Cofnodion:
Derbyniodd aelodau fanylion ynghylch y gwaith
archwilio mewnol a wnaed ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Llywodraethu ac
Archwilio ym mis Medi 2022.
Ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor, roedd salwch
staff wedi effeithio ar y tîm eto, gyda chyfanswm o 25 niwrnod yn cael eu colli
oherwydd salwch. Nodwyd y gallai hyn effeithio ar y Cynllun Archwilio; fodd
bynnag, roedd y Rheolwr Archwilio'n adolygu'r mater hwn ar hyn o bryd.
Tynnwyd sylw at y ffaith fod dau aelod o'r tîm yn
parhau â'u hastudiaethau archwilio mewnol, ac roeddent i fod i sefyll
arholiadau pellach ym mis Chwefror 2023.
Cadarnhaodd swyddogion, ers cyfarfod diwethaf y
Pwyllgor, fod cyfanswm o 15 adroddiad ffurfiol wedi'u cyhoeddi; roedd manylion
y rhain wedi'u cynnwys yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Ychwanegwyd mai dim ond
un o'r archwiliadau a gynhaliwyd a arweiniodd at sgôr sicrwydd cyfyngedig; cafwyd
ymateb y Pennaeth yn atodiad tri yr
adroddiad a ddosbarthwyd.
Cyfeiriwyd at R26 o'r adroddiadau ffurfiol a
gyhoeddwyd, a oedd yn ymwneud ag Ysgol Gymunedol Llangatwg; Mynegodd aelodau
bryderon ynghylch rhai o gasgliadau'r adroddiad, yn enwedig o ran y gronfa
answyddogol a bod yn rhaid ymchwilio a chywiro cyfrif banc yr ysgol. Esboniodd
y swyddogion fod y gronfa answyddogol a’r mater ynghylch y cyfrif banc yn ddau
fater ar wahân a nodwyd pan gynhaliwyd yr archwiliad; roedd y materion sy’n
ymwneud â'r gronfa answyddogol yn cael sylw, ac roedd yr anghydbwysedd cyllid
mewn perthynas â chyfrif banc swyddogol yr ysgolion. Ychwanegwyd bod Swyddogion
wedi tynnu sylw'r ysgolion at y materion hyn, a'u bod wedi cael sicrwydd y
byddant yn mynd i'r afael â'r anghydbwysedd. Hysbyswyd yr aelodau fod y tîm yn
cynnal adolygiadau ôl-archwilio, a bydd yr Archwilydd yn ailymweld â'r materion
a amlygwyd gan yr archwilydd pan fydd yn dychwelyd i'r ysgol i gynnal yr
adolygiad ôl-archwilio.
Yn dilyn yr uchod, codwyd pwysigrwydd datrys y
materion sydd heb eu datrys yn yr ysgol, ynghyd â'r angen i edrych ar yr
amgylchedd ehangach i sicrhau bod gweithdrefnau eraill ar waith. Eglurodd
swyddogion fod y tîm yn archwilio'r cronfeydd answyddogol ym mhob ysgol; os yw
archwilydd yn dod o hyd i broblem mewn un ysgol benodol, y mae’n credu ei fod
yn ddifrifol neu y gallai ddigwydd yn rhywle arall, bydd yn rhannu’r wybodaeth
honno â phawb arall. Nodwyd bod yr archwilwyr sy’n gyfrifol am yr ysgolion yn
cyfarfod yn weddol reolaidd gyda Rheolwyr Busnes yr ysgol sy’n gyfrifol am y
prosesau gweinyddol o fewn yr ysgol; cynhelir y cyfarfodydd hyn o leiaf
ddwywaith y flwyddyn, ac ar sail ad hoc, pan fydd unrhyw faterion yn codi yn yr
ysgolion. Nodwyd bod gan y tîm berthynas waith dda iawn gyda'r staff yn yr
ysgolion.
Cyfeiriwyd at R32 o'r adroddiadau ffurfiol a
gyhoeddwyd, a oedd yn ymwneud ag Ysgol Gatholig Sant Joseff a’r Ganolfan 6ed
Dosbarth; amlygodd na allai'r ysgol ddarparu digon o dystiolaeth, ar adeg yr
archwiliad, mewn perthynas â datgeliadau DBS ar gyfer pedwar Llywodraethwr
Ysgol. Eglurwyd bod y Llywodraethwyr wedi gwneud cais am eu datgeliadau, fodd
bynnag nid oeddent wedi cael eu derbyn ar adeg yr archwiliad; Roedd swyddogion
wedi gofyn i Reolwr Busnes yr ysgol ddarparu copïau o'r datgeliadau gorffenedig
i'r Tîm ar ôl iddynt gael eu derbyn.
Yn ogystal â'r uchod, holodd yr Aelodau a oedd
peidio â chael datgeliadau DBS yn ôl mewn modd amserol yn fater cyffredinol.
Cadarnhaodd swyddogion mai’r rheswm am hyn oedd y cwblhawyd yr archwiliad tua'r
adeg yr oedd y datgeliadau DBS i fod i gael ei hadnewyddu; nid oedd yn fater yr
oedd Swyddogion yn teimlo ei fod yn arwyddocaol, a dyna pam y cafwyd sgôr
sicrwydd rhesymol.
PENDERFYNWYD: |
Bod yr adroddiad yn cael ei nodi. |
Dogfennau ategol: