Cofnodion:
Cyflwynodd Mr Craig Griffiths (Pennaeth
Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd
Port Talbot) yr adroddiad ac eglurodd fod deddfwriaeth wedi'i chreu sy'n
ymwneud â sut y mae'n rhaid i'r Cyd-bwyllgorau Corfforedig weithredu, gan nodi
rolau a chyfrifoldebau a'r modd y mae'n rhaid i'r Cyd-bwyllgor Corfforedig
gyflawni’i swyddogaethau.
Eglurwyd ei bod yn ofynnol yn y cyfarfod cyntaf hwn
i'r Pwyllgor fabwysiadu rhestr o reolau sefydlog y rheolir y Cyd-bwyllgor
Corfforedig ganddynt. Mae hyn yn cynnwys penodi sawl rôl statudol, lle
cynigiwyd y canlynol:
-
Bydd rôl y Prif Weithredwr yn
cael ei chylchdroi'n flynyddol rhwng y cynghorau cyfansoddol a bydd yn cychwyn
gyda Mrs Karen Jones o Gyngor Castell-nedd Port Talbot
-
Y Prif Swyddog Cyllid Adran
151 fydd Chris Moore o Gyngor Sir Gâr
-
Y Swyddog Monitro fydd Craig
Griffiths o Gyngor Castell-nedd Port Talbot
Esboniodd Mr Griffiths fod y cyfansoddiad hefyd yn
manylu ar drefn lywodraethu arfaethedig y Cyd-bwyllgor Corfforedig gyda
manylion ynghylch sut y bydd penderfyniadau'n cael eu gwneud, gan gynnwys creu
Pwyllgorau Craffu, Llywodraethu ac Archwilio ac Is-Bwyllgorau.
Tynnwyd sylw'r aelodau at atodiadau'r adroddiad
sy'n cynnwys y cyfansoddiad arfaethedig, rheolau gweithdrefnau, rheol y
weithdrefn mynediad at wybodaeth a chôd ymddygiad ar gyfer aelodau.
Dywedwyd bod cydweithwyr o Barc Cenedlaethol Bannau
Brycheiniog wedi gwneud rhyw fân arsylwadau i swyddogion ynglŷn â chynnwys
dogfennaeth y cyfansoddiad. Ymrwymodd Mr Craig Griffiths i drafod manylion hyn
â Swyddog Monitro Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, a dywedodd ei fod yn
bwriadu dod â fersiwn ddiwygiedig a therfynol o ddogfennau'r cyfansoddiad i
gyfarfod nesaf y Cyd-Bwyllgor Corfforedig.
Eglurwyd bod y Parciau Cenedlaethol yn cael eu
heithrio rhag pleidleisio ar fabwysiadu'r cyfansoddiad oherwydd y canllawiau ar
hawliau pleidleisio a nodir yn y ddeddfwriaeth a bod gan Barciau Cenedlaethol
hawliau pleidleisio ar faterion Cynllunio Strategol a materion cysylltiedig yn
unig.
PENDERFYNWYD:
-
Cymeradwyodd yr
aelodau ddosraniad cyfrifoldebau gweithredol Cyd-bwyllgor
Corfforedig De-Orllewin Cymru fel y’u nodir ym mharagraff 7, ac awdurdodasant
ymrwymo i gytundebau rhwng Cyd-bwyllgor Corfforedig De-Orllewin Cymru a'r
Cynghorau Cyfansoddol a nodwyd i ddarparu'r gwasanaethau hyn
-
Cymeradwyodd yr
aelodau greu'r is-bwyllgorau a nodwyd ym mharagraff 14 o'r adroddiad a'r
cynrychiolwyr arfaethedig a benodwyd i'r is-bwyllgor a nodir ym mharagraff 15
-
Cymeradwyodd yr aelodau
sefydlu Is-bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar gyfer Cyd-bwyllgor
Corfforedig De-Orllewin Cymru fel y’i nodir ym mharagraffau 18-22 yr adroddiad
hwn;
-
Cymeradwyodd
aelodau ddynodiad Pwyllgor Safonau Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port
Talbot fel Pwyllgor Safonau Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru;
-
Cymeradwyodd yr
aelodau sefydlu Is-bwyllgor Trosolwg a Chraffu ar gyfer Cyd-bwyllgor
Corfforedig De-Orllewin Cymru fel y’i nodir ym mharagraffau 27-31 yr adroddiad hwn;
-
Cymeradwyodd yr
aelodau Gyfansoddiad Cyd-bwyllgor Corfforedig De-Orllewin Cymru a nodir yn
Atodiad 1;
-
Cymeradwyodd yr
aelodau’r Rheolau Gweithdrefnau ar gyfer cyfarfodydd Cyd-bwyllgor Corfforedig
De-Orllewin Cymru a nodir yn Atodiad 2;
-
Cymeradwyodd yr
aelodau’r Rheolau Gweithdrefnau Mynediad at Wybodaeth ar gyfer cyfarfodydd
Cyd-bwyllgor Corfforedig De-Orllewin Cymru a nodir yn Atodiad 3;
-
Cymeradwyodd yr
aelodau’r Côd Ymddygiad Aelodau ar gyfer cyfarfodydd Cyd-bwyllgor Corfforedig
De-Orllewin Cymru a nodir yn Atodiad 4;
-
Rhoddir awdurdod dirprwyedig i'r Prif Weithredwr, mewn
ymgynghoriad â Chadeirydd Cyd-bwyllgor Corfforedig De-Orllewin Cymru i gytuno
ar unrhyw ddogfennau sy'n angenrheidiol i weithredu gofynion yr adroddiad hwn
a'r argymhellion a nodir uchod.
Dogfennau ategol: