Cofnodion:
Cafodd y Pwyllgor yr wybodaeth
ddiweddaraf am y cynllun gwaith arfaethedig a'r materion iechyd a diogelwch
sy'n dod i'r amlwg ar safle amgueddfa Cefn Coed; roedd yr adroddiad hefyd yn
darparu gwybodaeth am Weithgor Cefn Coed a fyddai'n cael ei sefydlu i helpu i
lunio cynlluniau ar gyfer y safle yn y dyfodol.
Hysbyswyd yr Aelodau y gwnaed
cais am grant i Lywodraeth Cymru am tua £1.8 miliwn, a oedd wedi'i gymeradwyo;
roedd yn ofynnol i'r cyngor gyfrannu gweddill yr arian sydd ei angen i baratoi
cynllun (£800,400 fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd).
Dywedwyd bod y cynllun
gwreiddiol a grëwyd yn ceisio cyflawni nifer o elfennau gan gynnwys canolfan
ymwelwyr newydd, gwaith allanol ac ardal chwarae awyr agored. Cynhaliwyd
diwydrwydd dyladwy cychwynnol ar y safle a gododd nifer o gwestiynau allweddol
ac a oedd yn golygu bod angen ymarfer diwydrwydd dyladwy manylach; roedd hyn yn
cynnwys ymchwilio ymhellach i nifer o faterion, gan gynnwys ymgynghori â CADW,
ac o ganlyniad i'r gwaith hwn, daeth yn amlwg nad oedd modd parhau â'r cynllun
gwreiddiol ac felly cyflwynwyd cynnig arall. Tynnwyd sylw at y ffaith nad oedd
modd datblygu'r cynllun diwygiedig oherwydd yr elfennau amser dan sylw; byddai
wedi cymryd tua 18 mis i'w ddatblygu, ond roedd yn rhaid i'r cyngor wario'r
arian o fewn 4-5 mis (erbyn mis Mawrth 2021). O ganlyniad i hyn, cytunwyd â
Llywodraeth Cymru y byddai'r cyngor yn cwblhau gwaith arolygu yn lle, er mwyn
deall y materion ar y safle a sicrhau bod y cyngor mewn sefyllfa dda i wneud
cais am arian, pe bai rownd arall o arian grant ar gael.
Cadarnhaodd swyddogion fod y
gwaith arolygu wedi'i gwblhau a thynnwyd sylw at nifer o faterion; un ohonynt
oedd y pryderon iechyd a diogelwch presennol ar gyfer y safle. Soniwyd y
byddai'n costio dros £1 filiwn i'r cyngor ddelio â'r pryderon iechyd a
diogelwch. Mewn perthynas â'r gwaith yr oedd Swyddogion yn ei gynnig fel rhan
o'r cynllun diwygiedig, nodwyd mai'r awgrymiadau cychwynnol oedd y byddai hyn
yn costio dros £8 miliwn.
Rhannodd yr Aelod lleol dros y
Creunant, a oedd yn bresennol yn y cyfarfod, bryderon ynglŷn ag elfennau
o'r adroddiad a ddosbarthwyd, ac ailadroddodd werth y safle ar gyfer y gymuned
leol a thu hwnt. Rhannodd yr Aelod lleol wybodaeth hefyd am hanes y safle a
meddyliau a phrofiadau personol gan gynnwys y rheini y tynnwyd sylw atynt gan
ymwelwyr â'r amgueddfa.
Nododd yr adroddiad a
ddosbarthwyd fod y cyngor wedi prydlesu tua 1.6 erw o dir ac adeiladau, gan
gynnwys Amgueddfa Glofa Cefn Coed, o Lywodraeth Cymru a oedd i fod i ddod i ben
yn 2077; dan delerau'r brydles, roedd y cyngor yn gyfrifol am yr holl faterion atgyweirio
a chynnal a chadw. Cododd yr Aelodau nifer o ymholiadau mewn perthynas â'r
gwaith atgyweirio yr oedd angen ei wneud ar safle'r amgueddfa; gofynnwyd a oedd
unrhyw faterion wedi'u codi pan oedd yr amgueddfa ar agor, ac os felly pam nad
aethpwyd i'r afael â'r materion hyn. Esboniodd swyddogion fod y safle yn un o
nifer o safleoedd hen a chymhleth yr oedd y cyngor yn berchen arnynt ac nad
oedd digon o arian o fewn y cyllidebau i fynd i'r afael â phob problem ym mhob
adeilad; cafodd rhai o'r materion mwy pryderus eu monitro dros y blynyddoedd.
Mewn perthynas â'r cynllun, nodwyd bod rhai o'r materion yr oedd angen
ymchwilio iddynt y tu allan i brydles bresennol y cyngor. Er mwyn cyflawni'r
cynllun, byddai angen i'r cyngor gaffael budd mewn tir a oedd yn eiddo i
Lywodraeth Cymru ac yn cael ei reoli gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd. Nodwyd
yr aethpwyd i'r afael ag unrhyw faterion iechyd a diogelwch ar safle'r
amgueddfa, er enghraifft bu'n rhaid dymchwel un rhan o'r adeilad ychydig
flynyddoedd yn ôl oherwydd pryderon iechyd a diogelwch. Hysbyswyd yr Aelodau
fod y gwaith arolygu a wnaed yn ddiweddar yn llawer mwy cymhleth nag arfer ac
yn costio dros £100k; nid oedd gan y cyngor y gallu i ymgymryd â'r math hwn o
waith yn fewnol, ac felly bu’n rhaid talu cwmni allanol i wneud y gwaith.
Cyfeiriwyd at y pwynt yn yr
adroddiad a ddosbarthwyd a oedd yn nodi mai tua £60k y flwyddyn oedd y diffyg
gweithredu presennol. Nodwyd nad oedd gan yr amgueddfa gyfleuster talu â
cherdyn i ymwelwyr ei ddefnyddio yn y siop, a oedd yn gyfle a gollwyd; nid oedd
gan yr amgueddfa beiriant diodydd/byrbrydau ychwaith a allai fod wedi cynhyrchu
incwm. Gofynnwyd pam nad oedd yr amgueddfa wedi cael cyfleusterau talu â
cherdyn ac a oedd Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cynnal ymarferion
cynhyrchu incwm ar y safle. Cadarnhaodd swyddogion mai un o'r rhesymau dros
sefydlu Gweithgor Cefn Coed oedd deall beth oedd yn bwysig a sut i ddatblygu'r
cyfleuster ar gyfer yr 21ain ganrif, yn enwedig o ran cyfleoedd masnachol a
chyfleoedd i gynhyrchu incwm. Hysbyswyd y Pwyllgor fod cyfleuster cerdyn ar y
safle o'r blaen, ond gan mai dim ond pedwar mis o'r flwyddyn yr oedd yr
amgueddfa ar agor, nid oedd y taliadau a gyflwynwyd i'r cyngor yn ei gwneud
hi'n ymarferol cadw'r cyfleuster hwn; roedd hyn yn rhywbeth y byddai Swyddogion
yn ymchwilio iddo yn y dyfodol. Soniwyd bod cyfleusterau talu â cherdyn a oedd
yn codi tâl fesul trafodyn, y gellid ymchwilio iddynt ar gyfer lleoliadau fel
yr amgueddfa.
O ran y cynnig gwreiddiol yn
2019, gofynnodd yr Aelodau pam y codwyd materion, er enghraifft gyda CADW.
Hysbyswyd yr Aelodau fod y cais am grant yn cael ei lunio'n gyflym iawn, yn yr
un modd â llawer o geisiadau grant a oedd yn mynd rhagddynt ar hyn o bryd; nid
oedd hwn yn ddigwyddiad anarferol. O ganlyniad i hyn, nodwyd na chafodd y
cyngor gyfle i ymgymryd â'r holl ddiwydrwydd dyladwy; yna cawsant gyfnod byr
iawn i gyflawni'r cynllun a oedd yn fater arall.
Nodwyd bod swm dros dro o
£200k ar gael gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwaith yr arolwg; Gofynnwyd i
swyddogion faint oedd wedi'i wario, ac a fyddai unrhyw arian dros ben yn cael
ei glustnodi i'w ddefnyddio ar arolygon yn y dyfodol. Esboniwyd bod tua
£110k-£115k wedi'i wario ar yr arolygon yr oedd eu hangen/y gellid eu cwblhau;
er i Lywodraeth Cymru glustnodi £200k, dim ond y swm yr oedd ei angen i wneud y
gwaith a ddarparwyd i'r cyngor. Ychwanegwyd bod yr holl arolygon wedi'u cynnal
bellach, ac ar hyn o bryd nid oedd unrhyw ofynion pellach ar gyfer unrhyw
arolygon ychwanegol y gellid eu cynnal ar hyn o bryd.
Cyfeiriodd yr Aelodau at
flaenoriaeth allweddol 3 Cynllun Gweithredu'r Cymoedd, sef Adfywio Cymunedol;
Rhestrwyd Amgueddfa Glofa Cefn Coed fel cam gweithredu i'w archwilio. Gofynnwyd
a oedd y camau gweithredu hyn wedi'u cymryd erioed, a dywedodd Swyddogion y
byddai hyn yn un o weithredoedd Gweithgor Cefn Coed wrth symud ymlaen pan
gafodd ei ailsefydlu.
O ran y materion iechyd a
diogelwch sy'n dod i'r amlwg a gynhwyswyd yn yr adroddiad, soniwyd bod darnau
o’r corn simnai’n torri ac yn syrthio o uchder; sicrhawyd grant yn 2014 a
dalodd tuag at ailadeiladu rhannau o'r corn. Gofynnodd yr Aelodau a allai
Swyddogion gadarnhau pa rannau o'r corn simnai oedd bellach yn anniogel ac os
oedd angen, a allai'r cyngor wneud cais am grant arall i helpu gyda'r
ailadeiladu. Nodwyd bod yr arolwg diweddar yn rhestru nad oedd y corn simnai’n
ddiogel; byddai angen i'r swyddogion technegol edrych ar hyn er mwyn nodi pa
rannau penodol oedd yn anniogel. Cadarnhaodd swyddogion ei bod yn bosib gwneud
cais am grant arall ac y byddai angen iddynt ymchwilio ymhellach i hyn er mwyn
darganfod beth oedd ar gael ar hyn o bryd.
Cafwyd trafodaeth ynglŷn
â'r pryderon iechyd a diogelwch a nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Gofynnwyd pam nad oedd unrhyw un o'r materion hyn wedi'u hamlygu o'r blaen, gan
gymryd bod yr holl wiriadau iechyd a diogelwch yn cael eu cynnal cyn i'r
amgueddfa agor bob blwyddyn. O ran y gwaith atgyweirio, nodwyd na fu unrhyw
arian ar gael i ymgymryd â'r gwaith; roedd canllawiau clir y gwahanol dimau o
syrfëwr a wnaeth y gwaith yn cadarnhau na fyddai'n werth am arian i ymgymryd
â'r gwaith hwnnw ar ei ben ei hun ac y dylid ei ystyried fel cynllun gwaith
cyffredinol. Dywedodd swyddogion fod arolygon iechyd a diogelwch gweledol yn
cael eu cynnal bob blwyddyn, ond roedd yr arolwg penodol hwn yn fanylach a bod
arbenigwyr yn ymwneud â hyn i helpu i ddeall natur y problemau ac i roi syniad
am gost atgyweiriadau.
Gofynnodd yr Aelodau pwy
fyddai'n rhan o'r Gweithgor Cefn Coed a ailsefydlwyd a dywedasant yr hoffent
weld Swyddogion, Cynghorwyr a gweithwyr Cyngor Castell-nedd Port Talbot a oedd
yn frwd dros yr amgueddfa’n ymwneud â hyn. Nodwyd bod y cynnig presennol yn
rhestru mai'r Cadeirydd fyddai'r Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes;
Roedd swyddogion wedi cael cyngor gan unigolion a oedd yn adnabod yr amgueddfa
orau, ac roedd ganddynt wybodaeth am yr hanes a'r brwdfrydedd amdani. Cynigiwyd
ar hyn o bryd i'r unigolion canlynol fod yn aelodau o'r Gweithgor:
·
Swyddog Addysg Treftadaeth
·
Rheolwr yr Amgueddfa
·
Rheolwr Twristiaeth CNPT
·
Pennaeth Eiddo ac Adfywio CNPT neu Reolwr Adfywio a
Datblygu Economaidd CNPT
·
Rheolwr Eiddo a Phrisio CNPT
·
Uwch-syrfëwr o Lywodraeth Cymru
·
Cynghorydd amgueddfeydd Llywodraeth Cymru
·
Cynrychiolydd o CADW
Ychwanegwyd y byddai'r
Gweithgor yn cyfarfod â'r rhanddeiliaid â diddordeb i ddechrau ac yn llywio'r
hyn a oedd yn bwysig i'r cyfleuster a'r gymuned, cyn cwblhau gwaith gan gynnwys
y diwydrwydd dyladwy yr oedd ei angen; yn dilyn hyn, byddai'r Gweithgor yn llunio
cynigion cynaliadwy a phriodol, cyn eu cyflwyno i gyfarfod priodol y pwyllgor.
Cadarnhaodd swyddogion y byddent yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r
rhanddeiliaid sydd â diddordeb ar bob adeg ac yn datblygu cynllun cyfathrebu a
fydd hefyd yn rhoi gwybod i'r Aelodau lleol sut y cyfathrebir â hwy a pha mor
aml.
Trafododd y Pwyllgor y
cysylltiad â CADW yn y prosiect penodol hwn. Soniodd swyddogion eu bod yn
gweithio'n aml gyda CADW ar wahanol adeiladau, ac yn gwerthfawrogi anhawster eu
swydd a oedd yn cynnwys cadw treftadaeth; Gweithiodd swyddogion gyda CADW i
geisio dod o hyd i ateb a oedd yn dderbyniol i bob parti.
Awgrymwyd y dylai'r tri Aelod
lleol a'r Aelod Cabinet perthnasol fod yn rhan o Weithgor Cefn Coed wrth symud
ymlaen gan fod eu mewnbwn yn werthfawr. Hysbyswyd yr Aelodau y byddai'r
Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd, y Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden
a Dysgu Gydol Oes a'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio yn trafod o ran llunio proses i
gynnwys y rheini a grybwyllwyd.
Mynegodd yr Aelodau botensial
y safle, yn enwedig o ran twristiaeth. Cadarnhaodd swyddogion eu bod wedi
ymrwymo i archwilio'r holl bosibiliadau ar gyfer datblygu'r safle yn y dyfodol
a gobeithiwyd fod yr adroddiad a ddosbarthwyd yn egluro'r gwaith diweddar a
wnaed. Anogodd y Prif Weithredwr y rheini a oedd â syniadau ynglŷn â'r hyn
y gellid ei gyflwyno yn Amgueddfa Glofa Cefn Coed i ymgysylltu â Swyddogion a
phwysleisiodd hefyd bwysigrwydd ymgysylltu â'r asiantaethau allanol.
Gofynnwyd sut y byddai'r eitem
hon yn cael ei thrin wrth symud ymlaen o ran y trefniadau Craffu; soniwyd na
ddylid edrych ar hyn ar ei ben ei hun, ac yn hytrach ei gynnwys fel un rhan o
strategaeth ehangach ar gyfer Castell-nedd Port Talbot. Hysbyswyd yr Aelodau
fod y Cyfansoddiad yn manylu ar y gwahanol swyddogaethau a neilltuwyd i bob
Pwyllgor Craffu unigol, ond lle'r oedd themâu'n croesi ar gyfer materion,
gellid hwyluso Cyd-bwyllgorau Craffu; er mwyn penderfynu sut y dylid hwyluso'r
cyfarfod, byddai angen i Swyddogion ymchwilio i'r pwnc a hefyd ystyried barn
Cadeiryddion y Pwyllgorau Craffu perthnasol.
Rhannodd yr Aelodau eu
pryderon mewn perthynas â hwyluso Cyd-bwyllgorau Craffu ar gyfer y pwnc hwn. O
ran portffolios, esboniwyd bod Portffolios y Cabinet yn cael eu pennu gan
Arweinydd y Cyngor, a'r confensiwn o fewn Cyfansoddiad y Cyngor oedd y dylai'r
portffolios Craffu adlewyrchu portffolios y Cabinet; yn ei hanfod, mater i'r
Arweinyddiaeth oedd adeiladu'r portffolios gwleidyddol. Fodd bynnag, dywedwyd
pe bai'n ddymuniad gan yr Aelodau, y gallai Swyddogion nodi mecanwaith o fewn y
fframwaith a'r Cyfansoddiad a fyddai'n caniatáu i'r math cywir o graffu
ddigwydd ar y mater penodol hwn.
Darparodd swyddogion eglurder
ynghylch proses y mater penodol hwn; bydd y llywodraethu'n cael ei sefydlu ac
yna bydd Swyddogion yn ymgynghori â'r Pwyllgorau perthnasol ac yn sicrhau bod
yr adroddiadau cynnydd yn mynd yn ôl at ba Bwyllgor bynnag y penderfynwyd bod
ganddo buddsoddi diddordeb yn y mater hwn. Hysbyswyd yr Aelodau fod y portffolios yn gorgyffwrdd; mae'r materion
sy'n ymwneud â'r ystâd a thwristiaeth yn dod o fewn portffolio'r Pwyllgor
Craffu Adfywio a Datblygu Cynaliadwy ac mae'r materion diwylliant mewn
perthynas â'r amgueddfa yn dod o fewn portffolio'r Pwyllgor Craffu Addysg,
Sgiliau a Diwylliant.
Cafwyd trafodaeth ynglŷn
â pherfformiad y gwaith ar yr eiddo a chan y syrfëwr, a gofynnodd yr Aelodau a
allai Swyddogion roi mwy o eglurder ar hyn. Cadarnhaodd swyddogion fod rhaglen
dreigl o arolygon ar gyfer yr holl adeiladau sy'n eiddo i'r cyngor; roedd un syrfëwr
yn cynnal arolygon yn ogystal â chyflawni rôl syrfëwr rheoli cyfleusterau'r
cyngor. Oherwydd nifer o ffactorau megis nifer yr adeiladau, yr elfen amser a'r
newid o ran blaenoriaethu adeiladau, nodwyd mai dim ond unwaith bob 5-6 blynedd
y byddai rhai adeiladau'n cael eu harolygu, sy'n golygu na fyddai materion yn
cael eu nodi'n rheolaidd. Fel y soniwyd eisoes, roedd yr arolwg penodol hwn yn
fath arbenigol iawn o waith arolygu; fel arfer byddai syrfewyr y cyngor yn
cwblhau arolwg gweledol ac yn codi unrhyw faterion y gallent eu gweld eu
hunain, a fyddai wedyn yn cael eu hystyried ymhellach gyda thîm strwythurol
mewnol bach y cyngor. Dywedwyd y byddai'r safleoedd mwy cymhleth yn aml yn
gofyn am waith arolygu allanol, a oedd yn ddrud ac yn cymryd cryn amser i'w gwblhau.
Tynnodd swyddogion sylw at y ffaith na wnaethant synnu bod rhagor o faterion
wedi'u nodi pan gwnaed y gwaith arolwg allanol, gan ei bod yn aml yn wir y bydd
nifer o faterion eraill yn deillio o'r mater gwreiddiol; roedd hefyd yn ofynnol
dod o hyd i gyllid pellach yn aml er mwyn datrys y problemau.
Gofynnwyd i swyddogion a oedd
trefn arolwg bresennol y cyngor mor effeithiol a digonol ag yr oedd angen iddi
fod. Er mwyn gwneud mwy o waith arolygu nag a wneir ar hyn o bryd, dywedwyd y
byddai angen llawer mwy o syrfewyr, yn enwedig pe baent yn gwneud y math o
waith y mae'r syrfewyr allanol yn ei gwblhau. Hysbyswyd yr Aelodau fod syrfewyr
Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn cwblhau ymweliadau safle ar gyfer yr holl
adeiladau, ond mae rhai cynghorau eraill yng Nghymru yn cwblhau hyn fel ymarfer
bwrdd gwaith.
Mynegodd yr Aelodau
bwysigrwydd twristiaeth a gofynnwyd a ellid ychwanegu rhagor o Swyddogion
Twristiaeth at y tîm er mwyn helpu gyda llwythi gwaith presennol ac yn y
dyfodol. Dywedwyd y gwnaed penderfyniad yn 2017 i ailgyflwyno'r Tîm
Twristiaeth; penderfynwyd bryd hynny y byddai mwy o flaenoriaeth yn cael ei
rhoi i dwristiaeth. Fodd bynnag, nodwyd bod y tîm yn fach iawn ac yn cynnwys
dau aelod o staff yn unig. Esboniodd swyddogion fod cyfle drwy'r broses graffu
i Aelodau gael yr wybodaeth ddiweddaraf am waith y tîm; ar hyn o bryd roedd y
Pwyllgor Craffu Adfywio a Datblygu Cynaliadwy'n derbyn diweddariadau cyfnodol
ar y pwnc hwn. Soniwyd bod y pandemig wedi amharu'n sylweddol ar rai o'r
rhaglenni yr oedd y tîm wedi bod yn gweithio arnynt; serch hynny, roedd
cynlluniau ar y gweill i lansio'r brand marchnata cyrchfannau newydd yn
ddiweddarach yn y flwyddyn. Wrth i'r cyngor symud ymlaen a dechrau meddwl am y
broses adfer, tynnodd swyddogion sylw at y ffaith y byddai angen ystyried
blaenoriaethau'r cyngor a sut i ddefnyddio'r adnoddau sydd ar gael; fodd
bynnag, byddai cyfyngiadau bob amser oherwydd arian a bu'n rhaid i'r cyngor
hefyd sicrhau fod blaenoriaeth yn cael ei rhoi i'r nifer sylweddol o
ddyletswyddau statudol.
Yn dilyn pryderon a gyflëwyd
gan Aelodau mewn perthynas â'r diffyg datblygu ar y safle, rhoddodd y Prif
Weithredwr sicrwydd y byddai ymrwymiad gwirioneddol gan Swyddogion i edrych ar
sut y gellid datblygu'r safle hwn. Dywedwyd mai diben yr adroddiad oedd darparu
gwybodaeth ffeithiol a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am Amgueddfa
Glofa Cefn Coed, ond roedd Swyddogion yn cydnabod y siom yr oedd colli'r grant
wedi'i achosi. Ychwanegwyd bod Swyddogion yn croesawu awgrymiadau'r Aelodau
mewn perthynas â phwy allai roi mewnbwn a helpu'r cyngor i archwilio sut y
gellid datblygu'r safle.
Tynnwyd sylw at y ffaith bod
nifer o ffyrdd o sicrhau y byddai'r holl Aelodau'n cael eu cynnwys yn y
strwythurau a sefydlwyd mewn perthynas â'r mater hwn. Fel yr awgrymwyd, gellid
cynnwys yr Aelodau Lleol a'r Aelod Cabinet yn y strwythur a byddai Swyddogion
yn edrych ar wahanol ffyrdd o wneud hyn; yn ogystal ag ymgynghori â'r Aelodau i
sicrhau bod eu barn yn cael ei hystyried. O ran Craffu yn y dyfodol, pe bai'r
Aelodau Craffu Addysg, Sgiliau a Diwylliant a Chraffu Adfywio a Datblygu
Cynaliadwy yn dymuno bod yn rhan o'r gwaith parhaus o fonitro'r eitem hon, yna
gellid gwneud hyn drwy raglennu'r Blaenraglen Waith Craffu.
Trafododd y Pwyllgor
ffurfioldebau Gweithgor Cefn Coed; darparodd Pennaeth y Gwasanaethau
Cyfreithiol a Democrataidd eglurder ar y mater a'r swyddogaethau a fyddai gan y
Grŵp a’r ffyrdd posib o gynnwys eraill yn hyn.
Cynigiwyd a chytunwyd y dylid
ychwanegu'r canlynol at yr argymhelliad yn yr adroddiad a ddosbarthwyd:
·
Mewn perthynas â Gweithgor Cefn Coed, ceisir barn y tri
Aelod Lleol a'r Aelod Cabinet perthnasol ar gyfnodau allweddol
·
Caiff adroddiadau eu cyflwyno i'r Pwyllgorau Craffu
perthnasol yn rheolaidd gyda diweddariadau.
Yn dilyn craffu, nodwyd
cynnwys yr adroddiad.