Agenda a Chofnodion

Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru - Dydd Mawrth, 11eg Hydref, 2022 10.30 am

Lleoliad: Via Microsoft Teams

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Croeso a Chyhoeddiadau'r Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 197 KB

·        25 Ionawr 2022

·        15 Mawrth 2022

·        26 Gorffennaf 2022

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfodydd blaenorol a gynhaliwyd ar 25 Ionawr, 15 Mawrth 2022 a 26 Gorffennaf 2022 fel cofnod cywir.

 

4.

Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 552 KB

Cofnodion:

Nodwyd bod dyddiad cyfarfod mis Rhagfyr wedi newid o 1 Rhagfyr 2022 i ddyddiad hwyrach sydd wedi'i aildrefnu, ac y byddai hyn yn cael ei adlewyrchu yn y Flaenraglen Waith.

Cynhaliwyd trafodaeth fer mewn perthynas ag ariannu gweithgaredd gwaith cyfredol ac arfaethedig Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru. Yn hyn o beth, cadarnhaodd y Cadeirydd ei fod wedi ysgrifennu at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol mewn perthynas â'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol (CTRh). Cafwyd ymateb gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, lle nodwyd y bydd Llywodraeth Cymru’n rhoi ystyriaeth i ddarparu cefnogaeth fel rhan o ddatblygu canllawiau, a'i bod yn fwriad sicrhau bod cefnogaeth dechnegol ar gael drwy Trafnidiaeth Cymru. Er bod arian wedi'i dderbyn ar gyfer sefydlu Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru, roedd yr aelodau'n tybio y bydd hi'n bwysig parhau i lobïo Llywodraeth Cymru i gael cyllid ychwanegol i gefnogi gweithgareddau gwaith.

 

Dywedwyd wrth yr aelodau y bydd y Cynllun Datblygu Strategol (CDS) yn cael ei gynnwys ar agenda cyfarfod mis Rhagfyr Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru; y bwriad oedd y bydd hyn yn amlinellu'r cwmpas a'r goblygiadau posib o ran adnoddau sy'n gysylltiedig â pharatoi'r CDS. Ychwanegwyd y gellid ystyried bod gwybodaeth o'r fath yn fuddiol a chaniatáu rhagor o ohebiaeth gyda Llywodraeth Cymru o ran gofyn am gymorth ariannol.

 

Cadarnhawyd y byddai angen rhagor o ddeialog gyda Thrafnidiaeth Cymru o ran eu cyfraniad tuag at ddatblygu'r CTRh. Dywedwyd y byddai'r gwaith hwn yn cael ei wneud dros yr wythnosau nesaf, a fydd yn rhoi eglurder pellach ar beth fydd yr effaith a'r goblygiadau i Gyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru. Soniwyd y gallai fod angen i Swyddogion gysylltu ymhellach â'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn dibynnu ar ganlyniad y trafodaethau hynny.

Gwnaed cais i gynnwys eitem agenda yng nghyfarfod mis Rhagfyr 2022 am rôl a chylch gwaith Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac Arfordir Penfro (APC) mewn perthynas â Chyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru. Cyfeiriwyd at ohebiaeth flaenorol a materion eglurhad ar y mater hwn, fodd bynnag cytunwyd mewn egwyddor bod y mater yn cael ei restru i'w drafod ym mis Rhagfyr 2022 os ystyrir ei fod yn briodol ac os oes angen.

Nodwyd y Flaenraglen Waith.

 

5.

Cyflwyniad ar y Buddsoddiad yn yr Ystad Iechyd - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda pdf eicon PDF 7 MB

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor gyflwyniad gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a oedd yn canolbwyntio ar fuddsoddiad arfaethedig yn eu hystad.

Esboniodd Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu Strategol a Chynllunio Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda fod Hywel Dda wedi gwasanaethu poblogaeth o tua 385,000 ar draws tair sir yng ngorllewin Cymru, gan gwmpasu ardal ddaearyddol fawr iawn; nodwyd nad oedd y boblogaeth yn annhebyg i Fyrddau Iechyd eraill o ran maint, fodd bynnag roedd ar wasgar ar draws ardal wledig helaeth. Oherwydd hyn, nodwyd bod heriau trafnidiaeth a theithio yr oedd angen mynd i'r afael â nhw. Cafodd aelodau wybod nad oedd gan dde-orllewin Cymru dref na dinas fawr ganolog i adeiladu'r gwasanaethau hyn o'u cwmpas; roedd hwn yn bwynt allweddol o ran etifeddiaeth cyfluniad gwasanaethau iechyd a etifeddwyd, at ffurfio'r Bwrdd Iechyd.

Yn dilyn yr uchod, dywedwyd bod gan y Bwrdd Iechyd gyfluniad o wasanaethau a oedd yn dyddio'n ôl i'r 1950au/1960au; roedd llawer o broblemau a heriau wedi dod i'r amlwg dros yr 20 mlynedd diwethaf o ganlyniad i hynny, gan gynnwys heriau ariannol a chynaliadwyedd a breuder gwasanaethau. Eglurwyd bod hyn yn golygu bod rhai gwasanaethau wedi gorfod dod i ben neu ganoli i un lleoliad, ac roedd rhai o'r ardaloedd gwasanaeth eraill oedd yn parhau ar fin dod i ben. Hysbyswyd y Pwyllgor mai dyma gefndir datblygu Strategaeth 'Canolbarth a Gorllewin Cymru Iachach', a'i fwriad oedd gosod cyfeiriad tymor hwy ar gyfer gwasanaethau iechyd cynaliadwy ar gyfer canolbarth a gorllewin Cymru.

Amlygwyd mai un o'r heriau sylweddol yn y dyfodol oedd yr angen am fuddsoddiad yn y gwahanol ystadau; yn benodol Ysbyty Cyffredinol Glangwili ac Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg, fodd bynnag roedd angen buddsoddiad ym mhob ysbyty. Nodwyd bod 40% o ystad Hywel Dda dros 50 oed; pwysleisiodd hyn yr angen am fuddsoddiad yn yr ystadau hyn a'u cyfleusterau.

Her sylweddol arall a nodwyd oedd ynghylch y gweithlu a chynaliadwyedd y model a oedd yn cael ei gyflwyno ar hyn o bryd. Cadarnhaodd y Bwrdd Iechyd eu bod wedi gweld poblogaeth sy'n heneiddio a chynnydd yn y galw’n raddol; nid oedd y model gofalu hŷn bellach yn addas ar gyfer gofynion a phwysau'r byd modern. Soniwyd bod y strategaeth yn nodi newid tuag at gadw pobl yn iach, ataliaeth a hunanofal, gyda chyfrannau llawer is o afiechyd yn cael eu rheoli mewn lleoliadau acíwt.

Er mwyn cefnogi'r strategaeth a'i goblygiadau o ran isadeiledd, hysbyswyd yr Aelodau fod y Bwrdd Iechyd wedi nodi bod angen gwneud rhai gwelliannau i'r cyfleusterau oedd ar waith ar hyn o bryd. Nodwyd bod gwaith wedi dechrau i ddatblygu rhwydwaith o gyfleusterau cymunedol dros y blynyddoedd diwethaf; datblygwyd cyfleusterau integredig newydd yng Ngheredigion, Aberaeron, ac roedd cynlluniau i ddatblygu cyfleusterau tebyg ar draws yr holl drefi ac ardaloedd poblogaeth allweddol yn ardal y Bwrdd Iechyd.

Yn ogystal â'r uchod, amlygwyd bod angen newid yn y ffordd mae Ysbyty Cyffredinol Glangwili ac Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn gweithredu, a'r angen i sefydlu ystod o wasanaethau ysbyty cymunedol er mwyn diwallu'r anghenion; bydd angen newidiadau cymharol fach  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

Penodi Ymgynghorwyr pdf eicon PDF 240 KB

Cofnodion:

Hysbyswyd yr Aelodau fod cyfle i gynnwys cynghorwyr y sector preifat er mwyn llywio gwaith Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru. Amlygwyd bod y cynigion a oedd wedi'u cynnwys yn yr adroddiad a ddosbarthwyd yn nodi'r bwriad o fabwysiadu model, yn debyg i Gyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe, lle sefydlwyd bwrdd cynghori fel rhan o Gyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru; byddai'r bwrdd hwn yn cynnwys ymgynghorwyr o'r sector preifat, a fyddai'n gallu rhoi cyngor ar y gwahanol ddyletswyddau y bydd y Pwyllgor yn eu cyflawni.

 

Dywedodd Swyddogion fod yr adroddiad a ddosbarthwyd yn nodi cylch gorchwyl y grŵp cynghori, a oedd wedi'u cynnwys yn Atodiad Un. Eglurwyd bod Swyddogion yn ceisio cymeradwyaeth i gyfethol Aelodau heb hawliau pleidleisio ar y bwrdd cynghori, a fyddai hefyd yr un peth i Gadeirydd y bwrdd; roeddent hefyd yn ceisio i Aelodau roi awdurdod dirprwyedig i'r Prif Weithredwr, mewn cydweithrediad ac ymgynghoriad â'r Arweinwyr, i gynnal ymarfer recriwtio i benodi ymgynghorwyr ychwanegol yn y dyfodol, er mwyn edrych ar raglenni gwaith penodol Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru.

 

PENDERFYNWYD:

(a) Bod Aelodau'n cytuno i benodi cynrychiolwyr o'r sector preifat i Fwrdd Cynghori Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru yn amodol ar gwblhau cytundeb cynghori

(b) Bod Aelodau'n cytuno ar gylch gorchwyl y Bwrdd Cynghori sy’n amgaeedig yn Atodiad 1 yr adroddiad

(c) Bod Aelodau'n rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Prif Weithredwr gynnal ymarfer recriwtio i benodi Aelodau ychwanegol o'r Bwrdd Cynghori mewn perthynas â swyddogaethau statudol y Cyd-bwyllgor Corfforedig

(ch) Bod Aelodau'n cymeradwyo rhoi statws cyfetholedig i gadeirydd y bwrdd cynghori ar sail heb hawliau pleidleisio yn amodol ar dderbyn cytundeb cyfethol wedi'i lofnodi

 

 

7.

Cylch Gorchwyl ar gyfer Is-bwyllgorau pdf eicon PDF 597 KB

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y cylch gorchwyl ar gyfer is-bwyllgorau Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod diwygiad i'r adroddiad a gyhoeddwyd y nodwyd ei fod fel a ganlyn:

·        Y Cynghorydd Darren Price fydd yr Arweinydd Gwleidyddol ar yr Is-bwyllgor Cynllunio Trafnidiaeth Rhanbarthol

·        Y Cynghorydd Steve Hunt fydd yr Arweinydd Gwleidyddol ar yr Is-bwyllgor Cynllunio Datblygu Strategol

Dywedwyd mewn cyfarfod blaenorol, fod Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru wedi sefydlu pedwar is-bwyllgor ar wahân i edrych ar feysydd penodol o'r rhaglen waith; sefydlwyd un is-bwyllgor gohebu ar gyfer pob un o'r pedwar maes gwaith.

 

Ychwanegodd Swyddogion fod yr adroddiad yn nodi'r cylch gorchwyl ar gyfer yr is-bwyllgorau a oedd yn ymdrin ag elfennau fel pwy fydd yn bresennol yn y cyfarfodydd, beth fydd rôl yr is-bwyllgor, a'r cylch gwaith y byddant yn gweithredu ynddo.

 

Soniwyd bod y rhestr o'r mynychwyr ar yr Is-bwyllgor Cynllunio Datblygu Strategol, a oedd wedi'i chynnwys yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, yn manylu y bydd gan Gyfarwyddwyr Rhanbarthol Cynghorau Cyfansoddol, sydd â chyfrifoldeb dros ardaloedd Cyd-bwyllgor Corfforedig, hawl i fod yn bresennol mewn unrhyw gyfarfod o’r is-Bwyllgor. Dywedwyd y dylai fod yn glir y byddai Cyfarwyddwyr Rhanbarthol Awdurdodau Parciau Cenedlaethol hefyd yn cael eu cynnwys yn hyn. Cadarnhaodd y Cadeirydd y gellir egluro hyn yn y dyfodol, a'r bwriad oedd y byddent yn gallu gwneud sylwadau yng nghyfarfodydd yr is-bwyllgor.

 

PENDERFYNWYD:

Bod yr Aelodau'n cymeradwyo'r cylch gorchwyl ar gyfer is-bwyllgorau'r Cyd-bwyllgor Corfforedig sydd wedi'i gynnwys yn Atodiad 1.

 

 

8.

Polisïau Llywodraethu Gwybodaeth a Diogelu Data pdf eicon PDF 136 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparwyd adroddiad a oedd yn manylu ar fabwysiadu polisïau diogelu data a diogelwch gwybodaeth i'r Pwyllgor.

 

Eglurwyd bod gan Gyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru gyfrifoldebau mewn perthynas â chydymffurfio â Deddf Diogelu Data 2018, a phrosesau eraill mewn perthynas â llywodraethu gwybodaeth.

 

Dywedodd Swyddogion fod y cynnig yn yr adroddiad yn nodi bwriad i fabwysiadu cyfres o ddogfennau a fyddai'n helpu i ddangos cydymffurfiaeth y Pwyllgor â Deddf Diogelu Data 2018. Yn ogystal â hyn, hysbyswyd yr Aelodau mai rhwymedigaeth ychwanegol oedd yr angen i ddirprwyo Swyddog Diogelu Data; y person hwn fyddai'n gyfrifol am sicrhau cydymffurfiaeth â'r ddeddfwriaeth diogelu data. Soniwyd mai'r bwriad oedd enwebu Craig Griffiths, Swyddog Monitro, fel y Swyddog Diogelu Data.

 

PENDERFYNWYD:

(a) Bod yr Aelodau'n dynodi'r Swyddog Monitro fel y Swyddog Diogelu Data Statudol yn unol â Deddf Diogelu Data 2018;

(b) Bod yr Aelodau'n mabwysiadu'r Datganiad Preifatrwydd sydd wedi'i gynnwys yn Atodiad 1

(c) Bod Aelodau'n mabwysiadu'r polisïau canlynol i’w defnyddio gan Gyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru sydd wedi'u cynnwys yn Atodiad 2:

·        Polisi Diogelu Data

·        Polisi Defnydd Derbyniol

·        Polisi Cofnodi Digwyddiadau

·        Polisi Diogelwch Gwybodaeth

·        Polisi Torri Diogelwch Gwybodaeth

·        Polisi Diogelwch TG

·        Polisi Diogelwch Dyfeisiau Symudol

·        Polisi Cyfryngau Symudol

 

 

9.

Safonau'r Gymraeg - Sefyllfa Bolisi Dros Dro pdf eicon PDF 202 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd yr Aelodau adroddiad ynghylch safbwynt polisi dros dro mewn perthynas â Safonau'r Gymraeg.

 

Nodwyd bod nifer o ddyletswyddau yn y sector cyhoeddus a gymhwyswyd i Gyd-bwyllgorau Corfforedig; roedd un o'r dyletswyddau hynny'n ymwneud â'r Gymraeg. Hysbyswyd y Pwyllgor fod Prif Weithredwr Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru eisoes wedi bod i gyfarfod gyda chynrychiolwyr Comisiynydd y Gymraeg; fodd bynnag, roedd yn ymddangos bod cwblhau'r broses ar gyfer cymhwyso Safonau penodol i'r Cyd-bwyllgor Corfforedig gryn amser i ffwrdd. Cadarnhawyd y byddai'r Prif Weithredwr yn adrodd yn ôl i'r Pwyllgor ar ganlyniad y broses hon; fodd bynnag, fel mesur dros dro, fe'i hystyriwyd yn briodol i fabwysiadu ymagwedd ragweithiol at y mater hwn yn absenoldeb gosod Safonau ar y Cyd-bwyllgor Corfforedig gan Gomisiynydd y Gymraeg.

Roedd y cynigion a nodwyd yn yr adroddiad yn argymell bod Aelodau'n mabwysiadu'r Safonau sydd wedi‘u cymhwyso i Gyngor Sir Gâr.

 

PENDERFYNWYD:

(a) Bod yr Aelodau'n nodi bod y Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn cael eu hannog i groesawu amcanion polisi Llywodraeth Cymru ynglŷn â'r Gymraeg yn rhagweithiol.

(b) Bod yr Aelodau'n cytuno i fabwysiadu Safonau'r Gymraeg sydd wedi’u cymhwyso gan Gomisiynydd y Gymraeg i Safonau Cyngor Sir Gâr fel safbwynt polisi dros dro.

 

 

10.

Ffurfio Cynllun Corfforaethol Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru pdf eicon PDF 186 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Briffiwyd yr Aelodau ar y cynnig i lunio Cynllun Corfforaethol; byddai'r broses hon yn cynnwys nifer o ddyletswyddau'r sector cyhoeddus a osodwyd ar y Cyd-bwyllgorau Corfforedig. 

 

Esboniodd Prif Weithredwr Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru fod nifer o ddyletswyddau sector cyhoeddus a oedd yn berthnasol i bob Cyd-bwyllgor Corfforedig. Nodwyd, yn hytrach na pharatoi cyfres o gynlluniau a pholisïau ar wahân, fod Swyddogion yn cynnig eu cynnwys mewn un ddogfen unigol a fyddai'n nodi amcanion y Cyd-bwyllgor Corfforedig a sicrhau bod dyletswyddau'r sector cyhoeddus yn cael eu croesawu'n briodol yn hyn o beth.

 

Ystyriwyd y byddai llunio'r Cynllun Corfforaethol yn arwain at ymagwedd integredig a chymesur at gyflawni dyletswyddau'r sector cyhoeddus, gan gynnwys nodi amcanion lles. Cadarnhaodd Swyddogion y gallent gyflwyno'r Cynllun Corfforaethol drafft i'r Pwyllgor yng nghyfarfod mis Rhagfyr 2022.

 

PENDERFYNWYD:

(a) Bod yr Aelodau'n cymeradwyo'r egwyddor o gymryd ymagwedd gymesur ac integredig at gyflawni dyletswyddau sector cyhoeddus y Cyd-bwyllgorau Corfforedig drwy Gynllun Corfforaethol.

(b) Bod Cynllun Corfforaethol drafft yn cael ei gyflwyno i Aelodau ym mis Rhagfyr gyda'r bwriad o sicrhau cymeradwyaeth Aelodau ar gyfer cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar hynny yn gynnar yn 2023;

(c) Yn ychwanegol at (b) uchod, bydd unrhyw ymatebion i'r ymgynghoriad a dderbynnir yn cael eu hadrodd yn ôl i Aelodau gyda'r bwriad o lywio fersiwn derfynol o'r cynllun cyn iddo gael ei fabwysiadu'n ffurfiol

 

 

11.

Cymeradwyo Pecyn Offer Asesu Effaith Cydraddoldeb Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru pdf eicon PDF 157 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriwyd at y cynnig i fabwysiadu Pecyn Cymorth Asesiad Effaith Integredig er mwyn cefnogi gwaith Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru.

 

Esboniodd Swyddogion ei bod yn bwysig ystyried yr ystyriaethau deddfwriaethol a pholisi perthnasol hynny ar y pwynt gwneud penderfyniadau; bydd cynnwys ystyriaethau o'r fath yn y broses gwneud penderfyniadau’n lleihau'r risg o her gyfreithiol. 

 

Yn hytrach na chael ymagwedd Asesiad Effaith Integredig bwrpasol ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru, cynigiwyd y byddai'r pecyn cymorth a ddefnyddir gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot yn cael ei fabwysiadu, gyda diwygiadau golygyddol argraffyddol a/neu nad ydynt yn sylweddol yn cael eu gwneud fel y bo'n briodol gan Swyddogion i adlewyrchu’i ddefnydd gan y Cyd-bwyllgor Corfforedig.

 

Tynnodd yr Aelodau sylw at bwysigrwydd bod yn ystyriol o'r ysgogwyr, yn enwedig yn y cynllun cydraddoldeb hiliol gan Lywodraeth Cymru, a fyddai'n ei gwneud yn ofynnol i'r Pwyllgor fynd y tu hwnt i gydymffurfio. Dywedodd Swyddogion y byddai'r Cynllun Corfforaethol yn nodi peth o'r gwaith mwy rhagweithiol hwnnw y byddai'r Pwyllgor yn bwriadu’i wneud; byddai hyn yn cael ei ddangos mewn elfennau fel yr amcanion lles a’r camau gweithredu a gaiff eu pennu. Nodwyd bod yr adroddiad hwn yn canolbwyntio mwy ar yr ystyriaethau cyn gwneud penderfyniadau unigol, er mwyn gwneud yn siŵr bod yr holl ddyletswyddau gwahanol wedi'u cynnwys, a fyddai wedyn yn helpu i ddiogelu Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru rhag y risg o her gyfreithiol.

 

PENDERFYNWYD:

(a) Bod yr Aelodau'n nodi'r angen i'r Cyd-bwyllgor Corfforedig groesawu dyletswyddau'r sector cyhoeddus a gymhwysir iddo.

(b) Bod yr Aelodau'n cytuno i fabwysiadu Pecyn Cymorth Asesiad Effaith Integredig 2 gam Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot i helpu'r Cyd-bwyllgor Corfforedig i gyflawni dyletswyddau'r sector cyhoeddus.

 

 

12.

Cyhoeddi Prosbectws Porthladdoedd Rhydd ar gyfer Cymru pdf eicon PDF 175 KB

Cofnodion:

Roedd yr adroddiad a ddosbarthwyd yn manylu ar wybodaeth yn ymwneud â chyhoeddi Prosbectws Porthladdoedd Rhydd ar gyfer Cymru.

 

Eglurwyd bod cyfle i wneud cais am statws Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru; roedd hwn yn brosbectws ar y cyd oedd wedi’i ddatblygu rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Hysbyswyd yr Aelodau fod consortiwm wedi’i sefydlu rhwng Cyngor Sir Penfro, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, a dau borthladd Aberdaugleddau a Phort Talbot; y bwriad yw y bydd y cais yn datblygu cyflwyniad Porthladdoedd Rhydd, yn seiliedig ar gyfleoedd y credid eu bod ar gael yn y ddwy ardal borthladd hynny yn ymwneud â'r cyfle ar gyfer tyrbin fferm wynt ar y môr yn y Môr Celtaidd, a'r agenda ynni adnewyddadwy ehangach.

 

Roedd y cynnig, a oedd wedi'i gynnwys yr adroddiad a ddosbarthwyd, yn ceisio cefnogaeth gan yr Aelodau mewn egwyddor, er mwyn i'r cyflwyniad hwn gael ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru; roedd Swyddogion yn benderfynol o fanteisio ar y cyfle i sicrhau manteision ehangach ar draws y rhanbarth cyfan. Soniwyd bod yr Arweinwyr wedi gofyn am sicrwydd pellach ar ôl i'r cais gael ei ddatblygu ymhellach, er mwyn sicrhau yr amlygir ac yr eir i’r afael ag unrhyw risgiau sy'n ymwneud â dadleoli unrhyw weithgarwch economaidd fel rhan o'r cyflwyniad datblygu cais; Cadarnhaodd Swyddogion y byddent yn rhoi'r sicrwydd hwn.

 

PENDERFYNWYD:

(a) Bod Aelodau'n nodi cynnwys yr adroddiad

(b) Nodi cefnogaeth y Cyd-bwyllgor Corfforedig i'r cais sy'n cael ei baratoi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Sir Benfro, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot mewn partneriaeth â phorthladdoedd Aberdaugleddau a Phort Talbot

 

 

13.

Achwilio Cymru - Dull o archwilio'r Cyd-bwyllgorau Corfforaethol a deall esblygiad eu trefniadau pdf eicon PDF 232 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am yr ymagwedd a gaiff ei mabwysiadu gan Archwilio Cymru ynghylch cynnal adolygiad tirwedd cynnar i ddeall trefniadau datblygol Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru, ac wrth archwilio'r Pwyllgor o safbwynt cyfrifo ar gyfer blynyddoedd ariannol 2021/22 a 2022/23.

 

Roedd y llythyr a gynhwyswyd yn Atodiad 1 o'r adroddiad a ddosbarthwyd yn nodi sefyllfa Archwilio Cymru o ran y llywodraethu, a monitro'r llywodraethu hwnnw; roedd y llythyr hefyd yn nodi'r gwaith y byddant yn ei wneud wrth adolygu'r llywodraethu eleni, a chael gwell dealltwriaeth o sut mae Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru yn datblygu.

 

Roedd cyfrifoldeb statudol arall Archwilio Cymru yn ymwneud â chyfrifon; roedd yr adroddiad a ddosbarthwyd yn egluro’u sefyllfa o ran cyfrifon 2021/22, yr adroddwyd amdanynt yn flaenorol; ni phroseswyd unrhyw drafodion ar gyfer 2021/22, felly cadarnhaodd Archwilio Cymru na fyddent yn cynnal archwiliad nac adolygiad o'r flwyddyn benodol honno.

 

Cyfeiriwyd at y cynigion a nodwyd ar gyfer y flwyddyn nesaf; roedd Archwilio Cymru wedi adolygu cyllideb y Pwyllgor gan nodi, oherwydd bod y gyllideb yn is na £2.5 miliwn, sef y trothwy ar gyfer sefydliadau bach, y byddant yn derbyn datganiad blynyddol fel datganiad o gyfrifon llawn. Nodwyd bod hyn yn gadarnhaol oherwydd byddai llai o waith gweinyddol ynghlwm wrth hyn.

 

Eglurwyd y bydd datblygiad Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru yn y dyfodol yn ddibynnol ar elfennau fel beth sy'n digwydd gyda rhai o'r ffrydiau gwaith a pha gyllid fyddai'n cael ei dderbyn yn y dyfodol. 

 

Soniodd Swyddogion fod y ffïoedd ar gyfer Archwilio Cymru hefyd wedi'u cynnwys yn yr adroddiad a ddosbarthwyd; codir ffi o £2,000 ar gyfer y gwaith a gaiff ei wneud eleni o ran y llywodraethu, a bydd hynny'n datblygu ymhellach y flwyddyn nesaf o ganlyniad i'r gwaith archwilio bach y bydd yn rhaid ei wneud ar y cyfrifon.

 

PENDERFYNWYD:

a) Bod yr Aelodau'n nodi cynnwys yr adroddiad hwn.

(b) Bod Swyddogion Gweithredol y Cyd-bwyllgor Corfforedig yn ymateb fel y bo'n briodol i'r gofynion fel yr amlinellir gan Archwilio Cymru

 

 

14.

Eitemau brys

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys.