Agenda item

Rhaglen Strategol Gwella Ysgolion - Cynnig i Sefydlu Ysgol Cyfrwng Saesneg 3 - 11 oed i gymryd lle Ysgolion Cynradd Alltwen, Godre'r Graig a Llangiwg, y bydd pob un ohonynt yn cau ar 31 Awst 2024 (yn amgaeëdig ym Mhapurau'r Cabinet)

Cofnodion:

Darparodd y Prif Weithredwr, Karen Jones, wybodaeth am yr oedi cyn cyhoeddi'r adroddiad ymgynghori, yn dilyn y recordiad tâp a ymddangosodd ar y cyfryngau cymdeithasol. Penderfynwyd gohirio'r adroddiad ymgynghori er mwyn sicrhau rhywfaint o ddiwydrwydd dyladwy ychwanegol ar y prosesau y mae'r cyngor wedi ymgymryd â hwy wrth gyflwyno'r cyngor. Ystyriwyd y prosesau gwneud penderfyniadau sy'n ymwneud â'r rhaglen ad-drefnu ysgolion fel rhan o'r gwaith ychwanegol hwn. Lluniwyd adroddiad yn dilyn y gwaith hwn. Mae casgliad yr adroddiad yn dangos y gall y cyngor fod yn gwbl hyderus ynglŷn â'i systemau a'i brosesau. Gwnaed rhai argymhellion yn yr adroddiad ac mae hyn yn cynnwys bod cyfarfodydd yn cael eu cofnodi'n gywir fel y cynhelir didwylledd a thryloywder.

 

Mae'r adroddiad wedi'i rannu â'r Archwilydd Cyffredinol sydd wedi dod i'r casgliad nad yw'n dymuno ymgymryd â gwaith archwilio penodol ar hyn o bryd. Mae wedi cydnabod bod rhai eitemau gweithdrefnol y mae angen mynd i'r afael â hwy ac mae wedi gofyn am gael gweld y cynllun gweithredu mewn ymateb i'r argymhellion. Mae hefyd wedi dweud, pan fydd gwaith yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus wedi'i gwblhau, y bydd yn edrych ar y canfyddiadau bryd hynny.

 

Mae'r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus wedi dweud nad yw'n ymwybodol o unrhyw fater a fydd yn atal yr adroddiad ar yr agenda rhag cael ei drafod yn y cyfarfod. Mae hefyd wedi dweud y bydd gweddill ei ymchwiliadau’n canolbwyntio ar yr aelod yn uniongyrchol ac nid ar y materion systemig neu ehangach.

 

Gwahoddwyd y Cyfarwyddwr Addysg, Andrew Thomas, i roi trosolwg ar yr eitem i'w thrafod. Rhoddodd Mr Thomas ddiweddariad byr ynglŷn â dwy ohebiaeth a dderbyniwyd yn ddiweddar, yn gofyn am ailystyried yr argymhelliad yn yr adroddiad. Dywedodd Mr Thomas nad oedd awdur y llythyrau'n dymuno iddynt gael eu dosbarthu i'r aelodau. Fodd bynnag, rhoddir copi i'r aelodau o'r ymateb a anfonir at y ddau sefydliad, ni waeth beth fo canlyniad y cyfarfod.

 

Dywedwyd wrth yr aelodau fod yr adroddiad yn nodi bod y penderfyniad yn destun galw i mewn o dridiau, fodd bynnag bwriedir ei weithredu ar unwaith.   Mae'r Hysbysiad Statudol yn adlewyrchu'r dyddiad. Y rheswm am hyn yw pe bai'r aelodau'n cytuno i ddatblygu'r eitem, yna mae'r 28 niwrnod o rybudd statudol llawn i gyd yn ystod y tymor.

 

Dywedodd Mr Thomas yn bendant nad oedd bwriad i gau unrhyw ysgolion eraill, ar wahân i'r tair a grybwyllwyd ac a oedd wedi'u hatodi i'r adroddiad i'w drafod. 

 

Aeth Mr Thomas drwy rai o'r materion a nodwyd yn yr ymgynghoriad. Rhoddwyd sail resymegol i'r aelodau dros safle dewisedig yr ysgol arfaethedig. Aeth Mr Thomas drwy ofynion maint yr ysgol newydd ynghyd â nifer y disgyblion a nodwyd a thynnodd sylw at y ffaith bod gan yr ardal arfaethedig gaeau chwarae awyr agored etc. eisoes, felly ni fyddai angen dod o hyd i'r rhain. Ar ben hynny, does dim safleoedd eraill yn yr ardal y mae gofyn iddynt gynnwys ysgol o'r maint arfaethedig.

 

Mae manteision iechyd a lles wedi'u nodi yn yr adroddiad. Mae'r adeilad newydd hefyd yn cynnwys adeiladu pwll nofio 6 lôn newydd a phwll i ddysgwyr. Nid yw'n ofynnol ymgynghori ar y rhan hon o'r datblygiad.

 

Nodwyd bod traffig yn broblem fawr yn yr ymatebion i'r ymgynghoriad traffig. Cyfeiriodd Mr Thomas at ysgolion blaenorol a ddatblygwyd gan gynnwys Cwm Brombil ac Ysgol Bae Baglan, lle rhoddwyd mesurau rheoli traffig ar waith hefyd. Oherwydd swm y gwariant cyfalaf sydd ar gael mewn perthynas ag adeiladu ysgol o'r newydd, mae cyfle i ystyried rheoli traffig yn yr ardal. Os aiff y datblygiad yn ei flaen, cynhelir Asesiad Effaith Traffig. Y contractwr penodedig fydd yn gwneud hyn a bydd angen iddo fodloni'r prosesau cynllunio gofynnol. Dylai'r dull cyffredinol o reoli draffig ar y safle arfaethedig wella oherwydd natur drylwyr y prosesau a'r gofynion fel rhan o Asesiad Effaith Traffig.

 

Trafodwyd cludiant a theithio disgyblion. Byddai'r mwyafrif helaeth o ddisgyblion a fyddai'n mynychu'r ysgol newydd yn byw o fewn 2 filltir i'r safle arfaethedig. Bydd gan unrhyw ddisgybl nad yw'n byw o fewn llwybr cerdded addas neu o fewn y 2 filltir hawl i gael cymorth gyda chludiant. Caiff gofynion eu hasesu yn nes at ddyddiad gweithredu 2024 yn seiliedig ar y disgyblion a fydd yn mynychu'r ysgol.

 

Mynegwyd pryderon ynghylch safonau a lles disgyblion. Cyfeiriodd Mr Thomas at ysgolion eraill sydd wedi'u sefydlu a'r pryderon blaenorol a godwyd gan rieni am yr eitemau hyn. Fodd bynnag, dywedwyd wrth yr aelodau, pan gynhaliwyd adolygiadau o'r ysgolion flwyddyn ar ôl iddynt gael eu hagor, nad oedd unrhyw un o'r pryderon a godwyd wedi dod i'r amlwg.

 

O ran yr effaith ar y Gymraeg, byddai 25% o'r staff yn rhugl/gweddol rugl yn y Gymraeg. Byddai hyn yn gryfder gan y byddai'r sgiliau'n dod ynghyd mewn un lle fel y byddai datblygiad y Gymraeg fel ail iaith yn cael ei gryfhau ac yn ychwanegol at y trefniadau presennol mewn ysgolion.

 

Trafododd yr aelodau'r cynigion a amlinellwyd. Codwyd nifer o feysydd pryder.

 

Mynegodd yr aelodau bryder ynghylch plant 3 oed yn defnyddio darpariaeth feithrin ar droed yn Llangiwg a hefyd plant sy'n defnyddio cludiant ysgol. Mae'r adroddiad yn dweud nad yw addysg feithrin yn statudol felly nid oes hawl i ddisgyblion meithrin gael cymorth gyda chludiant i'r ysgol. Mynegwyd pryderon hefyd ynglŷn â chael mynychu clybiau brecwast a gweithgareddau ar ôl ysgol. Nodwyd yn yr adroddiad na fydd cludiant yn cael ei ddarparu ar gyfer y gweithgareddau hyn.

 

Cydnabu Mr Thomas y gallai rhai rhieni gael anhawster i gael mynediad at ddarpariaeth feithrin. O ran y clwb brecwast, cyfrifoldeb yr ysgol yw sicrhau bod pob disgybl yn gallu cael mynediad at frecwast a gweithgareddau ar ôl ysgol. Mae dyletswydd gyfreithiol ar yr awdurdod lleol i ddarparu clwb brecwast os yw'r ysgol yn gofyn amdano, ond yr ysgol sy'n penderfynu ar amserau darpariaeth o'r fath.

 

Mynegodd yr aelodau eu pryder ynghylch yr agwedd gymunedol ar gau ysgolion. Roedd yr aelodau'n awyddus i wybod beth oedd y swyddogion yn ei ystyried yn gymuned a sut y gall yr adroddiad a gyflwynwyd ddweud na fydd cau ysgolion yn effeithio'n andwyol ar y gymuned. Mynegwyd pryder ynglŷn â siopau lleol a phwysigrwydd cwsmeriaid sy'n cerdded heibio i fynd i'r ysgol leol.

 

Gofynnodd Mr Thomas i'r aelodau ystyried a yw manteision cadarnhaol y cynigion ad-drefnu yn gorbwyso'r effeithiau negyddol. Cyfeiriodd at y gymuned ysgol sylweddol a gaiff ei chreu yn yr ysgol newydd, a'r gwelliannau lles sy'n gysylltiedig â'r cymorth ychwanegol i blant ag anghenion ychwanegol. Hefyd, y gwaith trawsgyfnod gydag Ysgol Cwmtawe. Roedd Mr Thomas yn fodlon bod amcan lles 2 yn cael ei fodloni gan y cynnig. 

 

Codwyd pryderon am draffig ar y safle newydd a'r ffordd sy'n arwain i'r ardal. Derbyniodd yr aelodau y byddai angen i'r contractwr ddelio â'r traffig ar y safle newydd ei hun, ond roedd yr aelodau'n pryderu am y mynediad ffordd i'r dref. Crybwyllodd un aelod fod preswylwyr yn credu y byddai angen adeiladu ffordd newydd ar gyfer unrhyw ysgol newydd.    Cadarnhaodd Mr Thomas y byddai unrhyw ddarpariaethau rheoli traffig newydd fel rhan o'r gofynion cynllunio ar gyfer yr ysgol newydd yn cael eu hariannu fel rhan o raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.

 

Holodd yr aelodau sut roedd y gyllideb yn cael ei phennu mewn perthynas â'r gwaith nad oedd wedi'i nodi eto. Dywedodd Mr Thomas fod cyllideb sylweddol wedi'i phennu o'r £22.5 miliwn o gyllid a oedd ar gael i'r ysgol. Fodd bynnag, os bydd unrhyw waith angenrheidiol yn fwy na'r gyllideb, mae cyfle i fynd yn ôl a cheisio arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru.

 

Cyfeiriodd yr aelodau at Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a'r effeithiau negyddol y gallai datblygiad yr ysgol newydd eu cael ar dri o'r nodau llesiant a nodwyd.

 

Cadarnhaodd Mr Thomas fod dechrau'r broses wedi cychwyn yn 2017 pan osodwyd Rhaglen Amlinellol Strategol gerbron yr aelodau. Roedd yn amlinellu datblygiad ysgol newydd 3-16 oed. Mewn ymateb i'r ymgynghoriad, newidiwyd hyn wedyn i'r cynnig presennol.

 

Aeth Mr Thomas drwy'r ymgynghoriad sydd wedi'i gynnal ac estynnwyd y cyfnod ymgynghori i sicrhau y gallai pobl ymateb yn briodol. Dywedodd Mr Thomas fod yr adroddiad wedi mynd i'r afael â'r themâu a godwyd gan yr ymgynghoriad. Ni chafwyd unrhyw resymau sylweddol dros newid yr argymhellion yn yr adroddiad.

 

Cododd yr aelodau bryderon ynghylch y Ddeddf Teithio Llesol a'r effaith y bydd yr ysgol newydd yn ei chael. Holodd yr aelod a fyddai cosbau’n cael eu rhoi i'r cyngor yn y dyfodol mewn perthynas â hyn. Cadarnhaodd swyddogion fod Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo'r achos busnes ar gyfer yr ysgol, felly ni fyddai unrhyw gosbau.

 

Cododd yr aelodau bryderon am effaith yr ysgol newydd ar ysgolion cyfrwng Cymraeg yn yr ardal. Dywedodd Mr Thomas, o brofiad, nad oedd hyn wedi digwydd gydag ysgolion eraill a oedd wedi'u hagor, a bod y niferoedd mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg yn parhau i godi. Holodd yr aelodau pa waith monitro parhaus fyddai'n cael ei wneud a pha gamau fyddai'n cael eu cymryd pe bai effaith negyddol ar yr ysgolion cyfrwng Cymraeg.

 

Cadarnhaodd Mr Thomas mai cyfrifoldeb yr arweinyddiaeth a'r Corff Llywodraethu yn yr ysgol newydd fyddai pob agwedd ar y cwricwlwm newydd i sicrhau ei fod yn cael ei gyflwyno’n unol â hynny. Cododd yr aelodau’r mater o ddisgyblion meithrin yn mynychu'r ysgol ym Mhowys yn hytrach na mynychu'r ysgol newydd arfaethedig a byddai hyn yn ei hanfod yn lleihau cyllideb yr ysgol newydd.

 

Cydnabu'r aelodau fod disgyblion o Ysgol Godre'r Graig mewn llety dros dro ar hyn o bryd. Disgwylir i ddisgyblion aros yno nes bydd yr ysgol newydd arfaethedig yn agor yn 2024. Ar hyn o bryd mae adroddiadau ar waith i ddeall pa waith adferol y mae angen ei wneud ar y safle. Os bydd y cynigion datblygu ysgol newydd yn methu, yna bydd y cyngor yn ystyried opsiynau eraill ar gyfer y disgyblion hynny. Ystyriwyd un safle yng Ngodre'r Graig ar gyfer yr ysgol gynradd, a allai fod yn safle costus iawn i'w ddatblygu. Pe bai'r safle hwn yn cael ei ddatblygu, byddai'r broses gyfan ar gyfer y cynlluniau presennol yn dod i ben a byddai angen datblygu achos busnes cwbl newydd ar gyfer Llywodraeth Cymru.

 

Dywedodd Mr Thomas pe bai ysgol newydd yn cael ei ddatblygu yng Ngodre'r Graig, ochr yn ochr ag ysgol arfaethedig Alltwen a Llangiwg, yna byddai angen cyllideb ysgol gwerth hanner miliwn o bunnoedd y flwyddyn. Dywedwyd wrth yr aelodau, pan fydd CBSCNPT yn benthyca er mwyn adeiladu ysgolion newydd, y gwneir hyn dros 30 mlynedd gan ei fod yn fuddsoddiad cyfalaf, felly, byddai hyn £20 miliwn o bunnoedd dros 30 mlynedd. Byddai'r gyllideb hon yn cael cymhorthdal gan bob ysgol gynradd arall yng Nghastell-nedd Port Talbot. Cadarnhaodd Mr Thomas fod y cynnig i ddatblygu dwy ysgol wedi cael ei ystyried, fodd bynnag nid oedd swyddogion yn credu ei fod yn ddefnydd effeithiol o arian cyhoeddus. Er bod yr aelodau'n pryderu am y modd yr oedd Ysgol Gynradd Godre'r Graig yn cael ei thrin, pwysleisiodd swyddogion y cysyniad gwerth am arian ac y byddai cymuned yr ysgol gyfan yn talu'r costau refeniw.

 

Holodd yr aelodau a oedd unrhyw amserlenni ynghlwm wrth y cyllid gan Lywodraeth Cymru. Cadarnhaodd Mr Thomas nad oedd unrhyw amserlenni na chosbau ariannol pe bai'r cynllun yn cael ei ohirio.

 

Holodd yr aelod a oedd y cais am y Weithred Ddiofryd wedi'i gyflwyno ar gyfer y safle arfaethedig. Ar ben hynny, lle mae'r darn arall o dir. Roedd Mr Thomas yn ansicr os oedd y cais wedi'i gyflwyno eto, fodd bynnag cadarnhaodd nad oedd rheswm dros gredu pam y byddai'r cais yn cael ei wrthod.

 

Esboniodd Mr Thomas sut mae ysgolion cynradd yn cael eu cynnal. Mae swm o £1.2 miliwn ar gael bob blwyddyn i gynnal pob ysgol gynradd yn y fwrdeistref. Neilltuir yr arian hwnnw ar asesiad Syrfëwr Adeiladau o'r achos gwaethaf yn gyntaf. Cadarnhaodd Mr Thomas fod o leiaf traean o'r cyllid yn cael ei wario ar brofion statudol. Hysbyswyd yr aelod bod y gyllideb hon yn cadw ysgolion ar agor o ran gwaith cynnal a chadw, fodd bynnag nid yw'n dod â'r ysgolion i safonau'r 21ain ganrif.

 

Holodd yr aelodau sut y cafwyd gafael ar y ffigurau ar gyfer nifer y plant a oedd yn mynychu'r ysgol newydd arfaethedig ac a ydynt wedi'u gwirio'n annibynnol. Dywedodd Mr Thomas fod cyfrifoldeb i ddatblygu ysgol sy'n addas i'r dyfodol. Atgoffwyd yr aelodau fod Llywodraeth Cymru yn ariannu 65% o'r datblygiad arfaethedig a chytunwyd â'r ffigurau rhagamcanol ar gyfer disgyblion a gyflwynwyd. Mae'r ffigurau'n ystyried nifer y datblygiadau tai a gynlluniwyd a nifer y plant sy'n byw yn y dalgylch a allai hawlio lle yn yr ysgol arfaethedig.

 

Trafododd yr aelodau’n fras bwll nofio Pontardawe a holwyd pam roedd pwll 6 lôn yn cael ei ddisodli gan bwll 6 lôn arall. Dywedodd Mr Thomas fod y pwll presennol wedi gweld dyddiau gwell yn economaidd a'i fod mewn perygl sylweddol o fethiant economaidd o ran parhad busnes, gan arwain at ei gau yn y pen draw.

 

Holodd yr aelod pam y mae'r adroddiad ymgynghori yn cyfeirio at leoliad 'gwell' ar gyfer y pwll nofio. Cyfeiriodd Mr Thomas at y 2000 o ddisgyblion a fyddai'n gallu defnyddio'r cyfleuster, gan wella'r cyfleoedd economaidd, masnachol yn ogystal â lles y myfyrwyr hynny sy'n defnyddio'r cyfleuster. Bydd yn darparu mynediad i helpu i ddatblygu arferion gydol oes a fydd yn helpu i hyrwyddo ffordd iach o fyw.

 

Dywedodd rhai aelodau eu bod wedi profi'r un sefyllfaoedd yn eu wardiau. Yn aml, roedd pryderon y cyhoedd yn cael eu tawelu unwaith yr oedd yr ysgol newydd yn ei lle. Mae'r defnydd cymunedol o'r adeiladau newydd wedi gwella'n sylweddol mewn ardaloedd lle mae ysgolion newydd wedi'u datblygu.

 

Cadarnhaodd Mr Thomas fod 21 o bobl wedi ymateb o blaid y datblygiad arfaethedig. Dywedwyd wrth yr aelodau ei bod yn gyffredin y bydd mwy o bobl yn cymryd rhan mewn ymgynghoriad sydd yn erbyn cynnig, o’i gyferbynnu â’r rheini sy'n cefnogi'r cynigion.

 

Holodd yr aelodau sutyroedd y cynnig newydd yn cyd-fynd ag annog teithio llesol. Cyfeiriodd Mr Thomas at gofnodion blaenorol a oedd yn dangos bod 49% o blant yn teithio i Ysgol Godre'r Graig mewn car. Cyfeiriodd Mr Thomas at les cyffredinol y plant a sut y cyfrannodd y cynigion yn gadarnhaol at hyn drwy'r cyfleusterau a'r gweithgareddau allgyrsiol a ddarperir o ganlyniad i'r datblygiad.

 

Cododd yr aelodau bryderon fod y cynllun busnes ar gyfer y datblygiad arfaethedig wedi'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru cyn cynnal unrhyw ymgynghoriad â'r gymuned.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd pleidlais wedi'i chofnodi a chytunwyd arni’n unol â'r gweithdrefnau gofynnol.

 

Cynhaliwyd y bleidlais i benderfynu pa aelodau oedd o blaid ac yn erbyn yr argymhellion a nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Roedd canlyniadau'r bleidlais fel a ganlyn:

  • O blaid – Y Cynghorwyr M Crowley, S Freeguard, D Keogh, S Miller, R Mizen, S Paddison, S Penry, M Protheroe, S Rahaman, S Renkes, S Reynolds, R Taylor, D Whitelock, R Wood, A Woolcock
  • Yn erbyn – Y Cynghorwyr W Griffiths, J Hale, S Harris, N Hunt, J Jones, S Knoyle, Llewelyn, R Phillips, L Purcell, A Richards, M Spooner
  • Ymatal – M Caddick

Yn dilyn y broses graffu, roedd mwyafrif y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan y Cabinet.