Cofnodion:
Rhoddodd Gareth
Jones, Arweinydd Prosiect dros Isadeiledd Digidol, gyflwyniad byr i'r aelodau.
Mae'r rhaglen yn ymwneud â buddsoddi yng nghysylltedd y rhanbarth. Mae
cysylltedd yn sail i agweddau mawr ar fywyd pobl gan gynnwys agweddau
cymdeithasol, lles a busnes. Rhagwelir y bydd buddsoddiad o £55 miliwn yn y
rhaglen dros y 5 mlynedd nesaf. Mae hyn yn cynnwys grant y Fargen Ddinesig
gwerth £25 miliwn, £13.5 miliwn o gyllid gan y sector cyhoeddus a buddsoddiad o
£16.5 miliwn gan y sector preifat.
Nod y prosiect yw
sicrhau darpariaeth gigabeit 100% ar gyfer pob eiddo preswyl a busnes yn y
rhanbarth. Mae'r amcanion lefel uchel yn cynnwys y dylai'r prosiect fod yn
gatalydd ar gyfer buddsoddi mewn isadeiledd digidol rhanbarthol ac ysgogi a
hwyluso buddsoddiad yn y sector preifat.
Mae'r £55 miliwn
wedi'u rhannu dros bum mlynedd ar draws tair ffrwd waith prosiect: gwledig,
lleoedd cysylltiedig a rhwydwaith diwifr genhedlaeth nesaf. Gwariant y prosiect
ar gyfer pob un o’r tair ffrwd waith yw £25.5miliwn, £20miliwn a £9miliwn yn y
drefn honno.
Mae'r ffrwd waith
wledig yn ymwneud â mynd i'r afael â bylchau mewn cysylltedd. Mae lleoedd
cysylltiedig yn ymwneud â chysylltedd o'r radd flaenaf mewn parthau twf
economaidd ac mae'r rhwydwaith diwifr genhedlaeth nesaf yn cynnwys nifer o
ymyriadau ynghylch mabwysiadu 5G yn gynnar.
Rhoddodd Mr Jones
ragor o fanylion am y ffrydiau gwaith unigol. Mae'r ffrwd wledig yn cynnwys
caffael isadeiledd ffibr all drosglwyddo data ar gyfradd gigabeit. Nodwyd bod
hon yn strategaeth sydd wedi'i defnyddio'n llwyddiannus ar draws rhai o'r
rhanbarthau sydd â'r cysylltiadau gorau yn y DU. Mae'n golygu buddsoddi yn yr
asedau amrywiol sy'n eiddo i gyrff cyhoeddus ar draws y rhanbarth. Bydd hyn
wedyn yn annog buddsoddi mewn adeiladau ac ardaloedd cyfagos etc. Gallai hyn
ddenu buddsoddiad preifat.
Mae rhaglen
cymorth ac ymgysylltu cymunedol sy'n gweithio gyda busnesau lleol i helpu i
ddatblygu technoleg yn yr ardaloedd o'r rhanbarth sydd â'r gwasanaeth gwaethaf
a'r ardaloedd mwyaf gwledig. Byddant yn eu cynorthwyo i gael mynediad at
ffrydiau ariannu.
Mae nifer o
ymyriadau yng nghefn gwlad. Nid oes un gwariant prosiect unigol. Yr eitem fwyaf
yw caffael isadeiledd ffibr all drosglwyddo data ar gyfradd gigabeit ar gyfer
safleoedd hybiau’r sector cyhoeddus. Mae hwn yn ddull sydd wedi cael ei
ddefnyddio'n llwyddiannus ar draws y rhannau o'r wlad sydd â'r cysylltiadau
gorau. Bydd y broses gaffael yn canolbwyntio ar asedau y mae'r sector cyhoeddus
yn berchen arnynt. Gall cael cydymffurfiaeth cymorth gwladwriaethol llawn i gaffael
band eang ar gyfer eiddo preswyl gymryd blynyddoedd. Mae Llywodraeth y DU yn
argymell defnyddio asedau'r sector cyhoeddus. Drwy fuddsoddi mewn adeiladu
cysylltedd ffibr ar draws asedau ar draws y rhanbarth, mae hyn yn cynyddu'r
potensial ar gyfer buddsoddiad pellach mewn safleoedd adeiladu cyfagos,
adeiladau masnachol etc. Gallai hyn ddenu buddsoddiad gan y sector preifat ar
ben hynny. Ystyrir safleoedd hybiau fel unrhyw safle cyhoeddus y mae angen
cysylltedd arnynt.
Bydd yr elfen
wledig yn cynnwys rhaglen cymorth ac ymgysylltu cymunedol a fydd yn helpu i
wella cysylltedd yn yr ardaloedd o'r rhanbarth sydd â'r gwasanaeth gwaethaf yn
yr ardaloedd mwyaf gwledig, gan eu helpu i fanteisio ar ffrydiau ariannu yn y
dyfodol a rhai presennol.
Mae Prosiect Gigabeit
yn cynnwys gweithio gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar gyfer
buddsoddiad allanol. Nod y Fargen Ddinesig yw cyflymu ei buddsoddiad cyn gynted
â phosib yn y rhanbarth.
Mae elfen olaf yr
elfen wledig yn gysylltiedig â Cyflymu Cymru 2 sy'n dod i ben ym mis Mehefin
2022. Mae'n golygu buddsoddiad o £9.2m ar draws y rhanbarth sy'n cysylltu 8,000
o fangroedd.
Mae Lleoedd
Cysylltiedig yn ymwneud â rhannau trefol o'r rhanbarth o ran darpariaeth ffibr
gigabeit. Bydd hyn yn gweithredu yn ôl yr un broses gaffael â'r ardaloedd
gwledig a bydd yn defnyddio safleoedd hybiau presennol. Bydd dwythell bresennol
y sector cyhoeddus yn cael ei hailddefnyddio. Bydd y prosiect yn ceisio
masnacheiddio'r rhwydwaith dwythell.
Mae buddsoddiad
hefyd yn cael ei wneud yn y rhwydwaith ffibr cefnffyrdd sy'n ceisio defnyddio
cefnffyrdd presennol o hen Bont Hafren i orllewin Cymru.
Cysylltedd
di-wifr y genhedlaeth nesaf yw'r lleiaf o'r tair ffrwd waith. Un elfen yw creu
amodau, polisïau a gweithdrefnau ar gyfer cyflwyno isadeiledd di-wifr y
genhedlaeth nesaf.
Yr ail elfen yw
creu cofrestr asedau digidol. Mae hyn yn golygu manteisio ar yr asedau sy'n
eiddo cyhoeddus a'u cynnig i'r farchnad telathrebu i helpu i ddatblygu a
darparu 5G a 4G ar draws y rhanbarth.
Mae gan y
prosiect Isadeiledd Digidol nifer o dargedau rhaglen: GYC o £318m dros 15 o
flynyddoedd, cadernid ychwanegol i safleoedd hybiau sector cyhoeddus â
blaenoriaeth, adeiladu isadeiledd sy'n addas ar gyfer gigabeit ar draws y
rhanbarth, cyflymu'r defnydd o gysylltedd gigabeit cyflym a dibynadwy ar draws
y rhanbarth. Mae sawl mantais i'r rhaglen. Fodd bynnag, cydnabyddir bod
isadeiledd a chysylltedd yn ddiystyr ar ei ben ei hun, mae'n bwysig ystyried
sut y caiff ei ddefnyddio o fewn y gymuned hefyd.
Rhoddwyd
amlinelliad i'r aelodau o gynnydd y prosiect hyd yma, a amlinellwyd hefyd yn yr
adroddiad ysgrifenedig a ddosbarthwyd gyda'r agenda.
Darparwyd
ffigurau sy'n ymwneud â chysylltedd gigabeit yn y rhanbarth: Sir Benfro 8%, Sir
Gaerfyrddin 32%, Castell-nedd Port Talbot 63%, Abertawe 72%. Fodd bynnag, nid
cysylltedd gigabeit yw'r ffigurau strategol o ran y gwariant. Mae'r amcanion
strategol o ran gwariant yn gysylltiedig â ffibr llawn. Mae hyn yn ymwneud â
diogelu isadeiledd band eang ffibr llawn ar gyfer y dyfodol. Bydd hyn yn
gwasanaethu'r rhanbarth am o leiaf yr 20-30 o flynyddoedd nesaf. Gellir cymharu
ffibr llawn â rhwydwaith ffyrdd a fydd yn sail i economi'r rhanbarth.
Amlinellodd Mr
Jones yn fyr y trefniadau llywodraethu ar gyfer y prosiect.
Mae cofnod
risgiau manwl ar gyfer y prosiect. Tynnwyd sylw'r aelodau at dair o'r risgiau
â'r sgoriau uchaf. Mae'r un cyntaf yn ymwneud â rheoli cymhorthdal. Cytunwyd ar
ddull buddsoddi sy'n cydymffurfio â rheoli cymhorthdal. Mae hyn yn lleihau'n
sylweddol y risg o fuddsoddi ar gyfer y rhanbarth a'r sector cyhoeddus.
Penodwyd arbenigwyr allanol i arwain y prosiect drwy gaffaeliadau.
Yr ail risg yw
Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus (PSBA) – rhwydwaith sector cyhoeddus
Cymru. Yn ei hanfod, mae'n rhwydwaith band eang a arweinir gan Lywodraeth Cymru
sy'n ymwneud â sut mae partneriaid y sector cyhoeddus yng Nghymru yn siarad â'i
gilydd ac yn rhannu data. Mae'n hanfodol bod unrhyw safleoedd canolfannau a
brynir gan y fargen yn gallu cario a chynnal traffig PSBA. Mae rheolwyr
technegol PSBA yn gweithio gyda'r tîm ar ymyriadau i leihau'r risg hon.
Y drydedd risg yw
adnodd y sector cyhoeddus. Roedd angen recriwtio arbenigwyr allanol i gaffael a
chyflwyno rhai o'r gweithgareddau. Mae hefyd yn ymwneud â COVID-19 ac yn
gyffredinol y pwysau ar adnoddau'r sector cyhoeddus a allai rwystro eu gallu i
gynorthwyo'r fargen.
Ar hyn o bryd mae
23 o risgiau byw yn gysylltiedig â'r prosiect.
Amlinellodd Mr
Jones y camau nesaf ar gyfer y prosiect.
Holodd yr aelodau
pam yr oedd Bargen Ddinesig Bae Abertawe y tu ôl i rannau eraill o'r DU a
Chymru o ran cynnal y prosiect hwn? Mae'r rhan fwyaf ohoni'n gysylltiedig â
lleoliad ffisegol a dwysedd y boblogaeth. Roedd cynnydd yn cael ei wneud i
symud hyn yn ei flaen.
Cadarnhawyd bod y
Rhaglen Isadeiledd Digidol yn rhaglen 5 mlynedd. Portffolio 15 mlynedd yw
portffolio'r fargen gyffredinol. Mae llywodraeth y DU wedi cyflymu'r cyllid
dros 10 mlynedd, ond mae Llywodraeth Cymru wedi parhau â'u rhaglen ariannu 15
mlynedd.
Nodwyd bod
cysylltedd da yn hanfodol i lawer o'r cynlluniau eraill o fewn y portffolio.
Gofynnodd yr aelodau am sicrwydd y gellid cyflawni'r prosiect yn llwyddiannus o
fewn yr amserlenni a nodwyd. Rhoddodd Mr Jones sicrwydd i'r aelodau eu bod yn
gweithio i ddulliau profedig hysbys o ran methodoleg rheoli portffolio ac o
fewn yr amserlenni y cytunwyd arnynt, a amlinellir yn yr achos busnes a
gymeradwywyd gan y Llywodraeth. Mae'r holl waith cynllunio prosiectau rhaglen
amrywiol ar waith. Hefyd, dyfarnwyd statws oren/gwyrdd i'r prosiect fel rhan
o'r adolygiad allanol o ran hyder cyflwyno.
Er nad yw'r
prosiect yn darparu'n uniongyrchol i breswylwyr a theuluoedd, cydnabuwyd y bydd
y prosiect yn darparu ffibr i safleoedd canolfannau a fydd yn golygu ei fod mor
agos at breswylwyr a theuluoedd â phosib. Yn ogystal, bydd y prosiect yn
defnyddio rhywfaint o'i gyllid i alluogi cymunedau i gael gafael ar ffynonellau
cyllid eraill i gysylltu’r ffibr â'u heiddo preswyl.
Holodd yr aelodau
sut y bydd dealltwriaeth o'r prosiect yn cael ei hyrwyddo? Cadarnhaodd
swyddogion eu bod yn gweithio'n agos gyda chwmnïau telathrebu sy'n ymwybodol
o'r prosiect a'i nodau. Mae hyrwyddo datganiadau i'r wasg yn rhan fawr o'r
cynllun i sicrhau bod pobl yn ymwybodol o'r datblygiadau sydd ar y gweill yn y
rhanbarth. Mae'r prosiect hefyd yn gweithio'n agos gyda phrosiectau eraill y
Fargen Ddinesig.
Pwysleisiodd yr
aelodau'r pwysigrwydd bod gan dimau economaidd bob awdurdod ddealltwriaeth lawn
o'r prosiect. Hysbyswyd yr aelodau y byddai swyddogion yn cael eu hymgorffori
ym mhob un o'r pedwar awdurdod o fewn yr adrannau economaidd/adfywio er mwyn
sicrhau bod cysylltedd yn cael ei hyrwyddo'n ddigonol o fewn y rhanbarth.
Pwysleisiwyd pwysigrwydd ymgysylltu â chymunedau gan swyddogion. Mae pwysigrwydd
gwybodaeth leol o fewn y pedwar rhanbarth hefyd yn hollbwysig i lwyddiant y
prosiect hwn.
O ran elfen
gigabeit y prosiect, mae trafodaethau'n parhau gyda'r Llywodraeth ganolog o ran
pwy fydd yn arwain y prosiect ym mhob un o'r gwledydd datganoledig. Pwysleisiodd
swyddogion eu hymrwymiad i weithio gyda phwy bynnag a nodir i fwrw ymlaen â'r
eitem hon gan eu bod yn dymuno sicrhau bod buddsoddiad yn cael ei wneud cyn
gynted â phosib.
Holodd yr aelodau
am nifer y safleoedd hybiau ar draws y pedwar rhanbarth ac a fyddant yn cael eu
rhannu'n gyfartal. Bydd safleoedd yn debygol o gael eu rhannu'n gyfartal. Wrth
gymharu'r pedwar rhanbarth mae ardaloedd sydd wedi'u cysylltu'n well, fodd
bynnag, pan gaiff hyn ei gymharu â'r dinasoedd sydd â'r cysylltiad orau ar draws
y DU, nid yw'r cysylltedd yn wych. Mae'n bwysig bod cysylltedd da yn cael ei
gyflawni ar draws pob rhanbarth.
Nododd yr aelodau
uchelgais flaenorol i fod ar lwyfan byd-eang o ran cysylltedd. Er bod
swyddogion yn gadarnhaol wrth nodi y gallai Abertawe a'r ardaloedd trefol
cyfagos ddod yn un o'r dinasoedd cysylltiedig gorau yng Nghymru ac efallai
gellir ei hystyried o fewn llond llaw o'r dinasoedd cysylltiedig gorau yn y DU,
nodwyd na fyddai'r cyllid o'r Fargen Ddinesig yn unig yn cyflawni hyn. Mae'n bwysig
bod y cyllid hwn yn cael ei defnyddio i sicrhau bod buddsoddiad parhaus o fewn
y rhanbarth er mwyn parhau i wella cysylltedd.
Codwyd yr
anghysondebau o ran y cynllun talebau a chydnabuwyd y diffiniad o'r hyn sy'n
gyfystyr â 'busnes'.
Holodd yr aelodau
am y trefniadau llywodraethu ar gyfer y prosiect. Cadarnhawyd bod y gofynion
angenrheidiol ar waith. Mae hyn yn cynnwys Uwch Swyddog Cyfrifol, Bwrdd
Isadeiledd Digidol, y Cylch Gorchwyl gofynnol a'r cofnodion a chamau gweithredu
a gofnodwyd. Cadarnhaodd swyddogion eu bod wedi cael eu hasesu ar drefniadau
llywodraethu fel rhan o adolygiad allanol y llynedd. Cadarnhaodd swyddogion y
trefniadau ar lefel portffolio.
Cadarnhawyd mai'r
£16.5 miliwn gan y sector preifat yw'r hyn y bydd y prosiect yn ceisio'i
ddefnyddio fel rhan o'r caffaeliadau a fydd yn cael eu cynnal. Dywedodd
swyddogion nad oedd yr arian hwn wedi'i sicrhau hyd yma.
Diolchodd yr
aelodau i Mr Jones am ei gyflwyniad ac am fynychu'r cyfarfod.
Dogfennau ategol: