Cofnodion:
Darparwyd yr Achos dros Newid
i'r aelodau, a oedd yn rhan o'r broses o ddatblygu'r Cynllun Trafnidiaeth
Rhanbarthol (CTRh).
Esboniodd swyddogion mai'r
Achos dros Newid oedd y cam nesaf sydd ei angen wrth symud ymlaen â'r CTRh;
roedd hyn yn dilyn ymlaen o'r cam blaenorol o gynhyrchu'r Cynllun Gweithredu.
Nodwyd bod yr Achos dros Newid yn ddogfen a oedd yn nodi sefyllfa bresennol y
rhanbarth a pham mae angen newid; drwy gydol y ddogfen, roedd swyddogion wedi
rhoi ystyriaeth i nifer o ffactorau, megis yr economi a materion amgylcheddol.
O ran pam y mae angen newid,
nodwyd bod polisi Llywodraeth Cymru'n sbardun sylweddol; fodd bynnag, roedd
hefyd o'r pwys mwyaf bod y rhwydwaith trafnidiaeth yn esblygu. Soniwyd bod yr
ysgogwyr hyn ar gyfer newid wedi'u nodi yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Hysbyswyd y Pwyllgor fod y
ddogfen hefyd yn nodi sut y bydd swyddogion yn ymgysylltu â rhanddeiliaid ac yn
cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y CTRh terfynol; yn ogystal â manylion am y
broses asesiad effaith integredig, sy'n dilyn ymlaen o'r ymarferion ymgynghori
amrywiol.
O ran y camau nesaf,
cadarnhawyd y byddai angen cyflwyno'r Achos dros Newid i Lywodraeth Cymru erbyn
diwedd Chwefror 2024; yna bydd swyddogion yn parhau â'r broses o ddatblygu'r CTRh,
gyda'r amserlen bresennol i’w chwblhau erbyn gwanwyn 2025. Tynnwyd sylw at yr
amserlenni heriol sy'n gysylltiedig â datblygu'r CTRh.
Cafwyd trafodaeth ynglŷn
â'r cyllid a gadarnhawyd a fydd yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru; £125
mil ar gyfer y flwyddyn bresennol, a £100 mil ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Soniwyd y bydd angen cyllid ychwanegol i hwyluso nifer y ffrydiau gwaith a'r
gwaith ymgynghori.
Dywedodd swyddogion fod
Trafnidiaeth Cymru wedi nodi adnodd penodol i helpu gyda datblygiad y CTRh; yn
ogystal â hynny, maent wedi dechrau datblygu gwybodaeth fodelu ddefnyddiol, a
fydd yn cynorthwyo gyda'r sylfaen dystiolaeth a'r ymyriadau profi ar gyfer
datblygu'r rhaglenni.
Pryder arall a godwyd gan
swyddogion oedd yr anhawster o ran sefydlu rhaglen gyfalaf, gan y bydd yr
wybodaeth i wneud hyn yn seiliedig ar wybodaeth y Cynllun. Soniodd swyddogion
fod Llywodraeth Cymru'n ymwybodol o'r her hon.
Mynegodd y Pwyllgor yr angen i
ddatblygu system cludiant cyhoeddus gynaliadwy, gan ystyried yr ardaloedd gwledig
yn ogystal â'r rheini sy'n hynod boblog; a'r angen i feddwl yn arloesol o ran
mynd i'r afael â'r materion trafnidiaeth y mae'r Rhanbarth yn eu hwynebu ar hyn
o bryd.
Gofynnodd yr Aelodau am
esboniad pellach ynghylch cyflawni a blaenoriaethu amcanion; cydnabuwyd y bydd
yn anodd cyflawni'r holl amcanion oherwydd materion cyllido ac adnoddau.
Y bwriad oedd, wrth i
swyddogion symud ymlaen drwy'r camau, y bydd rhaglen waith ddatblygedig iawn;
sy'n sicrhau ei bod yn targedu pob un o'r ymyriadau. Soniwyd bod yr
hierarchaeth trafnidiaeth yn glir bod trafnidiaeth gynaliadwy yn flaenoriaeth,
megis cerdded, beicio a chludiant cyhoeddus; gyda'r defnydd o gar preifat ar
waelod y rhestr. Ychwanegodd swyddogion y byddant yn adeiladu achos o ran y
budd a ddaw yn sgil y gwahanol ymyriadau, a pha raglenni bydd yn gweithio; yn
dilyn hyn, byddant yn ystyried manylion y cynlluniau, y budd economaidd a
chymdeithasol, a sut y byddant yn cyflawni'r amcanion trafnidiaeth ac yn
bodloni'r asesiad effaith integredig.
Amlygodd swyddogion eu bod yn
gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar yr ymyriadau rheilffyrdd, a fyddai'n fwy
costus na rhai o'r ymyriadau eraill; fodd bynnag, roedd pob un yn cael ei fesur
yn erbyn ei effaith. Y gobaith oedd y byddai ffrydiau cyllido ar gael pan
ddaw'r amser i roi'r ymyriadau hyn ar
waith. Nodwyd y byddai'r CTRh yn offeryn ac yn darparu achos cryf ar gyfer cael
unrhyw gyllid gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol.
I gloi, eglurwyd bod llawer o
dystiolaeth i ddatblygu’r dewisiadau y mae angen eu gwneud. Mynegodd swyddogion
bwysigrwydd cynnig ymyriadau manwl, a fydd yn cael eu rhannu'n becynnau bach a
mawr; byddai'r ffordd y dosbarthwyd y pecynnau hyn ar draws y Rhanbarth yn
ddarn sylfaenol o feini prawf i'w gymhwyso. Ychwanegwyd y byddai angen i'r dadansoddiad
gynnwys yr ardaloedd gwledig, lle'r oedd heriau trafnidiaeth amlwg iawn, yn
ogystal â'r ardaloedd trefol.
Cafwyd trafodaeth mewn
perthynas â'r amgylchedd a gwyrddio'r system drafnidiaeth; yn benodol y natur
symudiad yn ardaloedd y Parc Cenedlaethol. Tynnodd cynrychiolwyr y Parciau
Cenedlaethol sylw at yr angen i newid y pwyslais i ddarparu adnoddau digonol i
bobl yn yr ardal, y mae angen iddynt gyrraedd gwasanaethau cyhoeddus etc; yn
enwedig y rheini sydd fwyaf agored i niwed.
Wrth ddadansoddi'r
dystiolaeth, dywedodd swyddogion y bydd yn seiliedig ar ddata’r hyn a oedd yn
digwydd yn fewnol yn y Parciau Cenedlaethol. Hysbyswyd yr Aelodau y byddai'n
bwysig deall yr hyn y mae angen ei wneud ar lefel leol, er mwyn i'r gymuned
gael y mynediad sydd ei angen arni; yn ogystal ag ystyried sut i ymdrin â rhai
o effeithiau andwyol twristiaeth, yn enwedig carbon yn teithio i'r ardaloedd.
Gwnaed awgrym i ddefnyddio
cynrychiolwyr y Parc Cenedlaethol ar gyfer y gwahanol grwpiau sy'n gysylltiedig
â symud ymlaen â'r CTRh gan y byddai eu cyfraniad yn cynnig safbwyntiau
gwahanol. Cyfeiriwyd hefyd at bwysigrwydd defnyddio'r busnesau rhyngwladol, a
oedd yn gysylltiedig â'r Rhanbarth, i lobïo ar raddfa fwy mewn perthynas â
thrafnidiaeth.
Cadarnhawyd bod swyddogion yn
cynnal astudiaethau hygyrchedd trafnidiaeth i gynorthwyo'r Parc Cenedlaethol yn
Sir Benfro, a oedd yn dechrau nodi rhai astudiaethau lleoliad penodol. Roedd
swyddogion yn cydnabod pwysigrwydd mynd i'r afael â'r materion cymuned leol a
rheoli effaith teithiau dydd ar y gymuned; wrth hefyd fynd i'r afael â'r
materion ehangach, strategol. Rhoddwyd sicrwydd i'r Aelodau y bydd y materion
hyn yn cael eu hadlewyrchu wrth lunio'r cynllun yn y dyfodol.
O ran lobïo, roedd swyddogion
wedi cysylltu'n ddiweddar ag aelodau Bwrdd Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau
Gleddau; ac ymhellach i hyn, roeddent yn deall y budd o ofyn i'r mathau hyn o
unigolion lobïo o ran trafnidiaeth. Nodwyd bod y rhestr rhanddeiliaid a oedd yn
cael ei chasglu ar hyn o bryd yn defnyddio nifer o bobl arwyddocaol iawn i fod
yn rhan o gynhyrchu'r cynllun, gobeithio. Ychwanegwyd, po fwyaf yr ymgysylltu,
cryfaf y llais o ran cael cyllid a mwy o effaith sylweddol i'r Rhanbarth.
Gofynnodd yr Aelodau i
swyddogion am sicrwydd y byddant yn herio'r fframwaith polisi yn briodol, pe
bai elfennau nad oeddent yn gweithio i'r Rhanbarth. Yn ogystal, gofynnodd yr
Aelodau am sicrwydd yr ymdrinnir â'r ddarpariaeth fesul achos.
Yn dilyn yr ymholiad uchod,
nodwyd y byddai Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i swyddogion sicrhau
y rhoddir ystyriaeth i'r ysgogwyr polisi lefel uchel, ond yn fwy penodol, yn
trosglwyddo'r heriau a'r sefyllfaoedd lle nad trafnidiaeth gynaliadwy yw'r ateb
o bosib; byddai gwneud hyn yn darparu ffordd o wneud cais am gyllid, a'r gallu
i wasgu am ymyriadau eraill.
PENDERFYNWYD:
Bod yr Achos dros Newid, fel y manylir arno fel
atodiad i'r adroddiad, yn cael ei gymeradwyo i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru i
fodloni gofynion mandad y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol.
Dogfennau ategol: