Lleoliad: Remotely via Teams
Rhif | Eitem |
---|---|
Croeso a galw’r rhestr Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau. |
|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Nid oedd unrhyw gyhoeddiadau. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 228 KB Cofnodion: Eitem 8: Dywedodd yr aelodau eu bod wedi gofyn yn y
cyfarfod a oedd y 102 o swyddi yn ymwneud â'r Egin yn swyddi newydd neu a
gawsant eu trosglwyddo o ranbarth arall? Gofynnodd yr aelodau hefyd am eglurhad
ar yr eitem hon. Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod blaenorol a
gynhaliwyd ar 20 Gorffennaf 2021 fel cofnod cywir gyda'r diwygiad uchod. |
|
Cofnodion: Rhoddodd Gareth
Jones, Arweinydd Prosiect dros Isadeiledd Digidol, gyflwyniad byr i'r aelodau.
Mae'r rhaglen yn ymwneud â buddsoddi yng nghysylltedd y rhanbarth. Mae
cysylltedd yn sail i agweddau mawr ar fywyd pobl gan gynnwys agweddau
cymdeithasol, lles a busnes. Rhagwelir y bydd buddsoddiad o £55 miliwn yn y
rhaglen dros y 5 mlynedd nesaf. Mae hyn yn cynnwys grant y Fargen Ddinesig
gwerth £25 miliwn, £13.5 miliwn o gyllid gan y sector cyhoeddus a buddsoddiad o
£16.5 miliwn gan y sector preifat. Nod y prosiect yw
sicrhau darpariaeth gigabeit 100% ar gyfer pob eiddo preswyl a busnes yn y
rhanbarth. Mae'r amcanion lefel uchel yn cynnwys y dylai'r prosiect fod yn
gatalydd ar gyfer buddsoddi mewn isadeiledd digidol rhanbarthol ac ysgogi a
hwyluso buddsoddiad yn y sector preifat. Mae'r £55 miliwn
wedi'u rhannu dros bum mlynedd ar draws tair ffrwd waith prosiect: gwledig,
lleoedd cysylltiedig a rhwydwaith diwifr genhedlaeth nesaf. Gwariant y prosiect
ar gyfer pob un o’r tair ffrwd waith yw £25.5miliwn, £20miliwn a £9miliwn yn y
drefn honno. Mae'r ffrwd waith
wledig yn ymwneud â mynd i'r afael â bylchau mewn cysylltedd. Mae lleoedd
cysylltiedig yn ymwneud â chysylltedd o'r radd flaenaf mewn parthau twf
economaidd ac mae'r rhwydwaith diwifr genhedlaeth nesaf yn cynnwys nifer o
ymyriadau ynghylch mabwysiadu 5G yn gynnar. Rhoddodd Mr Jones
ragor o fanylion am y ffrydiau gwaith unigol. Mae'r ffrwd wledig yn cynnwys
caffael isadeiledd ffibr all drosglwyddo data ar gyfradd gigabeit. Nodwyd bod
hon yn strategaeth sydd wedi'i defnyddio'n llwyddiannus ar draws rhai o'r
rhanbarthau sydd â'r cysylltiadau gorau yn y DU. Mae'n golygu buddsoddi yn yr
asedau amrywiol sy'n eiddo i gyrff cyhoeddus ar draws y rhanbarth. Bydd hyn
wedyn yn annog buddsoddi mewn adeiladau ac ardaloedd cyfagos etc. Gallai hyn
ddenu buddsoddiad preifat. Mae rhaglen
cymorth ac ymgysylltu cymunedol sy'n gweithio gyda busnesau lleol i helpu i
ddatblygu technoleg yn yr ardaloedd o'r rhanbarth sydd â'r gwasanaeth gwaethaf
a'r ardaloedd mwyaf gwledig. Byddant yn eu cynorthwyo i gael mynediad at
ffrydiau ariannu. Mae nifer o
ymyriadau yng nghefn gwlad. Nid oes un gwariant prosiect unigol. Yr eitem fwyaf
yw caffael isadeiledd ffibr all drosglwyddo data ar gyfradd gigabeit ar gyfer
safleoedd hybiau’r sector cyhoeddus. Mae hwn yn ddull sydd wedi cael ei
ddefnyddio'n llwyddiannus ar draws y rhannau o'r wlad sydd â'r cysylltiadau
gorau. Bydd y broses gaffael yn canolbwyntio ar asedau y mae'r sector cyhoeddus
yn berchen arnynt. Gall cael cydymffurfiaeth cymorth gwladwriaethol llawn i gaffael
band eang ar gyfer eiddo preswyl gymryd blynyddoedd. Mae Llywodraeth y DU yn
argymell defnyddio asedau'r sector cyhoeddus. Drwy fuddsoddi mewn adeiladu
cysylltedd ffibr ar draws asedau ar draws y rhanbarth, mae hyn yn cynyddu'r
potensial ar gyfer buddsoddiad pellach mewn safleoedd adeiladu cyfagos,
adeiladau masnachol etc. Gallai hyn ddenu buddsoddiad gan y sector preifat ar
ben hynny. Ystyrir safleoedd hybiau fel unrhyw safle cyhoeddus y mae angen
cysylltedd arnynt. Bydd yr elfen wledig yn cynnwys rhaglen cymorth ac ymgysylltu cymunedol a fydd yn helpu i wella cysylltedd yn yr ardaloedd o'r rhanbarth ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus
neu wedi'u heithrio) yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100b (4)(B)
o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau brys. |