aelodau bod absenoldebau'n broblem leol a hefyd yn broblem genedlaethol. Mae
angen monitro presenoldeb ysgol gan fod nifer o ddisgyblion wedi colli cryn
dipyn o amser yn yr ysgol o ganlyniad i'r pandemig; efallai bydd hwn yn
effeithio ar grwpiau o ddisgyblion, yn enwedig y rheini sy'n astudio ar gyfer
arholiadau ac yn eistedd arholiadau ar hyn o bryd. Rhoddodd
y Pennaeth Gwasanaeth drosolwg o waharddiadau sydd wedi cyfrannu at y problemau
gyda phresenoldeb. Mae gan Gastell-nedd Port Talbot lefel uchel o waharddiadau
gyda 677 o ddisgyblion yn derbyn gwaharddiad cyfnod penodol y flwyddyn
academaidd hon, gan golli tua 3200 o ddiwrnodau o ddysgu, ac mae hynny wedi
ychwanegu at y broblem gyda phresenoldeb. Mae'r holl ysgolion yn gweithio tuag
at ddod â phlant yn ôl i'r ysgol, ond cydnabuwyd bod hefyd angen cefnogaeth ar
deuluoedd gan fod gweithgareddau i deuluoedd hefyd yn ffactor sy'n cyfrannu at
ddiffyg presenoldeb. Mewn
perthynas â gwaharddiadau parhaol, cynhelir ymgynghoriadau ynghylch cynnig i
ffurfio Panel Cymru Gyfan. Byddai'r panel o arbenigwyr yn trafod a all plentyn
ddychwelyd i'r ysgol yn dilyn nifer o waharddiadau parhaol. Mae canlyniadau
cadarnhaol a negyddol i'r cynnig hwn, byddai'n sicrhau ymagwedd Cymru Gyfan ond
byddai pwysau ychwanegol ar gyrff llywodraethu. Caiff rhagor o wybodaeth ei
darparu pan fydd ar gael. Dywedodd
y Pennaeth Gwasanaeth fod cysylltiad rhwng gwaharddiadau a phresenoldeb. Yng
Nghastell-nedd Port Talbot, mae 277 o ddisgyblion wedi cael eu gwahardd deirgwaith
neu bedair gwaith. I fynd i'r afael â hyn, mae cynlluniau i dimau o swyddogion
fynd i ysgolion uwchradd ym mis Medi i gwrdd ag o leiaf 10 o blant sydd â
phresenoldeb o 80% neu lai o bob ysgol. Bydd swyddogion o'r Gwasanaeth Seicoleg
Addysg, y Gwasanaeth Cwnsela mewn Ysgolion a'r Gwasanaeth Lles Addysg yn
gweithio gyda disgyblion ac yn eu cefnogi gydag unrhyw broblemau a all gyfrannu
at eu habsenoldeb. Adroddwyd am yr ymagwedd hon i NAASH ac maent yn ei
chefnogi. Y gobaith yw, gan fod y swyddogion yn annibynnol o gymuned yr ysgol,
byddant yn gallu gweithio gyda phlant i'w cefnogi a dysgu gwersi o ran yr hyn y
gallai Castell-nedd Port Talbot ei wneud yn wahanol. Caiff canlyniad y gwaith
hwn ei gyflwyno i'r pwyllgor hwn. Mae llawer ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3. |
|
Blaenraglen Waith 2023/24 PDF 401 KB Cofnodion: Nodwyd
yr eitem hon. |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd) Cofnodion: Nid
oedd unrhyw eitemau brys |