Cofnodion:
Cyflwynwyd y Rhaglen Strategol
Gwella Ysgolion i'r Aelodau, a fyddai, yn amodol ar gymeradwyaeth y Cabinet, yn
ymgynghori ar gynnig i sefydlu ysgol cyfrwng Saesneg ar gyfer plant 3-11 oed yn
lle Ysgolion Cynradd Alltwen, Godre'r-graig a Llangiwg; byddai'r ysgol
arfaethedig yn cynnwys canolfan cymorth dysgu arbenigol a byddai mewn adeiladau
newydd i dderbyn disgyblion o ddalgylchoedd presennol y tair ysgol gynradd y
soniwyd amdanynt, y byddai pob un ohonynt yn cau ar 31 Awst 2024. Esboniodd swyddogion mai un o brif ddibenion
yr ymgynghoriad oedd cael sylwadau a phryderon y rhanddeiliaid sy'n
gysylltiedig â'r ysgolion hynny, er mwyn cynnig yr ateb gorau posib yn
ardaloedd y cymoedd.
Cynigiwyd y byddai'r ysgol
newydd yn cael ei hadeiladu ar dir dan berchnogaeth y cyngor ym Mharc Ynysderw
Pontardawe a byddai'n rhan o gampws cymunedol dysgu, iechyd a lles Ysgol
Gymunedol Cwmtawe a Chanolfan Hamdden Pontardawe.
Pwysleisiodd swyddogion nad
oedd staff, disgyblion a llywodraethwyr Ysgol Gymunedol Cwmtawe yn ymwneud i
raddau mawr â’r cynnig hwn. Soniwyd yn yr adroddiad fod Cynllun Amlinellol
Strategol Band B Ysgolion yr 21ain Ganrif Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi
cyflwyno cynnig i Lywodraeth Cymru yn flaenorol ar gyfer ysgol ganol newydd i
blant 3-16 oed; fodd bynnag, yn dilyn trafodaethau anffurfiol â rhanddeiliaid,
gan gynnwys llywodraethwyr a'r holl ysgolion yn y cwm, roedd cytundeb eang bod
angen ysgol gynradd newydd ac nad oedd cefnogaeth i fodel 3-16. Penderfynwyd
felly y dylid diwygio'r cynllun i fodel ysgol gynradd 3-11 oed.
Cafwyd trafodaeth mewn
perthynas â mân-fanylion yr ysgol, a oedd yn cynnwys y canlynol:
·
Dywedwyd y byddai lle i 630 o ddisgyblion cynradd amser
llawn a 140 o ddisgyblion meithrin rhan-amser yn yr ysgol arfaethedig; hon fyddai'r
ysgol gynradd fwyaf yng Nghastell-nedd Port Talbot;
·
Soniodd swyddogion fod yr elfennau cynnal a chadw sydd
heb eu gwneud yn yr ysgol a fyddai'n cael eu dileu yn cynnwys dros £2 filiwn ar
gyfer cael gwared ar yr ysgolion cynradd a thros £1.2 miliwn yn gysylltiedig
â'r pwll nofio;
·
Nodwyd yr achos dros greu'r Ganolfan Cymorth Dysgu i'w
hadeiladu ar ôl cwblhau adolygiadau ar y math o leoedd a gynlluniwyd ynghyd â’r
nifer a'r ddarpariaeth asesu ar draws Castell-nedd Port Talbot; nodwyd bod
angen lleoedd ychwanegol ym meysydd Anhwylder y Sbectrwm Awtistig (ASA) ac
Anawsterau Cymdeithasol, Emosiynol ac Ymddygiadol (ACEY). Cynigiwyd bod yr
ysgol newydd yn cynnwys Canolfan Cymorth Dysgu ar gyfer hyd at 16 o ddisgyblion
oed cynradd sydd â datganiad ASA;
·
Amlygodd yr adroddiad y byddai pwll nofio newydd yn cael
ei sefydlu ac y byddai'n disodli pwll nofio presennol Pontardawe; mynegwyd i
Lywodraeth Cymru y byddai'r pwll newydd yn darparu cyfleuster ychwanegol ynghyd
â'r ganolfan hamdden, a bydd yn adnewyddu ac yn gwella'r cyfleusterau iechyd a
lles yn ardal Cwm Tawe;
·
O ran cludiant, nodwyd bod y rhan fwyaf o'r disgyblion
sy'n gysylltiedig â'r cynnig yn byw o fewn 2 filltir i'r safle newydd ac y
byddai'r rheini a oedd yn byw mwy na 2 filltir o'r ysgol yn gymwys ar gyfer y
cymorth cludiant fel a nodwyd yn y Polisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol;
·
Esboniwyd y byddai'r cynnig yn effeithio ar Lywodraethwyr
Ysgolion, gyda thair ysgol yn cau; byddai angen sefydlu corff llywodraethu
cysgodol tua 18 mis cyn i'r ysgol newydd agor, a byddai ganddo lawer o
gyfrifoldebau pwysig a fyddai'n cynnwys penodi'r Pennaeth. Yn dilyn hyn, byddai
angen i'r corff llywodraethu a'r Pennaeth greu strwythur staffio.
Dywedwyd bod y cyfnod
ymgynghori’n dechrau ar 3 Tachwedd 2020 ac yn para tan 5 Ionawr 2021; nodwyd
bod hyn dair wythnos yn hwy na'r angen. Esboniodd swyddogion eu bod yn bwriadu
ymestyn yr ymgynghoriad i roi'r amser ychwanegol i'r cyhoedd oherwydd sut roedd
y pandemig wedi effeithio ar weithdrefnau arferol ac oherwydd bod cyfnod y Nadolig
wedi'i gynnwys yn y dyddiadau.
Gofynnodd yr Aelodau a allai
swyddogion wneud sylwadau ar niferoedd presennol yr ysgolion cynradd o'u
cymharu â’r lleoedd posib a fyddai yn yr ysgol newydd, ac os oedd y niferoedd
hyn yn dangos y gallai ysgolion pellach gau yn y dyfodol i gyrraedd nifer y
lleoedd a nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Mynegodd swyddogion fod y
broses o ymdrin â'r niferoedd ar gyfer ysgolion newydd yn un anodd a'i bod yn
cynnwys ystyried nifer o bwyntiau:
·
Roedd swyddogion yn ymwybodol o nifer y disgyblion a oedd
yn yr ysgolion ar hyn o bryd, a thros y blynyddoedd nesaf roeddent yn rhagweld
y byddai'r niferoedd hynny'n gostwng ychydig. Nodwyd, wrth gynllunio ysgol
newydd, fod angen ystyried pob disgybl a oedd yn byw o fewn dalgylch y tair
ysgol ac ar hyn o bryd roedd tua 240 o ddisgyblion yn mynd i ysgolion eraill y
tu mewn a'r tu allan i'r Fwrdeistref Sirol; dan y Polisi Derbyniadau, gallent i
gyd hawlio lle yn yr ysgol newydd.
·
Hysbyswyd yr Aelodau ei bod yn ofynnol i swyddogion, wrth
gynllunio ysgol newydd, edrych ar y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) ac ystyried
datblygiadau tai yn y dyfodol; nododd y CDLl ar hyn o bryd fod 700 o unedau
wedi'u cynllunio ar gyfer yr ardal mewn trafodaeth dros y 5-6 blynedd nesaf a
fyddai'n denu nifer o ddisgyblion ychwanegol.
·
Soniwyd bod y tair ysgol a oedd yn rhan o'r cynnig naill
ochr i'r cwm, rhwng Rhos a Rhyd-y-fro; roedd digon o le yn y ddwy ysgol gynradd
hyn, ac felly os yw nifer y disgyblion yn fwy na nifer y lleoedd yn yr ysgol
newydd, byddai lle iddynt yn Ysgol Gynradd Rhos neu Ysgol Gynradd Rhyd-y-fro.
Ychwanegwyd ei bod yn ofynnol i swyddogion ddarparu addysg yn yr ardal
ehangach, felly roedd peidio â chynnwys y ddwy ysgol gynradd hyn yn y cynnig yn
darparu hyblygrwydd yn y dyfodol mewn perthynas â niferoedd ysgolion.
Roedd y rhesymau a amlygwyd yn
esbonio pam yr oedd yn ymddangos bod niferoedd yr ysgol newydd yn llawer mwy na
nifer y disgyblion a oedd yn yr ysgolion ar hyn o bryd ac amcanestyniadau'r
disgyblion; Roedd yn rhaid i swyddogion sicrhau y byddai Castell-nedd Port
Talbot yn gallu darparu addysg i ddisgyblion yn y Fwrdeistref Sirol yn y
dyfodol, gan ystyried yr wybodaeth gyfredol a'r CDLl.
Holodd yr Aelodau ynghylch y
trefniadau ariannu cyfalaf a refeniw ar gyfer elfen pwll nofio'r cynnig.
Dywedwyd, er bod y cynnig hwn yn canolbwyntio ar yr ysgol newydd, roedd
cyflwyno'r pwll nofio’n caniatáu Aelodau i ystyried yr holl ffactorau o ran
ariannu; cyfanswm y pecyn ariannu oedd tua £22.5 miliwn a byddai Llywodraeth
Cymru’n ariannu 65% o'r cyfanswm. Tynnodd swyddogion sylw at y ffaith bod y
pwll nofio wedi ychwanegu tua £8 miliwn at y datblygiad a bod 65% o'r £8 miliwn
yn dod dan ddull ariannu ysgolion yr 21ain ganrif, gan y byddai dros 2,000 o
ddisgyblion yn elwa o ran iechyd a lles. Hysbyswyd yr Aelodau fod y pwll
nofio’n rhan o elfen gyfalaf y cynnig ac o ran ariannu a chyfalaf, roedd y
cyfan yn un cynllun; roedd refeniw ychydig yn wahanol gan fod Hamdden Celtic ar
hyn o bryd yn rhedeg cyfleusterau hamdden y Fwrdeistref Sirol. Ychwanegwyd y byddai'r
pwll nofio’n cael ei reoli gan y gweithredwr hamdden ac y byddai costau rhedeg
y pwll yn cael eu rheoli gan y gyllideb hamdden. Roedd rhai o'r arbedion
effeithlonrwydd a nodwyd drwy gael y ddau gyfleuster ar yr un safle’n cynnwys y
ffaith mai dim ond un dderbynfa/derbynnydd fyddai ei angen yn lle dau a
byddai'n darparu mynediad uniongyrchol i ddisgyblion mewn sawl ysgol.
Yn dilyn y drafodaeth,
gofynnodd yr Aelodau a fyddai balans y cyllid, a dichonoldeb y peth, yn dibynnu
ar y pecyn cyfan yn cael ei gymeradwyo; pe bai un o'r ysgolion yn dewis peidio
ag ymrwymo, er enghraifft, a fyddai hyn wedyn yn effeithio ar y cyllid.
Dywedodd swyddogion y byddai newidiadau sylweddol i'r achos busnes, megis ysgol
yn dewis peidio ag ymrwymo, yn arwain at orfod cyflwyno achos busnes newydd i
Lywodraeth Cymru; fodd bynnag, byddai'r achos wedyn yn cael ei wanhau gan y
byddai llai o ddisgyblion yn cael mynediad uniongyrchol at y manteision a
ddisgrifiwyd, a byddai'n llai tebygol y byddai Llywodraeth Cymru’n cymeradwyo'r
cais am gyllid.
Gan fod llawer o ddisgyblion
yn mynd i Ysgol Alltwen, gofynnodd yr Aelodau am ragor o wybodaeth mewn
perthynas â'r ymateb o'r ymgynghoriadau anffurfiol. Eglurodd swyddogion fod y
rheini a oedd yn rhan o'r ymgynghoriad anffurfiol yn cytuno'n gyffredinol fod
angen ysgol gynradd newydd ar gyfer y cwm a bod ganddynt farn debyg nad oedd
angen ysgol 3-16 oed; roedd y rheini a gymerodd ran yn y drafodaeth yn pryderu
y byddai ychwanegu pedair ysgol yn yr ardal yn ormod, felly roeddent yn
cefnogi'r math o gynnig a gynhwyswyd yn yr adroddiad. O ran Ysgol Gynradd
Alltwen, nodwyd bod ganddi broblemau sylweddol iawn o ran yr adeiladau a llawer
o adeiladau dros dro; nid oedd yn safle a fyddai'n hawdd ei ddatblygu ac nid
oedd ganddo nifer mawr o ddisgyblion o'i gymharu ag ysgolion cynradd mwy
newydd.
Gofynnwyd pa ystyriaeth a
roddwyd hyd yn hyn i'r effaith ar y Gymraeg. Eglurodd swyddogion mai'r cam
nesaf, yn amodol ar gymeradwyaeth y Cabinet, fyddai cwblhau asesiad effaith
llawn a fyddai'n cynnwys yr effaith ar y Gymraeg, fel y byddai'r manylion a'r
ffeithiau llawn ar gael pe bai'r Aelodau'n gwneud penderfyniad am y cynnig, os
a phryd y daw'r amser.
Manylwyd mai teitl gweithredol
yr ysgol oedd "Ysgol Newydd ar gyfer Cwm Tawe"; Tynnodd yr Aelodau
sylw at y ffaith nad oedd y teitl hwn yn gwneud synnwyr a gofynnodd a ellid ei
newid, a nododd a chadarnhaodd swyddogion hyn.
Nodwyd bod gan Godre'r-graig
ganran uchel iawn o ddisgyblion o'r dalgylch, gan adlewyrchu mai ysgol
bentref/gymunedol ydoedd; bwriadwyd i'r trosglwyddiad i Bontardawe fod yn
rhywbeth dros dro, felly gofynnodd yr Aelodau am yr wybodaeth ddiweddaraf am
statws lliniaru'r rwbel o’r chwarel a/neu sefydlu ysgol newydd ar gyfer y
gymuned ar safle amgen. Dywedwyd y byddai unrhyw gynnig a fyddai'n cael ei
gyflwyno fel rhan o'r broses ymgynghori’n cael ei ystyried yn briodol ac y
byddai'n cael ei adrodd yn ôl i'r Aelodau. Esboniodd swyddogion, er bod Ysgol
Gynradd Godre'r-graig mewn llety dros dro ar hyn o bryd, nad oedd yr ysgol yn
rhan o'r cynnig oherwydd y sefyllfa honno, a'i bod yn ofynnol cynnwys yr
wybodaeth hon yn yr adroddiad gan ei bod yn ffactor a oedd yn effeithio ar
Godre'r-graig ar hyn o bryd. Hysbyswyd yr aelodau fod cynigion ad-drefnu
ysgolion bob amser yn cael eu cyflwyno yn seiliedig ar y 4 egwyddor (Safonau
Addysgol, Angen am Leoedd a Hygyrchedd Ysgolion, Ansawdd Llety a Rheolaeth
Ariannol Effeithiol) ac o edrych ar yr egwyddorion hynny, cytunwyd bod yr ysgol
yn addas i ymgynghori â rhanddeiliaid yn ei chylch mewn perthynas â darparu addysg
21ain ganrif i'r disgyblion. Ychwanegwyd bod Godre'r-graig wedi'i chynnwys yn y
cynnig cyntaf yn 2015, yn ogystal â'r cynnig presennol, felly hyd yn oed os nad
oedd yr ysgol mewn adeiladau dros dro, byddai'n dal i gael ei chynnwys yn y
cynnig.
Mynegodd yr Aelodau bryderon
am y cyhoedd yn gallu ymateb i'r ymgynghoriad heb gael manylion mewn perthynas
â'r ffordd fynediad i'r ysgol newydd arfaethedig; tynnwyd sylw at y ffaith bod
y ffordd bresennol eisoes wedi'i hasesu fel un a oedd â nifer o broblemau o ran
diogelwch priffyrdd a bod llawer mwy o ddisgyblion y byddai angen eu cludo ar
hyd y ffordd honno pe bai'r cynnig yn cael ei gytuno. Tynnwyd sylw at y ffaith
y byddai materion a godwyd ynghylch mynediad yn amod cynllunio; mae prosesau
cynllunio'r cyngor yn gofyn am gynllunio cyn cyflwyno cais a phroses gynllunio
lawn, y mae'r ddwy ohonynt yn brosesau trwyadl iawn. Felly, pe bai'r cynigion
yn cael eu cymeradwyo a'u symud i'r cam cynllunio, byddai'r rheini a oedd wedi
mynegi pryderon yn cael gwybodaeth lawn am y mater hwn.
Nodwyd yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd fod y Cynllun Teithio i'r Ysgol yn mynnu bod pob ysgol, ynghyd â
Thîm Diogelwch Ffyrdd y Cyngor, wedi ymrwymo i wella diogelwch ffyrdd yn y
gymuned leol a chynyddu ymwybyddiaeth o broblemau teithio; Gofynnodd yr Aelodau
a allai swyddogion gadarnhau bod y cynnig yn bodloni'r gofynion hynny. Soniwyd
bod Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, o safbwynt priffyrdd, yn galluogi i ran
sylweddol o'r gyllideb gael ei neilltuo ar gyfer gwella priffyrdd; ni fyddai caniatâd
cynllunio’n cael ei roi oni bai fod y trefniadau rheoli traffig yn yr ardal
honno’n cael eu gwella'n sylweddol. Ychwanegwyd bod gan y safle arfaethedig
lawer o dir a lle ar gyfer ffactorau megis bysus sy'n troi a pharcio ar gyfer
staff, a fyddai'n helpu o ran hygyrchedd. Roedd swyddogion yn hyderus, pe
penderfynir bwrw ymlaen â’r cynllun, y byddai'r sefyllfa bresennol yn cael ei
gwella oherwydd gofynion adrannau Priffyrdd a Chynllunio'r cyngor, gan ei bod
wedi bod yn broses debyg ar gyfer datblygiadau ysgol newydd eraill yn y
Fwrdeistref Sirol.
Tynnodd yr Aelodau sylw at y
ffaith bod yr adroddiad yn manylu ar bryderon ynghylch yr effaith bosib ar
ddisgyblion meithrin, a gofynnodd sut y byddai hyn yn cael sylw yn y cynnig.
Cadarnhaodd swyddogion fod y pryderon wedi'u mynegi yn ystod y trafodaethau
anffurfiol ac y byddai'r cyfnod ymgynghori’n nodi graddau'r problemau hyn;
Byddai angen i swyddogion ddeall o hyn, pa mor arwyddocaol yw'r broblem ac i
faint o bobl er mwyn ymateb.
Mewn perthynas â'r opsiwn chwech
a ffefrir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, a oedd yn rhagweld y byddai 140 o
ddisgyblion meithrin yn mynychu'r dosbarth meithrin, gofynnodd yr Aelodau pa
mor hyderus oedd swyddogion y byddai cynifer â hyn yn mynychu; dywedwyd y
byddai swyddogion, o ystyried profiadau'r gorffennol, yn hyderus y byddai'r
dosbarth meithrin yn llawn.
Yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd, roedd Meysydd Chwarae Cymru wedi dweud ei fod yn ymatebol i newid
lleol ac yn hyblyg wrth ymwneud â pherchnogion tir ac y bydd yn hapus i ystyried
y posibilrwydd o gyfnewid tir i ddarparu lle ar gyfer yr ysgol newydd; Mynegodd
yr Aelodau eu pryder ynghylch colli rhannau o'r tir a oedd yn addas ar hyn o
bryd ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys chwaraeon a lle chwarae i
blant. Soniodd swyddogion fod trwyddedau'r caeau chwarae yn rhan o’r trefniadau
prydlesu cynnal tir yr oedd pob un o gaeau chwarae'r cyngor yn rhan ohonynt; y
tîm cynnal tiroedd oedd yn gyfrifol am ddosbarthu pob gêm yn ardal Castell-nedd
a Chwm Tawe, ac ar hyn o bryd nid oedd defnydd helaeth o'r cae chwarae ym Mharc
Ynysderw. Nodwyd bod swyddogion wedi delio â Meysydd Chwarae Cymru sawl gwaith
ac roeddent yn edrych ar amrywiaeth o opsiynau gyda'i gilydd, fodd bynnag nid
oeddent yn gallu ymrwymo i unrhyw gytundebau eto; cynhaliwyd trafodaethau gyda
Meysydd Chwarae Cymru a'r rheini sy'n rhoi'r trwyddedau ynghylch y meysydd.
Yn dilyn hyn, hysbyswyd yr
Aelodau fod swm o arian yn y gyllideb £23 miliwn i wella draenio ar ddau o'r
meysydd, er mwyn sicrhau bod modd defnyddio'r caeau hynny, sy'n golygu nad oedd
cyfleuster yn cael ei golli ym Mharc Ynysderw o ran y galw. Soniwyd bod swm o
arian hefyd ar gyfer caffael tir pe bai angen ei ddefnyddio yn y dyfodol. Roedd
swyddogion wedi sicrhau'r arian i ddiogelu Meysydd Chwarae Cymru a
chyfleusterau chwarae ym Mharc Ynysderw; er y cynigiwyd adeiladu ysgol fawr a
phwll nofio, sicrhawyd yr Aelodau na fyddai amwynder yn cael ei golli, gan
gynnwys lle chwarae'r plant; yn hytrach byddai'n gwella'r hyn a oedd yno
eisoes.
Cafwyd trafodaeth ynglŷn
â manylion y cyfnod ymgynghori lle mynegodd yr Aelodau rai o'u pryderon
ynghylch y broses. Eglurodd y swyddogion fod y broses yr oeddent yn ei hawgrymu
ar gyfer yr ymarfer ymgynghori ychydig yn wahanol i'r arfer oherwydd y pandemig,
fodd bynnag ni fyddai'r ymdrech a fyddai'n gysylltiedig â hyn yn llai trwyadl.
Yn amodol ar gymeradwyaeth y Cabinet, ar ôl i'r cyfnod ymgynghori ddod i ben,
nodwyd y byddai swyddogion yn adrodd yn ôl i'r Aelodau ac yn gofyn iddynt
gymeradwyo un o dri argymhelliad; parhau â'r cynnig cyfredol, diwygio'r cynnig
neu wrthod y cynnig yn gyfan gwbl. Tynnwyd sylw at y ffaith pe bai rhywun yn
cyflwyno cynnig amgen, a oedd yn wahanol i'r wyth a gynhwyswyd yn yr adroddiad
a ddosbarthwyd, y byddai swyddogion yn ei ystyried ac yn adrodd yn llawn i'r
Aelodau ar ei fanteision a'i anfanteision.
Yn dilyn hyn, gofynnodd yr
Aelodau a ellid estyn dyddiad y cyfnod ymgynghori ymhellach. Dywedwyd bod y
dyddiadau ymgynghori wedi'u hestyn o dair wythnos, ond awgrymodd swyddogion y
gellid ychwanegu pythefnos ychwanegol at yr amserlen; pe bai'r Aelodau'n cytuno
i hyn, byddai angen diwygio'r adroddiad.
Gofynnodd yr Aelodau a
gynigiwyd ar unrhyw adeg y dylai'r ysgol newydd fod yn ysgol Gymraeg. Esboniwyd
bod yn rhaid i swyddogion, wrth ystyried cynnig ad-drefnu ysgolion, nodi sut y
trefnwyd addysg yn yr ardal; ar hyn o bryd roedd tair ysgol gynradd yn ardal
Cwm Tawe a oedd â darpariaeth Gymraeg:
·
Ysgol Gymraeg Ystalyfera – Bro Dur
·
Ysgol Gynradd Gymraeg Pontardawe
·
Ysgol Gynradd Gymraeg Trebannws
Tynnwyd sylw at y ffaith bod
lleoedd yn y maes cynradd ym mhob un o'r ysgolion hynny i gynyddu'r
ddarpariaeth Gymraeg; roedd gwaith newydd ddod i ben yn ddiweddar yn Ysgol
Gynradd Gymraeg Pontardawe lle gwariwyd £1.6 miliwn ar yr ysgol i gynyddu'r
lleoedd posib. Nodwyd bod safonau darpariaeth a nifer y lleoedd yn yr ysgolion
hynny wedi cynyddu. Ychwanegodd swyddogion, pan edrychon nhw'n wreiddiol ar y
pedair egwyddor ac adolygu'r trefniadau yn y cwm, fod y meini prawf wedi’u
harwain i'r casgliad bod angen ysgol Saesneg ei chyfrwng; gan fod darpariaeth
ddigonol yng Nghwm Tawe ar gyfer addysg Gymraeg. Hysbyswyd yr Aelodau fod yn
rhaid i'r cyngor fodloni’i ofyniad cyfalaf o 35% o gyllid; ariannwyd 35% o
arbedion effeithlonrwydd o gyllidebau ysgolion dirprwyedig, a bydd yr arbedion
a'r arbedion effeithlonrwydd a wnaed o gau'r tair ysgol a nodir yn yr adroddiad
yn galluogi'r cyngor i ariannu elfen 35% y bil cyfalaf.
Nodwyd yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd ei fod yn dweud bod y cyngor yn ymrwymedig i gefnogi staff sydd
mewn perygl o gael eu diswyddo'n orfodol ac mae wedi sicrhau cefnogaeth ac
ewyllys da cymdeithasau athrawon/undebau llafur a chyrff llywodraethu ar draws
y cyngor drwy addewid cyflogwyr. Gofynnodd yr Aelodau pwy oedd y cyflogwr yn
hyn o beth a gofynnwyd am ragor o wybodaeth am yr addewid. Cadarnhaodd
swyddogion mai'r awdurdod lleol oedd y cyflogwr, fodd bynnag rhoddwyd y
cyfrifoldeb am ymdrin â'r rhan fwyaf o benderfyniadau yn yr ysgol, gan gynnwys
staffio, i'r corff llywodraethu. Nodwyd bod yr addewid wedi'i sefydlu nifer o
flynyddoedd yn ôl, lle gofynnwyd i bob corff llywodraethu ymrwymo iddo fel y
byddai unrhyw aelodau o staff yn cael eu hystyried ymlaen llaw pe bai cynigion
ad-drefnu ysgolion yn effeithio arnynt; roedd hyn wedi dod yn arfer ac roedd y
mwyafrif helaeth o ysgolion yn y Fwrdeistref Sirol wedi anrhydeddu ymrwymiad yr
addewid. Ychwanegwyd mai ymrwymiad drwy gytundeb ydoedd ac nad oedd unrhyw
gyfrifoldeb cyfreithiol, fodd bynnag roedd yn rhywbeth yr oedd teulu'r ysgolion
wedi'i gymryd o ddifri; hyd yma nid oes neb wedi eu diswyddo'n orfodol.
Soniodd yr adroddiad y
byddai'r cyfleusterau adeiladu newydd yn cael eu rhoi 'yn agos at' Ysgol
Gymunedol Cwmtawe; Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ar yr hyn y mae 'agos at'
yn ei olygu a ble yn union y byddai safle'r ysgol a'r pwll nofio. Tynnodd
swyddogion sylw at y ffaith eu bod wedi bod mewn rhai trafodaethau â phenseiri,
fodd bynnag oherwydd camau cynnar y cynnig roedd llawer o waith o hyd yr oedd
angen ei wneud ar hyn gan gynnwys casglu'r mân-fanylion. Cadarnhawyd y byddai'r
cyfleusterau newydd gyferbyn ag Ysgol Gymunedol Cwmtawe; byddai'r lleoliad yn
sicrhau y gallai disgyblion o'r ysgol uwchradd a'r ysgol gynradd wneud defnydd
dyddiol o'r cyfleusterau hamdden gyda chyn lleied â phosib o darfu a chyn
lleied o bellter â phosib. Ychwanegwyd, o safbwynt cynllunio a phensaernïaeth,
fod pob math o reoliadau yr oedd angen eu dilyn.
Gofynnodd yr Aelodau a oedd
swyddogion wedi bod mewn cysylltiad ag unigolion fel yr heddlu, priffyrdd a
theithio cynaliadwy i drafod mater y ffordd fynediad. Cadarnhawyd bod
trafodaethau wedi dechrau â’r adran priffyrdd, a fyddai'n rhan fawr o'r broses;
roedd y cynnig hwn yn gyfle, gyda'r cyllid, i wella'r datblygiad priffyrdd nad
oedd efallai wedi bod ar gael fel arall.
O ran y pwll nofio, soniodd yr
adroddiad fod y pwll presennol yn cael ei ddefnyddio gan rai ysgolion yn yr
ardal, ond nod y cynllun oedd cynyddu'r defnydd gan ysgolion a'r gymuned
ehangach oherwydd ei leoliad craidd; Gofynnodd yr Aelodau pa dystiolaeth oedd
gan swyddogion i gefnogi hyn ac a fyddai bwlch rhwng cau'r pwll presennol ac
agor y pwll newydd. Nodwyd nad oedd Ysgol Gymunedol Cwmtawe yn defnyddio'r pwll
nofio presennol oherwydd costau cludiant, felly byddai 13,000 o ddisgyblion yn
elwa ar unwaith o'r cyfleusterau newydd; y bwriad oedd cau'r hen bwll, ac agor
y pwll newydd y diwrnod canlynol nesaf i atal colli amwynder am gyfnod o amser.
Gofynnodd yr Aelodau, pe na
bai'r opsiwn a ffefrir ar gyfer yr ymgynghoriad hwn yn cael ei dderbyn, beth
fyddai'n digwydd i'r holl gynlluniau ar gyfer y cyllid. Dywedwyd y byddai angen
i swyddogion ddechrau'r broses o'r dechrau a pharatoi achos busnes newydd i'w
gyflwyno i Lywodraeth Cymru o ran cyllid, gan mai'r opsiwn a ffefrir (rhif chwech
yn yr adroddiad a ddosbarthwyd) oedd y cynnig yr oedd swyddogion wedi sicrhau
cyllid ar ei gyfer.
Gofynnwyd i swyddogion a
oeddent wedi ystyried agwedd amgylcheddol yr ysgol gan y byddai llawer mwy o
ddisgyblion yn teithio ar fws neu gar i gyrraedd y safle; dywedwyd, yn amodol
ar gymeradwyaeth y Cabinet, y byddai asesiad effaith llawn o'r agweddau
bioamrywiaeth yn cael ei gynnal.
Cynigiwyd ac eiliwyd argymhelliad ychwanegol
ffurfiol, i'r argymhellion yn yr adroddiad a ddosbarthwyd:-
'Cyn dechrau ar y broses ymgynghori, bydd
swyddogion yn ymchwilio i weld a oedd yn ddichonadwy i Godre'r-graig gadw ysgol
gynradd bentref, naill ai ar ei safle presennol gyda buddsoddiad priodol neu
safle adeiladu newydd yn y gymuned, gydag adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r aelodau
er mwyn penderfynu a ddylid cynnwys hyn fel rhan o'r ymgynghoriad cyn dechrau
ar y broses ymgynghori'
Gofynnwyd a fyddai manylion y diwygiad ffurfiol yn
peryglu'r cais am gyllid gan Llywodraeth Cymru mewn unrhyw ffordd ac a fyddai'n
effeithio ar amserlenni'r gwaith hwn sy'n cael ei wneud. Eglurodd y swyddogion
pe bai unrhyw un o'r tair ysgol a enwir yn penderfynu tynnu'n ôl o'r cynnig, y
byddai angen datblygu cynllun ad-drefnu ysgol newydd yn ogystal ag achos newydd
am gyllid; ni fyddai'r sicrwydd a oedd gan swyddogion ar hyn o bryd mewn
perthynas â'r cyllid (65% o £23 miliwn gan Lywodraeth Cymru) yn ei le mwyach.
Tynnwyd sylw at y ffaith pe bai unrhyw un yn cyflwyno'r diwygiad arfaethedig
fel rhan o'r ymarfer ymgynghori yn lle hynny, y byddai swyddogion yn gwneud y
gwaith sydd ei angen ac yn adrodd yn ôl i'r Aelodau yn ystod y cam nesaf, er
mwyn atal oedi i'r ymgynghoriad.
Gofynnodd yr Aelodau pe byddai ysgol newydd
ychwanegol yn cael ei hadeiladu yn yr ardal, fel yr awgrymwyd yn y diwygiad
arfaethedig, o ble y byddai'r cyllid hwnnw'n dod; Byddai angen i Lywodraeth
Cymru adolygu unrhyw achos busnes posib, fodd bynnag, o brofiad blaenorol,
tynnodd swyddogion sylw at y ffaith ei bod yn annhebygol y byddai Llywodraeth
Cymru yn darparu cyllid ysgolion yr 21ain ganrif i adeiladu ysgol gynradd â lle
i 200 o ddisgyblion.
Galwyd enwau at ddibenion penderfynu ar y
bleidlais; methodd y gwelliant o ganlyniad i alw'r rhestr enwau.
Roedd aelodau'r pwyllgor craffu yn cefnogi'r cynnig
i estyn y cyfnod ymgynghori am bythefnos arall ac y dylid diwygio rhannau
priodol o’r adroddiad i adlewyrchu'r canlynol:
·
Bod yr
ymgynghoriad yn dechrau ar 3 Tachwedd 2020 ac yn dod i ben ar 19 Ionawr 2021,
mae hyn yn cynnwys y pythefnos ychwanegol.
·
Bydd yr adroddiad
ymgynghori yn cael ei gyhoeddi ar 26 Chwefror 2021.
Yn dilyn y broses graffu, roedd y Pwyllgor yn
gefnogol o’r cynigion gwreiddiol a nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd,
ynghyd â'r dyddiadau ymgynghori diwygiedig, ac iddynt gael eu hystyried gan y
Cabinet.