Agenda a Chofnodion

Cyd-cyfarfod o Pwyllgor Craffu’r Cabinet / Addysg, Sgiliau a Diwylliant - Dydd Mercher, 21ain Hydref, 2020 2.00 pm

Lleoliad: Via Microsoft Teams

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cadeirydd ac Is-gadeirydd

Cofnodion:

Cytunwyd y dylid penodi'r Cynghorydd S Reynolds yn Gadeirydd a bod y Cynghorydd M Harvey yn cael ei benodi'n Is-gadeirydd ar gyfer y cyfarfod hwn ar y cyd.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Gwnaeth yr aelodau canlynol ddatganiad o fudd ar ddechrau'r cyfarfod:

 

A Llewelyn

Parthed:

Adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes ar y Rhaglen Strategol Gwella Ysgolion, Cynnig i sefydlu

ysgol cyfrwng Saesneg 3 - 11 oed i gymryd lle Ysgolion Cynradd Alltwen, Godre'r-graig a Llangiwg gan fod ei wraig yn athrawes yn Ysgol Gymunedol Cwmtawe ac yn llywodraethwr yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur ond mae ganddi hawl i siarad a phleidleisio.

L Purcell

Parthed:

Adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes ar y Rhaglen Strategol Gwella Ysgolion, Cynnig i sefydlu

ysgol cyfrwng Saesneg 3 - 11 oed i gymryd lle Ysgolion Cynradd Alltwen, Godre'r-graig a Llangiwg gan fod ei wraig yn athrawes yn Ysgol Gynradd Rhyd-y-fro ac yn llywodraethwr yn Ysgol Gymunedol Cwmtawe ond mae ganddi hawl i siarad a phleidleisio.

 

R Davies

Parthed:

Adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes ar y Rhaglen Strategol Gwella Ysgolion, Cynnig i sefydlu

ysgol cyfrwng Saesneg 3 - 11 oed i gymryd lle Ysgolion Cynradd Alltwen, Godre'r-graig a Llangiwg gan ei bod yn llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Godre'r-graig ac Ysgol Gyfun Ystalyfera.

 

R Phillips

Parthed:

Adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes ar y Rhaglen Stategol Gwella Ysgolion, Cynnig i sefydlu

ysgol cyfrwng Saesneg 3 - 11 oed i gymryd lle Ysgolion Cynradd Alltwen, Godre'r-graig

a Llangiwg gan ei bod yn llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Gymraeg Trebannws ac Ysgol Gynradd Gymraeg Pontardawe ond mae ganddi hawl i siarad a phleidleisio.

 

A Amor

Parthed:

 

Adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes ar y Rhaglen Strategol Gwella Ysgolion, Cynnig i sefydlu

ysgol cyfrwng Saesneg 3 - 11 oed i gymryd lle Ysgolion Cynradd Alltwen, Godre'r-graig

a Llangiwg gan ei fod yn llywodraethwr yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur ond mae ganddo hawl i siarad a phleidleisio.

 

 

 

3.

Rhaglen Strategol Gwella Ysgolion - Cynnig i sefydlu ysgol Saesneg 3-11 oed yn lle ysgolion cynradd Alltwen, Godre'r-graig a Llangiwg (wedi'i amgáu ym Mhapurau'r Cabinet)

Cofnodion:

Cyflwynwyd y Rhaglen Strategol Gwella Ysgolion i'r Aelodau, a fyddai, yn amodol ar gymeradwyaeth y Cabinet, yn ymgynghori ar gynnig i sefydlu ysgol cyfrwng Saesneg ar gyfer plant 3-11 oed yn lle Ysgolion Cynradd Alltwen, Godre'r-graig a Llangiwg; byddai'r ysgol arfaethedig yn cynnwys canolfan cymorth dysgu arbenigol a byddai mewn adeiladau newydd i dderbyn disgyblion o ddalgylchoedd presennol y tair ysgol gynradd y soniwyd amdanynt, y byddai pob un ohonynt yn cau ar 31 Awst 2024.  Esboniodd swyddogion mai un o brif ddibenion yr ymgynghoriad oedd cael sylwadau a phryderon y rhanddeiliaid sy'n gysylltiedig â'r ysgolion hynny, er mwyn cynnig yr ateb gorau posib yn ardaloedd y cymoedd.

