Agenda item

Craffu Cyn Penderfynu

Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)

 

Cofnodion:

Hwb Cyflogadwyedd yng Nghanolfan Siopa Aberafan.

 

Rhoddodd y swyddog drosolwg o'r adroddiad fel y manylir ym mhecyn yr agenda a ddosbarthwyd i Fwrdd y Cabinet. 

Cefnogodd aelodau'r argymhelliad a dywedwyd ei fod yn iawn i gynnal presenoldeb yn y ganolfan siopa lle mae nifer o ymwelwyr. Diolchodd aelodau i swyddogion a staff am eu gwaith wrth wneud yr Hwb yn llwyddiant, ond gofynnwyd a oedd cynlluniau i agor Hwb tebyg yng Nghastell-nedd i wasanaethu cymunedau Castell-nedd a Chwm Tawe. Cadarnhaodd swyddogion fod y posibilrwydd o agor hybiau pellach yn llyfrgelloedd Castell-nedd a Phontardawe'n cael ei archwilio. Os caiff hwn ei gymeradwyo, bydd yr hybiau'n debyg i'r gwasanaethau a gynhigir yn Hwb Port Talbot.

 

Yn dilyn craffu roedd yr aelodau’n gefnogol o'r argymhellion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet.

 

 

Dangosyddion Perfformiad Chwarter 4

 

Cydnabu'r aelodau bod absenoldebau'n broblem leol a hefyd yn broblem genedlaethol. Mae angen monitro presenoldeb ysgol gan fod nifer o ddisgyblion wedi colli cryn dipyn o amser yn yr ysgol o ganlyniad i'r pandemig; efallai bydd hwn yn effeithio ar grwpiau o ddisgyblion, yn enwedig y rheini sy'n astudio ar gyfer arholiadau ac yn eistedd arholiadau ar hyn o bryd.

 

Rhoddodd y Pennaeth Gwasanaeth drosolwg o waharddiadau sydd wedi cyfrannu at y problemau gyda phresenoldeb. Mae gan Gastell-nedd Port Talbot lefel uchel o waharddiadau gyda 677 o ddisgyblion yn derbyn gwaharddiad cyfnod penodol y flwyddyn academaidd hon, gan golli tua 3200 o ddiwrnodau o ddysgu, ac mae hynny wedi ychwanegu at y broblem gyda phresenoldeb. Mae'r holl ysgolion yn gweithio tuag at ddod â phlant yn ôl i'r ysgol, ond cydnabuwyd bod hefyd angen cefnogaeth ar deuluoedd gan fod gweithgareddau i deuluoedd hefyd yn ffactor sy'n cyfrannu at ddiffyg presenoldeb. 

 

Mewn perthynas â gwaharddiadau parhaol, cynhelir ymgynghoriadau ynghylch cynnig i ffurfio Panel Cymru Gyfan. Byddai'r panel o arbenigwyr yn trafod a all plentyn ddychwelyd i'r ysgol yn dilyn nifer o waharddiadau parhaol. Mae canlyniadau cadarnhaol a negyddol i'r cynnig hwn, byddai'n sicrhau ymagwedd Cymru Gyfan ond byddai pwysau ychwanegol ar gyrff llywodraethu. Caiff rhagor o wybodaeth ei darparu pan fydd ar gael.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth fod cysylltiad rhwng gwaharddiadau a phresenoldeb. Yng Nghastell-nedd Port Talbot, mae 277 o ddisgyblion wedi cael eu gwahardd deirgwaith neu bedair gwaith. I fynd i'r afael â hyn, mae cynlluniau i dimau o swyddogion fynd i ysgolion uwchradd ym mis Medi i gwrdd ag o leiaf 10 o blant sydd â phresenoldeb o 80% neu lai o bob ysgol. Bydd swyddogion o'r Gwasanaeth Seicoleg Addysg, y Gwasanaeth Cwnsela mewn Ysgolion a'r Gwasanaeth Lles Addysg yn gweithio gyda disgyblion ac yn eu cefnogi gydag unrhyw broblemau a all gyfrannu at eu habsenoldeb. Adroddwyd am yr ymagwedd hon i NAASH ac maent yn ei chefnogi. Y gobaith yw, gan fod y swyddogion yn annibynnol o gymuned yr ysgol, byddant yn gallu gweithio gyda phlant i'w cefnogi a dysgu gwersi o ran yr hyn y gallai Castell-nedd Port Talbot ei wneud yn wahanol. Caiff canlyniad y gwaith hwn ei gyflwyno i'r pwyllgor hwn.

 

Mae llawer o waith yn digwydd y tu ôl i'r llenni yng Nghastell-nedd Port Talbot i wella presenoldeb, fodd bynnag, nid oes un ateb i bawb a bydd yn cymryd amser i'r gwelliannau fod yn weladwy. Cydnabuwyd bod disgyblion o flwyddyn naw wedi cael eu heffeithio'n wael gan y cyfnod o ysgol a gollwyd yn ystod y pandemig. Soniodd y Pennaeth Gwasanaeth am nifer o feysydd sydd ar fin newid, megis; newidiadau i arholiadau, cyflwyno'r cwricwlwm newydd i Gymru, diwygio Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r gallu i recriwtio staff o safon ac yn ogystal â'r newidiadau hyn, nodwyd bod angen cymorth ar deulu'r plentyn ac nid y plentyn yn unig.

 

Yn dilyn craffu, nododd yr aelodau'r eitem er gwybodaeth.