·
Dewis eitemau
priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir
adroddiadau Bwrdd y Cabinet ar gufer yr Aelodau Craffu)
Cofnodion:
Craffodd y Pwyllgor ar yr eitemau canlynol ar
agenda'r Cabinet:
Datganiad Llywodraethu
Blynyddol 2019/2020
Cynhaliwyd trafodaethau
ynghylch y ffocws i bwyllgorau craffu sicrhau eu bod yn craffu ar drefniadau
cydweithio a rhanbarthol penodol y manylir arnynt yn y datganiad, ond teimlai'r
aelodau fod angen ystyried hyn yn ehangach, megis caffael a gwasanaethau a
rennir mewn cydweithrediad â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC).
Roedd yr Aelodau'n pryderu
ynghylch sut y gall y cyngor gyflawni'r gwaith gwella a gynlluniwyd ar gyfer
2020-21 yn effeithiol oherwydd effaith ddiweddar pandemig Coronafeirws. Tynnwyd
sylw at y ffaith bod y meysydd i'w gwella'n dangos asesiad cywir o'r sefyllfa
cyn pandemig COVID-19 ac mae'r adroddiad yn nodi manylion y blaenoriaethau
gwella y byddai angen eu hadolygu ymhellach yn ystod cam adfer y pandemig. Yn
dilyn hyn, gofynnodd yr aelodau i'r Cabinet ystyried diwygio'r trydydd
argymhelliad a nodir yn yr adroddiad, er mwyn ystyried adolygiad cynnar a brys
o'r amcanion o fewn y gwaith gwella llywodraethu corfforaethol, oherwydd
effaith COVID-19.
Yn dilyn craffu, cytunwyd y
dylid gofyn i'r Cabinet ystyried yr argymhellion canlynol:
1.
Bydd yr aelodau'n nodi'r cynnydd a wnaed ar y gwaith
gwella llywodraethu corfforaethol a wnaed yn ystod 2019-2020
2.
Cymeradwyo Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2019-2020 yn
Atodiad 1.
3.
Cymeradwyo'r gwaith gwella o ran llywodraethu
corfforaethol arfaethedig sydd i'w wneud yn ystod 2020-2021, yn amodol ar
adolygiad cynnar a brys o'r amcanion, oherwydd effaith pandemig COVID-19.
Alldro Cyfalaf/Refeniw 2019-20
Dewisodd yr aelodau drafod yr
adroddiadau Alldro Cyfalaf a Refeniw fel un eitem. Rhoddodd y Cyfarwyddwr
Cyllid drosolwg cryno o'r adroddiadau. Holwyd a fyddai angen ailystyried y
gyllideb oherwydd yr effaith y gallai achosion COVID-19 fod wedi'i chael ar y
gyllideb. Dywedwyd wrth yr aelodau y byddai gwybodaeth yn ymwneud â COVID-19 yn
cael ei chyflwyno'n ddiweddarach gan roi cyfle i aelodau graffu ymhellach ar yr
elfen hon.
Yn dilyn y broses graffu,
roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan y Cabinet.
Strategaeth Datgarboneiddio ac
Ynni Adnewyddadwy
Ystyriwyd yr ymatebion a
gafwyd yn dilyn ymgynghoriad ar y Strategaeth Datgarboneiddio ac Ynni
Adnewyddadwy Ddrafft. Canmolodd yr aelodau nifer yr ymatebion cyhoeddus a
roddwyd i'r ymgynghoriad.
Darparwyd eglurder ynghylch
lansio'r Panel Dinasyddion a'r cais am Gynulliad Dinasyddion. Nododd yr aelodau
fod y Panel Dinasyddion wedi lansio ym mis Ionawr 2020; Cofrestrodd 500 o bobl
i gymryd rhan yn y panel a byddai'n ofynnol i wneud ymarfer cwmpasu i ystyried
yr opsiynau gorau o ran cynnwys y cyhoedd.
Cynhaliwyd trafodaethau
ynghylch effeithiau annisgwyl pandemig COVID-19, megis lleihau allyriadau
carbon a gwella ansawdd aer. Anogodd yr aelodau'r Awdurdodau Lleol a
Llywodraethau i ystyried y cysyniad o Fargen Werdd Newydd fel rhan o adferiad
economaidd, drwy ddysgu o'r newid hwn a thrwy beidio â dychwelyd at fusnes fel
arfer.
Rhoddwyd sicrwydd ynghylch
datblygu'r naratif a'r brandio y comisiynwyd 'Heavenly' i ymgymryd ag ef.
Tynnodd swyddogion sylw at y ffaith y byddai ystyriaeth ofalus ynghylch
cyfieithu acronymau i'r Gymraeg er mwyn sicrhau nad cyfieithiad uniongyrchol yn
unig ydyw ond bod yr un ystyr yn cael ei chyfleu.
Yn dilyn y broses graffu,
roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan y Cabinet.