Lleoliad: Remotely via Teams
Rhif | Eitem |
---|---|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Gwnaeth yr aelod canlynol ddatganiad o fuddiant
ar ddechrau'r
cyfarfod: Y Cynghorydd P Richards Parthed Alldro Cyfalaf/Refeniw 2019-20
(papurau bwrdd y Cabinet), oherwydd bod ei briod yn rheoli darpariaeth ar ôl
ysgol yn Ysgol Gynradd Blaenbaglan. |
|
Craffu Cyn Penderfynu ·
Dewis eitemau
priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir
adroddiadau Bwrdd y Cabinet ar gufer yr Aelodau Craffu) Cofnodion: Craffodd y Pwyllgor ar yr eitemau canlynol ar
agenda'r Cabinet: Datganiad Llywodraethu
Blynyddol 2019/2020 Cynhaliwyd trafodaethau
ynghylch y ffocws i bwyllgorau craffu sicrhau eu bod yn craffu ar drefniadau
cydweithio a rhanbarthol penodol y manylir arnynt yn y datganiad, ond teimlai'r
aelodau fod angen ystyried hyn yn ehangach, megis caffael a gwasanaethau a
rennir mewn cydweithrediad â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC). Roedd yr Aelodau'n pryderu
ynghylch sut y gall y cyngor gyflawni'r gwaith gwella a gynlluniwyd ar gyfer
2020-21 yn effeithiol oherwydd effaith ddiweddar pandemig Coronafeirws. Tynnwyd
sylw at y ffaith bod y meysydd i'w gwella'n dangos asesiad cywir o'r sefyllfa
cyn pandemig COVID-19 ac mae'r adroddiad yn nodi manylion y blaenoriaethau
gwella y byddai angen eu hadolygu ymhellach yn ystod cam adfer y pandemig. Yn
dilyn hyn, gofynnodd yr aelodau i'r Cabinet ystyried diwygio'r trydydd
argymhelliad a nodir yn yr adroddiad, er mwyn ystyried adolygiad cynnar a brys
o'r amcanion o fewn y gwaith gwella llywodraethu corfforaethol, oherwydd
effaith COVID-19. Yn dilyn craffu, cytunwyd y
dylid gofyn i'r Cabinet ystyried yr argymhellion canlynol: 1.
Bydd yr aelodau'n nodi'r cynnydd a wnaed ar y gwaith
gwella llywodraethu corfforaethol a wnaed yn ystod 2019-2020 2.
Cymeradwyo Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2019-2020 yn
Atodiad 1. 3.
Cymeradwyo'r gwaith gwella o ran llywodraethu
corfforaethol arfaethedig sydd i'w wneud yn ystod 2020-2021, yn amodol ar
adolygiad cynnar a brys o'r amcanion, oherwydd effaith pandemig COVID-19. Alldro Cyfalaf/Refeniw 2019-20 Dewisodd yr aelodau drafod yr
adroddiadau Alldro Cyfalaf a Refeniw fel un eitem. Rhoddodd y Cyfarwyddwr
Cyllid drosolwg cryno o'r adroddiadau. Holwyd a fyddai angen ailystyried y
gyllideb oherwydd yr effaith y gallai achosion COVID-19 fod wedi'i chael ar y
gyllideb. Dywedwyd wrth yr aelodau y byddai gwybodaeth yn ymwneud â COVID-19 yn
cael ei chyflwyno'n ddiweddarach gan roi cyfle i aelodau graffu ymhellach ar yr
elfen hon. Yn dilyn y broses graffu,
roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan y Cabinet. Strategaeth Datgarboneiddio ac
Ynni Adnewyddadwy Ystyriwyd yr ymatebion a
gafwyd yn dilyn ymgynghoriad ar y Strategaeth Datgarboneiddio ac Ynni
Adnewyddadwy Ddrafft. Canmolodd yr aelodau nifer yr ymatebion cyhoeddus a
roddwyd i'r ymgynghoriad. Darparwyd eglurder ynghylch
lansio'r Panel Dinasyddion a'r cais am Gynulliad Dinasyddion. Nododd yr aelodau
fod y Panel Dinasyddion wedi lansio ym mis Ionawr 2020; Cofrestrodd 500 o bobl
i gymryd rhan yn y panel a byddai'n ofynnol i wneud ymarfer cwmpasu i ystyried
yr opsiynau gorau o ran cynnwys y cyhoedd. Cynhaliwyd trafodaethau
ynghylch effeithiau annisgwyl pandemig COVID-19, megis lleihau allyriadau
carbon a gwella ansawdd aer. Anogodd yr aelodau'r Awdurdodau Lleol a
Llywodraethau i ystyried y cysyniad o Fargen Werdd Newydd fel rhan o adferiad
economaidd, drwy ddysgu o'r newid hwn a thrwy beidio â dychwelyd at fusnes fel
arfer. Rhoddwyd sicrwydd ynghylch
datblygu'r naratif a'r brandio y comisiynwyd 'Heavenly' i ymgymryd ag ef.
Tynnodd swyddogion sylw at y ffaith y byddai ystyriaeth ofalus ynghylch
cyfieithu acronymau i'r Gymraeg er mwyn sicrhau nad cyfieithiad uniongyrchol yn
unig ydyw ond bod yr un ystyr yn cael ei chyfleu. Yn dilyn ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2. |