Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu'r Cabinet - Dydd Llun, 9fed Rhagfyr, 2019 10.00 am

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor A/B - Canolfan Ddinesig Castell-nedd - Canolfan Ddinesig Castell-nedd. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datganiadau o gysylltiadau

Cofnodion:

Cafwyd datganiadau o fudd gan y Cynghorwyr canlynol ar ddechrau’r cyfarfod:

 

Cynghorydd S.Rahaman      Par: Cyllid Grant y Trydydd Sector – Dyfarnu Grantiau ar gyfer y Flwyddyn Ariannol 2020/21, am ei fod yn gynrychiolydd awdurdod lleol ac yn Ysgrifennydd/Ymddiriedolwr Cymdeithas Gymunedol PDdLlE CNPT.

 

Cynghorydd S.Reynolds      Par: Cyllid Grant y Trydydd Sector – Dyfarnu Grantiau ar gyfer y Flwyddyn Ariannol 2020/21, am ei bod yn ymddiriedolwr/rheolwr dros dro ar hyn o bryd yng Nghanolfan Maerdy. Am fod ei budd yn un rhagfarnus, ymddieithriodd o’r ystafell yn ystod y drafodaeth a’r pleidleisio cysylltiedig.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf eicon PDF 65 KB

Cofnodion:

Y dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod blaenorol, a gynhaliwyd ar 30 Hydref, 2019.

 

3.

Dewis eitemau priodol o agenda y Cabinet (Adroddiadau y Cabinet yn amgaeedig ar gyfer yr aelodau craffu)

Cofnodion:

Craffodd y pwyllgor yr eitemau cabinet canlynol:

 

Indemnio Swyddogion

 

Esboniodd swyddogion y trefniadau presennol mewn perthynas â staff ac asedau yn ystod cyfnod trosiannol y Ganolfan Adennill Deunydd ac Ynni (MREC) a oedd yn cael ei thynnu i mewn i gael ei rhedeg gan y Cyngor. Cafwyd trafodaeth hefyd am gyfarwyddiaeth Coed D’arcy Cyfyngedig, a’r cynlluniau at y dyfodol.

 

Ar ôl craffu, roedd y pwyllgor yn cefnogi’r cynigion i’r cabinet eu hystyried.

 

Cyllid Grant y Trydydd Sector – Dyfarnu Grantiau ar gyfer y Flwyddyn Ariannol 2020/21

 

(Ar y pwynt hwn yn y cyfarfod, ail-nododd y Cynghorydd S.Reynolds ei buddiannau ac ymddieithriodd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r pleidleisio cysylltiedig.)

 

Cwestiynodd y Cynghorwyr dudalen 56 o’r adroddiad a ddosbarthwyd mewn perthynas â chymorth ariannol i’r Gymdeithas Gymunedol Pobl Ddu a Lleiafrifoedd Ethnig. Nodwyd na ddyfarnwyd statws elusennol i’r sefydliad yn 2019; byddai’r arian a roddwyd yn y cyfnod hwn yn cael ei dynnu ymlaen a’i ddefnyddio yn 2020/21.

 

Nododd y Cynghorwyr fod y trefniadau monitro’n cyd-fynd yn rhesymegol ag amserlenni’r gyllideb. Roedd angen yr adroddiadau monitro chwe misol ar bartneriaid a byddent yn darparu sicrwydd ac eglurder ac yn rhoi gwybodaeth i’r pwyllgor craffu hwn.

 

Trafodwyd Deddf Enillion Troseddau 2002, a gofynnodd y Cynghorwyr am adroddiad diweddaru mewn cyfarfod yn y dyfodol, a fyddai’n rhoi manylion y cymorth ariannol a oedd yn cael ei ddarparu o dan y ddeddfwriaeth hon.

 

Ar ôl craffu, roedd y pwyllgor yn cefnogi’r cynigion i’r cabinet eu hystyried.

 

(Ailymunodd y Cynghorydd S.Reynolds â’r cyfarfod)

 

Dangosyddion Perfformiad Allweddol Chwarter 2

 

Trafodwyd yr adroddiad a ddosbarthwyd, a nodwyd bod nifer y diwrnodau a gollwyd oherwydd salwch yn cynnwys, yn rhannol, straen yn gysylltiedig â’r gwaith. Roedd staff y Cyngor wedi lleihau dros 30 y cant yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, felly roedd llwyth gwaith ar gynnydd.

 

Mewn perthynas â thrais yn erbyn merched, nid oedd y ddeddfwriaeth gyfredol yn unol â’r galw cynyddol am wasanaethau, ac roedd hyn wedi arwain at ddiffyg buddsoddi. Roedd cwnsela am berthnasau’n rhan o rai gwersi mewn ysgolion, ond pwysleisiwyd bod llwyth gwaith trwm eisoes gan athrawon a’u bod yn cael eu gorweithio; ni nodwyd unrhyw ddatrysiadau i ddatrys y mater hwn.

 

Amlygwyd bod problemau o ran cadw staff a chyflogi siaradwyr Cymraeg yn peri amser cyfartalog uchel i ateb galwadau ffôn yn Gymraeg a Saesneg. Drwy gyflogi pedwar prentis modern, roedd hyn yn cael ei daclo.

 

Ar ôl craffu, nodwyd yr adroddiad.

4.

Blaenraglen Waith 19/20 pdf eicon PDF 81 KB

Cofnodion:

Nododd y pwyllgor y Flaenraglen waith ar gyfer 2019/20.