Cofnodion:
Croesawodd y
Cadeirydd Lisa Willis ac Oonagh Gavigan i'r cyfarfod.
Rhoddwyd
cyflwyniad i'r Aelodau ar Gartrefi fel Gorsafoedd Pŵer, gan Reolwr y
Prosiect, Oonagh Gavigan.
Cymeradwywyd y
prosiect gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ym mis Gorffennaf 2021. Mae'n brosiect
rhanbarthol dan arweiniad Cyngor Castell-nedd Port Talbot. Nod y prosiect yw
hwyluso'r ymagwedd Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer. Mae hyn yn golygu
integreiddio dyluniad ynni effeithlon a thechnolegau adnewyddadwy mewn 10,300 o
gartrefi newydd a phresennol.
Mae gan y
prosiect nifer o amcanion allweddol. Mae'r rhain yn cynnwys mabwysiadu’r
cysyniad Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer fel un prif ffrwd; creu cartrefi
deallus/clyfar sy'n defnyddio ynni'n effeithlon; lleihau allyriadau carbon;
lleihau tlodi tanwydd; gwella iechyd a lles; creu a chefnogi cadwyn gyflenwi
fedrus a rhannu gwybodaeth/data i alluogi hyn i ddigwydd. Er mwyn cyflawni'r
amcanion mae sawl ffrwd ariannu ar gael, gan gynnwys y gronfa Cymhellion
Ariannol gwerth £5.75m a Chronfa Datblygu Sgiliau’r Gadwyn Gyflenwi gwerth £7m.
Bydd y prosiect
yn gweithio ochr yn ochr â'r rhaglen Sgiliau a Thalent i sicrhau bod gan bobl y
sgiliau a'r hyfforddiant angenrheidiol i gefnogi'r rhaglen.
Bydd y prosiect
yn dod o hyd i sefydliad annibynnol i fonitro a gwerthuso'r gwahanol
ddyluniadau a thechnolegau er mwyn sicrhau bod y rhaglen yn cael ei dysgu a'i
gwerthuso'n barhaus. Y gyllideb ar gyfer hyn yw £1m. Bydd hyn yn sicrhau set
gynhwysfawr a chywir o ddata a chanlyniadau i lywio'r prosiect wrth iddo ddatblygu.
Mae'r meysydd sydd wedi'u cynnwys yn y gwerthusiad yn cynnwys perfformiad,
amodau amgylcheddol, costau tanwydd a thlodi, ymddygiad amgylcheddol, costau a
gwelliannau iechyd a lles. Bydd yr wybodaeth a geir yn cael ei rhannu drwy'r
ganolfan wybodaeth mynediad agored.
Aeth Ms Gavigan
drwy ddatblygiad cynllun peilot y prosiect yng Nghastell-nedd. Y cynllun oedd
un o'r prosiectau cynharaf, a ariannwyd gan raglen Tai Arloesol Llywodraeth
Cymru. Mae'n cynnwys nifer o bartneriaid ac mae wedi creu 16 o gartrefi i
storio a chreu ynni solar.
Gohiriwyd
cwblhau'r prosiect tan fis Tachwedd 2020. Penodwyd Sero i barhau i gasglu data
gan systemau a thenantiaid.
Rhoddodd Ms
Gavigan yr wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect cyffredinol hyd yma. Mae Rheolwr
Prosiect wedi’i benodi. Mae trafodaethau bellach wedi dechrau gydag arbenigwyr
TG i benderfynu sut y caiff y data ei rannu orau a sut y bydd canolfan rannu'n
cael ei chreu a fydd yn hygyrch i bartïon â diddordeb. Ar hyn o bryd, mae map o
fentrau'n cael ei benderfynu i ychwanegu gwerth a gwella'r cysyniad Cartrefi
fel Gorsafoedd Pŵer. Mae swyddogion hefyd wrthi'n mapio cadwyn gyflenwi i
gefnogi ceisiadau i gronfa datblygu'r gadwyn gyflenwi.
Y camau nesaf yw
recriwtio gweddill y tîm a sefydlu a chael cymeradwyaeth gyfreithiol i
ledaenu'r ffrydiau ariannu. Bydd y tîm hefyd yn dechrau caffael y gwaith
monitro a gwerthuso yn gynnar y flwyddyn nesaf.
Holodd yr Aelodau
ble mae'r cyllid o ran buddsoddiad preifat a chyhoeddus ar hyn o bryd. Mae
diddordeb sylweddol yn y prosiect o'r sector cyhoeddus. Ond gyda’r sector
preifat, yn enwedig mentrau bach i ganolig, mae'n anodd eu cael i gymryd rhan
nes y bydd angen iddynt wneud hynny, gan eu bod yn aml yn cael eu hysgogi gan
yr ochr ariannol a bydd angen lleihau costau.
Mae'r gwaith
monitro a gwerthuso’n rhan allweddol o'r prosiect ac mae swyddogion yn awyddus
i sicrhau bod proses safonedig ar waith fel y gellir cymharu data ar draws
rhanbarth y de-orllewin. Mae monitro o ran cost, defnydd a charbon. Hefyd, eir
ati i fonitro’r effaith ar fywydau pobl ac agweddau eraill ar draws y rhanbarth
h.y. iechyd.
Mae'r gwaith o
fonitro'r prosiect peilot yn cael ei wneud ar hyn o bryd. Wrth i hyn gael ei
wneud, mae'r prosesau i gasglu data’n cael eu manwl gyweirio er mwyn sicrhau y
cesglir y data sy’n angenrheidiol. Gwneir hyn ar draws pedwar tymor y flwyddyn.
Holodd yr
Aelodau, o ran trosglwyddo gwybodaeth ac eiddo deallusol, a oes cyfle i unrhyw
werth gael ei ychwanegu at y rhanbarth ac unrhyw gyfle i incwm ddeillio ohono?
Mae datblygu'r gadwyn gyflenwi’n elfen allweddol. Mae tri pheth allwedd yn hyn
– system ynni ddeallus, pympiau gwres a storfeydd batris. Mae'r swyddogion yn
gweithio gyda sefydliadau amrywiol i wneud hyn. Mae'n bwysig sefydlu cadwyn
gyflenwi dda ac mae hwn yn bwynt allweddol yn y strategaeth i ddod ag incwm i'r
rhanbarth.
Holodd yr Aelod
faint o swyddi newydd fydd yn cael eu creu, yn benodol rolau prentisiaid?
Cydnabu swyddogion nad oes gan y rhanbarth, nac yn wir y DU, y sgiliau sydd eu
hangen i ddatblygu'r prosiect ar y cyflymder y mae angen ei ddatblygu. Mae'n
aml yn anodd recriwtio. Mae'r prosiect yn gweithio gyda'r colegau a'r
prifysgolion i bontio'r bwlch sydd ei angen.
Holodd yr Aelodau
a yw'r amcangyfrif o swyddi ar gyfer y datblygiad hwn yn unig? Mynegodd yr
Aelodau ymagwedd ofalus o ran faint o swyddi a gaiff eu priodoli i'r prosiect.
O ran cyllid, os yw’n brosiect safonol, mynegodd yr Aelod ei bryder y gallai
fod yn rhwystr i’r sector preifat ac o bosib y sector cyhoeddus i fuddsoddi.
Daw rhan helaeth
o'r swyddi o ddatblygiad y gadwyn gyflenwi. Mae nifer o gwmnïau ar draws y
rhanbarth wedi dechrau arallgyfeirio ac mae swyddogion yn ystyried sut y
gallant ffitio i mewn i'r gadwyn gyflenwi. Er nad ydynt efallai'n datblygu'r
cynnyrch terfynol cyffredinol, gallant helpu i ddatblygu'r gwahanol elfennau i
gyflawni'r canlyniad terfynol.
Gofynnodd yr
Aelodau am amserlenni a cherrig milltir i nodi cynnydd ar y prosiect. Gofynnodd
yr Aelodau hefyd am ddadansoddiad risg mewn perthynas â rhagweld problemau ac
unrhyw gamau lliniaru a gymerir mewn perthynas â hyn. Cadarnhaodd swyddogion
fod dadansoddiad risg yn rhan o'r achos busnes a bydd hyn yn cael ei ddiweddaru
yn ôl yr angen. At hynny, bydd gwybodaeth fanylach yn cael ei rhoi i'r Aelodau
yn y diweddariad nesaf ar y prosiect.
Trafododd
swyddogion rannu gwybodaeth a nodwyd y dylid ei rhannu o fewn y sector
cyhoeddus ond mae'n bwysig ei bod yn cael ei lledaenu i'r sector preifat hefyd.
Bydd hyn yn sicrhau bod y prosiect yn tyfu ar y cyflymder y mae angen iddo, er
mwyn iddo fod yn llwyddiannus.
Holodd yr Aelodau
a oedd unrhyw gylch gwaith i'w gynnwys yn y prosesau cyn gwneud penderfyniadau.
Dywedodd swyddogion y byddai hyn yn cael ei groesawu a byddent yn aros am ragor
o wybodaeth gan y Pwyllgor o ran yr hyn yr oeddent am ei ystyried.
O ran amserlen 15
mlynedd y prosiect, dywedodd swyddogion y byddai llawer o'r gwaith yn
cysylltu’r dechnoleg sy'n datblygu â'r gwaith adeiladu. Roeddent yn awyddus i
sicrhau bod y prosiect yn cael ei gyflawni o fewn yr amserlen a amlinellwyd.
Diolchodd yr
aelodau i'r swyddogion am ddod i'r cyfarfod.
Dogfennau ategol: