Lleoliad: Microsft Teams Meeting/ Hybrid Meeting in Council Chamber
Cyswllt: Charlotte John 01639 673745
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 288 KB ·
25 Gorffenaf 2023 ·
29 Awst 2023 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd
ar 25 Gorffennaf 2023 a 29 Awst 2023 fel cofnod gwir a chywir. |
|
Cynllunio ar gyfer olyniaeth PDF 400 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Pennaeth Pobl a Datblygu Sefydliadol, Rheolwyr Adnoddau Dynol
a'r Rheolwr Dysgu, Hyfforddiant a Datblygiad drosolwg i'r aelodau o'r Cynllun
Gweithlu Strategol gan ganolbwyntio ar adnoddau, recriwtio a'r Pecyn Cymorth
Cynllunio Olyniaeth. Dywedodd yr aelodau fod y rhestrau o swyddi gwag a'u hamlygrwydd ar
gyfryngau cymdeithasol wedi gwella. Gofynnodd yr aelodau a oedd cyfweliadau ymadael yn cael eu cynnal wrth i
staff adael yr awdurdod; gallai unrhyw ddata a gesglir amlygu patrymau o fewn
meysydd gwasanaeth. Cadarnhaodd swyddogion fod cyfweliadau ymadael ar waith,
fodd bynnag mae gwaith wedi'i gynllunio i ail ddylunio a gwella'r broses
bresennol. Bydd arolygon staff yn cael eu cynnal ar gyfer staff cyflogedig a
gellir gwneud cymariaethau â data cyfweliadau ymadael. Canmolodd yr aelodau'r cyflwyniad ac ehangder y pynciau dan sylw.
Llongyfarchwyd yr holl staff a gyfrannodd at Gastell-nedd Port Talbot yn ennill
gwobr Cyflogwr Chwarae Teg a'u hymdrechion i hyrwyddo cydraddoldeb. Holodd yr
aelodau pa ffactorau y gellid eu priodoli i'r cynnydd mewn hysbysebion swyddi
gwag, ac a oedd ansawdd yr ymgeiswyr wedi'i effeithio gan y cynnydd?
Cadarnhaodd swyddogion fod newid sylweddol yn y rheolau recriwtio a dethol
ynghylch hysbysebu. Yn flaenorol, dim ond ar gyfer rhai rolau anodd eu llenwi y
defnyddiwyd hysbysebu allanol oherwydd cyfyngiadau cyllidebol. Nid oedd
swyddogion yn gallu gwneud sylw ar sut yr effeithiodd y cynnydd yn nifer y swyddi gwag a hysbysebwyd ar ansawdd
yr ymgeiswyr, ond nodwyd bod 91% o'r swyddi gwag a hysbysebwyd wedi'u llenwi. Gofynnodd yr aelodau am eglurhad o'r meini prawf er mwyn i swydd gael ei
hystyried yn hanfodol i fusnes, sut yr asesir gweithwyr o ran meddu ar y
sgiliau a'r cymwysterau angenrheidiol i drosglwyddo i rolau busnes hollbwysig.
Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaeth fod swyddi sy'n hanfodol i fusnes yn cael eu
diffinio fel swyddi lle mae angen i staff fod yn eu lle er mwyn darparu
gwasanaethau. Mae rhagor o waith wedi'i gynllunio i fireinio'r Pecyn Cymorth
Cynllunio Olyniaeth i roi arweiniad manylach i reolwyr ar bennu rolau sy'n
hollbwysig i fusnes. Mewn perthynas â sgiliau a chymwysterau, mae'r Tîm Dysgu,
Hyfforddiant a Datblygiad yn darparu cymorth a chefnogaeth i reolwyr ar safonau
galwedigaethol cenedlaethol a fframweithiau cymhwyster. Holodd yr aelodau a oedd unrhyw waith wedi'i wneud ynghylch staff â
nodweddion o gyflyrau niwro-amrywiol? Cadarnhaodd y Pennaeth Pobl a Datblygiad
Sefydliadol fod hyn wedi'i nodi yn y gwaith a wnaed ar iechyd a lles, a bydd yn
cael ei ddatblygu ymhellach yn iteriad nesaf y cynllun cyflawni. Canmolodd yr aelodau pa mor gynhwysfawr yw’r strategaeth sydd wedi’i hategu
gan gamau gweithredu a amlinellwyd yn y Pecyn Cymorth Cynllunio Olyniaeth. Mae’r ymagwedd ragweithiol yn dangos
ymrwymiad i lwyddiant tymor hir y cyngor.
Diolchodd y Pennaeth Pobl a Datblygu Sefydliadol i'r aelodau am y
sylwadau cadarnhaol a fydd yn cael eu hadrodd yn ôl i'r staff. Canmolodd yr aelodau'r gweithdai menopos a gynhaliwyd yn ddiweddar a dywedasant y byddai'n werthfawr i ddynion hefyd gefnogi'r fenter. Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaeth fod gweithdai i ddynion yn unig wedi'u cynnig, er mwyn galluogi dynion i ofyn ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|
Craffu Cyn Penderfynu · Dethol eitemau priodol o agenda Is-bwyllgor (Polisi ac Adnoddau) y Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (adroddiadau Is-bwyllgor y Cabinet yn amgaeedig ar gyfer Aelodau Craffu). Cofnodion: Ni chraffwyd ar unrhyw eitemau o bapurau Bwrdd y
Cabinet. |
|
Blaenraglen Waith 2023/24 PDF 439 KB Cofnodion: Nododd yr Aelodau'r Flaenraglen Waith. |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd). Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau brys. |
|
Mynediad i gyfarfodydd Mynediad i gyfarfodydd i benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r eitem ganlynol yn unol ag Is-adran 100a(4) a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod. Cofnodion: Nid oedd angen yr eitem hon gan nad oedd unrhyw
eitemau preifat i'w craffu. |
|
Craffu Eitem/Eitemau Preifat Cyn Penderfynu ·
Dewis
eitemau priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu cyn
penderfynu (amgaeir adroddiadau Bwrdd y Cabinet ar gyfer yr Aelodau Craffu) Cofnodion: Ni chraffwyd ar unrhyw eitemau preifat. |