Report of the Director of Finance and Corporate
Services
Cofnodion:
Cafwyd trosolwg ar y Gyllideb
Gwasanaethau Corfforaethol ac Arbedion Drafft 2020/2021, fel y nodwyd yn yr
adroddiad a ddosbarthwyd.
Polisi a Gwasanaethau Democrataidd
Atgoffwyd y Cynghorwyr fod yr arbedion
i’r gyllideb yn y gyfadran Polisi a Gwasanaethau Democrataidd wedi’u cytuno yng
Nghyllideb 2019/20 ac nad oedd unrhyw gynigion newydd wedi’u cynnwys. Gofynnodd
y pwyllgor am ddiweddariad cynnydd ac roeddent yn falch bod swyddogion yn
hyderus y byddai’r arbedion yn cael eu cyflawni a’u bod ar waith.
Bu rhywfaint o oedi o ran rhoi’r
arbedion a nodwyd yn CORP903 ar waith oherwydd y problemau a gafwyd gyda’r
ceisiadau am basys bws gan Lywodraeth Cymru a chaiff cynllun diwygiedig ei
adrodd nôl i’r Cabinet yn gynnar yn 2020. Roedd y Cynghorwyr yn falch o nodi na
fu unrhyw lifoedd pellach yn y galw am adnewyddu pasys bws ond nodwyd eu siom
bod Trafnidiaeth i Gymru wedi darparu gwybodaeth anghywir. Canmolwyd staff y
Cyngor am y ffordd roeddent wedi ymdrin â’r sefyllfa.
Nododd y
pwyllgor mewn perthynas â CORP905 fod gwaith profi’r farchnad yn mynd rhagddo
ar hyn o bryd er mwyn gwirio’r galw a thybiaethau incwm mewn perthynas â
theledu cylch cyfyng ac y byddai achos busnes felly’n dod gerbron y Cabinet yn
ddiweddarach yn y flwyddyn. Nodwyd bod budd sylweddol i’r system cyfiawnder
troseddol yn sgil teledu cylch cyfyng a bod trafodaethau’n parhau gyda Heddlu
De Cymru mewn perthynas â’u cyfraniad ariannol nhw i’r gwasanaeth.
Gwasanaethau Cyfreithiol
Soniodd y pwyllgor am y gostyngiadau
staff yn CORP 1001/1002/1003 gan nodi bod yn rhaid i’r Cyngor wneud mwy gyda
llai o bobl wrth i adnoddau barhau i leihau. Roedd y Cynghorwyr yn pryderu y
gallai cyfraddau absenoldeb salwch oherwydd pwysau gynyddu wrth i’r pwysau ar
staff gynyddu.
Gofynnodd y Cynghorwyr a oedd opsiwn i
gynhyrchu incwm drwy logi arbenigedd cyfreithiol y Cyngor yn allanol. Esboniwyd
bod rheolau cyfreithiol y mae’n rhaid cydymffurfio â nhw sy’n nodi i bwy y
gallwn weithio a hefyd rheolau a chyfyngiadau Cymdeithas y Cyfreithwyr.
Oherwydd materion gwrthdaro, cyfyng oedd y gallu i wneud hyn.
Adnoddau Dynol
Nododd y Cynghorwyr fod technoleg
ddigidol mewn perthynas â CORP1007/1008 wedi arwain at lai o alw am ofynion
rolau trafodiadol.
Cafwyd trafodaeth am rôl Swyddogion
Undebau Llafur ar secondiad. Nodwyd bod rhwymedigaeth gyfreithiol i ganiatáu
amser rhesymol i ffwrdd ar gyfer dyletswyddau Undebau Llafur a chyda gweithlu o
faint y Cyngor mae’n fwy ymarferol i gael swyddogion ar secondiad. Cydnabu’r
Cynghorwyr y berthynas partneriaeth gymdeithasol gyda’r Undebau a chytunwyd mai
peth dilys oedd y buddsoddiad yn y rolau hyn.
Holodd y Cynghorwyr am bresenoldeb
Adnoddau Dynol mewn ysgolion a chafwyd sicrwydd bod y gwasanaeth yn cael ei
ddarparu mewn ysgolion i’r lefel ofynnol.
Cyllid
Holodd y Cynghorwyr am yr arbediad o
£190k a nodwyd yn CORP1006 ar gyfer lleihau staffio a gofynnwyd am wybodaeth
bellach. Esboniwyd bod hyn yn cyfateb i 3 swydd a oedd wedi bod yn wag ers 18
mis ynghyd â 2 ddiswyddiad gwirfoddol a fydd yn digwydd yn 2020/21 a bod y
penderfyniad wedi’i wneud i ddileu’r swyddi hyn yn barhaol o’r strwythur
staffio.
Arbedion Canolog
Rhoddwyd sicrwydd i’r Cynghorwyr fod
modd cyflawni’r Rhaglen Gyfalaf yn effeithiol drwy ddileu’r 500k a nodwyd yn
OTH1001 heb unrhyw effaith ar wasanaethau na dulliau cyflwyno.
Ar ôl
ystyried yr Asesiadau Effaith Integredig a oedd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad,
atgoffwyd y Cynghorwyr y byddai eu sylwadau yn sgil y cyfarfod hwn yn rhan o’r
ymateb i’r ymgynghoriad ffurfiol ar gyfer y Gyllideb 2020/21. Gofynnwyd iddynt
roi gwybod i swyddogion os oedd ganddynt unrhyw gynigion eraill nad oeddent
wedi’u cynnwys yn yr adroddiad atodedig fel bod modd eu hystyried.
Dogfennau ategol: