Lleoliad: Remotely via Teams
Rhif | Eitem |
---|---|
Croeso a galw’r rhestr Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Nododd y
Cadeirydd ei fod wedi mynd i gyfarfod yn ddiweddar gyda Chadeirydd Cyd-bwyllgor
Dinas-ranbarth Bae Abertawe, y Cynghorydd Rob Stewart, ynghyd â Rheolwr y
Rhaglen Jonathan Burnes, y Prif Swyddog Wendy Walters, a swyddogion
Gwasanaethau Democrataidd Castell-nedd Port Talbot i drafod rhai o'r problemau
parhaus y mae Craffu wedi'u hwynebu. Dywedodd y
Cadeirydd na fyddai eitem 6 (adroddiad ar y prif bwyntiau) yn cael ei chraffu,
gan nad oedd Chwarter 2 wedi'i gyflwyno i'r Pwyllgor. Mynegodd yr
Aelodau eu hanfodlonrwydd ynghylch yr wybodaeth yn cael ei darparu mewn modd
amserol i ganiatáu craffu effeithiol. Cytunodd y
Pwyllgor y bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu'n ffurfiol at bawb sy'n gysylltiedig
i dynnu sylw at y materion sy'n wynebu'r pwyllgor craffu ac yn awgrymu ffyrdd
ymlaen i sicrhau bod y pwyllgor nesaf yn gallu craffu yn ôl yr angen. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 381 KB ·
9 Tachwedd 2021 ·
23 Tachwedd 2021 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cymeradwywyd
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Tachwedd 2021 fel cofnod gwir a chywir. Cymeradwywyd
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Tachwedd 2021 fel cofnod gwir a chywir. |
|
Sgiliau a Thalent - diweddariad HTML 76 KB Cofnodion: Croesawodd y
Cadeirydd Jane Lewis i'r cyfarfod. Rhoddodd Jane Lewis yr wybodaeth ddiweddaraf
i'r Aelodau am y Prosiect Sgiliau a Thalent. Diben y rhaglen
yw sicrhau bod gweithlu medrus yn y rhanbarth i ddiwallu anghenion y prosiectau
newydd sy'n cael eu datblygu a'u darparu o fewn y Fargen Ddinesig. Tynnodd y swyddog
sylw at y gwelliant yn ffigurau personau heb gymhwyster rhwng 2019 a 2020. Atgoffwyd yr
Aelodau o'r amcanion Sgiliau a Thalent sy'n cynnwys 2,200 o sgiliau ychwanegol
a chefnogi'r gwaith o ddatblygu o leiaf 14,000 o sgiliau mewn unigolion
(lefelau 2-77), 3000 o gyfleoedd prentisiaeth newydd, gweithio gydag ysgolion i
greu llwybr gyrfa o addysg ysgol i addysg uwch/addysg bellach a phrentisiaethau
ym meysydd allweddol digidol, adeiladu, ynni, gweithgynhyrchu clyfar a gwyddor
bywyd/lles. Hefyd i greu 2 ganolfan ragoriaeth. Er mwyn cyflawni hyn datblygir
prosiectau prawf i ddatrys problemau lle nodir bylchau mewn sgiliau. Hyd yma penodwyd
rheolwr rhaglen sydd wedi ymgysylltu â phrosiectau'r Fargen Ddinesig i nodi
anghenion a bylchau sgiliau. Bydd baromedr sgiliau yn cael ei gwblhau erbyn
canol mis Chwefror. Ar hyn o bryd mae'r baromedr gydag ymgynghorwyr allanol
sy'n gwirio'r data ac unrhyw dueddiadau newydd sy'n digwydd mewn sectorau a
fydd yn effeithio ar anghenion sgiliau'r rhanbarth yn y dyfodol. Sefydlwyd
Grŵp Datrys Sgiliau i nodi bylchau mewn sgiliau ar draws y rhanbarth. Yn
ogystal, sefydlwyd Grŵp Darparu hefyd i ddarparu datrysiadau i'r bylchau
sgiliau a nodwyd. Mae syniadau
prosiect yn cael eu datblygu i nodi prosiectau i ddiwallu'r anghenion sgiliau.
Bwriedir ymgysylltu â fforymau penaethiaid ar gyfer cydlynwyr 14-19 oed ym mhob
ardal awdurdod lleol i weld sut y gellir datblygu sgiliau yn y meysydd hyn i
ddiwallu anghenion y prosiectau yn y dyfodol. Yn ystod y chwe
mis nesaf cynhelir Adolygiad Gateway arall ar ôl cwblhau'r baromedr.
Bydd ymgysylltu ehangach hefyd ag ysgolion a cholegau ynglŷn â'r anghenion
sgiliau a nodwyd gan y baromedr. Bydd prosiectau'n cael eu cymeradwyo i
ddarparu hyfforddiant sgiliau a gwella sgiliau ar draws y 5 maes allweddol a nodwyd
a bydd cyfleoedd uwchsgilio pellach yn cael eu datblygu. Mae bwriad hefyd i
greu'r cyfleoedd prentisiaeth. Holodd yr Aelodau
sut y bydd y cyllid ar gyfer y prosiect yn cael ei ddefnyddio. Bydd
canlyniadau'r baromedr yn dangos i ba gyfeiriad y mae angen i'r prosiect fynd.
Mae angen defnyddio'r cyllid i ddatblygu cyrsiau newydd ac i gyd-fynd ag
anghenion y prosiectau sy'n cael eu datblygu dan y Fargen Ddinesig. Mae llawer
o ddiddordeb yn y cyllid i ddatblygu ffynonellau o ysgolion, colegau, y sector preifat
sy'n darparu hyfforddiant ac addysg uwch. Bydd set o feini prawf ar gael i
sicrhau nad yw cyrsiau a ddarperir yn cael eu dyblygu. Mynegodd yr
Aelodau eu pryder ynghylch amseru'r prosiect gan fod llawer o'r prosiectau
eisoes ar waith. Mae'r Fargen ym mlwyddyn 5 o 15 ar hyn o bryd ac roedd yr
Aelodau'n pryderu na fyddai'r sgiliau ar waith ar gyfer cwblhau'r prosiectau. Roedd yr Aelodau'n awyddus i ddeall sut mae rhan uwchsgilio'r prosiect yn cael ei harwain. ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |
|
Blaenraglen Waith Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe PDF 470 KB Cofnodion: Aeth Phil Ryder
drwy Flaenraglen Waith y Cyd-bwyllgor. Amlinellodd pa eitemau oedd wedi'u
cwblhau a pha eitemau oedd yn parhau. Rhoddwyd yr
wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am Lywodraethu a Sicrwydd. Mae'r Gwireddu
Buddion ar Lefel Portffolio wedi'i gwblhau. Mae'r gwireddu buddion ehangach yn
parhau a disgwylir iddo gael ei gyflwyno yn y Cyd-bwyllgor sydd ar ddod. Gan
gyfeirio at bum argymhelliad yr Adolygiad Gateway, nodir bod tri o'r
pump wedi'u cwblhau a bod y ddau arall wedi'u cwblhau'n rhannol. Mae Rheoli
Meddalwedd bron wedi'i gwblhau, fodd bynnag mae un ymholiad ynglŷn â'r
sicrwydd sy'n ofynnol a dylai hyn gael ei ddatrys yn fuan. Mae Dangosfyrddau
Prosiect y Rhaglen wedi dechrau. Mae'r dangosfyrddau ar lefel portffolio ar
gael i'w gweld. Mae Bwrdd y
Rhaglen wedi cymeradwyo rôl yr Uwch-swyddog Cyfrifol. Bydd pob Uwch-swyddog
Cyfrifol yn derbyn cymorth arweiniad ychwanegol a hyfforddiant gan Lywodraeth
Cymru lle bo angen. Cynhaliwyd yr
adolygiad o Gadeirydd Portffolio'r Rhaglen ym mis Tachwedd, ac yn unol â
Chadeirydd y Cyd-bwyllgor, byddai hyn yn cael ei ymestyn tan fis Mai 2022. Mae'r Fframwaith
Sicrwydd Gateway wedi'i sefydlu ac mae swyddogion yn gweithio ar y
memorandwm cyd-ddealltwriaeth ar hyn o bryd. Dylid cyflwyno hyn i'r
Cyd-bwyllgor yn ystod y misoedd nesaf. Derbyniwyd
cymeradwyaeth y Gweinidog ar gyfer y Prosiect Sgiliau a Thalent ac Achos Busnes
Campysau. Mae diweddariad parhaus ar Achos Busnes Pentre Awel. Mae'r Cynllun
Cyfathrebu a Marchnata wedi ei ddiweddaru ynghyd â'r amserlen Cyfathrebu ac
Ymgysylltu. Mae'r gwaith ffeithlunio'n parhau. Mae digwyddiad
ddwywaith y flwyddyn y Fargen Ddinesig wedi'i symud i fis Mawrth. Bydd y
digwyddiad ddwywaith y flwyddyn yn ddigwyddiad arddangos a gynhelir ar 3
Mawrth. Gwahoddir yr holl randdeiliaid allweddol i fod yn bresennol ac i
ymgysylltu â busnesau a thrafod cyfleoedd yn y dyfodol. Y gobaith yw y bydd y
digwyddiad yn cael ei gynnal wyneb yn wyneb. Awgrymwyd y dylid anfon gwahoddiad
i'r Cyd-bwyllgor Craffu fel y gall aelod fod yn bresennol ar ran y pwyllgor. Mae'r datganiadau
o fuddiannau bellach wedi'u cwblhau ac eithrio’r Bwrdd Strategaeth Economaidd.
Mae hyn oherwydd bod y ffurflen yn cael ei diweddaru. Dywedodd yr
Aelodau eu bod wedi codi pryderon am y gofrestr risgiau o'r blaen. Nodir ym
Mlaenraglen Waith y Rhaglen Cyd-bwyllgor Craffu nad yw'n mynd gerbron y
Cyd-bwyllgor tan fis Chwefror. Gofynnodd yr Aelodau i'r wybodaeth gael ei
chyflwyno iddynt i’w hystyried cyn y cyfarfod a drefnwyd ar gyfer mis Mawrth.
Byddai swyddogion yn croesawu'r her ynghylch y ffactorau lliniaru a nodwyd ar y
gofrestr risgiau. Amlinellodd yr Aelodau hefyd bwysigrwydd gweld y newidiadau
sy'n cael eu gwneud i'r gofrestr mewn ymateb i amgylchiadau newidiol. Cododd yr Aelodau
bryderon am y modd yr amgyffredir bod pob cyfarfod arall o'r Cyd-bwyllgor yn
cael ei ganslo. Ystyriodd yr
Aelodau'n fyr yr elfennau caffael a amlinellir yn y Flaenraglen Waith. Nododd
swyddogion fod gweithgarwch caffael yn seiliedig o fewn yr awdurdodau lleol.
Roedd yr Aelodau am gael trosolwg o ble mae eitemau'n cael eu caffael o ran
ardal leol a manteision i'r gymuned. |
|
Cofnodion: Cytunodd yr Aelodau y byddai cyfarfod yn cael ei
drefnu ar gyfer dechrau mis Mawrth a ddylai gynnwys Adroddiadau Monitro
Chwarter 2 a Chwarter 3, Diweddariad Ariannol a Phortffolio'r Gofrestr Risgiau. |