Lleoliad arfaethedig: Via Microsoft Teams
Rhif | Eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd a Dirprwy Gadeirydd Cofnodion: Cytunwyd y dylid penodi'r Cynghorydd S Hunt yn Gadeirydd a bod y Cynghorydd
S Rahaman yn cael ei benodi'n Is-gadeirydd ar gyfer y cyfarfod ar y cyd hwn . |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Gwnaeth yr aelodau canlynol ddatganiad o fuddiant
ar ddechrau'r cyfarfod: Y Cynghorydd Sian Harris Parthed: Diweddariad Amgueddfa Cefn Coed gan ei
bod yn aelod o'r grŵp llywio blaenorol ar gyfer Amgueddfa Glofa Cefn Coed
a sefydlwyd gan CBSCNPT, ac mae'n aelod o Gyfeillion Glofa Cefn Coed ar hyn o
bryd. Y Cynghorydd Steve Hunt Parthed: Diweddariad Amgueddfa Cefn Coed gan ei fod
yn aelod o'r grŵp llywio blaenorol ar gyfer Amgueddfa Gwaith Glo Cefn Coed
a sefydlwyd gan CBSCNPT |
|
Diweddariad Amgueddfa Cefn Coed (wedi’i amgáu o fewn Papurau'r Cabinet) Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor yr wybodaeth
ddiweddaraf am y cynllun gwaith arfaethedig a'r materion iechyd a diogelwch
sy'n dod i'r amlwg ar safle amgueddfa Cefn Coed; roedd yr adroddiad hefyd yn
darparu gwybodaeth am Weithgor Cefn Coed a fyddai'n cael ei sefydlu i helpu i
lunio cynlluniau ar gyfer y safle yn y dyfodol. Hysbyswyd yr Aelodau y gwnaed
cais am grant i Lywodraeth Cymru am tua £1.8 miliwn, a oedd wedi'i gymeradwyo;
roedd yn ofynnol i'r cyngor gyfrannu gweddill yr arian sydd ei angen i baratoi
cynllun (£800,400 fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd). Dywedwyd bod y cynllun
gwreiddiol a grëwyd yn ceisio cyflawni nifer o elfennau gan gynnwys canolfan
ymwelwyr newydd, gwaith allanol ac ardal chwarae awyr agored. Cynhaliwyd
diwydrwydd dyladwy cychwynnol ar y safle a gododd nifer o gwestiynau allweddol
ac a oedd yn golygu bod angen ymarfer diwydrwydd dyladwy manylach; roedd hyn yn
cynnwys ymchwilio ymhellach i nifer o faterion, gan gynnwys ymgynghori â CADW,
ac o ganlyniad i'r gwaith hwn, daeth yn amlwg nad oedd modd parhau â'r cynllun
gwreiddiol ac felly cyflwynwyd cynnig arall. Tynnwyd sylw at y ffaith nad oedd
modd datblygu'r cynllun diwygiedig oherwydd yr elfennau amser dan sylw; byddai
wedi cymryd tua 18 mis i'w ddatblygu, ond roedd yn rhaid i'r cyngor wario'r
arian o fewn 4-5 mis (erbyn mis Mawrth 2021). O ganlyniad i hyn, cytunwyd â
Llywodraeth Cymru y byddai'r cyngor yn cwblhau gwaith arolygu yn lle, er mwyn
deall y materion ar y safle a sicrhau bod y cyngor mewn sefyllfa dda i wneud
cais am arian, pe bai rownd arall o arian grant ar gael. Cadarnhaodd swyddogion fod y
gwaith arolygu wedi'i gwblhau a thynnwyd sylw at nifer o faterion; un ohonynt
oedd y pryderon iechyd a diogelwch presennol ar gyfer y safle. Soniwyd y
byddai'n costio dros £1 filiwn i'r cyngor ddelio â'r pryderon iechyd a
diogelwch. Mewn perthynas â'r gwaith yr oedd Swyddogion yn ei gynnig fel rhan
o'r cynllun diwygiedig, nodwyd mai'r awgrymiadau cychwynnol oedd y byddai hyn
yn costio dros £8 miliwn. Rhannodd yr Aelod lleol dros y
Creunant, a oedd yn bresennol yn y cyfarfod, bryderon ynglŷn ag elfennau
o'r adroddiad a ddosbarthwyd, ac ailadroddodd werth y safle ar gyfer y gymuned
leol a thu hwnt. Rhannodd yr Aelod lleol wybodaeth hefyd am hanes y safle a
meddyliau a phrofiadau personol gan gynnwys y rheini y tynnwyd sylw atynt gan
ymwelwyr â'r amgueddfa. Nododd yr adroddiad a ddosbarthwyd fod y cyngor wedi prydlesu tua 1.6 erw o dir ac adeiladau, gan gynnwys Amgueddfa Glofa Cefn Coed, o Lywodraeth Cymru a oedd i fod i ddod i ben yn 2077; dan delerau'r brydles, roedd y cyngor yn gyfrifol am yr holl faterion atgyweirio a chynnal a chadw. Cododd yr Aelodau nifer o ymholiadau mewn perthynas â'r gwaith atgyweirio yr oedd angen ei wneud ar safle'r amgueddfa; gofynnwyd a oedd unrhyw faterion wedi'u codi pan oedd yr amgueddfa ar agor, ac os felly pam nad aethpwyd i'r afael â'r materion hyn. Esboniodd ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3. |