Lleoliad: Remotely via Teams
Rhif | Eitem |
---|---|
Croeso a galw’r enwau Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Nid oedd unrhyw gyhoeddiadau. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau. |
|
Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer PDF 559 KB Cofnodion: Croesawodd y
Cadeirydd Lisa Willis ac Oonagh Gavigan i'r cyfarfod. Rhoddwyd
cyflwyniad i'r Aelodau ar Gartrefi fel Gorsafoedd Pŵer, gan Reolwr y
Prosiect, Oonagh Gavigan. Cymeradwywyd y
prosiect gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ym mis Gorffennaf 2021. Mae'n brosiect
rhanbarthol dan arweiniad Cyngor Castell-nedd Port Talbot. Nod y prosiect yw
hwyluso'r ymagwedd Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer. Mae hyn yn golygu
integreiddio dyluniad ynni effeithlon a thechnolegau adnewyddadwy mewn 10,300 o
gartrefi newydd a phresennol. Mae gan y
prosiect nifer o amcanion allweddol. Mae'r rhain yn cynnwys mabwysiadu’r
cysyniad Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer fel un prif ffrwd; creu cartrefi
deallus/clyfar sy'n defnyddio ynni'n effeithlon; lleihau allyriadau carbon;
lleihau tlodi tanwydd; gwella iechyd a lles; creu a chefnogi cadwyn gyflenwi
fedrus a rhannu gwybodaeth/data i alluogi hyn i ddigwydd. Er mwyn cyflawni'r
amcanion mae sawl ffrwd ariannu ar gael, gan gynnwys y gronfa Cymhellion
Ariannol gwerth £5.75m a Chronfa Datblygu Sgiliau’r Gadwyn Gyflenwi gwerth £7m. Bydd y prosiect
yn gweithio ochr yn ochr â'r rhaglen Sgiliau a Thalent i sicrhau bod gan bobl y
sgiliau a'r hyfforddiant angenrheidiol i gefnogi'r rhaglen. Bydd y prosiect
yn dod o hyd i sefydliad annibynnol i fonitro a gwerthuso'r gwahanol
ddyluniadau a thechnolegau er mwyn sicrhau bod y rhaglen yn cael ei dysgu a'i
gwerthuso'n barhaus. Y gyllideb ar gyfer hyn yw £1m. Bydd hyn yn sicrhau set
gynhwysfawr a chywir o ddata a chanlyniadau i lywio'r prosiect wrth iddo ddatblygu.
Mae'r meysydd sydd wedi'u cynnwys yn y gwerthusiad yn cynnwys perfformiad,
amodau amgylcheddol, costau tanwydd a thlodi, ymddygiad amgylcheddol, costau a
gwelliannau iechyd a lles. Bydd yr wybodaeth a geir yn cael ei rhannu drwy'r
ganolfan wybodaeth mynediad agored. Aeth Ms Gavigan
drwy ddatblygiad cynllun peilot y prosiect yng Nghastell-nedd. Y cynllun oedd
un o'r prosiectau cynharaf, a ariannwyd gan raglen Tai Arloesol Llywodraeth
Cymru. Mae'n cynnwys nifer o bartneriaid ac mae wedi creu 16 o gartrefi i
storio a chreu ynni solar. Gohiriwyd
cwblhau'r prosiect tan fis Tachwedd 2020. Penodwyd Sero i barhau i gasglu data
gan systemau a thenantiaid. Rhoddodd Ms
Gavigan yr wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect cyffredinol hyd yma. Mae Rheolwr
Prosiect wedi’i benodi. Mae trafodaethau bellach wedi dechrau gydag arbenigwyr
TG i benderfynu sut y caiff y data ei rannu orau a sut y bydd canolfan rannu'n
cael ei chreu a fydd yn hygyrch i bartïon â diddordeb. Ar hyn o bryd, mae map o
fentrau'n cael ei benderfynu i ychwanegu gwerth a gwella'r cysyniad Cartrefi
fel Gorsafoedd Pŵer. Mae swyddogion hefyd wrthi'n mapio cadwyn gyflenwi i
gefnogi ceisiadau i gronfa datblygu'r gadwyn gyflenwi. Y camau nesaf yw
recriwtio gweddill y tîm a sefydlu a chael cymeradwyaeth gyfreithiol i
ledaenu'r ffrydiau ariannu. Bydd y tîm hefyd yn dechrau caffael y gwaith
monitro a gwerthuso yn gynnar y flwyddyn nesaf. Holodd yr Aelodau ble mae'r cyllid o ran buddsoddiad preifat a chyhoeddus ar hyn o bryd. Mae diddordeb sylweddol yn y prosiect o'r sector cyhoeddus. Ond gyda’r sector preifat, yn enwedig mentrau bach i ganolig, ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|
Adroddiad Monitro Ariannol PDF 1 MB Cofnodion: Aeth Richard
Arnold drwy'r adroddiad. Roedd yr adroddiad yn ymwneud â Chwarter 1. Dywedwyd wrth yr Aelodau y
dylai Chwarter 2 fod yn barod erbyn y cyfarfod nesaf (yn dilyn cymeradwyaeth yn
y Cyd-bwyllgor). Amlinellodd Mr
Arnold y strwythur ariannol. Mae'r Cyd-bwyllgor yn cynnwys y swyddogaethau
cymorth a’r gronfa buddsoddi mewn portffolios yw'r grant sydd i'w defnyddio
dros 15 mlynedd. Paratoir datganiad
ariannol annibynnol ar gyfer y Fargen Ddinesig sy'n annibynnol ar yr awdurdod
cynnal, Sir Gâr, a chaiff y datganiad ei archwilio’n annibynnol hefyd. Mae Atodiad A yn
seiliedig ar y sefyllfa alldro a ragwelir ar gyfer y flwyddyn. Mae cyllideb
weithredol gytunedig bum mlynedd ar waith ar gyfer y Fargen, sy'n gweithredu ym
mlwyddyn 2 ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae'r Fargen Ddinesig ym mlwyddyn 4, ac
roedd y Cyd-bwyllgor yn bodoli ar ffurf gysgodol wrth benodi a bu cyfnod pontio
o chwe mis i’r strwythur cyfrifyddu ffurfiol i ymdrin ag ef. Aeth Mr Arnold
drwy'r amcanestyniad diwedd blwyddyn ar gyfer y Cyd-bwyllgor, y Cyd-bwyllgor
Craffu a hefyd y Swyddfa Rheoli Portffolio. Mae cyfraniadau
cyllid yn cynnwys cyfraniadau refeniw grant a'r wyth cyfraniad partner. Dywedodd
Swyddogion fod diffyg oherwydd mater amseru. Roedd hyn oherwydd oedi cyn i'r
achosion busnes gael eu cymeradwyo. Mae'r prosiect yn cael ei gefnogi ar hyn o
bryd o'r cronfeydd wrth gefn. Fodd bynnag, nid oedd unrhyw bryderon am hyn a
rhagwelir y byddai'r cyllid yn sefydlogi. Mae’r gronfa
buddsoddi mewn portffolios mewn sefyllfa alldro sy'n seiliedig ar 15 mlynedd ac
mae'n seiliedig ar y penawdau telerau cyffredinol. Yn erbyn y rhain mae'r
fargen yn dangos diffyg ar fuddsoddiad o oddeutu £37m (3%). Rhagwelir y bydd y
pecyn buddsoddi ym mlwyddyn 15 yn £1.237biliwn. Mae tabl Rhagolwg
Buddsoddiad y Rhaglen yn amlinellu gwybodaeth benodol ar lefel prosiect.
Amcangyfrifir bod 4% o gostau refeniw o fewn y gyllideb. O ran y Gronfa
Buddsoddi mewn Portffolios, holodd aelodau a ellid dadansoddi hyn yn flynyddol.
Faint y mae cwmnïau preifat wedi'i fuddsoddi a faint y mae'r awdurdodau unigol
wedi'i roi drwy eu pwerau benthyca hyd yma? Dywedodd swyddogion y gellid
cyflwyno hyn mewn cyfarfod yn y dyfodol. Roedd yr aelodau'n awyddus i sicrhau
bod incymau a gwariant amcanol a ragwelwyd yn cael eu bodloni. Bydd y proffiliau
gwireddu buddion yn rhannu'r manteision ar lefel y portffolio am y 15 mlynedd.
Byddant yn darparu swyddi gwerth ychwanegol gros a'r buddsoddiad a ragwelir hyd
at ddiwedd y portffolio. Byddant hefyd yn darparu buddion ehangach y rhaglen
a'r prosiectau a gyflwynir. Dywedodd Mr
Burnes wrth yr Aelodau fod gwerth ychwanegol gros yn ddangosydd
macro-economaidd ac maent yn ceisio eglurder gan Lywodraethau Cymru a'r DU o
ran sut i'w briodoli i brosiect a'i ddatblygu i leoliad rhanbarthol ehangach.
Yn ogystal â hyn, sut y dylid ei gyflwyno i Lywodraethau. Trafododd yr
Aelodau'r bwlch ariannu a grëwyd gan ddyddiadau cwblhau'r prosiect a ragwelir
a'r cyllid a ddefnyddiwyd gan y Llywodraeth. Cydnabu'r Aelodau mai dyma lle y
bydd angen i awdurdodau fenthyca i gefnogi'r bwlch cyllido. |
|
Argymhellion Archwilio Mewnol - Diweddariad PDF 793 KB Cofnodion: Rhoddodd Mr
Jonathan Burnes ddiweddariad llafar ar argymhellion yr Archwilio Mewnol. Roedd
pedwar argymhelliad allweddol o'r archwiliad – mae un bron â’i gwblhau, mae dau
wedi'u cau a bydd un yn parhau. Roedd yr argymhelliad cyntaf yn ymwneud â chytundebau ffurfiol. Maent yn
cynnwys y pedwar sefydliad – dau fwrdd iechyd a dwy brifysgol. Cadarnhawyd nad
ydynt yn bartneriaid llofnodedig ar Gytundeb Gwaith y Cyd-bwyllgor, ond maent
yn bartneriaid o fewn y Fargen Ddinesig. Mae cytundebau wedi'u hanfon at y
pedwar corff, mae tri ohonynt wedi'u derbyn yn ôl a disgwylir y pedwerydd un yn
fuan. O ran y datganiadau o fuddiannau, mae proses bellach ar waith. Cafwyd
cyfradd ymateb o 93% a chadarnhaodd swyddogion eu bod yn aros am eglurhad
ynglŷn ag addasrwydd ffurflenni datganiad o fudd y Bwrdd Strategaeth
Economaidd. Yn ail, o ran y
fethodoleg sgorio risg, roedd yn ofynnol adolygu hyn fel rhan o argymhellion yr
Archwilio Mewnol. Roedd angen ystyried y risg gynhenid a gweddilliol. Mae hyn
bellach wedi'i gwblhau. Roedd y trydydd
argymhelliad yn ymwneud â chofnodi cyflawniad canlyniadau, allbynnau ac effeithiau.
Y nod yw sicrhau bod monitro gwireddu buddion manwl ar waith ar gyfer y
chwarter nesaf (C3). Ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, dylai'r sefyllfa alldro
fod yn glir ac yna gellir monitro hyn yn erbyn yr amcanestyniad achosion
busnes. O'r pwynt hwn ac yn y dyfodol, dylai fod cynllun gwireddu buddion cwbl
weithredol ar waith. Roedd yr
argymhelliad diwethaf yn ymwneud â chyllid y sector preifat. Roedd yr
argymhelliad yn gofyn am fonitro'r cyllid hwn yn ofalus a sicrhau bod cynllunio
wrth gefn ar waith pe na bai'r cyllid yn cael ei wireddu. Mewn ymateb i hyn,
ceir monitro chwarterol, crëwyd fframwaith ar gyfer ymgysylltu â gweithgarwch
busnes masnachol y mae angen i'r pedwar awdurdod lleol ei gymeradwyo. Holodd yr Aelodau
am fynediad y cyhoedd at y datganiadau o fuddiant. Mewn perthynas â hyn, ar y
pryd mae trafodaethau’n parhau ynglŷn â datganiadau pwy sy’n cael eu
cynnwys h.y. aelodau a/neu swyddogion. Bydd datganiadau'n cael eu rhoi ar y
wefan pan fydd hyn wedi'i benderfynu. Awgrymodd yr Aelodau y dylid cynnwys
swyddogion hefyd. Ynghylch rheoli
risgiau, holodd yr Aelodau a oedd y mapiau llifogydd newydd wedi'u cynnwys ar y
risgiau gan eu bod yn peri risg sylweddol i rai prosiectau. Cadarnhaodd
swyddogion fod hyn wedi'i raeadru i lefel y prosiect a'i ystyried. Mae
prosiectau'n mynd rhagddynt yn ôl y bwriad. Gofynnodd yr
Aelodau i swyddogion, mewn perthynas â'r asesiad risg, a ellir tynnu sylw'r
aelodau at y rheini sydd wedi newid yn hytrach na darparu'r asesiad risg llawn
yn unig. Cadarnhaodd swyddogion fod y model hwn eisoes ar waith ac y byddai'n
cael ei gyflwyno yn y cyfarfod nesaf. |
|
Protocol Cyfarfod Bargen Ddinesig Bae Abertawe PDF 509 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Darparodd
Jonathan Burnes amlinelliad byr o'r ddogfen. Tynnodd yr
Aelodau sylw'r swyddog at 5.1 ar yr agenda. Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ar
y geiriad gan ei fod yn awgrymu bod y Swyddfa Rheoli Rhaglenni yn gosod yr
agenda graffu i raddau helaeth. Cadarnhaodd yr Aelod mai'r pwyllgor craffu sy'n
gosod yr agenda, ond bydd yn gweithio gyda'r SRhRh ar goladu'r wybodaeth sydd
ei hangen ar gyfer yr agenda. Cytunodd yr Aelodau ar eiriad drafft mewn
perthynas â’r cymal yn yr agenda a'i anfon at y SRhRh i'w ystyried. Nododd yr Aelodau
hefyd fod y cworwm ar 3.8 yn nodi 8 aelod, ond roedd y cworwm yn y broses o
gael ei leihau i 6. Byddai hyn yn cael ei ddiwygio pan fyddai'r cworwm newydd
yn cael ei gymeradwyo gan bob un o'r pedwar awdurdod. Cytunodd y
Pwyllgor i anfon geiriad drafft at y SRhRh ar gyfer newidiadau a awgrymir i'r
geiriad o ran pennu agendâu. |
|
Adolygiad Gateway a Chynllun Gweithredu PDF 523 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Mae'r Adolygiad
Gateway yn adolygiad strategol a gynhelir gan swyddogion allanol. Mae'n
adolygiad tridiau sy'n ystyried sut gall y rhaglen symud ymlaen. Cynhaliwyd yr
adolygiad ym mis Gorffennaf a chafodd sgôr oren/gwyrdd am gyflawni. Cafwyd un ar ddeg
o argymhellion o'r adolygiad. Roedd pedwar yn argymhellion allweddol ac roedd
chwech yn argymhellion ymgynghorol. Aeth Mr Burnes drwy'r argymhellion a'r
diweddariadau’n fras fel yr amlinellir yn yr adroddiadau a ddarparwyd. Bydd yr
holl argymhellion yn cael eu hystyried yn gyfartal gan Fwrdd y Rhaglen. Dywedodd yr
Aelodau y bydd ganddynt ddiddordeb mewn dysgu sut bydd y pwyllgor hwn yn
cyd-fynd â threfniadau llywodraethu lleol yng ngoleuni'r Cyd-bwyllgorau
Corfforaethol a fydd yn cael eu cyflwyno yn y dyfodol. |
|
Blaenraglen Waith 2021-2022 PDF 531 KB Cofnodion: Mynegodd yr Aelodau ddiddordeb mewn edrych ar
flaenraglen waith y Cyd-bwyllgor. Nododd yr Aelodau’r eitem hon. |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau
brys (boed yn gyhoeddus neu wedi'u heithrio) yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn
unol ag Adran 100B (4)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau brys. |