Lleoliad: Via Microsoft Teams
Rhif | Eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd a Dirprwy Gadeirydd Cofnodion: Cytunwyd i benodi'r Cynghorydd L Purcell yn
Gadeirydd a phenodi'r Cynghorydd M Harvey yn Is-gadeirydd ar gyfer y cyfarfod
hwn ar y cyd. |
|
Trosolwg o'r Ymateb Rhanbarthol i COVID, gan ganolbwyntio ar Gartrefi Gofal Cofnodion: Derbyniodd y Cydbwyllgor
wybodaeth am y Trosolwg o'r Ymateb Rhanbarthol i COVID-19 a oedd yn
canolbwyntio ar Gartrefi Gofal, a nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd ac a goladwyd
gan Jack Straw, Cadeirydd Annibynnol y Grŵp Iechyd a Gofal Cymdeithasol,
ar ran y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Eithriadol. Rhoddwyd cyflwyniad gan Andrew
Jarrett, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai, a oedd yn
cynnwys cyd-destun gwahanol feysydd cyfrifoldeb rhannau elfennol y Bwrdd
Partneriaeth Rhanbarthol ac esboniad ohonynt. Tynnwyd sylw at y ffaith bod y
feirws wedi cael effaith ddofn ar y cartrefi gofal, y preswylwyr a'r staff
ledled y DU; roedd 46 o drigolion cartrefi gofal Castell-nedd Port Talbot wedi
marw, gan gynnwys un aelod o staff. Dywedwyd wrth yr Aelodau, gan
fod yr don gyntaf wedi mynd heibio bellach, fod y maes gwasanaeth ar draws
Rhanbarth Bae Abertawe am roi sicrwydd eu bod wedi gwneud yr hyn yr oedd angen
ei wneud a'r hyn yr oedd yn ofynnol iddynt ei wneud o ran diogelu cartrefi
gofal ac y byddent yn gallu ystyried y gwersi a ddysgwyd a fyddai'n helpu pe
bai ail ymchwydd. Yn gynnar iawn yn ystod y
pandemig, nodwyd bod isadeiledd ymateb brys wedi'i sefydlu a fyddai'n adrodd
wrth grŵp rheoli aur, y comisiynwyd Jack Straw i'w gadeirio; roedd yr
isadeiledd ymateb brys hefyd yn cynnwys dau gyfarwyddwr y Gwasanaethau
Cymdeithasol a Chyfarwyddwr Gweithredol y Bwrdd Iechyd. Esboniwyd bod llawer o
grwpiau a oedd yn adrodd wrth y grŵp rheoli aur, gan gynnwys grŵp
arian, a fu'n edrych ar fanylion gweithredol yr ymateb ar draws y sector iechyd
a gofal cymdeithasol. Ychwanegwyd bod y grŵp rheoli aur yn adrodd wrth y
Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Eithriadol, a sefydlwyd o ganlyniad i COVID-19. Hysbyswyd yr Aelodau fod y
Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn cynnwys tri phartner statudol, y Bwrdd
Iechyd, Cyngor Abertawe a Chyngor Castell-nedd Port Talbot, a gomisiynwyd i
ddarparu'r gwasanaeth statudol yn unigol. Nodwyd bod y Bwrdd Partneriaeth
Rhanbarthol Eithriadol wedi'i sefydlu ar ddechrau'r pandemig gyda'r tri
phartner statudol, a oedd yn golygu nad oedd y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol
cyffredinol, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o'r trydydd sector, gofalwyr, cleifion,
dinasyddion a landlordiaid cymdeithasol, wedi cymryd rhan yn y broses gwneud
penderfyniadau gan ei fod wedi'i hatal dros dro fel y gallai'r Bwrdd
Partneriaeth Rhanbarthol Eithriadol symud ymlaen gyda'r tri phartner statudol
yn gwneud y penderfyniadau. Eglurodd swyddogion fod y
Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol wedi'i sefydlu i edrych ar iechyd a gofal
cymdeithasol ar draws Rhanbarth Bae Abertawe; y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol
Eithriadol gomisiynodd yr adroddiad a ddosbarthwyd, a Phartneriaeth Gorllewin
Morgannwg yw'r enw cyffredinol ar gyfer y rhanbarth, yn ychwanegol at yr ardal
iechyd a gofal cymdeithasol. Ychwanegwyd mai'r adroddiad
oedd y cyntaf o'i fath yng Nghymru i edrych yn ôl yn feirniadol fel rhanbarth
i'r ymateb i COVID-19 mewn cartrefi gofal, fodd bynnag roedd yn debygol y
byddai llawer mwy i ddod gan fod ffocws clir ar y mater hwn ledled Llywodraeth
Cymru, y DU ac Ewrop. Hysbyswyd yr Aelodau bod Partneriaeth Gorllewin Morgannwg wedi ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2. |