Cynigiwyd y byddai'r ysgol newydd yn cael ei hadeiladu ar dir dan berchnogaeth y cyngor ym Mharc Ynysderw Pontardawe a byddai'n rhan o gampws cymunedol dysgu, iechyd a lles Ysgol Gymunedol Cwmtawe a Chanolfan Hamdden Pontardawe.

Pwysleisiodd swyddogion nad oedd staff, disgyblion a llywodraethwyr Ysgol Gymunedol Cwmtawe yn ymwneud i raddau mawr â’r cynnig hwn. Soniwyd yn yr adroddiad fod Cynllun Amlinellol Strategol Band B Ysgolion yr 21ain Ganrif Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cyflwyno cynnig i Lywodraeth Cymru yn flaenorol ar gyfer ysgol ganol newydd i blant 3-16 oed; fodd bynnag, yn dilyn trafodaethau anffurfiol â rhanddeiliaid, gan gynnwys llywodraethwyr a'r holl ysgolion yn y cwm, roedd cytundeb eang bod angen ysgol gynradd newydd ac nad oedd cefnogaeth i fodel 3-16. Penderfynwyd felly y dylid diwygio'r cynllun i fodel ysgol gynradd 3-11 oed.

Cafwyd trafodaeth mewn perthynas â mân-fanylion yr ysgol, a oedd yn cynnwys y canlynol:

·        Dywedwyd y byddai lle i 630 o ddisgyblion cynradd amser llawn a 140 o ddisgyblion meithrin rhan-amser yn yr ysgol arfaethedig; hon fyddai'r ysgol gynradd fwyaf yng Nghastell-nedd Port Talbot;

·        Soniodd swyddogion fod yr elfennau cynnal a chadw sydd heb eu gwneud yn yr ysgol a fyddai'n cael eu dileu yn cynnwys dros £2 filiwn ar gyfer cael gwared ar yr ysgolion cynradd a thros £1.2 miliwn yn gysylltiedig â'r pwll nofio;

·        Nodwyd yr achos dros greu'r Ganolfan Cymorth Dysgu i'w hadeiladu ar ôl cwblhau adolygiadau ar y math o leoedd a gynlluniwyd ynghyd â’r nifer a'r ddarpariaeth asesu ar draws Castell-nedd Port Talbot; nodwyd bod angen lleoedd ychwanegol ym meysydd Anhwylder y Sbectrwm Awtistig (ASA) ac Anawsterau Cymdeithasol, Emosiynol ac Ymddygiadol (ACEY). Cynigiwyd bod yr ysgol newydd yn cynnwys Canolfan Cymorth Dysgu ar gyfer hyd at 16 o ddisgyblion oed cynradd sydd â datganiad ASA;

·        Amlygodd yr adroddiad y byddai pwll nofio newydd yn cael ei sefydlu ac y byddai'n disodli pwll nofio presennol Pontardawe; mynegwyd i Lywodraeth Cymru y byddai'r pwll newydd yn darparu cyfleuster ychwanegol ynghyd â'r ganolfan hamdden, a bydd yn adnewyddu ac yn gwella'r cyfleusterau iechyd a lles yn ardal Cwm Tawe;

·        O ran cludiant, nodwyd bod y rhan fwyaf o'r disgyblion sy'n gysylltiedig â'r cynnig yn byw o fewn 2 filltir i'r safle newydd ac y byddai'r rheini a oedd yn byw mwy na 2 filltir o'r ysgol yn gymwys ar gyfer y cymorth cludiant fel a nodwyd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.