Agenda item

Craffu Cyn Penderfynu

Cofnodion:

Craffodd y Pwyllgor ar yr eitemau canlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet:

 

Dangosyddion Perfformiad Allweddol Chwarter 1

 

Holodd yr aelodau ynghylch y cynnydd yn nifer y galwadau Saesneg i'r Ganolfan Gyswllt sy'n cael eu gadael, a nodwyd bod nifer o strategaethau ar waith er mwyn atal hyn rhag digwydd yn y dyfodol. Roedd hyn yn cynnwys cyflogi 6 o brentisiaid modern newydd yn ystod y 12 mis diwethaf â sgiliau trosglwyddadwy ar draws y ganolfan gyswllt a siopau dan yr unto.

 

Ceisiodd aelodau'r bwrdd sicrwydd y rhoddwyd mesurau priodol ar waith er mwyn sicrhau hyblygrwydd, wrth gyfeirio at CP/101 - CS/002a (gwasanaethau cwsmeriaid - amser cyfartalog (eiliadau) i ateb galwadau ffôn yn Gymraeg). Nodwyd y cafwyd sawl ymdrech i recriwtio siaradwyr Cymraeg addas er mwyn cymryd lle'r rhai a gollwyd trwy golledion naturiol. Yn ogystal â hynny, roedd 50% yn llai o staff yn y gwasanaeth nac yn y blynyddoedd blaenorol.

 

Rhagwelwyd y byddai'r gwasanaeth llais a theleffoni newydd sydd wedi'i gysylltu â phrif rif y cyngor yn awtomeiddio canran o ymatebion i alwadau, ac y byddai hyn yn helpu i leihau'r amser cyfartalog a gymerwyd i ateb galwadau a lleihau faint o staff y ganolfan gyswllt y byddai eu hangen i gyfeirio galwadau. Roedd gwasanaethau eraill y cyngor yn mynd ar-lein, a fyddai'n rhoi rhagor o amser i weithwyr siarad â galwyr gydag ymholiadau mwy cymhleth.

 

Roedd gan yr aelodau ddiddordeb mewn derbyn rhagor o wybodaeth am ymholiadau cyffredin i'r ganolfan gyswllt a'r siopau dan yr unto, er enghraifft cardiau bws a bathodynnau glas i'r anabl.

 

Trafodwyd CP/015 (canran yr ysgolion sydd wedi mabwysiadu rhaglenni addas i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol) yn sgîl y statws perfformiad 'coch' (coch/ambr/gwyrdd). Roedd swyddogion y Gyfarwyddiaeth Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes (AHGDO) yn gweithio gydag ysgolion a'r gwasanaeth ieuenctid i roi dulliau cefnogi yn eu lle. Byddai Cyfarwyddwr AHGDO yn gweithio gyda LLAN (Grŵp Penaethiaid Ysgolion Cynradd) a NASH (Cymdeithas Genedlaethol Penaethiaid Uwchradd) er mwyn i ysgolion allu nodi pan fydd problem.

 

Trafododd aelodau ynghylch a roddir rhifau cyfeirio/digwyddiad i alwyr er mwyn iddynt allu cadw cofnod o ymholiad o'r dechrau tan y diwedd. Gofynnodd y swyddogion i'r aelodau nodi unrhyw enghreifftiau penodol o ymholiadau gan alwyr nad oeddent yn teimlo yr aethpwyd ar eu trywydd nes cael canlyniad derbyniol.

 

Roedd aelodau'n falch o nodi y cafwyd lleihad yn nifer y diwrnodau gwaith a gollwyd oherwydd salwch fesul gweithiwr, o'i gymharu â'r un chwarter y llynedd.

 

Er eu bod wedi ceisio gwneud gwasanaethau ar-lein yn haws i'r cyhoedd eu defnyddio, mae cyfathrebu wyneb yn wyneb yn parhau i fod yn bwysig. Enghraifft o'r angen am gyfathrebiad wyneb yn wyneb yw'r bobl hŷn ac anabl niferus na allant ailgofrestru ar gyfer eu cardiau bws ar-lein - menter gan Trafnidiaeth Cymru.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.

 

Adroddiad Blynyddol y Cynllun Corfforaethol 2018-2022

 

Holodd aelodau ynghylch ystyr y term 'tai fforddiadwy' a nodwyd bod hyn yn cyfeirio at ddiffiniad Llywodraeth Cymru fel y nodwyd mewn Nodyn Cyngor Technegol gan Lywodraeth Cymru. Nid oes gan y cyngor ffordd o newid y diffiniad hwn, a fyddai'n cael ei ddosbarthu i'r aelodau gan y Swyddog Craffu ar ôl y cyfarfod.

 

Trafodwyd y meysydd canlynol hefyd:

 

·          Cryfhau addysg Gymraeg

·          Yr arhosiad am becyn gofal cymdeithasol yn dilyn derbyniad i'r ysbyty

 

Trafodwyd dyraniad côd post ardaloedd Dechrau'n Deg gan Lywodraeth Cymru. Amlygodd y swyddogion brosiect ar y cyd newydd rhwng Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe, sef y rhaglen Fraenaru, a fyddai'n edrych ar sut y gellid darparu'r ddarpariaeth cyn-ysgol mewn ffordd fwy hyblyg ac ymatebol.

 

Cadarnhawyd y byddai'r wybodaeth monitro perfformiad mewn perthynas ag addysgu yn cael ei chyflwyno i Fwrdd y Cabinet Addysg, Sgiliau a Diwylliant a'r Pwyllgor Craffu ar sail chwarterol.

 

Trafodwyd nifer y bobl ifanc yng Nghastell-nedd Port Talbot sy'n manteisio ar gyfleoedd chwaraeon ac roedd yr aelodau'n falch o weld fod hyn yn uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol. Nodwyd nifer uchel y parciau am ddim (gan gynnwys parciau sglefrio) yng Nghastell-nedd Port Talbot, yn ogystal â'r cyfleusterau yn yr ysgolion sy'n cael eu defnyddio gan y gymuned leol y tu allan i oriau agor yr ysgol.

 

Bydd y data cenedlaethol ar gefnogaeth ar gyfer gofalwyr yn cael ei gyflwyno i'r pwyllgor pan fydd ar gael.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.

 

Ffïoedd Taladwy ar gyfer Gwaith Cyfreithiol

 

Nododd yr aelodau nad oedd yr adroddiad yn cyfeirio at geisiadau gan aelodau'r cyhoedd, ond yn hytrach gwmnïau cyfleustodau y gall fod angen iddynt gau neu ddargyfeirio llwybr troed cyhoeddus am gyfnod er mwyn gwneud gwaith pwysig. Ni fyddai angen newid y polisi na'r prosesau cyfredol ar gyfer hysbysiadau o ddigwyddiadau arbennig.

 

Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet.