Cofnodion drafft

Joint Meeting of the Cabinet / Education Skills and Culture / Regeneration and Sustainable Development Scrutiny Committees - Dydd Mercher, 2ail Mehefin, 2021 2.00 pm

Lleoliad arfaethedig: Via Microsoft Teams

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cadeirydd a Dirprwy Gadeirydd

Cofnodion:

Cytunwyd y dylid penodi'r Cynghorydd S Hunt yn Gadeirydd a bod y Cynghorydd S Rahaman yn cael ei benodi'n Is-gadeirydd ar gyfer y cyfarfod ar y cyd hwn .

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Gwnaeth yr aelodau canlynol ddatganiad o fuddiant ar ddechrau'r cyfarfod:

 

Y Cynghorydd Sian Harris Parthed: Diweddariad Amgueddfa Cefn Coed gan ei bod yn aelod o'r grŵp llywio blaenorol ar gyfer Amgueddfa Glofa Cefn Coed a sefydlwyd gan CBSCNPT, ac mae'n aelod o Gyfeillion Glofa Cefn Coed ar hyn o bryd.

 

Y Cynghorydd Steve Hunt Parthed: Diweddariad Amgueddfa Cefn Coed gan ei fod yn aelod o'r grŵp llywio blaenorol ar gyfer Amgueddfa Gwaith Glo Cefn Coed a sefydlwyd gan CBSCNPT

 

 

3.

Diweddariad Amgueddfa Cefn Coed (wedi’i amgáu o fewn Papurau'r Cabinet)

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor yr wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun gwaith arfaethedig a'r materion iechyd a diogelwch sy'n dod i'r amlwg ar safle amgueddfa Cefn Coed; roedd yr adroddiad hefyd yn darparu gwybodaeth am Weithgor Cefn Coed a fyddai'n cael ei sefydlu i helpu i lunio cynlluniau ar gyfer y safle yn y dyfodol.

Hysbyswyd yr Aelodau y gwnaed cais am grant i Lywodraeth Cymru am tua £1.8 miliwn, a oedd wedi'i gymeradwyo; roedd yn ofynnol i'r cyngor gyfrannu gweddill yr arian sydd ei angen i baratoi cynllun (£800,400 fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd).

Dywedwyd bod y cynllun gwreiddiol a grëwyd yn ceisio cyflawni nifer o elfennau gan gynnwys canolfan ymwelwyr newydd, gwaith allanol ac ardal chwarae awyr agored. Cynhaliwyd diwydrwydd dyladwy cychwynnol ar y safle a gododd nifer o gwestiynau allweddol ac a oedd yn golygu bod angen ymarfer diwydrwydd dyladwy manylach; roedd hyn yn cynnwys ymchwilio ymhellach i nifer o faterion, gan gynnwys ymgynghori â CADW, ac o ganlyniad i'r gwaith hwn, daeth yn amlwg nad oedd modd parhau â'r cynllun gwreiddiol ac felly cyflwynwyd cynnig arall. Tynnwyd sylw at y ffaith nad oedd modd datblygu'r cynllun diwygiedig oherwydd yr elfennau amser dan sylw; byddai wedi cymryd tua 18 mis i'w ddatblygu, ond roedd yn rhaid i'r cyngor wario'r arian o fewn 4-5 mis (erbyn mis Mawrth 2021). O ganlyniad i hyn, cytunwyd â Llywodraeth Cymru y byddai'r cyngor yn cwblhau gwaith arolygu yn lle, er mwyn deall y materion ar y safle a sicrhau bod y cyngor mewn sefyllfa dda i wneud cais am arian, pe bai rownd arall o arian grant ar gael.

Cadarnhaodd swyddogion fod y gwaith arolygu wedi'i gwblhau a thynnwyd sylw at nifer o faterion; un ohonynt oedd y pryderon iechyd a diogelwch presennol ar gyfer y safle. Soniwyd y byddai'n costio dros £1 filiwn i'r cyngor ddelio â'r pryderon iechyd a diogelwch. Mewn perthynas â'r gwaith yr oedd Swyddogion yn ei gynnig fel rhan o'r cynllun diwygiedig, nodwyd mai'r awgrymiadau cychwynnol oedd y byddai hyn yn costio dros £8 miliwn.

Rhannodd yr Aelod lleol dros y Creunant, a oedd yn bresennol yn y cyfarfod, bryderon ynglŷn ag elfennau o'r adroddiad a ddosbarthwyd, ac ailadroddodd werth y safle ar gyfer y gymuned leol a thu hwnt. Rhannodd yr Aelod lleol wybodaeth hefyd am hanes y safle a meddyliau a phrofiadau personol gan gynnwys y rheini y tynnwyd sylw atynt gan ymwelwyr â'r amgueddfa.

Nododd yr adroddiad a ddosbarthwyd fod y cyngor wedi prydlesu tua 1.6 erw o dir ac adeiladau, gan gynnwys Amgueddfa Glofa Cefn Coed, o Lywodraeth Cymru a oedd i fod i ddod i ben yn 2077; dan delerau'r brydles, roedd y cyngor yn gyfrifol am yr holl faterion atgyweirio a chynnal a chadw. Cododd yr Aelodau nifer o ymholiadau mewn perthynas â'r gwaith atgyweirio yr oedd angen ei wneud ar safle'r amgueddfa; gofynnwyd a oedd unrhyw faterion wedi'u codi pan oedd yr amgueddfa ar agor, ac os felly pam nad aethpwyd i'r afael â'r materion hyn. Esboniodd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.