Cofnodion:
Craffodd y Pwyllgor ar yr eitemau canlynol ar
agenda'r Cabinet:
Monitro Cyllideb Refeniw 2019/20
Holodd aelodau ynghylch y gorwariant yn y Ganolfan
Ailgylchu Gwastraff Cartref, yn enwedig y rheswm pam mae'n rhaid cludo
gwastraff pren i Ddyfnaint i'w ailgylchu. Esboniodd swyddogion mai'r rheswm
dros hyn oedd oherwydd bod gan Ddyfnaint fwy o le i ailgylchu pren, a fyddai'n
cyfrannu'n gadarnhaol at dargedau ailgylchu Castell-nedd Port Talbot. Roedd
swyddogion yn yr is-adran amgylchedd yn gweithio gydag Aelod y Cabinet i
leihau'r gwariant ar ailgylchu wrth barhau i gynyddu'r swm sy'n cael ei
ailgylchu.
Trafodwyd tanwariant a gorwariant yng nghyllideb y
Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai. Nodwyd bod cael gwared ar rai o
adolygiadau Llywodraeth Cymru wedi arwain at gynnal adolygiadau annibynnol.
Roedd rhai o ddefnyddwyr y gwasanaeth a'u teuluoedd wedi arfer â phecynnau
gofal penodol, ac i ddechrau, nid oeddent bob tro yn gefnogol o newid y rhain.
Esboniodd swyddogion fod salwch a gwyliau banc wedi
rhoi llawer o bwysau ar lwythi gwaith yn y gwasanaeth gwastraff ac ailgylchu.
Cafodd casgliadau sbwriel presennol eu hailystyried, a threfnwyd i gwtogi'r
gyllideb gwastraff ar gyfer 2020/21.
Mynediad i Gyfarfodydd
PENDERFYNWYD: Yn unol ag Adran 100A(4)
a (5) Deddf
Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y cyhoedd o'r eitem
fusnes canlynol a oedd yn cynnwys
datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a ddiffinnir ym Mharagraff 14 Adran 4 Atodlen 12A y Ddeddf uchod.
Trafododd yr aelodau y pwysau cyllidebol presennol
mewn perthynas ag Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru yr Henadur Davies.
Ailddechreuwyd y cyfarfod mewn sesiwn agored.
Roedd meysydd eraill o'r drafodaeth yn cynnwys:
·
Sefyllfa'r arian wrth gefn
·
Y Gronfa Gofal Canolraddol -
'Y Prosiect Esgeulustod'
·
Lleoliadau y tu allan i'r sir
·
Gostyngiad yn nifer y Plant
sy'n Derbyn Gofal (PDG).
Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn
gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan y Cabinet.
Monitro Rheolaeth y Trysorlys 2019-20
Trafodwyd buddsoddiad gan y cyngor, a nododd yr
aelodau er bod gan Loegr Bwerau Cymhwysedd Cyffredinol sy'n ei galluogi i
fuddsoddi mewn unrhyw brosiect y craffwyd arno, nid oes gan Gymru'r pwerau hyn.
Mae hyn yn golygu bod y broses buddsoddi mewn ardaloedd megis canolfannau siopa
neu gelf, er enghraifft, yn anos i gynghorau yng Nghymru.
Er bod aelodau'n cefnogi buddsoddiadau sylweddol yn
gyffredinol, roedd y risgiau presennol a oedd ynghlwm â'r prosiect yn rhy
sylweddol, yn ogystal â'r diffyg Pwerau Cymhwysedd Cyffredinol, a fyddai'n cael
eu cynnwys wrth gyflwyno'r Ddeddf Llywodraeth Leol newydd o bosib. Ar hyn o bryd mae angen
i'r cyngor ddibynnu ar y pwerau lles cyffredinol sy'n bodoli o dan Ddeddf
Llywodraeth Leol 2000.
Trafodwyd caffael darnau o gelf. Yn ogystal â'r
angen am gyfraniad yr archwilwyr a chynhyrchu achos busnes llawn, pwysleisiodd
swyddogion yr angen i geisio cael enillion ar fuddsoddiadau sy'n sail i'r
gwasanaethau a ddarperir gan y cyngor.
Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.
Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2015-2019: Adroddiad
Blynyddol Drafft 2018-2019 ac Estyn Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2015-2019
tan fis Ebrill 2020
Trafododd yr aelodau y cynnydd a wnaed dros y
cyfnod rhwng 1 Ebrill 2018 a 31 Mawrth 2019 wrth fodloni Dyletswydd
Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, yn unol â'r amcanion cydraddoldeb a
amlinellwyd yng Nghynllun Cydraddoldeb Strategol 2015-19.
Esboniwyd rôl yr Ymgynghorwyr Trais yn y Cartref
Annibynnol, yn ogystal â'r person y mae angen iddynt adrodd iddo ac ym mhle y
byddant wedi eu lleoli.
Roedd Cadeirydd Craffu'r Gwasanaethau Cymdeithasol
am gofnodi ei bod hi, a chynrychiolydd o Unsain, wedi cymryd rhan mewn
digwyddiad ar gyfer staff y cyngor i ddathlu 100 mlynedd o'r bleidlais i
ferched, yn ogystal â'r cyfranogwyr a restrwyd yn yr adroddiad.
Trafodwyd gwaharddiadau ymysg plant ag Anghenion
Addysgol Arbennig (AAA), a nododd aelodau fod gan Gastell-nedd Port Talbot y
nifer uchaf o blant AAA yng Nghymru. Nodwyd bod bywyd cartref anhrefnus yn
cyfrannu at y gwaharddiadau hyn, felly mae angen rhoi amrywiaeth o ddulliau
cefnogi ar waith, gan gynnwys cyfranogaeth gan y gwasanaethau cymdeithasol.
Roedd y pynciau trafod eraill yn cynnwys:
·
Sefyll arholiadau TGAU yn
gynnar yng nghyfnod allweddol 4
·
Gwaharddiadau parhaol a
strategaethau atal
·
Data perfformiad Cymru Gyfan
·
Cefnogaeth â Thaliadau
Uniongyrchol
Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn
gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan y Cabinet.