Agenda item

Cynllunio ar gyfer olyniaeth

Cofnodion:

Rhoddodd y Pennaeth Pobl a Datblygu Sefydliadol, Rheolwyr Adnoddau Dynol a'r Rheolwr Dysgu, Hyfforddiant a Datblygiad drosolwg i'r aelodau o'r Cynllun Gweithlu Strategol gan ganolbwyntio ar adnoddau, recriwtio a'r Pecyn Cymorth Cynllunio Olyniaeth.

Dywedodd yr aelodau fod y rhestrau o swyddi gwag a'u hamlygrwydd ar gyfryngau cymdeithasol wedi gwella. 

Gofynnodd yr aelodau a oedd cyfweliadau ymadael yn cael eu cynnal wrth i staff adael yr awdurdod; gallai unrhyw ddata a gesglir amlygu patrymau o fewn meysydd gwasanaeth. Cadarnhaodd swyddogion fod cyfweliadau ymadael ar waith, fodd bynnag mae gwaith wedi'i gynllunio i ail ddylunio a gwella'r broses bresennol. Bydd arolygon staff yn cael eu cynnal ar gyfer staff cyflogedig a gellir gwneud cymariaethau â data cyfweliadau ymadael.

Canmolodd yr aelodau'r cyflwyniad ac ehangder y pynciau dan sylw. Llongyfarchwyd yr holl staff a gyfrannodd at Gastell-nedd Port Talbot yn ennill gwobr Cyflogwr Chwarae Teg a'u hymdrechion i hyrwyddo cydraddoldeb. Holodd yr aelodau pa ffactorau y gellid eu priodoli i'r cynnydd mewn hysbysebion swyddi gwag, ac a oedd ansawdd yr ymgeiswyr wedi'i effeithio gan y cynnydd? Cadarnhaodd swyddogion fod newid sylweddol yn y rheolau recriwtio a dethol ynghylch hysbysebu. Yn flaenorol, dim ond ar gyfer rhai rolau anodd eu llenwi y defnyddiwyd hysbysebu allanol oherwydd cyfyngiadau cyllidebol. Nid oedd swyddogion yn gallu gwneud sylw ar sut yr effeithiodd y cynnydd yn  nifer y swyddi gwag a hysbysebwyd ar ansawdd yr ymgeiswyr, ond nodwyd bod 91% o'r swyddi gwag a hysbysebwyd wedi'u llenwi.

Gofynnodd yr aelodau am eglurhad o'r meini prawf er mwyn i swydd gael ei hystyried yn hanfodol i fusnes, sut yr asesir gweithwyr o ran meddu ar y sgiliau a'r cymwysterau angenrheidiol i drosglwyddo i rolau busnes hollbwysig. Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaeth fod swyddi sy'n hanfodol i fusnes yn cael eu diffinio fel swyddi lle mae angen i staff fod yn eu lle er mwyn darparu gwasanaethau. Mae rhagor o waith wedi'i gynllunio i fireinio'r Pecyn Cymorth Cynllunio Olyniaeth i roi arweiniad manylach i reolwyr ar bennu rolau sy'n hollbwysig i fusnes. Mewn perthynas â sgiliau a chymwysterau, mae'r Tîm Dysgu, Hyfforddiant a Datblygiad yn darparu cymorth a chefnogaeth i reolwyr ar safonau galwedigaethol cenedlaethol a fframweithiau cymhwyster.

Holodd yr aelodau a oedd unrhyw waith wedi'i wneud ynghylch staff â nodweddion o gyflyrau niwro-amrywiol? Cadarnhaodd y Pennaeth Pobl a Datblygiad Sefydliadol fod hyn wedi'i nodi yn y gwaith a wnaed ar iechyd a lles, a bydd yn cael ei ddatblygu ymhellach yn iteriad nesaf y cynllun cyflawni.

Canmolodd yr aelodau pa mor gynhwysfawr yw’r strategaeth sydd wedi’i hategu gan gamau gweithredu a amlinellwyd yn y Pecyn Cymorth Cynllunio Olyniaeth.  Mae’r ymagwedd ragweithiol yn dangos ymrwymiad i lwyddiant tymor hir y cyngor.  Diolchodd y Pennaeth Pobl a Datblygu Sefydliadol i'r aelodau am y sylwadau cadarnhaol a fydd yn cael eu hadrodd yn ôl i'r staff.

Canmolodd yr aelodau'r gweithdai menopos a gynhaliwyd yn ddiweddar a dywedasant y byddai'n werthfawr i ddynion hefyd gefnogi'r fenter. Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaeth fod gweithdai i ddynion yn unig wedi'u cynnig, er mwyn galluogi dynion i ofyn cwestiynau mewn man diogel. Cadarnhaodd Arweinydd y Cyngor fod y cyngor yn llwyr gefnogi rhaglen y menopos ac y byddai'r gefnogaeth yn parhau.

 

 

Nododd yr aelodau'r adroddiad.

 

Dogfennau ategol: