Darparodd y Prif Weithredwr,
Karen Jones, wybodaeth am yr oedi cyn cyhoeddi'r adroddiad ymgynghori, yn dilyn
y recordiad tâp a ymddangosodd ar y cyfryngau cymdeithasol. Penderfynwyd
gohirio'r adroddiad ymgynghori er mwyn sicrhau rhywfaint o ddiwydrwydd dyladwy
ychwanegol ar y prosesau y mae'r cyngor wedi ymgymryd â hwy wrth gyflwyno'r
cyngor. Ystyriwyd y prosesau gwneud penderfyniadau sy'n ymwneud â'r rhaglen
ad-drefnu ysgolion fel rhan o'r gwaith ychwanegol hwn. Lluniwyd adroddiad yn
dilyn y gwaith hwn. Mae casgliad yr adroddiad yn dangos y gall y cyngor fod yn
gwbl hyderus ynglŷn â'i systemau a'i brosesau. Gwnaed rhai argymhellion yn
yr adroddiad ac mae hyn yn cynnwys bod cyfarfodydd yn cael eu cofnodi'n gywir
fel y cynhelir didwylledd a thryloywder.
Mae'r adroddiad wedi'i rannu
â'r Archwilydd Cyffredinol sydd wedi dod i'r casgliad nad yw'n dymuno ymgymryd
â gwaith archwilio penodol ar hyn o bryd. Mae wedi cydnabod bod rhai eitemau
gweithdrefnol y mae angen mynd i'r afael â hwy ac mae wedi gofyn am gael gweld
y cynllun gweithredu mewn ymateb i'r argymhellion. Mae hefyd wedi dweud, pan
fydd gwaith yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus wedi'i gwblhau, y bydd yn
edrych ar y canfyddiadau bryd hynny.
Mae'r Ombwdsmon Gwasanaethau
Cyhoeddus wedi dweud nad yw'n ymwybodol o unrhyw fater a fydd yn atal yr
adroddiad ar yr agenda rhag cael ei drafod yn y cyfarfod. Mae hefyd wedi dweud
y bydd gweddill ei ymchwiliadau’n canolbwyntio ar yr aelod yn uniongyrchol ac
nid ar y materion systemig neu ehangach.
Gwahoddwyd y Cyfarwyddwr
Addysg, Andrew Thomas, i roi trosolwg ar yr eitem i'w thrafod. Rhoddodd Mr
Thomas ddiweddariad byr ynglŷn â dwy ohebiaeth a dderbyniwyd yn ddiweddar,
yn gofyn am ailystyried yr argymhelliad yn yr adroddiad. Dywedodd Mr Thomas nad
oedd awdur y llythyrau'n dymuno iddynt gael eu dosbarthu i'r aelodau. Fodd
bynnag, rhoddir copi i'r aelodau o'r ymateb a anfonir at y ddau sefydliad, ni
waeth beth fo canlyniad y cyfarfod.
Dywedwyd wrth yr aelodau fod
yr adroddiad yn nodi bod y penderfyniad yn destun galw i mewn o dridiau, fodd
bynnag bwriedir ei weithredu ar unwaith.
Mae'r Hysbysiad Statudol yn adlewyrchu'r dyddiad. Y rheswm am hyn yw pe
bai'r aelodau'n cytuno i ddatblygu'r eitem, yna mae'r 28 niwrnod o rybudd
statudol llawn i gyd yn ystod y tymor.
Dywedodd Mr Thomas yn bendant
nad oedd bwriad i gau unrhyw ysgolion eraill, ar wahân i'r tair a grybwyllwyd
ac a oedd wedi'u hatodi i'r adroddiad i'w drafod.
Aeth Mr Thomas drwy rai o'r
materion a nodwyd yn yr ymgynghoriad. Rhoddwyd sail resymegol i'r aelodau dros
safle dewisedig yr ysgol arfaethedig. Aeth Mr Thomas drwy ofynion maint yr
ysgol newydd ynghyd â nifer y disgyblion a nodwyd a thynnodd sylw at y ffaith
bod gan yr ardal arfaethedig gaeau chwarae awyr agored etc. eisoes, felly ni
fyddai angen dod o hyd i'r rhain. Ar ben hynny, does dim safleoedd eraill yn yr
ardal y mae gofyn iddynt gynnwys ysgol o'r maint arfaethedig.
Mae manteision iechyd a lles
wedi'u nodi yn yr adroddiad. Mae'r adeilad newydd ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.