Lleoliad: Via Microsoft Teams / Hybrid in Council Chamber
Cyswllt: Chloe Plowman
Rhif | Eitem | ||
---|---|---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Codwyd y gwall canlynol o ran Eitem rhif 6 ar yr
Agenda, Datganiad o Gyfrifon 2021/22: · Roedd yr adroddiad yn manylu ar
dudalen 79 fod yr eitem ‘er gwybodaeth’, fodd bynnag dylid nodi bod yr
adroddiad i’w benderfynu arno. |
|||
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau. |
|||
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 522 KB Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod blaenorol a
gynhaliwyd ar 27 Medi 2022 fel cofnod cywir. |
|||
Rhaglen Waith ac Amserlen Archwilio Cymru (Diweddariad Chwarterol) PDF 380 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd y diweddaraf i'r Pwyllgor ar y gwaith a
wnaed gan Swyddfa Archwilio Cymru hyd at 30 Medi 2022.
|
|||
Archwilio Cymru - Adroddiad Archwilio Cyfrifon 2021/22 PDF 217 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd yr adroddiad a ddosbarthwyd yn darparu
manylion prif ganfyddiadau Archwilio Cyfrifon ar gyfer 2021-22, a gynhaliwyd
gan Swyddfa Archwilio Cymru; yn ogystal â manylion eu bwriad i gyhoeddi
adroddiad archwilio diamod ar y cyfrifon. Cadarnhawyd bod yr Archwiliad wedi'i gwblhau, a
chrynhowyd y materion i'w cyflwyno i'r Pwyllgor yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Esboniodd Swyddfa Archwilio Cymru eu bod wedi parhau i weithio gyda Thîm Cyllid
Cyngor Castell-nedd Port Talbot drwy gydol y broses gyfrifon, gan ddiolch
iddynt am eu cymorth a'u cefnogaeth yn ystod y cyfnod hwn. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y cyfrifon drafft
wedi’u derbyn ar ddiwedd mis Mai 2022, a chwblhawyd y gwaith archwilio i raddau
helaeth erbyn diwedd Medi 2022; yn amodol ar fater technegol ar asedau
isadeiledd, a oedd wedi effeithio ar awdurdodau lleol eraill yng Nghymru a
Lloegr. Nodwyd y darparwyd rhagor o fanylion ynghylch hyn yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd. Cadarnhaodd Swyddfa Archwilio Cymru fod yr
Archwilydd Cyffredinol yn bwriadu rhoi barn ddiamod ar ddatganiadau ariannol
Cyngor Castell-nedd Port Talbot, wedi iddynt gael eu cymeradwyo ac unwaith y
bydd y Swyddogion wedi darparu’r llythyr sylwadau i Swyddfa Archwilio Cymru. I gloi, amlygwyd nad oedd unrhyw faterion
arwyddocaol o'r archwiliad yr oedd angen tynnu sylw atynt; nodwyd rhai
camddatganiadau yn y cyfrifon, fodd bynnag roeddent wedi’u cywiro ers hynny.
|
|||
Datganiad o Gyfrifon 2021/22 PDF 245 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd swyddogion adroddiad ynghylch Datganiad
o Gyfrifon 2021/22, ar ôl cwblhau'r archwiliad allanol. Roedd yr adroddiad yn tynnu sylw at y newidiadau a
wnaed i'r cyfrifon ers iddynt gael eu cyflwyno i'r Pwyllgor ddiwethaf ym mis
Medi 2022; gwnaed y newidiadau mwyaf sylweddol mewn perthynas ag Eiddo,
Peiriannau ac Offer. Atgoffwyd y Pwyllgor fod Cyngor Castell-nedd Port
Talbot unwaith eto wedi derbyn barn archwilio ddiamod; a ddarperir unwaith y
bydd Swyddfa Archwilio Cymru wedi derbyn y Llythyr Sylwadau gan y cyngor. Holodd yr aelodau pam nad oedd sgôr COG (Coch,
Oren, Gwyrdd) yn erbyn cyfeiriad 'Dd' yn Adran 3 yr adroddiad a ddosbarthwyd, a
oedd yn ymwneud â' Rheolaeth Ariannol Tymor Canolig i'r Tymor Hir. Cadarnhaodd
swyddogion y dylai'r adroddiad a ddosbarthwyd fanylu ar sgôr COG gwyrdd yn
erbyn y mater penodol hwn. Gofynnwyd i swyddogion gadarnhau a oedd gwaith yn
mynd i ddigwydd ar y cynllun ariannol tymor canolig wrth symud ymlaen. Eglurwyd
y byddai'r Cabinet yn derbyn adroddiad ar 19 Ionawr 2023, a fydd yn nodi
cynigion y gyllideb ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24; bydd yr adroddiad hwn
yn nodi'r cynllun ariannol tymor canolig a'r bwlch presennol. Nodwyd y bydd swm
sylweddol o waith i'w gwblhau yn y flwyddyn ariannol nesaf, o ran mynd i'r
afael â'r bwlch hwnnw.
|
|||
Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol PDF 768 KB Cofnodion: Derbyniodd aelodau fanylion ynghylch y gwaith
archwilio mewnol a wnaed ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Llywodraethu ac
Archwilio ym mis Medi 2022. Ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor, roedd salwch
staff wedi effeithio ar y tîm eto, gyda chyfanswm o 25 niwrnod yn cael eu colli
oherwydd salwch. Nodwyd y gallai hyn effeithio ar y Cynllun Archwilio; fodd
bynnag, roedd y Rheolwr Archwilio'n adolygu'r mater hwn ar hyn o bryd. Tynnwyd sylw at y ffaith fod dau aelod o'r tîm yn
parhau â'u hastudiaethau archwilio mewnol, ac roeddent i fod i sefyll
arholiadau pellach ym mis Chwefror 2023. Cadarnhaodd swyddogion, ers cyfarfod diwethaf y
Pwyllgor, fod cyfanswm o 15 adroddiad ffurfiol wedi'u cyhoeddi; roedd manylion
y rhain wedi'u cynnwys yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Ychwanegwyd mai dim ond
un o'r archwiliadau a gynhaliwyd a arweiniodd at sgôr sicrwydd cyfyngedig; cafwyd
ymateb y Pennaeth yn atodiad tri yr
adroddiad a ddosbarthwyd. Cyfeiriwyd at R26 o'r adroddiadau ffurfiol a
gyhoeddwyd, a oedd yn ymwneud ag Ysgol Gymunedol Llangatwg; Mynegodd aelodau
bryderon ynghylch rhai o gasgliadau'r adroddiad, yn enwedig o ran y gronfa
answyddogol a bod yn rhaid ymchwilio a chywiro cyfrif banc yr ysgol. Esboniodd
y swyddogion fod y gronfa answyddogol a’r mater ynghylch y cyfrif banc yn ddau
fater ar wahân a nodwyd pan gynhaliwyd yr archwiliad; roedd y materion sy’n
ymwneud â'r gronfa answyddogol yn cael sylw, ac roedd yr anghydbwysedd cyllid
mewn perthynas â chyfrif banc swyddogol yr ysgolion. Ychwanegwyd bod Swyddogion
wedi tynnu sylw'r ysgolion at y materion hyn, a'u bod wedi cael sicrwydd y
byddant yn mynd i'r afael â'r anghydbwysedd. Hysbyswyd yr aelodau fod y tîm yn
cynnal adolygiadau ôl-archwilio, a bydd yr Archwilydd yn ailymweld â'r materion
a amlygwyd gan yr archwilydd pan fydd yn dychwelyd i'r ysgol i gynnal yr
adolygiad ôl-archwilio. Yn dilyn yr uchod, codwyd pwysigrwydd datrys y
materion sydd heb eu datrys yn yr ysgol, ynghyd â'r angen i edrych ar yr
amgylchedd ehangach i sicrhau bod gweithdrefnau eraill ar waith. Eglurodd
swyddogion fod y tîm yn archwilio'r cronfeydd answyddogol ym mhob ysgol; os yw
archwilydd yn dod o hyd i broblem mewn un ysgol benodol, y mae’n credu ei fod
yn ddifrifol neu y gallai ddigwydd yn rhywle arall, bydd yn rhannu’r wybodaeth
honno â phawb arall. Nodwyd bod yr archwilwyr sy’n gyfrifol am yr ysgolion yn
cyfarfod yn weddol reolaidd gyda Rheolwyr Busnes yr ysgol sy’n gyfrifol am y
prosesau gweinyddol o fewn yr ysgol; cynhelir y cyfarfodydd hyn o leiaf
ddwywaith y flwyddyn, ac ar sail ad hoc, pan fydd unrhyw faterion yn codi yn yr
ysgolion. Nodwyd bod gan y tîm berthynas waith dda iawn gyda'r staff yn yr
ysgolion. Cyfeiriwyd at R32 o'r adroddiadau ffurfiol a gyhoeddwyd, a oedd yn ymwneud ag Ysgol Gatholig Sant Joseff a’r Ganolfan 6ed Dosbarth; amlygodd na allai'r ysgol ddarparu digon o dystiolaeth, ar adeg yr archwiliad, mewn perthynas â datgeliadau DBS ar gyfer pedwar Llywodraethwr Ysgol. Eglurwyd bod y Llywodraethwyr wedi gwneud cais am eu datgeliadau, fodd bynnag nid oeddent wedi ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7. |
|||
Monitro Rheoli’r Trysorlys 2022/23 PDF 272 KB Cofnodion: Roedd yr adroddiad a ddosbarthwyd yn nodi camau
gweithredu a gwybodaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2022/23. Eglurwyd bod yr
adroddiad hwn wedi’i ystyried gan y Cabinet yn ystod eu cyfarfod ym mis Hydref
2022, ac roedd yn nodi manylion y gweithgarwch ers i'r adroddiad blaenorol gael
ei ddarparu i'r Pwyllgor. Nodwyd gwall ar dudalen 269 o'r adroddiad a
ddosbarthwyd; roedd y frawddeg dan adran 7 'Benthyciadau' yn darllen 'there has
been now new loan agreements entered into since the last quarterly report to
Cabinet’'. Cadarnhawyd y dylai 'now' ddarllen fel 'no'. Nodwyd bod yr adroddiad wedi dyddio erbyn hyn, ac
nad oedd yn adlewyrchu'r cyfraddau llog banc newydd etc.
|
|||
Cofrestr o Adroddiadau ac Argymhellion Rheolyddion PDF 434 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Darparwyd Cofrestr o Adroddiadau ac Argymhellion
Rheolyddion i'r Pwyllgor. Atgoffwyd yr aelodau fod yr adroddiad hwn wedi’i
gyflwyno i'r Pwyllgor er mwyn rhoi sicrwydd bod trefniadau ar waith i ystyried
argymhellion a oedd yn berthnasol i'r cyngor, a oedd wedi'u cynnwys mewn unrhyw
adroddiadau cenedlaethol neu adroddiadau lleol a gyhoeddwyd gan reoleiddwyr gan
gynnwys Swyddfa Archwilio Cymru, Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ac Estyn. Nodwyd, ers i'r gofrestr ddiwethaf gael ei
chyflwyno i'r Pwyllgor, fod 13 adroddiad cenedlaethol wedi'u cyhoeddi, dau
adroddiad lleol wedi'u cyhoeddi ac un llythyr lleol; roedd y rhain i gyd wedi'u
cynnwys yn atodiadau'r adroddiad a ddosbarthwyd. Ym mhrif gorff yr adroddiad a
gylchredwyd, rhoddodd Swyddogion drosolwg byr o gynnwys pob un o'r adroddiadau
hynny, gan nodi a oedd unrhyw argymhellion ai peidio; lle'r oedd argymhellion,
esboniwyd a oeddent ar gyfer Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol, neu'r ddau. Allan o'r 13 adroddiad cenedlaethol a gyhoeddwyd,
nodwyd bod pump ohonynt yn cynnwys argymhellion ar gyfer awdurdodau lleol, sef: - Taliadau Uniongyrchol ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Oedolion - Asesiadau Effaith Cydraddoldeb: Mwy nag Ymarfer Blwch Ticio - Menter Twyll Genedlaethol 2020-2021 - "Amser am Newid" – Tlodi yng Nghymru - Cyfle wedi’i golli' – Mentrau Cymdeithasol Dywedwyd bod y Taliadau Uniongyrchol ar gyfer
Gofal Cymdeithasol i Oedolion yn cynnwys nifer o argymhellion ar gyfer
awdurdodau lleol; datblygwyd cynllun gweithredu i ymateb i'r argymhellion, a
bydd yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod nesaf Bwrdd Gwasanaethau Cymdeithasol,
Tai a Diogelwch Cymunedol y Cabinet yn ddiweddarach yn y mis. Yn dilyn yr uchod, soniwyd bod y pedwar adroddiad
arall a'u hargymhellion yn cael eu hystyried gan Swyddogion ar hyn o bryd; bydd
y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am y
rhain, yn ogystal â diweddariad ar y cynllun gweithredu ar gyfer Taliadau
Uniongyrchol ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Oedolion, yn y cyfarfod a drefnwyd
ar gyfer mis Mawrth 2023. O’r ddau adroddiad lleol a gyhoeddwyd, nodwyd nad
oedd unrhyw argymhellion. Cyfeiriwyd at yr un llythyr lleol a dderbyniwyd
ynghylch y cynnydd o ran Sicrwydd ac Asesu Risgiau - Lleihau Carbon Esboniwyd
bod y llythyr hwn yn cynnwys un argymhelliad; bydd yr ymateb a'r cynllun
gweithredu ar gyfer yr argymhelliad hwnnw yn cael eu cyflwyno i gyfarfod nesaf
Bwrdd Gwasanaethau'r Amgylchedd, Adfywio a Strydlun y Cabinet yn ddiweddarach y
mis hwn. Sicrhawyd yr aelodau y byddent yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am hyn
yn eu cyfarfod ym mis Mawrth 2023. Roedd yr adroddiad a ddosbarthwyd yn cyfeirio at
Strategaeth DYA; cadarnhawyd mai ystyr DYA yw Datgarboneiddio ac Ynni
Adnewyddadwy.
|
|||
Cofnodion: Nodwyd bod cyfarfod arbennig o'r Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio wedi ei drefnu ar gyfer 15 Chwefror 2023. Nodwyd y Flaenraglen Waith ar gyfer y Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio. |
|||
Mynediad i gyfarfodydd That
pursuant to Section 100A(4) and (5) of the Local Government Act 1972, the
public be excluded for the following items of business which involved the
likely disclosure of exempt information as defined in Paragraph 12 and 15 of
Part 4 of Schedule 12A of the above Act. Cofnodion:
|
|||
Archwilio Mewnol - Ymchwiliadau Arbennig Cofnodion: Rhoddodd Swyddogion yr wybodaeth ddiweddaraf am bob
adroddiad ymchwiliad arbennig a gyhoeddwyd ers y cyfarfod diwethaf; gan gynnwys
manylion yr holl ymchwiliadau arbennig cyfredol. PENDERFYNWYD y
byddai'r adroddiad yn cael ei nodi. |