Lleoliad: Siambr y Cyngor - Canolfan Ddinesig Port Talbot. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Datganiadau o gysylltiadau Cofnodion: Gwnaeth yr aelod canlynol ddatganiad o fudd ar
ddechrau'r cyfarfod: Y Cynghorydd S Rahaman - Parthed Eitem rhif 10 ar bapurau Bwrdd y Cabinet - Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2015-2019: Adroddiad Blynyddol Drafft 2018-2019 ac Estyn Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2015-2019 tan fis Ebrill 2020, gan ei fod yn Drysorydd/Ymddiriedolwr Cymdeithas Gymunedol BME CNPT. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 65 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd blaenorol a
gynhaliwyd ar 25 Medi a 2 Hydref, 2019. |
|
Craffu Cyn Penderfynu Cofnodion: Craffodd y Pwyllgor ar yr eitemau canlynol ar
agenda'r Cabinet: Monitro Cyllideb Refeniw 2019/20 Holodd aelodau ynghylch y gorwariant yn y Ganolfan
Ailgylchu Gwastraff Cartref, yn enwedig y rheswm pam mae'n rhaid cludo
gwastraff pren i Ddyfnaint i'w ailgylchu. Esboniodd swyddogion mai'r rheswm
dros hyn oedd oherwydd bod gan Ddyfnaint fwy o le i ailgylchu pren, a fyddai'n
cyfrannu'n gadarnhaol at dargedau ailgylchu Castell-nedd Port Talbot. Roedd
swyddogion yn yr is-adran amgylchedd yn gweithio gydag Aelod y Cabinet i
leihau'r gwariant ar ailgylchu wrth barhau i gynyddu'r swm sy'n cael ei
ailgylchu. Trafodwyd tanwariant a gorwariant yng nghyllideb y
Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai. Nodwyd bod cael gwared ar rai o
adolygiadau Llywodraeth Cymru wedi arwain at gynnal adolygiadau annibynnol.
Roedd rhai o ddefnyddwyr y gwasanaeth a'u teuluoedd wedi arfer â phecynnau
gofal penodol, ac i ddechrau, nid oeddent bob tro yn gefnogol o newid y rhain. Esboniodd swyddogion fod salwch a gwyliau banc wedi
rhoi llawer o bwysau ar lwythi gwaith yn y gwasanaeth gwastraff ac ailgylchu.
Cafodd casgliadau sbwriel presennol eu hailystyried, a threfnwyd i gwtogi'r
gyllideb gwastraff ar gyfer 2020/21. Mynediad i Gyfarfodydd PENDERFYNWYD: Yn unol ag Adran 100A(4)
a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y cyhoedd o'r eitem
fusnes canlynol a oedd yn cynnwys
datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a ddiffinnir ym Mharagraff 14 Adran 4 Atodlen 12A y Ddeddf uchod. Trafododd yr aelodau y pwysau cyllidebol presennol
mewn perthynas ag Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru yr Henadur Davies. Ailddechreuwyd y cyfarfod mewn sesiwn agored. Roedd meysydd eraill o'r drafodaeth yn cynnwys: ·
Sefyllfa'r arian wrth gefn ·
Y Gronfa Gofal Canolraddol -
'Y Prosiect Esgeulustod' ·
Lleoliadau y tu allan i'r sir ·
Gostyngiad yn nifer y Plant
sy'n Derbyn Gofal (PDG). Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn
gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan y Cabinet. Monitro Rheolaeth y Trysorlys 2019-20 Trafodwyd buddsoddiad gan y cyngor, a nododd yr
aelodau er bod gan Loegr Bwerau Cymhwysedd Cyffredinol sy'n ei galluogi i
fuddsoddi mewn unrhyw brosiect y craffwyd arno, nid oes gan Gymru'r pwerau hyn.
Mae hyn yn golygu bod y broses buddsoddi mewn ardaloedd megis canolfannau siopa
neu gelf, er enghraifft, yn anos i gynghorau yng Nghymru. Er bod aelodau'n cefnogi buddsoddiadau sylweddol yn
gyffredinol, roedd y risgiau presennol a oedd ynghlwm â'r prosiect yn rhy
sylweddol, yn ogystal â'r diffyg Pwerau Cymhwysedd Cyffredinol, a fyddai'n cael
eu cynnwys wrth gyflwyno'r Ddeddf Llywodraeth Leol newydd o bosib. Ar hyn o bryd mae angen
i'r cyngor ddibynnu ar y pwerau lles cyffredinol sy'n bodoli o dan Ddeddf
Llywodraeth Leol 2000. Trafodwyd caffael darnau o gelf. Yn ogystal â'r
angen am gyfraniad yr archwilwyr a chynhyrchu achos busnes llawn, pwysleisiodd
swyddogion yr angen i geisio cael enillion ar fuddsoddiadau sy'n sail i'r
gwasanaethau a ddarperir gan y cyngor. Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad. Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2015-2019: Adroddiad
Blynyddol Drafft 2018-2019 ac Estyn Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2015-2019
tan fis Ebrill 2020 Trafododd yr aelodau y cynnydd a wnaed dros y ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3. |
|
Blaenraglen Waith 2019/2 PDF 80 KB Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y Blaenraglen Waith ar gyfer
2019/20. |