Cofnodion:
Croesawodd y
Cadeirydd Jane Lewis i'r cyfarfod. Rhoddodd Jane Lewis yr wybodaeth ddiweddaraf
i'r Aelodau am y Prosiect Sgiliau a Thalent.
Diben y rhaglen
yw sicrhau bod gweithlu medrus yn y rhanbarth i ddiwallu anghenion y prosiectau
newydd sy'n cael eu datblygu a'u darparu o fewn y Fargen Ddinesig.
Tynnodd y swyddog
sylw at y gwelliant yn ffigurau personau heb gymhwyster rhwng 2019 a 2020.
Atgoffwyd yr
Aelodau o'r amcanion Sgiliau a Thalent sy'n cynnwys 2,200 o sgiliau ychwanegol
a chefnogi'r gwaith o ddatblygu o leiaf 14,000 o sgiliau mewn unigolion
(lefelau 2-77), 3000 o gyfleoedd prentisiaeth newydd, gweithio gydag ysgolion i
greu llwybr gyrfa o addysg ysgol i addysg uwch/addysg bellach a phrentisiaethau
ym meysydd allweddol digidol, adeiladu, ynni, gweithgynhyrchu clyfar a gwyddor
bywyd/lles. Hefyd i greu 2 ganolfan ragoriaeth. Er mwyn cyflawni hyn datblygir
prosiectau prawf i ddatrys problemau lle nodir bylchau mewn sgiliau.
Hyd yma penodwyd
rheolwr rhaglen sydd wedi ymgysylltu â phrosiectau'r Fargen Ddinesig i nodi
anghenion a bylchau sgiliau. Bydd baromedr sgiliau yn cael ei gwblhau erbyn
canol mis Chwefror. Ar hyn o bryd mae'r baromedr gydag ymgynghorwyr allanol
sy'n gwirio'r data ac unrhyw dueddiadau newydd sy'n digwydd mewn sectorau a
fydd yn effeithio ar anghenion sgiliau'r rhanbarth yn y dyfodol.
Sefydlwyd
Grŵp Datrys Sgiliau i nodi bylchau mewn sgiliau ar draws y rhanbarth. Yn
ogystal, sefydlwyd Grŵp Darparu hefyd i ddarparu datrysiadau i'r bylchau
sgiliau a nodwyd.
Mae syniadau
prosiect yn cael eu datblygu i nodi prosiectau i ddiwallu'r anghenion sgiliau.
Bwriedir ymgysylltu â fforymau penaethiaid ar gyfer cydlynwyr 14-19 oed ym mhob
ardal awdurdod lleol i weld sut y gellir datblygu sgiliau yn y meysydd hyn i
ddiwallu anghenion y prosiectau yn y dyfodol.
Yn ystod y chwe
mis nesaf cynhelir Adolygiad Gateway arall ar ôl cwblhau'r baromedr.
Bydd ymgysylltu ehangach hefyd ag ysgolion a cholegau ynglŷn â'r anghenion
sgiliau a nodwyd gan y baromedr. Bydd prosiectau'n cael eu cymeradwyo i
ddarparu hyfforddiant sgiliau a gwella sgiliau ar draws y 5 maes allweddol a nodwyd
a bydd cyfleoedd uwchsgilio pellach yn cael eu datblygu. Mae bwriad hefyd i
greu'r cyfleoedd prentisiaeth.
Holodd yr Aelodau
sut y bydd y cyllid ar gyfer y prosiect yn cael ei ddefnyddio. Bydd
canlyniadau'r baromedr yn dangos i ba gyfeiriad y mae angen i'r prosiect fynd.
Mae angen defnyddio'r cyllid i ddatblygu cyrsiau newydd ac i gyd-fynd ag
anghenion y prosiectau sy'n cael eu datblygu dan y Fargen Ddinesig. Mae llawer
o ddiddordeb yn y cyllid i ddatblygu ffynonellau o ysgolion, colegau, y sector preifat
sy'n darparu hyfforddiant ac addysg uwch. Bydd set o feini prawf ar gael i
sicrhau nad yw cyrsiau a ddarperir yn cael eu dyblygu.
Mynegodd yr
Aelodau eu pryder ynghylch amseru'r prosiect gan fod llawer o'r prosiectau
eisoes ar waith. Mae'r Fargen ym mlwyddyn 5 o 15 ar hyn o bryd ac roedd yr
Aelodau'n pryderu na fyddai'r sgiliau ar waith ar gyfer cwblhau'r prosiectau.
Roedd yr
Aelodau'n awyddus i ddeall sut mae rhan uwchsgilio'r prosiect yn cael ei
harwain. Mae'r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol wedi bod yn gweithio
gyda busnesau ar draws y rhanbarth cyfan dros y 10 mlynedd diwethaf. Mae
grwpiau clwstwr ar waith ar gyfer pob un o'r sectorau blaenoriaeth ar draws y
rhanbarth i sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r cynllun ar gyfer y sectorau penodol
a'r anghenion sgiliau.
Mae'r Ganolfan
Ragoriaeth Adeiladu yn cael ei thrafod ar hyn o bryd rhwng y colegau a'r
prifysgolion yn y rhanbarth. Mae'n debygol y bydd yn cael ei chyflwyno heb
gynnwys rhaglen y fargen ddinesig. Mae potensial ar gyfer Canolfan Ragoriaeth o
ran ynni gwynt a llanw. Bydd hyn yn debygol o ddigwydd ar ddiwedd y rhaglen.
Holodd yr Aelodau pryd fydd amlygiad ffisegol y ganolfan yn debygol.
Gofynnodd yr
Aelodau am eglurder o ran cyllid a'r dyraniad cyllid ar ddechrau'r prosiect.
Cyfanswm y gyllideb yw £30 miliwn - mae £10 miliwn yn dod o'r Fargen Ddinesig
ac mae £20 miliwn o arian cyfatebol sy'n cynnwys £4 miliwn o'r sector preifat
ac £16 miliwn o'r sector cyhoeddus.
Holodd yr Aelodau
am effaith y pandemig ar gyllid y sector preifat. Cyfraniad y sector preifat
oedd cyflogi'r cyfleoedd prentisiaeth a grëwyd drwy'r contractau a hefyd y
defnydd o'u cyfleusterau ar gyfer hyfforddiant. Cadarnhaodd swyddogion nad yw'r
pandemig wedi effeithio ar y £4 miliwn o gyllid preifat.
Holodd yr Aelodau
sut y bydd elfen uwchsgilio'r prosiect yn gweithio o ran yr ysgolion. Mae
swyddogion wedi bod yn mynd i fforymau penaethiaid yng Nghastell-nedd Port
Talbot i sicrhau bod ysgolion uwchradd yn ymwybodol o'r Fargen Ddinesig a'r
Rhaglen Sgiliau a Thalent. Hefyd, i drafod sut y gall y Prosiect Sgiliau a
Thalent weithio gyda'r cwricwlwm newydd. Mae trafodaethau'n cael eu cynnal o
ran sut y gall y prosiect uwchsgilio'r athrawon er mwyn sicrhau y gellir
cyflwyno'r sgiliau hyn i'r ysgolion. Yn ychwanegol, i edrych ar gymwysterau
eraill mewn ysgolion nad ydynt yn cael eu harholi gan CBAC.
Nid cyllid
cyfalaf yw'r £30 miliwn. Holodd yr Aelodau a oes grantiau arian parod ar gael?
Cadarnhaodd swyddogion y bydd grantiau'n cael eu dyrannu i ysgolion, colegau,
addysg uwch a chyflogwyr mewn gweithleoedd. Nid i unigolion yn uniongyrchol.
Holodd yr Aelodau a yw'r prosiect yn gweithio gyda masnachwyr unigol.
Cadarnhaodd swyddogion y byddai grwpiau clwstwr yn gallu gwneud cais am gyllid
i uwchsgilio gweithwyr a dylid amlinellu o ble y byddai'r hyfforddiant yn dod
yn eu cais.
Diolchodd yr
Aelodau i'r swyddog am yr wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect.
Dogfennau ategol: