Cofnodion:
Derbyniodd y Pwyllgor
gyflwyniad gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a oedd yn canolbwyntio ar
fuddsoddiad arfaethedig yn eu hystad.
Esboniodd Cyfarwyddwr
Gweithredol Datblygu Strategol a Chynllunio Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol
Hywel Dda fod Hywel Dda wedi gwasanaethu poblogaeth o tua 385,000 ar draws tair
sir yng ngorllewin Cymru, gan gwmpasu ardal ddaearyddol fawr iawn; nodwyd nad
oedd y boblogaeth yn annhebyg i Fyrddau Iechyd eraill o ran maint, fodd bynnag
roedd ar wasgar ar draws ardal wledig helaeth. Oherwydd hyn, nodwyd bod heriau
trafnidiaeth a theithio yr oedd angen mynd i'r afael â nhw. Cafodd aelodau
wybod nad oedd gan dde-orllewin Cymru dref na dinas fawr ganolog i adeiladu'r
gwasanaethau hyn o'u cwmpas; roedd hwn yn bwynt allweddol o ran etifeddiaeth
cyfluniad gwasanaethau iechyd a etifeddwyd, at ffurfio'r Bwrdd Iechyd.
Yn dilyn yr uchod, dywedwyd
bod gan y Bwrdd Iechyd gyfluniad o wasanaethau a oedd yn dyddio'n ôl i'r
1950au/1960au; roedd llawer o broblemau a heriau wedi dod i'r amlwg dros yr 20
mlynedd diwethaf o ganlyniad i hynny, gan gynnwys heriau ariannol a
chynaliadwyedd a breuder gwasanaethau. Eglurwyd bod hyn yn golygu bod rhai
gwasanaethau wedi gorfod dod i ben neu ganoli i un lleoliad, ac roedd rhai o'r
ardaloedd gwasanaeth eraill oedd yn parhau ar fin dod i ben. Hysbyswyd y
Pwyllgor mai dyma gefndir datblygu Strategaeth 'Canolbarth a Gorllewin Cymru
Iachach', a'i fwriad oedd gosod cyfeiriad tymor hwy ar gyfer gwasanaethau
iechyd cynaliadwy ar gyfer canolbarth a gorllewin Cymru.
Amlygwyd mai un o'r heriau
sylweddol yn y dyfodol oedd yr angen am fuddsoddiad yn y gwahanol ystadau; yn
benodol Ysbyty Cyffredinol Glangwili ac Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg, fodd
bynnag roedd angen buddsoddiad ym mhob ysbyty. Nodwyd bod 40% o ystad Hywel Dda
dros 50 oed; pwysleisiodd hyn yr angen am fuddsoddiad yn yr ystadau hyn a'u
cyfleusterau.
Her sylweddol arall a nodwyd
oedd ynghylch y gweithlu a chynaliadwyedd y model a oedd yn cael ei gyflwyno ar
hyn o bryd. Cadarnhaodd y Bwrdd Iechyd eu bod wedi gweld poblogaeth sy'n
heneiddio a chynnydd yn y galw’n raddol; nid oedd y model gofalu hŷn
bellach yn addas ar gyfer gofynion a phwysau'r byd modern. Soniwyd bod y
strategaeth yn nodi newid tuag at gadw pobl yn iach, ataliaeth a hunanofal,
gyda chyfrannau llawer is o afiechyd yn cael eu rheoli mewn lleoliadau acíwt.
Er mwyn cefnogi'r strategaeth
a'i goblygiadau o ran isadeiledd, hysbyswyd yr Aelodau fod y Bwrdd Iechyd wedi
nodi bod angen gwneud rhai gwelliannau i'r cyfleusterau oedd ar waith ar hyn o
bryd. Nodwyd bod gwaith wedi dechrau i ddatblygu rhwydwaith o gyfleusterau
cymunedol dros y blynyddoedd diwethaf; datblygwyd cyfleusterau integredig
newydd yng Ngheredigion, Aberaeron, ac roedd cynlluniau i ddatblygu
cyfleusterau tebyg ar draws yr holl drefi ac ardaloedd poblogaeth allweddol yn
ardal y Bwrdd Iechyd.
Yn ogystal â'r uchod, amlygwyd
bod angen newid yn y ffordd mae Ysbyty Cyffredinol Glangwili ac Ysbyty
Cyffredinol Llwynhelyg yn gweithredu, a'r angen i sefydlu ystod o wasanaethau
ysbyty cymunedol er mwyn diwallu'r anghenion; bydd angen newidiadau cymharol
fach hefyd i Ysbyty Cyffredinol Tywysog Philip ac Ysbyty Bronglais o ran
cyfluniad gwasanaethau, y byddent yn ofynnol er mwyn eu gwneud yn gynaliadwy ar
gyfer y tymor hir.
Roedd y cyflwyniad yn manylu
ar y cynlluniau datblygu isadeiledd cymunedol tymor byr, canolig a hir yr oedd
y Bwrdd Iechyd wrthi'n datblygu, y soniwyd am rai ohonynt eisoes ac eraill a
oedd ar y gweill; dros y pump i saith mlynedd nesaf, bydd Swyddogion o fewn y
sefydliad yn datblygu'r cyfleusterau hyn yn yr ardaloedd a amlygwyd, ac yn
gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod model gwasanaeth addas yn cael ei
ddatblygu ac ar waith ar gyfer y trefi a'r ardaloedd hynny. Roedd y cyflwyniad
hefyd yn manylu ar enghraifft ddrafft o ran sut y gallai'r rhwydwaith cymunedol
integredig edrych; bydd pob rhwydwaith cymunedol integredig yn wahanol,
oherwydd bydd angen eu cynllunio i gyd-fynd ag anghenion y boblogaeth leol.
Amlygodd y Bwrdd Iechyd y
cyfle presennol i dde-orllewin Cymru, wrth ddod â buddsoddiad i'r ardal;
tanfuddsoddwyd mewn iechyd yng ngorllewin Cymru dros y 30 i 40 mlynedd
diwethaf, a gallai'r cyfle hwn helpu i unioni'r broblem hon. Eglurwyd bod
buddsoddiad cyfalaf sylweddol yn gysylltiedig â'r cynlluniau a nodir yn y
cyflwyniad; pe bai modd sicrhau'r cyfalaf hwn gan Lywodraeth Cymru, bydd yn dod
â chyfleoedd i gymunedau lleol mewn sawl maes fel addysg, cadwyni cyflenwi,
datblygu canol trefi a hyfforddiant a chyflogaeth. Hysbyswyd yr Aelodau mai un
o'r amcanion drwy'r gwaith hwn oedd gadael etifeddiaeth barhaus i'r
poblogaethau lleol, a sicrhau y bydd y buddsoddiad yn cael ei roi'n ôl yn
nwylo'r busnesau a'r cymunedau lleol.
Hysbyswyd y Pwyllgor am
sefyllfa bresennol yr ysbyty gofal brys a gofal cynlluniedig newydd; codwyd y
pwyntiau allweddol canlynol:
·
Bydd gan yr ysbyty tua 500 o welyau - roedd hyn yn fwy o
lawer na'r cyfleusterau cyfredol sydd ar waith, fodd bynnag mae'n cymharu ag
ysbyty canolig ei faint o safonau'r DU.
·
Ochr yn ochr â'r ysbyty iechyd corfforol, bydd cyfleuster
iechyd meddwl, amrywiaeth o wasanaethau diagnostig a gwasanaethau cymorth
eraill hefyd.
·
Bydd y datblygiad yn defnyddio egwyddorion dyluniad
bioffilig sy'n edrych ar gyfleoedd i ddefnyddio natur, a rhyngweithio â natur,
i gefnogi adsefydlu a thriniaeth fel rhan o'r cynnig gofal iechyd - bydd hyn
hefyd yn cefnogi staff a'r boblogaeth leol gydag adeilad sy'n canolbwyntio
llawer mwy ar ddefnyddio dyluniad da, i ddod â'r amgylchedd a'r ysbyty ynghyd.
·
Roedd y llinellau amser yn heriol am yr hyn y bwriadwyd
ei gyflawni, oherwydd y nod ar hyn o bryd oedd rhoi'r newidiadau ar waith, gan
gynnwys datblygu'r ysbyty newydd, erbyn 2029 - mae'n bosib y bydd newidiadau
i'r llinell amser yn y dyfodol.
·
Roedd y Bwrdd Iechyd wedi cyflwyno achos busnes y rhaglen
i Lywodraeth Cymru ac roedd wedi mynd drwy ei phrosesau arferol - derbyniwyd
adborth, a oedd yn cynnwys y ffaith yr hoffai Llywodraeth Cymru weithio gyda'r
Bwrdd Iechyd ymhellach ar ddarn o waith clinigol ar y model, a chefnogi'r
gwaith o ddatblygu achos amlinellol strategol, sef cam nesaf y broses hon.
·
Roedd y broses o ddewis tir ar gyfer yr ysbyty newydd yn
mynd rhagddi - roedd y broses gyhoeddus o nodi tir wedi’i chwblhau, gydag 11
safle yn cael eu hystyried ac yna rhestr fer o bump (un yn Arberth, dau yn
Hendy-gwyn ar Daf a dau yn Sanclêr). Ychwanegwyd yr ymgymerwyd â phedair ffrwd
waith dros y chwe mis diwethaf i werthuso'r safleoedd, gan gynnwys
cynrychiolaeth gyhoeddus ar werthuso'r safle technegol, yr aethpwyd â manylion
yn eu cylch i gyfarfod o'r Bwrdd ym mis Awst, a arweiniodd at leihau'r
safleoedd i lawr i dri (dau yn Hendy-gwyn ar Daf ac 1 yn Sanclêr). Cytunwyd ar
y pwynt hwn i fynd i ymgynghoriad cyhoeddus ar y tri safle cyn gwneud unrhyw
benderfyniadau pellach.
Nodwyd pwysigrwydd
trafnidiaeth; ym mhob trafodaeth â'r cyhoedd, un o'r cwestiynau allweddol a
gododd drosodd a throsodd oedd o ran y cynllun ar gyfer trafnidiaeth i
ded-orllewin Cymru, a sut yr roedd yn mynd i effeithio ar ddarparu
gwasanaethau. Nodwyd bod y cyhoedd yn naturiol yn poeni am deithio'n bell i
dderbyn y gwasanaethau, yn enwedig o ystyried rhai problemau yn ymwneud â
chludiant cyhoeddus; bydd cyfle i'r Bwrdd Iechyd gydweithio gyda Chyd-bwyllgor
Corfforedig De-orllewin Cymru, a Thrafnidiaeth Cymru, i edrych ar beth allai'r
cynnig trafnidiaeth hwnnw fod a'r hyn y gellid ei wneud dros y 10 mlynedd nesaf
i gefnogi hynny.
Cynhaliwyd trafodaeth o ran y
camau nesaf, gan dynnu sylw at sefyllfa bresennol achos busnes y rhaglen, a bod
y Bwrdd Iechyd yn cynnal trafodaethau â Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd ar sut
i symud ymlaen â'r mater; yn ogystal â'r cynllun parhaus i ddatblygu'r
cyfleusterau cymunedol sy'n rhan o'r Strategaeth ac achos busnes y rhaglen.
Daeth Cyfarwyddwr Gweithredol
Datblygu Strategol a Chynllunio Gweithredol i'r casgliad bod y gwaith a wnaed
rhwng 2017 a 2018, sef adolygiad tymor hir, sylfaenol o ofal iechyd a'r modd y
cafodd gwasanaethau gofal iechyd eu darparu, wedi arwain at lunio Strategaeth
'Canolbarth a Gorllewin Cymru Iachach'. Ochr yn ochr â’r manteision iechyd hyn,
dywedwyd bod cyfleoedd eraill ar gyfer gorllewin Cymru mewn ystyr llawer
ehangach; manteision tymor hir ar gyfer
swyddi, yr economi, addysg a hyfforddiant, a thrafnidiaeth. Hysbyswyd yr Aelodau
fod y Bwrdd Iechyd yn awyddus i weithio gyda'r Cyd-bwyllgor Corfforedig wrth i
hyn ddatblygu ymhellach.
Cyfeiriwyd at yr amserlenni, a
phryd y byddai cynnydd pellach yn cael ei adrodd yn ôl i'r rheini yr
effeithiwyd arnynt gan y gwaith hwn; roedd yn bwysig cynnwys pob aelod yn y
drafodaeth honno. Nodwyd bod y strategaeth wedi’i datblygu'n wreiddiol yn 2018,
a chyflwynwyd achos busnes y rhaglen ym mis Chwefror eleni; dim ond ym mis Medi
y derbyniwyd ymateb Llywodraeth Cymru, sydd wedi achosi ychydig o newid yn y
llinell amser. Ychwanegwyd ei bod hefyd yn ofynnol i'r Bwrdd Iechyd ddatblygu
Datganiad Achos a allai hefyd gael effaith; bydd y llinell amser yn cael ei
derbyn o ganlyniad i'r ffactorau hyn.
Ymhellach at yr uchod, nodwyd
bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i'r adolygiad model clinigol ac y byddai'n
cefnogi'r Bwrdd Iechyd gyda chyllid yr achos amlinellol strategol; y rhain oedd
y camau rhagweithiol a chadarnhaol cyntaf a gafwyd gan Lywodraeth Cymru mewn
perthynas â'r cynllun. Er nad oedd y Bwrdd Iechyd yn union lle'r oedd wedi
bwriadu bod o ran cael achos busnes y rhaglen wedi'i gymeradwyo, dywedwyd eu
bod wedi'u hannog gan y ffaith bod Llywodraeth Cymru'n cydnabod yr achos dros
newid ac yn gweithio gyda nhw ar y camau nesaf. Ni ellid darparu'r union
amseriadau ar gyfer pob un o'r elfennau hyn eto, fodd bynnag nodwyd bod y Bwrdd
Iechyd yn bwriadu cynnal yr adolygiad clinigol yng ngwanwyn 2023; a chwblhau'r
Datganiad Achos, yn amodol ar faint o fanylion y byddai Llywodraeth Cymru ei
angen, mewn pryd ar gyfer haf 2023. Ychwanegwyd y byddai hyn wedyn yn cyd-fynd
â chasgliad yr ymgynghoriad, a allai alluogi'r Bwrdd Iechyd i wneud y gwaith
hwn gyda'i gilydd, gan gynnwys gwaith ychwanegol ar ddewis y tir ar gyfer yr
ysbyty newydd; a gobeithio, yr haf nesaf, y bydd yn gallu nodi'n glir y camau a'r
amserlenni nesaf.
O ran ymgysylltu â'r rheini yr
effeithiwyd arnynt ac sy'n ymwneud â'r gwaith sy'n cael ei wneud, eglurwyd bod
y Bwrdd Iechyd ar hyn o bryd yn ymgysylltu â chynifer o bobl â phosib gan
gynnwys cysylltu ag amryfal gynghorau tref; roedd yn bwysig ymgysylltu â'r
cyhoedd yn gynnar, yn enwedig gan y byddant yn rhan o'r broses ymgynghori.
Hysbyswyd yr Aelodau o fwriadau'r Bwrdd Iechyd a oedd yn cynnwys gwneud y
gwaith hwn yn drafodaeth fyw a pharhaus, gyda'r holl randdeiliaid ac unrhyw un
a oedd â diddordeb ynddo; roedd sgyrsiau'n cael eu cynnal â llawer o bobl, fel
diwydiannau adeiladu a oedd yn ddefnyddiol ac yn gadarnhaol iawn.
Cododd Aelodau eu pryderon
ynglŷn â staffio a chludiant ar gyfer datblygiad newydd yr ysbyty.
Mynegwyd bod y ffactorau hyn yn heriau i'r Bwrdd Iechyd eu goresgyn; Roedd
Swyddogion o'r Bwrdd Iechyd wedi treulio'r misoedd diwethaf yn cyfarfod â'r
holl Gynghorau Cymunedol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Penfro, yn mynd i Bwyllgorau
Craffu ac yn cyfarfod â'r rheini oedd yn gysylltiedig ag ymgyrch Save
Withybush er mwyn trafod y materion hyn.
Eglurwyd bod y Bwrdd Iechyd yn
cynnal gwahanol gamau gweithredu o ran materion staffio; roedd gan Hywel Dda y
rhaglen brentisiaethau fwyaf yn y DU o ran nyrsys, roedd wedi cyflogi 100 o
nyrsys tramor eleni, ac roeddent yn gwneud popeth posib i hysbysebu ar gyfer
swyddi.
Sicrhawyd y Pwyllgor nad oedd
y Bwrdd Iechyd yn bwriadu cwtogi ar y gwasanaethau yn y ddau ysbyty arall cyn
adeiladu'r ysbyty newydd; fodd bynnag, roedd rhai o'r gwasanaethau hyn yn
fregus iawn ar hyn o bryd, ac ymroddiad ac ewyllys da'r gweithwyr yn unig oedd
yn eu cynnal. Ychwanegwyd mai'r unig ffordd i oresgyn yr anawsterau presennol
oedd darparu’r datblygiad newydd ar gyfer yr ysbyty; ar wahân i'r manteision
iechyd, bydd yn gyfle gwych i lawer o feysydd eraill fel y diwydiant adeiladu
a'r economi sylfaenol.
O ran y ddau ysbyty sydd ar ôl
yn yr ardal, cadarnhawyd y byddant yn dal i gael eu cynnal; fodd bynnag,
byddant yn canolbwyntio ar adsefydlu, gwellhad, a galluogi cleifion i adael yr
ysbyty er mwyn iddynt gael gofal yn agos i'w cartrefi a'u perthnasau, a fydd yn
caniatáu i weithwyr ddarparu'r gofal mwy arbenigol. Hysbyswyd yr Aelodau fod
70% o'r bobl sy'n mynd i'r adran Damweiniau ac Achosion Brys yn dioddef o fân
anafiadau; bydd hyn yn aros yr un peth yn Ysbyty Llwynhelyg gydag uned 24/7
wedi'i harwain gan Feddygon Teulu, a nodwyd ei bod yn llwyddiannus iawn ac
wedi'i chroesawu gan y boblogaeth. Amlygwyd pwysigrwydd y canolfannau iechyd a
gofal integredig yn yr ardaloedd lleol ar draws gorllewin Cymru, yn enwedig gan
nad oes yn rhaid i bobl deithio ymhellach na'r angen.
Mynegodd y Pwyllgor yr angen
am wasanaethau i barhau yn yr ysbytai hyn tan i'r ysbyty newydd gael ei
adeiladu. Sicrhaodd y Bwrdd Iechyd Aelodau mai dyna'r bwriad, ac nad oedd
cynlluniau i gwtogi'r gwasanaethau yn yr ysbytai presennol ymlaen llaw; roedd
rhai elfennau allan o reolaeth y Bwrdd Iechyd, fodd bynnag roeddent yn gwneud
popeth posib i gynnal yr ysbytai a'r gwasanaethau roeddent yn eu darparu.
Myfyriodd yr Aelodau ar y
materion presennol sy'n ymwneud â meddygfeydd, a'r angen i sicrhau bod rhywun
ar ddyletswydd yn yr hybiau lleol er mwyn i'r cysyniad newydd weithio'n
effeithiol. Gofynnwyd hefyd a oedd y Bwrdd Iechyd wedi cwblhau unrhyw waith
arolygu i ganfod unrhyw broblemau eraill ar wahân i gludiant, ac a ellid cael
gafael ar staff er mwyn cynnal y gwasanaethau gofynnol. Cadarnhaodd y Bwrdd
Iechyd bod materion eraill i'w datrys (ar wahân i gludiant; roedd hyn yn
cynnwys tai, yn enwedig yn Sir Benfro. Fel y soniwyd eisoes, roedd Hywel Dda
wedi cyflogi 100 o nyrsys tramor eleni, fodd bynnag roeddent yn ei chael hi'n
anodd darparu tai ar eu cyfer yn Sir Benfro; roedd nifer ohonynt yn cael eu
cartrefu yn Sir Gaerfyrddin. Cyfeiriwyd at bwysigrwydd gweithio gyda sectorau
eraill, ac edrych ar adeiladu tai fforddiadwy neu ddarparu llety nyrsys yn
agosach at yr ysbyty; roedd y Bwrdd Iechyd mewn trafodaethau â Sir Gâr
ynglŷn â safleoedd penodol, a dyfodol Ysbyty Cyffredinol Glangwili,
oherwydd mae’n bosib y bydd rhywfaint o dir dros ben y gellid ei ddefnyddio at
ddibenion tai.
O ran meddygfeydd, tynnwyd
sylw at y ffaith bod y darlun mewn perthynas â’r sefyllfa bresennol yn un
cymysg iawn gan fod y Bwrdd Iechyd yn cwmpasu ardal ddaearyddol mor fawr.
Nodwyd bod nifer o bobl wedi ymweld â'r hybiau iechyd a gofal integredig, a
chydnabuwyd bod yr effaith ar forâl, yr amodau gwaith a'r gwaith
amlddisgyblaethol yn wirioneddol ddeniadol i staff. Roedd y Bwrdd Iechyd yn
parhau â'u gwaith o ran recriwtio meddygon teulu; fodd bynnag, amlygodd fod y
gweithlu'n her ar gyfer bob sefydliad yn y sector cyhoeddus, a phob math o
swyddi yn y gwasanaeth. Cydnabuwyd na fydd y strategaeth a'r cynllun newydd yn
datrys yr holl faterion presennol, fodd bynnag byddai'n ddefnyddiol wrth geisio
ymdrin â nhw. Hysbyswyd y Pwyllgor am bwysigrwydd yr angen i ddarparu
cyfleusterau gwell i ddenu pobl i'r gwasanaeth, a gwella'r ystod o wasanaethau
y gellid eu darparu'n lleol.
Cafwyd trafodaeth bellach mewn
perthynas â chysyniad dylunio bioffilig yr ysbyty newydd; roedd cynllun ar
waith yn Abertawe ar hyn o bryd, oedd yn darparu llawer o ddysgu ac ymchwil o
ran manteision iechyd y cysyniad bioffilig. Ychwanegwyd bod digonedd o
gyfleoedd a meysydd i'w harchwilio o fewn y cysyniad hwn.
Dogfennau ategol: