Agenda a Chofnodion

Special, Is-bwyllgor Craffu (Polisi ac Adnoddau) y Cabinet - Dydd Mawrth, 29ain Awst, 2023 2.00 pm

Lleoliad: CYFARFOD AML-LEOLIAD - SIAMBR Y CYNGOR PORT, TALBOT A MICROSOFT TEAMS

Cyswllt: Alison Thomas E-bost: a.thomas6@npt.gov.uk 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

Cadarnhawyd y byddai'r pwyllgor yn craffu ar eitem 5 o Agenda Bwrdd y Cabinet.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.

 

3.

Craffu Cyn Penderfynu

·         Dethol eitemau priodol o agenda Is-bwyllgor (Polisi ac Adnoddau) y Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (adroddiadau Is-bwyllgor y Cabinet yn amgaeedig ar gyfer Aelodau Craffu).

Cofnodion:

Cais i’r Gronfa Grantiau Amrywiol (Urdd Siewmyn De Cymru a Gogledd Iwerddon)

 

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel a nodwyd yn y pecyn agenda.

 

Holodd yr Aelodau a oes unrhyw astudiaeth wedi'i chynnal i ddeall yr effaith yr oedd Ffair Castell-nedd yn ei chael ar fasnach yn nhref Castell-nedd. Roedd yr Aelodau'n awyddus i ddeall pam nad oedd Urdd y Siewmyn wedi derbyn unrhyw gyllid gan y Llywodraeth yn ystod COVID.

 

Eglurodd swyddogion fod y cais mewn perthynas â'r ffair bleser yn unig ac nid y ffair stryd. Mae'r £31,000 a amlinellir yn y cais yn cwmpasu cost y ffair bleser ar gyfer digwyddiadau a gynhelir ym mis Medi ac yn ystod y Pasg.

 

Dywedodd y swyddogion fod y meini prawf ar gyfer cyllid COVID ar y pryd wedi'u pennu gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Roedd yn rhaid i sefydliadau wneud cais yn uniongyrchol i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Nid oedd swyddogion yn gallu rhoi sylw ynghylch pam na chafodd Urdd y Siewmyn gyllid.

 

Nid oedd swyddogion yn ymwybodol bod unrhyw ddadansoddiad penodol wedi'i gynnal mewn perthynas ag effaith presenoldeb y ffair bleser yn y dref o'i gyferbynnu â pheidio â bod yn bresennol.

 

Cadarnhaodd swyddogion fod y cais am gymorth ariannol yn cael ei asesu yn ôl y meini prawf a amlinellir yn yr adroddiad. Nid oes gofyniad i'r ymgeisydd ddangos ei fforddiadwyedd ar gyfer y digwyddiad y mae'n gwneud cais am gyllid ar ei gyfer.

 

Cododd yr Aelodau bryder ynghylch defnyddio'r polisi gan ofyn a oedd yn addas i'r diben mewn perthynas â'r ffaith ei fod ar gyfer sefydliadau elusennol a gwirfoddol ac er budd y gymuned. Holodd yr Aelodau ynghylch pa fudd sydd i Urdd y Siewmyn a sut mae hynny'n rhoi nôl i'r gymuned leol, gan fod yr elw'n cael ei rannu ymhlith y rheini sy'n ymwneud â'r digwyddiad, ac nid yn cael ei roi i'r gymuned.

 

Cadarnhawyd bod Urdd y Siewmyn yn gasgliad o unigolion ac nid yw'n endid cyfreithiol yn ei rinwedd ei hun ac felly nid oedd gofyniad i sefydliad fod yn sefydliad gwirfoddol neu elusennol, dim ond os yw sefydliad o'r math hwn yn gwneud cais, rhaid iddo fod yn ymroddedig i ymdrechion lleol eu natur.

Eglurodd swyddogion nad yw'r telerau a amlinellir uchod yn atal sefydliadau eraill rhag gwneud cais. Pwrpas y grant amrywiol yw bod yn un sy'n cwmpasu pawb yn gyffredinol, lle nad oes modd defnyddio grant penodol. Yr awdurdod lleol sydd â'r disgresiwn o ran a yw Aelodau'n dymuno caniatáu cymorth neu beidio i'r sefydliad sy'n gwneud cais.

 

Roedd yr adroddiad yn datgan os nad oedd y grant yn llwyddiannus yna ni fyddai'r ffair yn mynd yn ei blaen. Mynegodd yr Aelodau eu pryder bod Cyfathrebiadau CNPT wedi cyhoeddi datganiad ar 23 Awst 2023 a oedd yn dweud yn glir bod y ffair yn mynd yn ei blaen.

 

Cadarnhaodd swyddogion fod nifer o bolisïau'n cael eu hadolygu gan y Pennaeth Diwylliant, Hamdden a Thwristiaeth, gan weithio gyda'r Pennaeth Adfywio a swyddogion perthnasol eraill i ystyried  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.