Agenda a Chofnodion

Cyd-bwyllgor Craffu Dinas-ranbarth Bae Abertawe - Dydd Mawrth, 9fed Tachwedd, 2021 2.00 pm

Lleoliad: Remotely via Teams

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Croeso a galw’r rhestr

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.

 

3.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw gyhoeddiadau.

 

4.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 228 KB

Cofnodion:

Eitem 8: Dywedodd yr aelodau eu bod wedi gofyn yn y cyfarfod a oedd y 102 o swyddi yn ymwneud â'r Egin yn swyddi newydd neu a gawsant eu trosglwyddo o ranbarth arall? Gofynnodd yr aelodau hefyd am eglurhad ar yr eitem hon.

 

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 20 Gorffennaf 2021 fel cofnod cywir gyda'r diwygiad uchod.

 

5.

Isadeiledd Digidol pdf eicon PDF 430 KB

Cofnodion:

Rhoddodd Gareth Jones, Arweinydd Prosiect dros Isadeiledd Digidol, gyflwyniad byr i'r aelodau. Mae'r rhaglen yn ymwneud â buddsoddi yng nghysylltedd y rhanbarth. Mae cysylltedd yn sail i agweddau mawr ar fywyd pobl gan gynnwys agweddau cymdeithasol, lles a busnes. Rhagwelir y bydd buddsoddiad o £55 miliwn yn y rhaglen dros y 5 mlynedd nesaf. Mae hyn yn cynnwys grant y Fargen Ddinesig gwerth £25 miliwn, £13.5 miliwn o gyllid gan y sector cyhoeddus a buddsoddiad o £16.5 miliwn gan y sector preifat.

 

Nod y prosiect yw sicrhau darpariaeth gigabeit 100% ar gyfer pob eiddo preswyl a busnes yn y rhanbarth. Mae'r amcanion lefel uchel yn cynnwys y dylai'r prosiect fod yn gatalydd ar gyfer buddsoddi mewn isadeiledd digidol rhanbarthol ac ysgogi a hwyluso buddsoddiad yn y sector preifat.

 

Mae'r £55 miliwn wedi'u rhannu dros bum mlynedd ar draws tair ffrwd waith prosiect: gwledig, lleoedd cysylltiedig a rhwydwaith diwifr genhedlaeth nesaf. Gwariant y prosiect ar gyfer pob un o’r tair ffrwd waith yw £25.5miliwn, £20miliwn a £9miliwn yn y drefn honno.

 

Mae'r ffrwd waith wledig yn ymwneud â mynd i'r afael â bylchau mewn cysylltedd. Mae lleoedd cysylltiedig yn ymwneud â chysylltedd o'r radd flaenaf mewn parthau twf economaidd ac mae'r rhwydwaith diwifr genhedlaeth nesaf yn cynnwys nifer o ymyriadau ynghylch mabwysiadu 5G yn gynnar.

 

Rhoddodd Mr Jones ragor o fanylion am y ffrydiau gwaith unigol. Mae'r ffrwd wledig yn cynnwys caffael isadeiledd ffibr all drosglwyddo data ar gyfradd gigabeit. Nodwyd bod hon yn strategaeth sydd wedi'i defnyddio'n llwyddiannus ar draws rhai o'r rhanbarthau sydd â'r cysylltiadau gorau yn y DU. Mae'n golygu buddsoddi yn yr asedau amrywiol sy'n eiddo i gyrff cyhoeddus ar draws y rhanbarth. Bydd hyn wedyn yn annog buddsoddi mewn adeiladau ac ardaloedd cyfagos etc. Gallai hyn ddenu buddsoddiad preifat.

 

Mae rhaglen cymorth ac ymgysylltu cymunedol sy'n gweithio gyda busnesau lleol i helpu i ddatblygu technoleg yn yr ardaloedd o'r rhanbarth sydd â'r gwasanaeth gwaethaf a'r ardaloedd mwyaf gwledig. Byddant yn eu cynorthwyo i gael mynediad at ffrydiau ariannu.

 

Mae nifer o ymyriadau yng nghefn gwlad. Nid oes un gwariant prosiect unigol. Yr eitem fwyaf yw caffael isadeiledd ffibr all drosglwyddo data ar gyfradd gigabeit ar gyfer safleoedd hybiau’r sector cyhoeddus. Mae hwn yn ddull sydd wedi cael ei ddefnyddio'n llwyddiannus ar draws y rhannau o'r wlad sydd â'r cysylltiadau gorau. Bydd y broses gaffael yn canolbwyntio ar asedau y mae'r sector cyhoeddus yn berchen arnynt. Gall cael cydymffurfiaeth cymorth gwladwriaethol llawn i gaffael band eang ar gyfer eiddo preswyl gymryd blynyddoedd. Mae Llywodraeth y DU yn argymell defnyddio asedau'r sector cyhoeddus. Drwy fuddsoddi mewn adeiladu cysylltedd ffibr ar draws asedau ar draws y rhanbarth, mae hyn yn cynyddu'r potensial ar gyfer buddsoddiad pellach mewn safleoedd adeiladu cyfagos, adeiladau masnachol etc. Gallai hyn ddenu buddsoddiad gan y sector preifat ar ben hynny. Ystyrir safleoedd hybiau fel unrhyw safle cyhoeddus y mae angen cysylltedd arnynt.

 

Bydd yr elfen wledig yn cynnwys rhaglen cymorth ac ymgysylltu cymunedol a fydd yn helpu i wella cysylltedd yn yr ardaloedd o'r rhanbarth  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi'u heithrio) yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100b (4)(B) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys.