Agenda a Chofnodion

Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru - Dydd Mawrth, 15fed Mawrth, 2022 2.00 pm

Lleoliad: Via Microsoft Teams

Cyswllt: Stacy Curran 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol - Ionawr 25 2022 pdf eicon PDF 184 KB

Cofnodion:

Nodwyd bod sillafiad Tegwyn yn anghywir ar dudalen 3 eitem 1 ac y dylid ei newid i Tegryn.

 

PENDERFYNWYD: gyda'r newid uchod wedi'i gynnwys, cymeradwyir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Ionawr.

 

2.

Materion Llywodraethol a Gweinyddol - y Diweddaraf pdf eicon PDF 707 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Karen Jones (Prif Weithredwr Arweiniol y CBC) rai materion llywodraethu a gweinyddol pellach sy'n ymwneud â'r CBC fel y manylir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Cyfeiriodd at y canllawiau diweddar ar amrywiaeth o ddyletswyddau statudol y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cyhoeddi mewn perthynas â'r CBC. Clywodd y pwyllgor am adran 6 yn benodol sy'n ymwneud â materion polisi a chynllunio y mae'n rhaid i’r CBC eu hystyried, gan gynnwys y ddyletswydd cydraddoldeb, y ddyletswydd bioamrywiaeth, y ddyletswydd i gydymffurfio â dyletswyddau Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ymysg dyletswyddau eraill. Dywedwyd y bydd Blaenraglen Waith yn cael ei datblygu ar gyfer y pwyllgor i sicrhau bod yr holl bynciau gofynnol yn cael eu cynnwys yn eu gwaith ar gyfer y flwyddyn.

 

Eglurodd Karen Jones fod trefniadau ar waith er mwyn i'r CBC gael ei 'hunaniaeth gorfforaethol' ei hun a Chyngor Abertawe sydd wedi cael y dasg o greu rhai dyluniadau cychwynnol.

Gofynnwyd i'r aelodau hefyd ystyried protocol cychwynnol ar gyfer y cyfryngau, a oedd yn manylu ar sut y byddai gwaith y CBC yn cael ei gyfathrebu i ddechrau. Gofynnwyd i'r aelodau nodi y byddai'r protocol yn datblygu i gynnwys y parciau cenedlaethol wrth iddynt ddechrau ymwneud yn fwy â hyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.   Bydd aelodau Cyd-bwyllgor Corfforedig (CBC) De-Orllewin Cymru yn nodi'r 'dyletswyddau statudol eraill' a nodir yn y 'Cyd-bwyllgorau Corfforedig: Canllawiau Statudol' a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.

 

2.   Bydd aelodau'r CBC yn nodi ac yn cymeradwyo cynnig y Prif Weithredwr i gynnwys y gwaith sydd ei angen i fodloni'r gofynion statudol eraill hyn ym Mlaenraglen Waith y Pwyllgor.

 

3.   Bydd aelodau'r CBC yn awdurdodi'r Prif Weithredwr i ddatblygu hunaniaeth gorfforaethol ar gyfer y CBC mewn ymgynghoriad ag aelodau'r CBC.

 

4.   Bydd aelodau'r CBC yn cymeradwyo protocol y cyfryngau yn Atodiad 1 fel sail gychwynnol ar gyfer llywodraethu gweithgareddau'r cyfryngau sy'n gysylltiedig â gweithgareddau'r CBC

 

3.

Mabwysiadu dogfennau ychwanegol i'w cynnwys o fewn Cyfansoddiad Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru pdf eicon PDF 239 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd yr aelodau ddogfennau ychwanegol i’w cynnwys yn y Cyfansoddiad y CBC fel y'i cynhwyswyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y CBC yn mabwysiadu ac yn cynnwys y canlynol yn eu cyfansoddiad:

 

1.   Protocol ynghylch gohebiaeth gan Aelod Seneddol ac Aelod o’r Senedd (a gynhwysir yn Atodiad 1)

2.   Gweithdrefn Datrys yn Lleol (a gynhwysir yn Atodiad 2)

3.   Rhoddion a Lletygarwch Aelodau (a gynhwysir yn Atodiad 3)

4.   Polisi diffyg absenoldeb mewn cyfarfodydd (a gynhwysir yn Atodiad 4)

5.   Cynllun Deiseb (a gynhwysir yn Atodiad 5)

6.   Protocol Siarad Cyhoeddus (a gynhwysir yn Atodiad 6)

7.   Protocol ar Berthnasoedd Aelodau a Swyddogion (a gynhwysir yn Atodiad 7)

 

8.   Bod aelodau'n nodi'r ddogfennaeth yn y dyfodol a fydd yn cael ei chyflwyno i'r CBC i'w gymeradwyo fel y nodir ym mharagraffau 5 a 6 yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

4.

Cynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol De-orllewin Cymru (CCERh) pdf eicon PDF 248 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r pwyllgor ystyried mabwysiadu Cynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol De-Orllewin Cymru fel y'i cynhwyswyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd a nodi y bydd y CCERh yn dod yn strategaeth ranbarthol ar gyfer lles economaidd wrth symud ymlaen. Nodwyd oherwydd digwyddiadau fel Brexit, pandemig COVID-19 a'r argyfwng hinsawdd, y newidiwyd ffocws y strategaeth dros y 12 mis diwethaf. Mae'r cynllun adnewyddedig wedi adeiladu ar y sylfaen dystiolaeth bresennol a chynllunio gweithredu ac wedi bod yn destun ymgynghoriad. Gofynnwyd i'r pwyllgor nodi'r perfformiad presennol, sy'n cynnwys ychwanegu tua 20,000 o swyddi at yr economi ers 2013 a lleihau bwlch cynhyrchiant a gweithgarwch economaidd ymhellach er i'r aelodau nodi bod angen cyflawni mwy o hyd.

 

Nododd y pwyllgor yr ymagwedd ehangach arfaethedig at wireddu gwelliant graddol gyda stoc ehangach o fusnes a chanolbwyntio ar gryfderau (gan gynnwys cydweithio, diwylliant ac asedau amgylcheddol.) Roedd yr aelodau hefyd yn falch o nodi synergeddau'r CDERh â safbwynt polisi LlC ar y Fframwaith Economaidd Rhanbarthol.

 

Roedd y pwyllgor yn falch o glywed manylion ynghylch 'uchelgeisiau' y cynllun a'r 'tasgau' a fydd yn sail iddynt. Ochr yn ochr â'r cynllun cyffredinol, mae piblinell fyw o 45 o brosiectau gyda rhyw £3bn o wariant cysylltiedig a fydd yn ychwanegu cyfeiriad a sylwedd at y strategaeth.

 

Nodwyd bod y CDERh wedi'i gymeradwyo gan y pedwar Awdurdod Lleol, ac os caiff ei fabwysiadu yn y CBC, bydd y ffocws wedyn yn symud i gyflwyno. Nodwyd ymhellach y bydd goblygiad o ran adnoddau ond ar gyfer y flwyddyn gyntaf, rhagwelir y bydd adnoddau presennol fel prosiect EARth yn cael eu defnyddio.

 

Holodd yr aelodau sut y gall y strategaeth addasu i amgylchedd sy'n newid yn barhaus a defnyddiodd argyfwng diweddar ffoaduriaid Wcráin fel enghraifft. Roedden nhw'n falch o nodi y gallai’r piblinell hyblyg o brosiectau addasu mewn ymateb i amgylchiadau, cyfleoedd a bygythiadau newidiol.

 

Holwyd pa radd o ymgysylltu a gafwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori gan ganolbwyntio'n benodol ar gynnwys awdurdodau parciau cenedlaethol.

Yn sgil pandemig COVID-19, cafodd digwyddiadau eu cwtogi ond roedd digwyddiadau rhithiol wedi bod yn llwyddiannus ac nid oedd adborth wedi'r dderbyn. Wrth symud ymlaen bydd y prosiectau penodol yn haeddu ymgysylltiad â phartneriaid ac roedd yr aelodau'n falch o nodi y bydd cynlluniau ymgynghori ar gyfer y dyfodol yn cynnwys parciau cenedlaethol fel y bo'n briodol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod Cynllun Cyflenwi Economaidd Rhanbarthol De-Orllewin Cymru (REDP) yn cael ei fabwysiadu fel y strategaeth ranbarthol ar gyfer llinyn lles economaidd rhaglen waith y CBC.

 

 

 

 

5.

Cynllun Cyflawni Ynni Rhanbarthol De-orllewin Cymru pdf eicon PDF 368 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd aelodau Gynllun Ynni De-Orllewin Cymru fel y'i cynhwyswyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Bwriedir i’r cynllun fod yn fframwaith ar gyfer rhaglen waith y CBC a chlywodd yr aelodau sut y’i datblygwyd dros y 12-18 mis diwethaf trwy waith helaeth gyda'r pedwar Awdurdod Lleol a'u 'Grŵp Ynni Cyfarwyddwyr Rhanbarthol Craidd' a'i gefnogi gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru. Bu ystod eang o fewnbwn hefyd gan grwpiau cynghori ac o ganlyniad i sesiynau rhanddeiliaid.

 

Nodwyd y bwriedir iddo fod yn strategaeth ar gyfer y rhanbarth ac mae'n canolbwyntio ar rôl arweinyddiaeth y CBC yn enwedig o gwmpas y targed uchelgeisiol sef cyflawni traul ynni sero net erbyn 2050.

 

Dywedwyd wrth yr aelodau fod ffrydiau gwaith wedi'u sefydlu ar gyfer y canlynol:

 

-      Diwydiannol/Masnachol

-      Cludiant

-      Domestig

-      Ynni adnewyddadwy

 

Roedd yr aelodau'n falch o nodi y bydd cynlluniau ynni a modelu economaidd cyfunol a chynlluniau gweithredu’n cyd-fynd â'r ffrydiau gwaith a'r tri cham allweddol ar gyfer gyrru'r strategaeth yn ei blaen, sy'n cynnwys;

- datblygu strwythur llywodraethu,

- cymdeithasoli’r strategaeth (cynyddu gwelededd a lefelau ymwybyddiaeth) - a datblygu'r cynllun gweithredu.

 

Tynnwyd sylw'r aelodau at y cafeat nad yw'r cynllun yn ystyried defnyddwyr diwydiannol ac allyrwyr mawr yn Ne Cymru ond derbynnir y bydd ganddynt eu strategaethau eu hunain a'u cynlluniau gweithredu sero net.

 

PENDERFYNWYD:

 

Mabwysiadu Strategaeth Ynni Rhanbarthol De-Orllewin Cymru fel y fframwaith ar gyfer rhaglen waith y CBC gydag adroddiadau pellach i'w cyflwyno maes o law sy'n nodi sut y bwriedir cyflawni’r bwriad strategol.

 

 

6.

Cronfa Ffyniant Gyffredin pdf eicon PDF 712 KB

Cofnodion:

Ystyriodd yr aelodau'r Gronfa Ffyniant Gyffredin fel y'i cynhwyswyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Eglurwyd bod Llywodraeth y DU bellach wedi cyhoeddi ei bapur gwyn 'Ffyniant Bro' yn ogystal â chanllawiau cyn lansio ar Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, ac mae tîm Cymru'n ymgysylltu ag Awdurdodau Lleol cyn cyhoeddi canllawiau terfynol.

 

Mae disgwyl y bydd gan Awdurdodau Lleol rôl ganolog wrth arwain ceisiadau yn eu hardaloedd ond disgwylir cydweithrediad ar gynlluniau buddsoddi lleol er mwyn caniatáu defnydd o'r cyllid.

 

Eglurwyd nad oes gan y CBC statws mewn perthynas â TAW o dan adran 33 felly nid ystyrir ei fod yn gyfrwng priodol ar gyfer defnyddio arian a hyd nes y bydd hyn wedi'i sefydlu, yr Awdurdodau Lleol fydd y prif gyfrwng ar gyfer hyn.

 

Codwyd pryder y gallai arian gael ei roi ar sail ad hoc heb roi sylw strategol i nodau cyffredinol ac anogwyd darparu’r adborth hwn yn uniongyrchol i'r tîm cyfrifol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bydd y CBC yn nodi Papur Gwyn 'Ffyniant Bro' Llywodraeth y DU a chanllawiau cysylltiedig cyn lansio Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

 

Bydd y CBC yn nodi'r ymgynghoriad a gynhelir a’r ymgysylltu a wneir gan Lywodraeth y DU â phartneriaid sy'n cynnwys awdurdodau lleol i ddatblygu trefniadau sy'n mwyafu Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU ym mhob cenedl. Byddai Llywodraeth y DU yn cefnogi darparu ôl troed rhanbarthol yng Nghymru - ar sail y pedwar rhanbarth economaidd/rhanbarthau’r Bargeinion Dinesig a Thwf

 

Bydd y CBC yn nodi gwaith sydd wedi cychwyn i asesu'r rôl y gallai'r CBC ei chwarae wrth ddarparu Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU sy'n un o bileri canolog agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU.