Lleoliad: Via Microsoft Teams
Rhif | Eitem | |||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Penodi Cadeirydd ac Is-gadeirydd Cofnodion: Cytunwyd y dylid penodi'r Cynghorydd S Reynolds yn Gadeirydd a bod y
Cynghorydd M Harvey yn cael ei benodi'n Is-gadeirydd ar gyfer y cyfarfod hwn ar
y cyd. |
||||||||||||||||
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Gwnaeth yr aelodau canlynol ddatganiad o fudd ar
ddechrau'r cyfarfod:
|
||||||||||||||||
Rhaglen Strategol Gwella Ysgolion - Cynnig i sefydlu ysgol Saesneg 3-11 oed yn lle ysgolion cynradd Alltwen, Godre'r-graig a Llangiwg (wedi'i amgáu ym Mhapurau'r Cabinet) Cofnodion: Cyflwynwyd y Rhaglen Strategol
Gwella Ysgolion i'r Aelodau, a fyddai, yn amodol ar gymeradwyaeth y Cabinet, yn
ymgynghori ar gynnig i sefydlu ysgol cyfrwng Saesneg ar gyfer plant 3-11 oed yn
lle Ysgolion Cynradd Alltwen, Godre'r-graig a Llangiwg; byddai'r ysgol
arfaethedig yn cynnwys canolfan cymorth dysgu arbenigol a byddai mewn adeiladau
newydd i dderbyn disgyblion o ddalgylchoedd presennol y tair ysgol gynradd y
soniwyd amdanynt, y byddai pob un ohonynt yn cau ar 31 Awst 2024. Esboniodd swyddogion mai un o brif ddibenion
yr ymgynghoriad oedd cael sylwadau a phryderon y rhanddeiliaid sy'n
gysylltiedig â'r ysgolion hynny, er mwyn cynnig yr ateb gorau posib yn
ardaloedd y cymoedd. Cynigiwyd y byddai'r ysgol
newydd yn cael ei hadeiladu ar dir dan berchnogaeth y cyngor ym Mharc Ynysderw
Pontardawe a byddai'n rhan o gampws cymunedol dysgu, iechyd a lles Ysgol
Gymunedol Cwmtawe a Chanolfan Hamdden Pontardawe. Pwysleisiodd swyddogion nad
oedd staff, disgyblion a llywodraethwyr Ysgol Gymunedol Cwmtawe yn ymwneud i
raddau mawr â’r cynnig hwn. Soniwyd yn yr adroddiad fod Cynllun Amlinellol
Strategol Band B Ysgolion yr 21ain Ganrif Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi
cyflwyno cynnig i Lywodraeth Cymru yn flaenorol ar gyfer ysgol ganol newydd i
blant 3-16 oed; fodd bynnag, yn dilyn trafodaethau anffurfiol â rhanddeiliaid,
gan gynnwys llywodraethwyr a'r holl ysgolion yn y cwm, roedd cytundeb eang bod
angen ysgol gynradd newydd ac nad oedd cefnogaeth i fodel 3-16. Penderfynwyd
felly y dylid diwygio'r cynllun i fodel ysgol gynradd 3-11 oed. Cafwyd trafodaeth mewn
perthynas â mân-fanylion yr ysgol, a oedd yn cynnwys y canlynol: ·
Dywedwyd y byddai lle i 630 o ddisgyblion cynradd amser
llawn a 140 o ddisgyblion meithrin rhan-amser yn yr ysgol arfaethedig; hon fyddai'r
ysgol gynradd fwyaf yng Nghastell-nedd Port Talbot; ·
Soniodd swyddogion fod yr elfennau cynnal a chadw sydd
heb eu gwneud yn yr ysgol a fyddai'n cael eu dileu yn cynnwys dros £2 filiwn ar
gyfer cael gwared ar yr ysgolion cynradd a thros £1.2 miliwn yn gysylltiedig
â'r pwll nofio; ·
Nodwyd yr achos dros greu'r Ganolfan Cymorth Dysgu i'w
hadeiladu ar ôl cwblhau adolygiadau ar y math o leoedd a gynlluniwyd ynghyd â’r
nifer a'r ddarpariaeth asesu ar draws Castell-nedd Port Talbot; nodwyd bod
angen lleoedd ychwanegol ym meysydd Anhwylder y Sbectrwm Awtistig (ASA) ac
Anawsterau Cymdeithasol, Emosiynol ac Ymddygiadol (ACEY). Cynigiwyd bod yr
ysgol newydd yn cynnwys Canolfan Cymorth Dysgu ar gyfer hyd at 16 o ddisgyblion
oed cynradd sydd â datganiad ASA; ·
Amlygodd yr adroddiad y byddai pwll nofio newydd yn cael
ei sefydlu ac y byddai'n disodli pwll nofio presennol Pontardawe; mynegwyd i
Lywodraeth Cymru y byddai'r pwll newydd yn darparu cyfleuster ychwanegol ynghyd
â'r ganolfan hamdden, a bydd yn adnewyddu ac yn gwella'r cyfleusterau iechyd a
lles yn ardal Cwm Tawe; · O ran cludiant, nodwyd bod y rhan fwyaf o'r disgyblion sy'n gysylltiedig â'r cynnig yn byw o fewn 2 filltir i'r safle newydd ac y byddai'r rheini a oedd yn byw mwy na 2 filltir o'r ysgol yn gymwys ar gyfer y cymorth cludiant fel a nodwyd ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3. |