Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu'r Cabinet - Dydd Mercher, 2ail Hydref, 2019 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Canolfan Ddinesig Port Talbot. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Adroddiad ynghylch y diweddaraf am gynigion gwella a gynhwysir yn Adroddiad Gwella Blynyddol - Swyddfa Archwilio Cymru 2017-2018 pdf eicon PDF 61 KB

Adroddiad y Prif Weithredwr Cynorthwyol a'r Prif Swyddog Digidol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd diweddariad i'r Pwyllgor am y cynnydd a wnaed hyd yn hyn i fynd i'r afael â'r cynigion ar gyfer gwella yn Adroddiad Gwella Blynyddol Swyddfa Archwilio Cymru 2017-2018.

 

Trafododd yr aelodau bwysigrwydd lledaenu cwmpas y broses graffu, gan gynnwys cynnwys y cyhoedd yn fwy a sicrhau eu cyfranogiad trwy anfon cwestiynau ar gyfer cyfarfodydd ar Twitter, er enghraifft. Roedd siarad cyhoeddus eisoes yn ffurf cydnabyddedig o gyfranogiad gan y cyhoedd yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio.

 

Mewn ymateb, dywedodd y swyddogion fod Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd wedi'i gomisiynu gan y cyngor i ddatblygu prosiect mewn perthynas â gweddarlledu yn ogystal â chyfranogiad y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd. Byddai'r canlyniadau'n cael eu rhannu â'r cyngor yn 2020.

 

Trafodwyd hyfforddiant a datblygiad aelodau. Dosberthir holiadur blynyddol i'r aelodau, sy'n gofyn am y pynciau yr hoffent dderbyn hyfforddiant arnynt. Yn ogystal, nodwyd pynciau hyfforddiant trwy adolygiadau datblygu perfformiad, mewnbwn y swyddogion, trafodaethau'r pwyllgor a rheolyddion allanol. Blaenoriaethwyd y pynciau hyfforddiant yng nghyfarfod Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd. Nodwyd hefyd gyfres o fesurau er mwyn mesur effeithiolrwydd y cynllun hyfforddi.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.

 

 

 

2.

Craffu Cyn Penderfynu

Cofnodion:

Craffodd y Pwyllgor ar yr eitemau canlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet:

 

Dangosyddion Perfformiad Allweddol Chwarter 1

 

Holodd yr aelodau ynghylch y cynnydd yn nifer y galwadau Saesneg i'r Ganolfan Gyswllt sy'n cael eu gadael, a nodwyd bod nifer o strategaethau ar waith er mwyn atal hyn rhag digwydd yn y dyfodol. Roedd hyn yn cynnwys cyflogi 6 o brentisiaid modern newydd yn ystod y 12 mis diwethaf â sgiliau trosglwyddadwy ar draws y ganolfan gyswllt a siopau dan yr unto.

 

Ceisiodd aelodau'r bwrdd sicrwydd y rhoddwyd mesurau priodol ar waith er mwyn sicrhau hyblygrwydd, wrth gyfeirio at CP/101 - CS/002a (gwasanaethau cwsmeriaid - amser cyfartalog (eiliadau) i ateb galwadau ffôn yn Gymraeg). Nodwyd y cafwyd sawl ymdrech i recriwtio siaradwyr Cymraeg addas er mwyn cymryd lle'r rhai a gollwyd trwy golledion naturiol. Yn ogystal â hynny, roedd 50% yn llai o staff yn y gwasanaeth nac yn y blynyddoedd blaenorol.

 

Rhagwelwyd y byddai'r gwasanaeth llais a theleffoni newydd sydd wedi'i gysylltu â phrif rif y cyngor yn awtomeiddio canran o ymatebion i alwadau, ac y byddai hyn yn helpu i leihau'r amser cyfartalog a gymerwyd i ateb galwadau a lleihau faint o staff y ganolfan gyswllt y byddai eu hangen i gyfeirio galwadau. Roedd gwasanaethau eraill y cyngor yn mynd ar-lein, a fyddai'n rhoi rhagor o amser i weithwyr siarad â galwyr gydag ymholiadau mwy cymhleth.

 

Roedd gan yr aelodau ddiddordeb mewn derbyn rhagor o wybodaeth am ymholiadau cyffredin i'r ganolfan gyswllt a'r siopau dan yr unto, er enghraifft cardiau bws a bathodynnau glas i'r anabl.

 

Trafodwyd CP/015 (canran yr ysgolion sydd wedi mabwysiadu rhaglenni addas i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol) yn sgîl y statws perfformiad 'coch' (coch/ambr/gwyrdd). Roedd swyddogion y Gyfarwyddiaeth Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes (AHGDO) yn gweithio gydag ysgolion a'r gwasanaeth ieuenctid i roi dulliau cefnogi yn eu lle. Byddai Cyfarwyddwr AHGDO yn gweithio gyda LLAN (Grŵp Penaethiaid Ysgolion Cynradd) a NASH (Cymdeithas Genedlaethol Penaethiaid Uwchradd) er mwyn i ysgolion allu nodi pan fydd problem.

 

Trafododd aelodau ynghylch a roddir rhifau cyfeirio/digwyddiad i alwyr er mwyn iddynt allu cadw cofnod o ymholiad o'r dechrau tan y diwedd. Gofynnodd y swyddogion i'r aelodau nodi unrhyw enghreifftiau penodol o ymholiadau gan alwyr nad oeddent yn teimlo yr aethpwyd ar eu trywydd nes cael canlyniad derbyniol.

 

Roedd aelodau'n falch o nodi y cafwyd lleihad yn nifer y diwrnodau gwaith a gollwyd oherwydd salwch fesul gweithiwr, o'i gymharu â'r un chwarter y llynedd.

 

Er eu bod wedi ceisio gwneud gwasanaethau ar-lein yn haws i'r cyhoedd eu defnyddio, mae cyfathrebu wyneb yn wyneb yn parhau i fod yn bwysig. Enghraifft o'r angen am gyfathrebiad wyneb yn wyneb yw'r bobl hŷn ac anabl niferus na allant ailgofrestru ar gyfer eu cardiau bws ar-lein - menter gan Trafnidiaeth Cymru.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.

 

Adroddiad Blynyddol y Cynllun Corfforaethol 2018-2022

 

Holodd aelodau ynghylch ystyr y term 'tai fforddiadwy' a nodwyd bod hyn yn cyfeirio at ddiffiniad Llywodraeth Cymru fel  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2.

3.

Blaenraglen Waith 2019/2 pdf eicon PDF 73 KB

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Blaenraglen Waith ar gyfer 2019/20.