Agenda a Chofnodion

Cyd-bwyllgor Craffu Dinas-ranbarth Bae Abertawe - Dydd Mawrth, 25ain Ionawr, 2022 2.00 pm

Lleoliad: Remotely via Teams

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Croeso a galw’r rhestr

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

2.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Nododd y Cadeirydd ei fod wedi mynd i gyfarfod yn ddiweddar gyda Chadeirydd Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe, y Cynghorydd Rob Stewart, ynghyd â Rheolwr y Rhaglen Jonathan Burnes, y Prif Swyddog Wendy Walters, a swyddogion Gwasanaethau Democrataidd Castell-nedd Port Talbot i drafod rhai o'r problemau parhaus y mae Craffu wedi'u hwynebu.

Dywedodd y Cadeirydd na fyddai eitem 6 (adroddiad ar y prif bwyntiau) yn cael ei chraffu, gan nad oedd Chwarter 2 wedi'i gyflwyno i'r Pwyllgor.

 

Mynegodd yr Aelodau eu hanfodlonrwydd ynghylch yr wybodaeth yn cael ei darparu mewn modd amserol i ganiatáu craffu effeithiol.

Cytunodd y Pwyllgor y bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu'n ffurfiol at bawb sy'n gysylltiedig i dynnu sylw at y materion sy'n wynebu'r pwyllgor craffu ac yn awgrymu ffyrdd ymlaen i sicrhau bod y pwyllgor nesaf yn gallu craffu yn ôl yr angen.

 

 

 

3.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.

 

4.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 381 KB

·        9 Tachwedd 2021

·        23 Tachwedd 2021

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Tachwedd 2021 fel cofnod gwir a chywir.

 

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Tachwedd 2021 fel cofnod gwir a chywir.

 

5.

Sgiliau a Thalent - diweddariad HTML 76 KB

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Jane Lewis i'r cyfarfod. Rhoddodd Jane Lewis yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y Prosiect Sgiliau a Thalent.

 

Diben y rhaglen yw sicrhau bod gweithlu medrus yn y rhanbarth i ddiwallu anghenion y prosiectau newydd sy'n cael eu datblygu a'u darparu o fewn y Fargen Ddinesig.

 

Tynnodd y swyddog sylw at y gwelliant yn ffigurau personau heb gymhwyster rhwng 2019 a 2020.  

 

Atgoffwyd yr Aelodau o'r amcanion Sgiliau a Thalent sy'n cynnwys 2,200 o sgiliau ychwanegol a chefnogi'r gwaith o ddatblygu o leiaf 14,000 o sgiliau mewn unigolion (lefelau 2-77), 3000 o gyfleoedd prentisiaeth newydd, gweithio gydag ysgolion i greu llwybr gyrfa o addysg ysgol i addysg uwch/addysg bellach a phrentisiaethau ym meysydd allweddol digidol, adeiladu, ynni, gweithgynhyrchu clyfar a gwyddor bywyd/lles. Hefyd i greu 2 ganolfan ragoriaeth. Er mwyn cyflawni hyn datblygir prosiectau prawf i ddatrys problemau lle nodir bylchau mewn sgiliau.

 

Hyd yma penodwyd rheolwr rhaglen sydd wedi ymgysylltu â phrosiectau'r Fargen Ddinesig i nodi anghenion a bylchau sgiliau. Bydd baromedr sgiliau yn cael ei gwblhau erbyn canol mis Chwefror. Ar hyn o bryd mae'r baromedr gydag ymgynghorwyr allanol sy'n gwirio'r data ac unrhyw dueddiadau newydd sy'n digwydd mewn sectorau a fydd yn effeithio ar anghenion sgiliau'r rhanbarth yn y dyfodol.

 

Sefydlwyd Grŵp Datrys Sgiliau i nodi bylchau mewn sgiliau ar draws y rhanbarth. Yn ogystal, sefydlwyd Grŵp Darparu hefyd i ddarparu datrysiadau i'r bylchau sgiliau a nodwyd.

 

Mae syniadau prosiect yn cael eu datblygu i nodi prosiectau i ddiwallu'r anghenion sgiliau. Bwriedir ymgysylltu â fforymau penaethiaid ar gyfer cydlynwyr 14-19 oed ym mhob ardal awdurdod lleol i weld sut y gellir datblygu sgiliau yn y meysydd hyn i ddiwallu anghenion y prosiectau yn y dyfodol.

 

Yn ystod y chwe mis nesaf cynhelir Adolygiad Gateway arall ar ôl cwblhau'r baromedr. Bydd ymgysylltu ehangach hefyd ag ysgolion a cholegau ynglŷn â'r anghenion sgiliau a nodwyd gan y baromedr. Bydd prosiectau'n cael eu cymeradwyo i ddarparu hyfforddiant sgiliau a gwella sgiliau ar draws y 5 maes allweddol a nodwyd a bydd cyfleoedd uwchsgilio pellach yn cael eu datblygu. Mae bwriad hefyd i greu'r cyfleoedd prentisiaeth.

 

Holodd yr Aelodau sut y bydd y cyllid ar gyfer y prosiect yn cael ei ddefnyddio. Bydd canlyniadau'r baromedr yn dangos i ba gyfeiriad y mae angen i'r prosiect fynd. Mae angen defnyddio'r cyllid i ddatblygu cyrsiau newydd ac i gyd-fynd ag anghenion y prosiectau sy'n cael eu datblygu dan y Fargen Ddinesig. Mae llawer o ddiddordeb yn y cyllid i ddatblygu ffynonellau o ysgolion, colegau, y sector preifat sy'n darparu hyfforddiant ac addysg uwch. Bydd set o feini prawf ar gael i sicrhau nad yw cyrsiau a ddarperir yn cael eu dyblygu.

 

Mynegodd yr Aelodau eu pryder ynghylch amseru'r prosiect gan fod llawer o'r prosiectau eisoes ar waith. Mae'r Fargen ym mlwyddyn 5 o 15 ar hyn o bryd ac roedd yr Aelodau'n pryderu na fyddai'r sgiliau ar waith ar gyfer cwblhau'r prosiectau.

 

Roedd yr Aelodau'n awyddus i ddeall sut mae rhan uwchsgilio'r prosiect yn cael ei harwain.  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

Blaenraglen Waith Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe pdf eicon PDF 470 KB

Cofnodion:

Aeth Phil Ryder drwy Flaenraglen Waith y Cyd-bwyllgor. Amlinellodd pa eitemau oedd wedi'u cwblhau a pha eitemau oedd yn parhau.

Rhoddwyd yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am Lywodraethu a Sicrwydd. Mae'r Gwireddu Buddion ar Lefel Portffolio wedi'i gwblhau. Mae'r gwireddu buddion ehangach yn parhau a disgwylir iddo gael ei gyflwyno yn y Cyd-bwyllgor sydd ar ddod. Gan gyfeirio at bum argymhelliad yr Adolygiad Gateway, nodir bod tri o'r pump wedi'u cwblhau a bod y ddau arall wedi'u cwblhau'n rhannol.

Mae Rheoli Meddalwedd bron wedi'i gwblhau, fodd bynnag mae un ymholiad ynglŷn â'r sicrwydd sy'n ofynnol a dylai hyn gael ei ddatrys yn fuan. Mae Dangosfyrddau Prosiect y Rhaglen wedi dechrau. Mae'r dangosfyrddau ar lefel portffolio ar gael i'w gweld.

Mae Bwrdd y Rhaglen wedi cymeradwyo rôl yr Uwch-swyddog Cyfrifol. Bydd pob Uwch-swyddog Cyfrifol yn derbyn cymorth arweiniad ychwanegol a hyfforddiant gan Lywodraeth Cymru lle bo angen.

Cynhaliwyd yr adolygiad o Gadeirydd Portffolio'r Rhaglen ym mis Tachwedd, ac yn unol â Chadeirydd y Cyd-bwyllgor, byddai hyn yn cael ei ymestyn tan fis Mai 2022.

Mae'r Fframwaith Sicrwydd Gateway wedi'i sefydlu ac mae swyddogion yn gweithio ar y memorandwm cyd-ddealltwriaeth ar hyn o bryd. Dylid cyflwyno hyn i'r Cyd-bwyllgor yn ystod y misoedd nesaf.

Derbyniwyd cymeradwyaeth y Gweinidog ar gyfer y Prosiect Sgiliau a Thalent ac Achos Busnes Campysau. Mae diweddariad parhaus ar Achos Busnes Pentre Awel.

Mae'r Cynllun Cyfathrebu a Marchnata wedi ei ddiweddaru ynghyd â'r amserlen Cyfathrebu ac Ymgysylltu. Mae'r gwaith ffeithlunio'n parhau.

 

Mae digwyddiad ddwywaith y flwyddyn y Fargen Ddinesig wedi'i symud i fis Mawrth. Bydd y digwyddiad ddwywaith y flwyddyn yn ddigwyddiad arddangos a gynhelir ar 3 Mawrth. Gwahoddir yr holl randdeiliaid allweddol i fod yn bresennol ac i ymgysylltu â busnesau a thrafod cyfleoedd yn y dyfodol. Y gobaith yw y bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal wyneb yn wyneb. Awgrymwyd y dylid anfon gwahoddiad i'r Cyd-bwyllgor Craffu fel y gall aelod fod yn bresennol ar ran y pwyllgor.

Mae'r datganiadau o fuddiannau bellach wedi'u cwblhau ac eithrio’r Bwrdd Strategaeth Economaidd. Mae hyn oherwydd bod y ffurflen yn cael ei diweddaru.

Dywedodd yr Aelodau eu bod wedi codi pryderon am y gofrestr risgiau o'r blaen. Nodir ym Mlaenraglen Waith y Rhaglen Cyd-bwyllgor Craffu nad yw'n mynd gerbron y Cyd-bwyllgor tan fis Chwefror. Gofynnodd yr Aelodau i'r wybodaeth gael ei chyflwyno iddynt i’w hystyried cyn y cyfarfod a drefnwyd ar gyfer mis Mawrth. Byddai swyddogion yn croesawu'r her ynghylch y ffactorau lliniaru a nodwyd ar y gofrestr risgiau. Amlinellodd yr Aelodau hefyd bwysigrwydd gweld y newidiadau sy'n cael eu gwneud i'r gofrestr mewn ymateb i amgylchiadau newidiol.

Cododd yr Aelodau bryderon am y modd yr amgyffredir bod pob cyfarfod arall o'r Cyd-bwyllgor yn cael ei ganslo.

Ystyriodd yr Aelodau'n fyr yr elfennau caffael a amlinellir yn y Flaenraglen Waith. Nododd swyddogion fod gweithgarwch caffael yn seiliedig o fewn yr awdurdodau lleol. Roedd yr Aelodau am gael trosolwg o ble mae eitemau'n cael eu caffael o ran ardal leol a manteision i'r gymuned.

 

 

7.

Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 521 KB

Cofnodion:

Cytunodd yr Aelodau y byddai cyfarfod yn cael ei drefnu ar gyfer dechrau mis Mawrth a ddylai gynnwys Adroddiadau Monitro Chwarter 2 a Chwarter 3, Diweddariad Ariannol a Phortffolio'r Gofrestr Risgiau.