Agenda a Chofnodion

Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru - Dydd Iau, 13eg Ionawr, 2022 2.00 pm

Lleoliad: Via Microsoft Teams

Cyswllt: Naidine Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Gwnaed y datganiad o fudd canlynol:

 

Mae gan Aled Edwards fuddiant personol mewn perthynas â Chonsortiwm De Cymru ar Lywodraethu Rhanbarthol oherwydd ei swydd yng Nghyngor Rhondda Cynon Taf.

 

 

 

 

 

2.

Penodi Cadeirydd pdf eicon PDF 228 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

Penodi'r Cyng. Rob Stewart (Cyngor Sir Abertawe) yn Gadeirydd a phenodi'r Cyng. Emlyn Dole (Cyngor Sir Gâr) yn Is-Gadeirydd Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru.

 

 

 

3.

Mabwysiadu Cyfansoddiad a Rheolau Gweithdrefnol ar gyfer Cydbwyllgor Corfforaethol De Orllewin Cymru pdf eicon PDF 174 KB

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Mr Craig Griffiths (Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot) yr adroddiad ac eglurodd fod deddfwriaeth wedi'i chreu sy'n ymwneud â sut y mae'n rhaid i'r Cyd-bwyllgorau Corfforedig weithredu, gan nodi rolau a chyfrifoldebau a'r modd y mae'n rhaid i'r Cyd-bwyllgor Corfforedig gyflawni’i swyddogaethau.

 

Eglurwyd ei bod yn ofynnol yn y cyfarfod cyntaf hwn i'r Pwyllgor fabwysiadu rhestr o reolau sefydlog y rheolir y Cyd-bwyllgor Corfforedig ganddynt. Mae hyn yn cynnwys penodi sawl rôl statudol, lle cynigiwyd y canlynol:

 

-      Bydd rôl y Prif Weithredwr yn cael ei chylchdroi'n flynyddol rhwng y cynghorau cyfansoddol a bydd yn cychwyn gyda Mrs Karen Jones o Gyngor Castell-nedd Port Talbot

-      Y Prif Swyddog Cyllid Adran 151 fydd Chris Moore o Gyngor Sir Gâr

-      Y Swyddog Monitro fydd Craig Griffiths o Gyngor Castell-nedd Port Talbot

 

Esboniodd Mr Griffiths fod y cyfansoddiad hefyd yn manylu ar drefn lywodraethu arfaethedig y Cyd-bwyllgor Corfforedig gyda manylion ynghylch sut y bydd penderfyniadau'n cael eu gwneud, gan gynnwys creu Pwyllgorau Craffu, Llywodraethu ac Archwilio ac Is-Bwyllgorau.

 

Tynnwyd sylw'r aelodau at atodiadau'r adroddiad sy'n cynnwys y cyfansoddiad arfaethedig, rheolau gweithdrefnau, rheol y weithdrefn mynediad at wybodaeth a chôd ymddygiad ar gyfer aelodau.

 

Dywedwyd bod cydweithwyr o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi gwneud rhyw fân arsylwadau i swyddogion ynglŷn â chynnwys dogfennaeth y cyfansoddiad. Ymrwymodd Mr Craig Griffiths i drafod manylion hyn â Swyddog Monitro Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, a dywedodd ei fod yn bwriadu dod â fersiwn ddiwygiedig a therfynol o ddogfennau'r cyfansoddiad i gyfarfod nesaf y Cyd-Bwyllgor Corfforedig.

 

Eglurwyd bod y Parciau Cenedlaethol yn cael eu heithrio rhag pleidleisio ar fabwysiadu'r cyfansoddiad oherwydd y canllawiau ar hawliau pleidleisio a nodir yn y ddeddfwriaeth a bod gan Barciau Cenedlaethol hawliau pleidleisio ar faterion Cynllunio Strategol a materion cysylltiedig yn unig.

 

PENDERFYNWYD:

 

-      Cymeradwyodd yr aelodau  ddosraniad  cyfrifoldebau gweithredol Cyd-bwyllgor Corfforedig De-Orllewin Cymru fel y’u nodir ym mharagraff 7, ac awdurdodasant ymrwymo i gytundebau rhwng Cyd-bwyllgor Corfforedig De-Orllewin Cymru a'r Cynghorau Cyfansoddol a nodwyd i ddarparu'r gwasanaethau hyn

-      Cymeradwyodd yr aelodau greu'r is-bwyllgorau a nodwyd ym mharagraff 14 o'r adroddiad a'r cynrychiolwyr arfaethedig a benodwyd i'r is-bwyllgor a nodir ym mharagraff 15

-      Cymeradwyodd yr aelodau sefydlu Is-bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforedig De-Orllewin Cymru fel y’i nodir ym mharagraffau 18-22 yr adroddiad hwn;

-      Cymeradwyodd aelodau ddynodiad Pwyllgor Safonau Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot fel Pwyllgor Safonau Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru;

-      Cymeradwyodd yr aelodau sefydlu Is-bwyllgor Trosolwg a Chraffu ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforedig De-Orllewin Cymru fel y’i nodir ym  mharagraffau 27-31 yr adroddiad hwn;

-      Cymeradwyodd yr aelodau Gyfansoddiad Cyd-bwyllgor Corfforedig De-Orllewin Cymru a nodir yn Atodiad 1;

-      Cymeradwyodd yr aelodau’r Rheolau Gweithdrefnau ar gyfer cyfarfodydd Cyd-bwyllgor Corfforedig De-Orllewin Cymru a nodir yn Atodiad 2;

-      Cymeradwyodd yr aelodau’r Rheolau Gweithdrefnau Mynediad at Wybodaeth ar gyfer cyfarfodydd Cyd-bwyllgor Corfforedig De-Orllewin Cymru a nodir yn Atodiad 3;

-      Cymeradwyodd yr aelodau’r Côd Ymddygiad Aelodau ar gyfer cyfarfodydd Cyd-bwyllgor Corfforedig De-Orllewin Cymru a nodir yn Atodiad 4;  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

Cyd-bwyllgor Corfforedig De Orllewin Cymru - Rhaglen Waith y Dyfodol y Prif Weithredwr pdf eicon PDF 421 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Mrs Karen Jones (Prif Weithredwr Arweiniol y CBC) yr adroddiad a chyflwynodd Flaenraglen Waith i'r Prif Weithredwr fel y'i cynhwyswyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Dywedodd ei bod yn edrych ymlaen at weithio mewn ysbryd parhaus partneriaeth.

 

Nododd aelodau ddyletswyddau'r prif weithredwr arweiniol yn ogystal â gofynion gwaith y Cyd-bwyllgor Corfforedig fel y’i nodir yn y ddeddfwriaeth sef:

 

Cynllunio Defnydd Tir Strategol

Lles Economaidd

Trafnidiaeth

 

Eglurwyd hefyd, gan y bydd y Cyd-bwyllgor Corfforaedig yn cael ei drin fel rhan o'r teulu Llywodraeth Leol, fod materion llywodraethu cysylltiedig eraill y bydd angen eu hystyried maes o law, megis Safonau'r Gymraeg.

Nodwyd y bydd Blaenraglen Waith manwl yn cael ei chreu a'i chofnodi yng nghyfarfodydd y Pwyllgor yn y dyfodol.

 

Eglurodd Karen Jones ei bod yn ceisio awdurdod dirprwyedig i ymrwymo i Gytundebau Lefel Gwasanaeth (CLGau) gydag Awdurdodau Lleol i brynu gwasanaethau yn ôl gan y cynghorau cyfansoddol ar gyfer gweithredu swyddogaethau'r CBC yn unol â'r cyfansoddiad y cytunwyd arno. Eglurwyd nad oes bwriad ar hyn o bryd i gyflogi unrhyw un yn uniongyrchol mewn perthynas â chyflawni dyletswyddau sy'n gysylltiedig â'r CBC.

 

Nodwyd y bydd yr Etholiadau Llywodraeth Leol yn cael eu cynnal ym mis Mai 2022 sydd â'r posibilrwydd o rwystro cyfarfodydd sy’n cael eu trefnu yn enwedig o ran y cyfnod cyn yr etholiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

-       Bod Aelodau'n nodi rhaglenni gwaith presennol Cyd-bwyllgor Corfforedig De-Orllewin Cymru i weithredu gofynion Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

-      Bod yr Aelodau’n nodi cyfrifoldeb statudol Prif Weithredwr Cyd-bwyllgor Corfforedig De-Orllewin Cymru

-       Bod yr Aelodau'n rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Prif Weithredwr i drafod ac ymrwymo i gytundebau Lefel Gwasanaeth gyda'r awdurdodau lleol a grybwyllir ym mharagraff 33 o'r adroddiad hwn ar gyfer y gwasanaethau sy'n angenrheidiol i'r Cyd-Bwyllgor Corfforaedig gyflawni’i swyddogaethau statudol.

 

 

 

5.

Cyllidebau Blynyddol Drafft ar gyfer Blynyddoedd Ariannol 2021/22 a 2022/23 pdf eicon PDF 660 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Mr Chris Moore (Prif Swyddog Cyllid a Swyddog Adran 151 y CBC) y cyllidebau blynyddol drafft i’r pwyllgor ar gyfer y blynyddoedd ariannol 2021/22 a 2022/23 fel y'u cynhwyswyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Dywed yr adroddiad y caiff  Cyngor Sir Gâr ei ddynodi’n gorff cyfrifol i gyflawni rhwymedigaethau ariannol y CBC yn ogystal â gofynion cyfreithiol pennu'r gyllideb.

 

Trafodwyd mai’r cynnig a gynhwysir yn yr adroddiad yw bod ardoll sero’n cael ei osod  ar gyfer eleni gan fod costau wedi'u hamsugno gan y cynghorau cyfansoddol ac y derbyniwyd grant o £250,000 ar gyfer rhai eitemau gan Lywodraeth Cymru tuag at gostau sefydlu'r CBC.

 

Bydd dyletswydd i osod cyllideb ar gyfer y blynyddoedd i ddod i sicrhau y darperir adnoddau digonol i ganiatáu i'r CBC ymgymryd â'i rôl a'i swyddogaeth yn briodol ac mae rhwymedigaeth i adennill costau gweithredu trwy ardoll sy'n seiliedig ar awdurdodau cyfansoddol a Pharciau Cenedlaethol ac os yw'n briodol (er bod trafodaeth barhaus ar hyn).

 

Nododd yr aelodau fod cynnig i greu swydd 'Rheolwr Busnes' i gydlynu'r CBC a'i weithrediad cyffredinol gyda'r gyllideb ddrafft.

 

Trafodwyd y gwahanol ddulliau mewn perthynas â sut mae'r ardollau i awdurdodau cyfansoddol yn cael eu cyfrifo a'u cymhwyso. Ar ôl ymgynghori â swyddogion Adran 151 eraill, nodwyd eu bod yn gytûn mai 'yn ôl poblogaeth' fyddai'r ffordd decaf.

 

 

PENDERFYNWYD:

 

-       Y bydd Cyngor Sir Gâr yn gweithredu fel y Corff Atebol ar gyfer cyflawni'r rhwymedigaethau ariannol mewn perthynas â'r Cyd-bwyllgor Corfforedig De-Orllewin Cymru

-       Y bydd Cyd-bwyllgor Corfforedig De-Orllewin Cymru yn gosod cyllideb sero ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/2022, ac ni chodir Ardoll yn erbyn awdurdodau cyfansoddol sy'n cymryd rhan yng Nghyd-bwyllgor Corfforedig De-Orllewin Cymru ar gyfer eleni;

-       Er mwyn sicrhau cyfle cyfartal a thegwch ar draws y rhanbarth bydd cyllid rhanbarthol Cyd-bwyllgor Corfforedig De-Orllewin Cymru'n cael ei osod drwy ddosraniad ardoll yn ôl maint y boblogaeth;

-       Nodi’r gyllideb a amlinellir yn atodiad A fel y Gyllideb Ddrafft a fydd yn cael ei chwblhau a'i chyflwyno i Gyd-bwyllgor Corfforedig De-Orllewin Cymru ar 25 Ionawr 2022; a

-       Mae'r aelodau'n nodi nad oes penderfyniad pendant wedi'i gyflwyno ar hyn o bryd o ran cyfraniadau ariannol Awdurdodau'r Parc Cenedlaethol ac felly argymhellir rhoi gwybodaeth bellach am sefyllfa Awdurdodau'r Parc Cenedlaethol yng nghyfarfod Cyd-bwyllgor Corfforedig De-Orllewin Cymru ar 25 Ionawr 2022.