Lleoliad: Via Microsoft Teams
Rhif | Eitem |
---|---|
Croeso a Chyhoeddiadau'r Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 197 KB ·
25 Ionawr 2022 ·
15 Mawrth 2022 ·
26 Gorffennaf 2022 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfodydd blaenorol a
gynhaliwyd ar 25 Ionawr, 15 Mawrth 2022 a 26 Gorffennaf 2022 fel cofnod cywir. |
|
Cofnodion: Nodwyd bod dyddiad cyfarfod mis Rhagfyr wedi newid
o 1 Rhagfyr 2022 i ddyddiad hwyrach sydd wedi'i aildrefnu, ac y byddai hyn yn
cael ei adlewyrchu yn y Flaenraglen Waith. Dywedwyd wrth yr aelodau y bydd y Cynllun Datblygu
Strategol (CDS) yn cael ei gynnwys ar agenda cyfarfod mis Rhagfyr Cyd-bwyllgor
Corfforedig De-orllewin Cymru; y bwriad oedd y bydd hyn yn amlinellu'r cwmpas
a'r goblygiadau posib o ran adnoddau sy'n gysylltiedig â pharatoi'r CDS.
Ychwanegwyd y gellid ystyried bod gwybodaeth o'r fath yn fuddiol a chaniatáu
rhagor o ohebiaeth gyda Llywodraeth Cymru o ran gofyn am gymorth ariannol. Cadarnhawyd y byddai angen rhagor o ddeialog gyda
Thrafnidiaeth Cymru o ran eu cyfraniad tuag at ddatblygu'r CTRh. Dywedwyd y
byddai'r gwaith hwn yn cael ei wneud dros yr wythnosau nesaf, a fydd yn rhoi
eglurder pellach ar beth fydd yr effaith a'r goblygiadau i Gyd-bwyllgor
Corfforedig De-orllewin Cymru. Soniwyd y gallai fod angen i Swyddogion gysylltu
ymhellach â'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn dibynnu ar ganlyniad y
trafodaethau hynny. |
|
Cyflwyniad ar y Buddsoddiad yn yr Ystad Iechyd - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda PDF 7 MB Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor
gyflwyniad gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a oedd yn canolbwyntio ar
fuddsoddiad arfaethedig yn eu hystad. Esboniodd Cyfarwyddwr
Gweithredol Datblygu Strategol a Chynllunio Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol
Hywel Dda fod Hywel Dda wedi gwasanaethu poblogaeth o tua 385,000 ar draws tair
sir yng ngorllewin Cymru, gan gwmpasu ardal ddaearyddol fawr iawn; nodwyd nad
oedd y boblogaeth yn annhebyg i Fyrddau Iechyd eraill o ran maint, fodd bynnag
roedd ar wasgar ar draws ardal wledig helaeth. Oherwydd hyn, nodwyd bod heriau
trafnidiaeth a theithio yr oedd angen mynd i'r afael â nhw. Cafodd aelodau
wybod nad oedd gan dde-orllewin Cymru dref na dinas fawr ganolog i adeiladu'r
gwasanaethau hyn o'u cwmpas; roedd hwn yn bwynt allweddol o ran etifeddiaeth
cyfluniad gwasanaethau iechyd a etifeddwyd, at ffurfio'r Bwrdd Iechyd. Yn dilyn yr uchod, dywedwyd
bod gan y Bwrdd Iechyd gyfluniad o wasanaethau a oedd yn dyddio'n ôl i'r
1950au/1960au; roedd llawer o broblemau a heriau wedi dod i'r amlwg dros yr 20
mlynedd diwethaf o ganlyniad i hynny, gan gynnwys heriau ariannol a
chynaliadwyedd a breuder gwasanaethau. Eglurwyd bod hyn yn golygu bod rhai
gwasanaethau wedi gorfod dod i ben neu ganoli i un lleoliad, ac roedd rhai o'r
ardaloedd gwasanaeth eraill oedd yn parhau ar fin dod i ben. Hysbyswyd y
Pwyllgor mai dyma gefndir datblygu Strategaeth 'Canolbarth a Gorllewin Cymru
Iachach', a'i fwriad oedd gosod cyfeiriad tymor hwy ar gyfer gwasanaethau
iechyd cynaliadwy ar gyfer canolbarth a gorllewin Cymru. Amlygwyd mai un o'r heriau
sylweddol yn y dyfodol oedd yr angen am fuddsoddiad yn y gwahanol ystadau; yn
benodol Ysbyty Cyffredinol Glangwili ac Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg, fodd
bynnag roedd angen buddsoddiad ym mhob ysbyty. Nodwyd bod 40% o ystad Hywel Dda
dros 50 oed; pwysleisiodd hyn yr angen am fuddsoddiad yn yr ystadau hyn a'u
cyfleusterau. Her sylweddol arall a nodwyd
oedd ynghylch y gweithlu a chynaliadwyedd y model a oedd yn cael ei gyflwyno ar
hyn o bryd. Cadarnhaodd y Bwrdd Iechyd eu bod wedi gweld poblogaeth sy'n
heneiddio a chynnydd yn y galw’n raddol; nid oedd y model gofalu hŷn
bellach yn addas ar gyfer gofynion a phwysau'r byd modern. Soniwyd bod y
strategaeth yn nodi newid tuag at gadw pobl yn iach, ataliaeth a hunanofal,
gyda chyfrannau llawer is o afiechyd yn cael eu rheoli mewn lleoliadau acíwt. Er mwyn cefnogi'r strategaeth
a'i goblygiadau o ran isadeiledd, hysbyswyd yr Aelodau fod y Bwrdd Iechyd wedi
nodi bod angen gwneud rhai gwelliannau i'r cyfleusterau oedd ar waith ar hyn o
bryd. Nodwyd bod gwaith wedi dechrau i ddatblygu rhwydwaith o gyfleusterau
cymunedol dros y blynyddoedd diwethaf; datblygwyd cyfleusterau integredig
newydd yng Ngheredigion, Aberaeron, ac roedd cynlluniau i ddatblygu
cyfleusterau tebyg ar draws yr holl drefi ac ardaloedd poblogaeth allweddol yn
ardal y Bwrdd Iechyd. Yn ogystal â'r uchod, amlygwyd bod angen newid yn y ffordd mae Ysbyty Cyffredinol Glangwili ac Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn gweithredu, a'r angen i sefydlu ystod o wasanaethau ysbyty cymunedol er mwyn diwallu'r anghenion; bydd angen newidiadau cymharol fach ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |
|
Penodi Ymgynghorwyr PDF 240 KB Cofnodion: Hysbyswyd yr Aelodau fod cyfle i gynnwys cynghorwyr y sector preifat er
mwyn llywio gwaith Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru. Amlygwyd bod y
cynigion a oedd wedi'u cynnwys yn yr adroddiad a ddosbarthwyd yn nodi'r bwriad
o fabwysiadu model, yn debyg i Gyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe, lle
sefydlwyd bwrdd cynghori fel rhan o Gyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru;
byddai'r bwrdd hwn yn cynnwys ymgynghorwyr o'r sector preifat, a fyddai'n gallu
rhoi cyngor ar y gwahanol ddyletswyddau y bydd y Pwyllgor yn eu cyflawni. Dywedodd Swyddogion fod yr adroddiad a ddosbarthwyd yn nodi cylch gorchwyl
y grŵp cynghori, a oedd wedi'u cynnwys yn Atodiad Un. Eglurwyd bod
Swyddogion yn ceisio cymeradwyaeth i gyfethol Aelodau heb hawliau pleidleisio
ar y bwrdd cynghori, a fyddai hefyd yr un peth i Gadeirydd y bwrdd; roeddent
hefyd yn ceisio i Aelodau roi awdurdod dirprwyedig i'r Prif Weithredwr, mewn
cydweithrediad ac ymgynghoriad â'r Arweinwyr, i gynnal ymarfer recriwtio i benodi
ymgynghorwyr ychwanegol yn y dyfodol, er mwyn edrych ar raglenni gwaith penodol
Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru. PENDERFYNWYD: (a) Bod Aelodau'n cytuno i benodi cynrychiolwyr o'r sector preifat i Fwrdd
Cynghori Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru yn amodol ar gwblhau
cytundeb cynghori (b) Bod Aelodau'n cytuno ar gylch gorchwyl y Bwrdd Cynghori sy’n amgaeedig
yn Atodiad 1 yr adroddiad (c) Bod Aelodau'n rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Prif Weithredwr gynnal
ymarfer recriwtio i benodi Aelodau ychwanegol o'r Bwrdd Cynghori mewn perthynas
â swyddogaethau statudol y Cyd-bwyllgor Corfforedig (ch) Bod Aelodau'n cymeradwyo rhoi statws cyfetholedig i gadeirydd y bwrdd
cynghori ar sail heb hawliau pleidleisio yn amodol ar dderbyn cytundeb cyfethol
wedi'i lofnodi |
|
Cylch Gorchwyl ar gyfer Is-bwyllgorau PDF 597 KB Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor y cylch gorchwyl ar gyfer
is-bwyllgorau Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru. Dywedodd y Cadeirydd fod diwygiad i'r adroddiad a
gyhoeddwyd y nodwyd ei fod fel a ganlyn: ·
Y
Cynghorydd Darren Price fydd yr Arweinydd Gwleidyddol ar yr Is-bwyllgor
Cynllunio Trafnidiaeth Rhanbarthol ·
Y
Cynghorydd Steve Hunt fydd yr Arweinydd Gwleidyddol ar yr Is-bwyllgor Cynllunio
Datblygu Strategol Dywedwyd mewn cyfarfod blaenorol, fod Cyd-bwyllgor
Corfforedig De-orllewin Cymru wedi sefydlu pedwar is-bwyllgor ar wahân i edrych
ar feysydd penodol o'r rhaglen waith; sefydlwyd un is-bwyllgor gohebu ar gyfer
pob un o'r pedwar maes gwaith. Ychwanegodd Swyddogion fod yr adroddiad yn nodi'r
cylch gorchwyl ar gyfer yr is-bwyllgorau a oedd yn ymdrin ag elfennau fel pwy
fydd yn bresennol yn y cyfarfodydd, beth fydd rôl yr is-bwyllgor, a'r cylch
gwaith y byddant yn gweithredu ynddo. Soniwyd bod y rhestr o'r mynychwyr ar yr
Is-bwyllgor Cynllunio Datblygu Strategol, a oedd wedi'i chynnwys yn yr
adroddiad a ddosbarthwyd, yn manylu y bydd gan Gyfarwyddwyr Rhanbarthol
Cynghorau Cyfansoddol, sydd â chyfrifoldeb dros ardaloedd Cyd-bwyllgor
Corfforedig, hawl i fod yn bresennol mewn unrhyw gyfarfod o’r is-Bwyllgor.
Dywedwyd y dylai fod yn glir y byddai Cyfarwyddwyr Rhanbarthol Awdurdodau
Parciau Cenedlaethol hefyd yn cael eu cynnwys yn hyn. Cadarnhaodd y Cadeirydd y
gellir egluro hyn yn y dyfodol, a'r bwriad oedd y byddent yn gallu gwneud
sylwadau yng nghyfarfodydd yr is-bwyllgor. PENDERFYNWYD: Bod yr Aelodau'n cymeradwyo'r cylch gorchwyl ar
gyfer is-bwyllgorau'r Cyd-bwyllgor Corfforedig sydd wedi'i gynnwys yn Atodiad
1. |
|
Polisïau Llywodraethu Gwybodaeth a Diogelu Data PDF 136 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Darparwyd adroddiad a oedd yn manylu ar fabwysiadu
polisïau diogelu data a diogelwch gwybodaeth i'r Pwyllgor. Eglurwyd bod gan Gyd-bwyllgor Corfforedig
De-orllewin Cymru gyfrifoldebau mewn perthynas â chydymffurfio â Deddf Diogelu
Data 2018, a phrosesau eraill mewn perthynas â llywodraethu gwybodaeth. Dywedodd Swyddogion fod y cynnig yn yr adroddiad yn
nodi bwriad i fabwysiadu cyfres o ddogfennau a fyddai'n helpu i ddangos
cydymffurfiaeth y Pwyllgor â Deddf Diogelu Data 2018. Yn ogystal â hyn,
hysbyswyd yr Aelodau mai rhwymedigaeth ychwanegol oedd yr angen i ddirprwyo
Swyddog Diogelu Data; y person hwn fyddai'n gyfrifol am sicrhau cydymffurfiaeth
â'r ddeddfwriaeth diogelu data. Soniwyd mai'r bwriad oedd enwebu Craig
Griffiths, Swyddog Monitro, fel y Swyddog Diogelu Data. PENDERFYNWYD: (a) Bod yr Aelodau'n dynodi'r Swyddog Monitro fel y
Swyddog Diogelu Data Statudol yn unol â Deddf Diogelu Data 2018; (b) Bod yr Aelodau'n mabwysiadu'r Datganiad
Preifatrwydd sydd wedi'i gynnwys yn Atodiad 1 (c) Bod Aelodau'n mabwysiadu'r polisïau canlynol
i’w defnyddio gan Gyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru sydd wedi'u
cynnwys yn Atodiad 2: ·
Polisi
Diogelu Data ·
Polisi
Defnydd Derbyniol ·
Polisi
Cofnodi Digwyddiadau ·
Polisi
Diogelwch Gwybodaeth ·
Polisi
Torri Diogelwch Gwybodaeth ·
Polisi
Diogelwch TG ·
Polisi
Diogelwch Dyfeisiau Symudol ·
Polisi
Cyfryngau Symudol |
|
Safonau'r Gymraeg - Sefyllfa Bolisi Dros Dro PDF 202 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd yr Aelodau adroddiad ynghylch safbwynt polisi dros dro mewn
perthynas â Safonau'r Gymraeg. Nodwyd bod nifer o ddyletswyddau yn y sector cyhoeddus a gymhwyswyd i
Gyd-bwyllgorau Corfforedig; roedd un o'r dyletswyddau hynny'n ymwneud â'r
Gymraeg. Hysbyswyd y Pwyllgor fod Prif Weithredwr Cyd-bwyllgor Corfforedig
De-orllewin Cymru eisoes wedi bod i gyfarfod gyda chynrychiolwyr Comisiynydd y
Gymraeg; fodd bynnag, roedd yn ymddangos bod cwblhau'r broses ar gyfer cymhwyso
Safonau penodol i'r Cyd-bwyllgor Corfforedig gryn amser i ffwrdd. Cadarnhawyd y
byddai'r Prif Weithredwr yn adrodd yn ôl i'r Pwyllgor ar ganlyniad y broses
hon; fodd bynnag, fel mesur dros dro, fe'i hystyriwyd yn briodol i fabwysiadu
ymagwedd ragweithiol at y mater hwn yn absenoldeb gosod Safonau ar y
Cyd-bwyllgor Corfforedig gan Gomisiynydd y Gymraeg. PENDERFYNWYD: (a) Bod yr Aelodau'n nodi bod y Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn cael eu
hannog i groesawu amcanion polisi Llywodraeth Cymru ynglŷn â'r Gymraeg yn
rhagweithiol. (b) Bod yr Aelodau'n cytuno i fabwysiadu Safonau'r Gymraeg sydd wedi’u
cymhwyso gan Gomisiynydd y Gymraeg i Safonau Cyngor Sir Gâr fel safbwynt polisi
dros dro. |
|
Ffurfio Cynllun Corfforaethol Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru PDF 186 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Briffiwyd yr Aelodau ar y cynnig i lunio Cynllun Corfforaethol; byddai'r
broses hon yn cynnwys nifer o ddyletswyddau'r sector cyhoeddus a osodwyd ar y
Cyd-bwyllgorau Corfforedig. Esboniodd Prif Weithredwr Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru fod
nifer o ddyletswyddau sector cyhoeddus a oedd yn berthnasol i bob Cyd-bwyllgor
Corfforedig. Nodwyd, yn hytrach na pharatoi cyfres o gynlluniau a pholisïau ar
wahân, fod Swyddogion yn cynnig eu cynnwys mewn un ddogfen unigol a fyddai'n
nodi amcanion y Cyd-bwyllgor Corfforedig a sicrhau bod dyletswyddau'r sector
cyhoeddus yn cael eu croesawu'n briodol yn hyn o beth. Ystyriwyd y byddai llunio'r Cynllun Corfforaethol yn arwain at ymagwedd
integredig a chymesur at gyflawni dyletswyddau'r sector cyhoeddus, gan gynnwys
nodi amcanion lles. Cadarnhaodd Swyddogion y gallent gyflwyno'r Cynllun
Corfforaethol drafft i'r Pwyllgor yng nghyfarfod mis Rhagfyr 2022. PENDERFYNWYD: (a) Bod yr Aelodau'n cymeradwyo'r egwyddor o gymryd ymagwedd gymesur ac
integredig at gyflawni dyletswyddau sector cyhoeddus y Cyd-bwyllgorau
Corfforedig drwy Gynllun Corfforaethol. (b) Bod Cynllun Corfforaethol drafft yn cael ei gyflwyno i Aelodau ym mis
Rhagfyr gyda'r bwriad o sicrhau cymeradwyaeth Aelodau ar gyfer cynnal
ymgynghoriad cyhoeddus ar hynny yn gynnar yn 2023; (c) Yn ychwanegol at (b) uchod, bydd unrhyw ymatebion i'r ymgynghoriad a
dderbynnir yn cael eu hadrodd yn ôl i Aelodau gyda'r bwriad o lywio fersiwn
derfynol o'r cynllun cyn iddo gael ei fabwysiadu'n ffurfiol |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyfeiriwyd at y cynnig i fabwysiadu Pecyn Cymorth Asesiad Effaith
Integredig er mwyn cefnogi gwaith Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru. Esboniodd Swyddogion ei bod yn bwysig ystyried yr ystyriaethau
deddfwriaethol a pholisi perthnasol hynny ar y pwynt gwneud penderfyniadau;
bydd cynnwys ystyriaethau o'r fath yn y broses gwneud penderfyniadau’n
lleihau'r risg o her gyfreithiol. Yn hytrach na chael ymagwedd Asesiad Effaith Integredig bwrpasol ar gyfer
Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru, cynigiwyd y byddai'r pecyn cymorth
a ddefnyddir gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot yn cael ei fabwysiadu, gyda
diwygiadau golygyddol argraffyddol a/neu nad ydynt yn sylweddol yn cael eu
gwneud fel y bo'n briodol gan Swyddogion i adlewyrchu’i ddefnydd gan y
Cyd-bwyllgor Corfforedig. Tynnodd yr Aelodau sylw at bwysigrwydd bod yn ystyriol o'r ysgogwyr, yn
enwedig yn y cynllun cydraddoldeb hiliol gan Lywodraeth Cymru, a fyddai'n ei
gwneud yn ofynnol i'r Pwyllgor fynd y tu hwnt i gydymffurfio. Dywedodd
Swyddogion y byddai'r Cynllun Corfforaethol yn nodi peth o'r gwaith mwy
rhagweithiol hwnnw y byddai'r Pwyllgor yn bwriadu’i wneud; byddai hyn yn cael
ei ddangos mewn elfennau fel yr amcanion lles a’r camau gweithredu a gaiff eu
pennu. Nodwyd bod yr adroddiad hwn yn canolbwyntio mwy ar yr ystyriaethau cyn
gwneud penderfyniadau unigol, er mwyn gwneud yn siŵr bod yr holl
ddyletswyddau gwahanol wedi'u cynnwys, a fyddai wedyn yn helpu i ddiogelu
Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru rhag y risg o her gyfreithiol. PENDERFYNWYD: (a) Bod yr Aelodau'n nodi'r angen i'r Cyd-bwyllgor Corfforedig groesawu
dyletswyddau'r sector cyhoeddus a gymhwysir iddo. (b) Bod yr Aelodau'n cytuno i fabwysiadu Pecyn Cymorth Asesiad Effaith
Integredig 2 gam Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot i helpu'r
Cyd-bwyllgor Corfforedig i gyflawni dyletswyddau'r sector cyhoeddus. |
|
Cyhoeddi Prosbectws Porthladdoedd Rhydd ar gyfer Cymru PDF 175 KB Cofnodion: Roedd yr adroddiad a ddosbarthwyd yn manylu ar wybodaeth yn ymwneud â
chyhoeddi Prosbectws Porthladdoedd Rhydd ar gyfer Cymru. Eglurwyd bod cyfle i wneud cais am statws Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru;
roedd hwn yn brosbectws ar y cyd oedd wedi’i ddatblygu rhwng Llywodraeth Cymru
a Llywodraeth y DU. Hysbyswyd yr Aelodau fod consortiwm wedi’i sefydlu rhwng
Cyngor Sir Penfro, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, a dau borthladd
Aberdaugleddau a Phort Talbot; y bwriad yw y bydd y cais yn datblygu cyflwyniad
Porthladdoedd Rhydd, yn seiliedig ar gyfleoedd y credid eu bod ar gael yn y
ddwy ardal borthladd hynny yn ymwneud â'r cyfle ar gyfer tyrbin fferm wynt ar y
môr yn y Môr Celtaidd, a'r agenda ynni adnewyddadwy ehangach. Roedd y cynnig, a oedd wedi'i gynnwys yr adroddiad a ddosbarthwyd, yn ceisio
cefnogaeth gan yr Aelodau mewn egwyddor, er mwyn i'r cyflwyniad hwn gael ei
dderbyn gan Lywodraeth Cymru; roedd Swyddogion yn benderfynol o fanteisio ar y
cyfle i sicrhau manteision ehangach ar draws y rhanbarth cyfan. Soniwyd bod yr
Arweinwyr wedi gofyn am sicrwydd pellach ar ôl i'r cais gael ei ddatblygu
ymhellach, er mwyn sicrhau yr amlygir ac yr eir i’r afael ag unrhyw risgiau
sy'n ymwneud â dadleoli unrhyw weithgarwch economaidd fel rhan o'r cyflwyniad
datblygu cais; Cadarnhaodd Swyddogion y byddent yn rhoi'r sicrwydd hwn. PENDERFYNWYD: (a) Bod Aelodau'n nodi cynnwys yr adroddiad (b) Nodi cefnogaeth y Cyd-bwyllgor Corfforedig i'r cais sy'n cael ei
baratoi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Sir Benfro, Cyngor Bwrdeistref Sirol
Castell-nedd Port Talbot mewn partneriaeth â phorthladdoedd Aberdaugleddau a
Phort Talbot |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am yr ymagwedd a gaiff ei
mabwysiadu gan Archwilio Cymru ynghylch cynnal adolygiad tirwedd cynnar i
ddeall trefniadau datblygol Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru, ac wrth
archwilio'r Pwyllgor o safbwynt cyfrifo ar gyfer blynyddoedd ariannol 2021/22 a
2022/23. Roedd y llythyr a gynhwyswyd yn Atodiad 1 o'r adroddiad a ddosbarthwyd yn
nodi sefyllfa Archwilio Cymru o ran y llywodraethu, a monitro'r llywodraethu
hwnnw; roedd y llythyr hefyd yn nodi'r gwaith y byddant yn ei wneud wrth
adolygu'r llywodraethu eleni, a chael gwell dealltwriaeth o sut mae
Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru yn datblygu. Roedd cyfrifoldeb statudol arall Archwilio Cymru yn ymwneud â chyfrifon;
roedd yr adroddiad a ddosbarthwyd yn egluro’u sefyllfa o ran cyfrifon 2021/22,
yr adroddwyd amdanynt yn flaenorol; ni phroseswyd unrhyw drafodion ar gyfer
2021/22, felly cadarnhaodd Archwilio Cymru na fyddent yn cynnal archwiliad nac
adolygiad o'r flwyddyn benodol honno. Cyfeiriwyd at y cynigion a nodwyd ar gyfer y flwyddyn nesaf; roedd
Archwilio Cymru wedi adolygu cyllideb y Pwyllgor gan nodi, oherwydd bod y
gyllideb yn is na £2.5 miliwn, sef y trothwy ar gyfer sefydliadau bach, y
byddant yn derbyn datganiad blynyddol fel datganiad o gyfrifon llawn. Nodwyd
bod hyn yn gadarnhaol oherwydd byddai llai o waith gweinyddol ynghlwm wrth hyn. Eglurwyd y bydd datblygiad Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru yn y
dyfodol yn ddibynnol ar elfennau fel beth sy'n digwydd gyda rhai o'r ffrydiau
gwaith a pha gyllid fyddai'n cael ei dderbyn yn y dyfodol. Soniodd Swyddogion fod y ffïoedd ar gyfer Archwilio Cymru hefyd wedi'u
cynnwys yn yr adroddiad a ddosbarthwyd; codir ffi o £2,000 ar gyfer y gwaith a
gaiff ei wneud eleni o ran y llywodraethu, a bydd hynny'n datblygu ymhellach y
flwyddyn nesaf o ganlyniad i'r gwaith archwilio bach y bydd yn rhaid ei wneud
ar y cyfrifon. PENDERFYNWYD: a) Bod yr Aelodau'n nodi cynnwys yr adroddiad hwn. (b) Bod Swyddogion Gweithredol y Cyd-bwyllgor Corfforedig yn ymateb fel y
bo'n briodol i'r gofynion fel yr amlinellir gan Archwilio Cymru |
|
Eitemau brys Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys. |