Agenda a Chofnodion

Special Budget, Pwyllgor Craffu'r Cabinet - Dydd Mercher, 29ain Ionawr, 2020 10.30 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Canolfan Ddinesig Port Talbot. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datganiadau o gysylltiadau

Cofnodion:

Cafwyd datganiadau o fudd gan y Cynghorwyr canlynol ar ddechrau’r cyfarfod:

 

Y Cyng. S.M Penry:               Par: Eitem 2 o bapurau’r Cabinet par.

Ymgynghoriad ar y Gyllideb Gwasanaethau Corfforaethol a Chynigion Arbedion Drafft, am ei bod yn Aelod o Fwrdd CVS ac Age Connect.

 

Y Cyng. Saifur Rahaman:     Par: Eitem 2 o bapurau’r Cabinet par. Ymgynghoriad ar y Gyllideb Gwasanaethau Corfforaethol a Chynigion Arbedion Drafft, am ei fod yn ysgrifennydd Cymdeithas Gymunedol PddLlE CNPT sy’n derbyn cyllid grant gan CBSCNPT.

 

Y Cyng. Sonia Reynolds:      Par: Eitem 2 o bapurau’r Cabinet par. Ymgynghoriad ar y Gyllideb Gwasanaethau Corfforaethol a Chynigion Arbedion Drafft, am ei bod yn ymddiriedolwr ar Ganolfan Maerdy.

 

Y Cyng. Arwyn Woolcock:     Par: Eitem 2 o bapurau’r Cabinet par.

Ymgynghoriad ar y Gyllideb Gwasanaethau Corfforaethol a Chynigion Arbedion Drafft, am fod ei nith yn Rheolwr Hyfforddiant a Chymorth Datblygu yn yr Adran Adnoddau Dynol.

                            

 

2.

Ymgynghoriad ar Gyllideb ac Arbedion Drafft y Gwasanaethau Corfforaethol ar gyfer 2020/21 pdf eicon PDF 253 KB

Report of the Director of Finance and Corporate Services

Cofnodion:

Cafwyd trosolwg ar y Gyllideb Gwasanaethau Corfforaethol ac Arbedion Drafft 2020/2021, fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Polisi a Gwasanaethau Democrataidd

 

Atgoffwyd y Cynghorwyr fod yr arbedion i’r gyllideb yn y gyfadran Polisi a Gwasanaethau Democrataidd wedi’u cytuno yng Nghyllideb 2019/20 ac nad oedd unrhyw gynigion newydd wedi’u cynnwys. Gofynnodd y pwyllgor am ddiweddariad cynnydd ac roeddent yn falch bod swyddogion yn hyderus y byddai’r arbedion yn cael eu cyflawni a’u bod ar waith.

Bu rhywfaint o oedi o ran rhoi’r arbedion a nodwyd yn CORP903 ar waith oherwydd y problemau a gafwyd gyda’r ceisiadau am basys bws gan Lywodraeth Cymru a chaiff cynllun diwygiedig ei adrodd nôl i’r Cabinet yn gynnar yn 2020. Roedd y Cynghorwyr yn falch o nodi na fu unrhyw lifoedd pellach yn y galw am adnewyddu pasys bws ond nodwyd eu siom bod Trafnidiaeth i Gymru wedi darparu gwybodaeth anghywir. Canmolwyd staff y Cyngor am y ffordd roeddent wedi ymdrin â’r sefyllfa.

 

Nododd y pwyllgor mewn perthynas â CORP905 fod gwaith profi’r farchnad yn mynd rhagddo ar hyn o bryd er mwyn gwirio’r galw a thybiaethau incwm mewn perthynas â theledu cylch cyfyng ac y byddai achos busnes felly’n dod gerbron y Cabinet yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Nodwyd bod budd sylweddol i’r system cyfiawnder troseddol yn sgil teledu cylch cyfyng a bod trafodaethau’n parhau gyda Heddlu De Cymru mewn perthynas â’u cyfraniad ariannol nhw i’r gwasanaeth.

 

Gwasanaethau Cyfreithiol

 

Soniodd y pwyllgor am y gostyngiadau staff yn CORP 1001/1002/1003 gan nodi bod yn rhaid i’r Cyngor wneud mwy gyda llai o bobl wrth i adnoddau barhau i leihau. Roedd y Cynghorwyr yn pryderu y gallai cyfraddau absenoldeb salwch oherwydd pwysau gynyddu wrth i’r pwysau ar staff gynyddu.

 

Gofynnodd y Cynghorwyr a oedd opsiwn i gynhyrchu incwm drwy logi arbenigedd cyfreithiol y Cyngor yn allanol. Esboniwyd bod rheolau cyfreithiol y mae’n rhaid cydymffurfio â nhw sy’n nodi i bwy y gallwn weithio a hefyd rheolau a chyfyngiadau Cymdeithas y Cyfreithwyr. Oherwydd materion gwrthdaro, cyfyng oedd y gallu i wneud hyn.

 

Adnoddau Dynol

 

Nododd y Cynghorwyr fod technoleg ddigidol mewn perthynas â CORP1007/1008 wedi arwain at lai o alw am ofynion rolau trafodiadol.

 

Cafwyd trafodaeth am rôl Swyddogion Undebau Llafur ar secondiad. Nodwyd bod rhwymedigaeth gyfreithiol i ganiatáu amser rhesymol i ffwrdd ar gyfer dyletswyddau Undebau Llafur a chyda gweithlu o faint y Cyngor mae’n fwy ymarferol i gael swyddogion ar secondiad. Cydnabu’r Cynghorwyr y berthynas partneriaeth gymdeithasol gyda’r Undebau a chytunwyd mai peth dilys oedd y buddsoddiad yn y rolau hyn.

 

Holodd y Cynghorwyr am bresenoldeb Adnoddau Dynol mewn ysgolion a chafwyd sicrwydd bod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu mewn ysgolion i’r lefel ofynnol.

 

Cyllid

 

Holodd y Cynghorwyr am yr arbediad o £190k a nodwyd yn CORP1006 ar gyfer lleihau staffio a gofynnwyd am wybodaeth bellach. Esboniwyd bod hyn yn cyfateb i 3 swydd a oedd wedi bod yn wag ers 18 mis ynghyd â 2 ddiswyddiad gwirfoddol a fydd yn digwydd yn 2020/21 a bod y penderfyniad wedi’i wneud i ddileu’r swyddi  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2.