Agenda a chofnodion drafft

Special, Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru - Dydd Mercher, 21ain Chwefror, 2024 9.00 am

Lleoliad: Via Microsoft Teams

Cyswllt: Chloe Plowman 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Croeso a Chyhoeddiadau'r Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 231 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2024 fel cofnod cywir.

 

4.

Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 492 KB

Cofnodion:

Nodwyd Blaenraglen Waith y Cydbwyllgor Corfforaethol.

 

5.

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol - Y Ddadl o Blaid Newid pdf eicon PDF 482 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparwyd yr Achos dros Newid i'r aelodau, a oedd yn rhan o'r broses o ddatblygu'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol (CTRh).

Esboniodd swyddogion mai'r Achos dros Newid oedd y cam nesaf sydd ei angen wrth symud ymlaen â'r CTRh; roedd hyn yn dilyn ymlaen o'r cam blaenorol o gynhyrchu'r Cynllun Gweithredu. Nodwyd bod yr Achos dros Newid yn ddogfen a oedd yn nodi sefyllfa bresennol y rhanbarth a pham mae angen newid; drwy gydol y ddogfen, roedd swyddogion wedi rhoi ystyriaeth i nifer o ffactorau, megis yr economi a materion amgylcheddol.

O ran pam y mae angen newid, nodwyd bod polisi Llywodraeth Cymru'n sbardun sylweddol; fodd bynnag, roedd hefyd o'r pwys mwyaf bod y rhwydwaith trafnidiaeth yn esblygu. Soniwyd bod yr ysgogwyr hyn ar gyfer newid wedi'u nodi yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

Hysbyswyd y Pwyllgor fod y ddogfen hefyd yn nodi sut y bydd swyddogion yn ymgysylltu â rhanddeiliaid ac yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y CTRh terfynol; yn ogystal â manylion am y broses asesiad effaith integredig, sy'n dilyn ymlaen o'r ymarferion ymgynghori amrywiol.

O ran y camau nesaf, cadarnhawyd y byddai angen cyflwyno'r Achos dros Newid i Lywodraeth Cymru erbyn diwedd Chwefror 2024; yna bydd swyddogion yn parhau â'r broses o ddatblygu'r CTRh, gyda'r amserlen bresennol i’w chwblhau erbyn gwanwyn 2025. Tynnwyd sylw at yr amserlenni heriol sy'n gysylltiedig â datblygu'r CTRh.

Cafwyd trafodaeth ynglŷn â'r cyllid a gadarnhawyd a fydd yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru; £125 mil ar gyfer y flwyddyn bresennol, a £100 mil ar gyfer y flwyddyn nesaf. Soniwyd y bydd angen cyllid ychwanegol i hwyluso nifer y ffrydiau gwaith a'r gwaith ymgynghori.

Dywedodd swyddogion fod Trafnidiaeth Cymru wedi nodi adnodd penodol i helpu gyda datblygiad y CTRh; yn ogystal â hynny, maent wedi dechrau datblygu gwybodaeth fodelu ddefnyddiol, a fydd yn cynorthwyo gyda'r sylfaen dystiolaeth a'r ymyriadau profi ar gyfer datblygu'r rhaglenni.

Pryder arall a godwyd gan swyddogion oedd yr anhawster o ran sefydlu rhaglen gyfalaf, gan y bydd yr wybodaeth i wneud hyn yn seiliedig ar wybodaeth y Cynllun. Soniodd swyddogion fod Llywodraeth Cymru'n ymwybodol o'r her hon.

Mynegodd y Pwyllgor yr angen i ddatblygu system cludiant cyhoeddus gynaliadwy, gan ystyried yr ardaloedd gwledig yn ogystal â'r rheini sy'n hynod boblog; a'r angen i feddwl yn arloesol o ran mynd i'r afael â'r materion trafnidiaeth y mae'r Rhanbarth yn eu hwynebu ar hyn o bryd.

Gofynnodd yr Aelodau am esboniad pellach ynghylch cyflawni a blaenoriaethu amcanion; cydnabuwyd y bydd yn anodd cyflawni'r holl amcanion oherwydd materion cyllido ac adnoddau.

Y bwriad oedd, wrth i swyddogion symud ymlaen drwy'r camau, y bydd rhaglen waith ddatblygedig iawn; sy'n sicrhau ei bod yn targedu pob un o'r ymyriadau. Soniwyd bod yr hierarchaeth trafnidiaeth yn glir bod trafnidiaeth gynaliadwy yn flaenoriaeth, megis cerdded, beicio a chludiant cyhoeddus; gyda'r defnydd o gar preifat ar waelod y rhestr. Ychwanegodd swyddogion y byddant yn adeiladu achos o ran y budd a ddaw yn sgil y gwahanol ymyriadau, a pha raglenni bydd yn gweithio; yn dilyn hyn, byddant yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

Penodi Dirprwy Brif Weithredwr pdf eicon PDF 396 KB

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn ceisio penodi Dirprwy Brif Weithredwr i Gyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru.

Eglurwyd y byddai'r penodiad hwn yn sicrhau cadernid ychwanegol yn absenoldeb Prif Weithredwr penodol, am unrhyw gyfnod penodol o amser; yna byddai'r Prif Weithredwyr o awdurdodau cyfansoddol Castell-nedd Port Talbot, Abertawe a Sir Gaerfyrddin yn gallu arfer y pwerau yn absenoldeb tymor hir Prif Weithredwr.

Cytunwyd yn flaenorol y bydd rôl y Prif Weithredwr yn cylchdroi; cadarnhaodd swyddogion y byddai'r rolau Dirprwy Brif Weithredwr yn cylchdroi i gyfateb i hynny wrth symud ymlaen. Yn ogystal, nodwyd na fydd taliad cydnabyddiaeth ar gyfer y rôl; felly, nid oedd unrhyw effeithiau ariannol.

PENDERFYNWYD:

 

Creu rôl Dirprwy Brif Weithredwyr i Gyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru; a phenodi Prif Weithredwyr Abertawe, Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot yn Ddirprwy Brif Weithredwyr, a rhoi awdurdod iddynt weithredu fel Prif Weithredwr Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru yn absenoldeb y Prif Weithredwr a nodwyd.

 

7.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag

Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i

diwygiwyd).

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys.